Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dros yr haf, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â TUC Cymru i ddatblygu prosiect peilot i gefnogi'r gwaith o ddarparu’r elfen ‘Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith’ (Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith) o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith yn elfen hanfodol a thrawsbynciol o’r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer dysgwyr o 3 i 16 oed, a dylai ysgolion ei gwneud yn bosibl i’w dysgwyr gael profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith a gyrfaoedd, gan ddatblygu gwybodaeth am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael iddynt gydol eu hoes. Bydd y dysgu hwn yn eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu llwybrau gyrfaoedd.

Mae ysgolion yn cydweithredu â busnesau yn barod er mwyn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am waith a chyflogaeth a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr. Mae hyn hefyd yn codi dyheadau pob dysgwr o ran ystyried yr ystod lawn o gyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Bydd peilot 'Yr Undebau a Byd Gwaith' yn golygu y bydd amrywiaeth o ddeunyddiau ar gael i ysgolion uwchradd ledled Cymru, â'r nod o sicrhau y bydd gan y genhedlaeth nesaf o weithwyr a chyflogwyr well dealltwriaeth o hawliau cyflogaeth, rôl undebau llafur ac effaith llais cyfunol wrth fynd i'r afael â phroblemau yn y gweithle a thu hwnt. Mae'r rhaglen hon yn cyd-fynd â’r cysylltiadau ehangach rhwng ysgolion, busnesau a chyflogwyr yng nghyd-destun Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith, drwy sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o'u hawliau fel gweithwyr, gan eu helpu i gyflawni pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.

Bydd y cynllun peilot yn cynnwys 35 o ysgolion uwchradd a bydd sesiynau yn cael eu cyflwyno gan staff addysgu neu gan gynrychiolwyr undebau llafur, a wahoddir i ysgolion fel siaradwyr gwadd. Bydd deunyddiau ac adnoddau hefyd ar gael i bob ysgol ar Hwb, y porthol addysg ar-lein ar gyfer disgyblion ac addysg. 

Os bydd y prosiect peilot yn llwyddiant, fel y gobeithiwn, ein bwriad yw ei ehangu i fod yn rhaglen gynaliadwy, hirdymor o weithgarwch y gellir ei darparu mewn amrywiaeth o leoliadau addysg, gan gynnwys ysgolion cynradd, sefydliadau addysg bellach a lleoliadau ieuenctid cymunedol.