Neidio i'r prif gynnwy

Gyrfaoedd Digidol, Data a Thechnoleg

Gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn symlach, yn gliriach ac yn haws eu defnyddio

Image
"Ers ymuno a Llywodraeth Cymru, dw i wedi gallu cynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith wrth ennill sgilliau newydd a datblygu arbenigedd mewn meysydd diddorol ac amrywiol." - Josh, Is-ddadansoddwr Busnes

Rydyn ni’n chwilio am unigolion ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau i’n helpu i ddatblygu a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell sy’n seiliedig ar anghenion y bobl sy’n eu defnyddio nhw.

Mae gweithio yn y Gyfarwyddiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg yn golygu’r canlynol:

  • gweithio mewn modd hyblyg a chreadigol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
  • defnyddio technoleg a meddalwedd fodern i weithio ar y cyd
  • dadansoddi data a syniadau defnyddwyr er mwyn datrys problemau cymhleth
  • rhannu’r arferion gorau â’n cymunedau trawslywodraethol
  • gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yng Nghymru
  • diogelu eich gyrfa ar gyfer y dyfodol drwy ddatblygu sgiliau newydd a chael profiadau newydd

Mae ein proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg yn cynnwys amrywiaeth o rolau cyffrous, gan gynnwys y canlynol:

  • Dadansoddwyr Busnes
  • Saernïwyr Technoleg
  • Gwyddonwyr Data
  • Ymchwilwyr Defnyddwyr
  • Dylunwyr Cynnwys
  • Rheolwyr Cynnyrch
  • Datblygwyr Meddalwedd
  • Arbenigwyr TG
  • Dylunwyr Profiad Defnyddwyr

Buddion

31 ddiwrnod o wyliau blynyddol

Ynghyd ag wyth gŵyl gyhoeddus a dau ddiwrnod braint.

Gweithio’n hyblyg

Ein galluogi i gydweithio i gyflawni ein blaenoriaethau wrth reoli ymrwymiadau yn ein bywydau cartref.

Dysgu a datblygu

Mynediad i hyfforddiant a chyfleoedd datblygu sydd wedi’u teilwra i’ch rôl.

Cyflog cystadleuol

Strwythur cyflogau a gwobrau hael ar draws pob gradd.

Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Gyda chyfraniad cyflogwr o 27% ar gyfartaledd.

Cyllid cefnogol

Ar gyfer tocynnau teithio tymhorol, y cynlluniau Beicio i’r Gwaith a Char Gwyrdd a llawer mwy.

Absenoldeb rhiant

26 wythnos ar gyflog llawn ar gyfer cyfnod mamolaeth ac absenoldeb mabwysiadu, a thair wythnos ar gyflog llawn ar gyfer cyfnod tadolaeth – er mwyn eich cefnogi chi a’ch teulu.

Eich helpu y tu allan i’r gwaith

Hyd at bum diwrnod o absenoldeb â thâl ar gyfer gwirfoddoli, absenoldeb arbennig i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus neu i ddelio â materion domestig.

Partneriaeth ag undebau llafur

Er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y cydbwysedd cywir rhwng ein buddiannau a buddiannau ein gweithwyr.

Dod o hyd i swydd wag yn y Gyfarwyddiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg

Rydyn ni’n chwilio am bobl uchelgeisiol â thalent a sgiliau i ymuno â’n proffesiynau yn y Gyfarwyddiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg.

Amdanom ni

Ni yw’r llywodraeth ddatganoledig ar gyfer Cymru, gyda chyfrifoldeb dros amrywiaeth eang o feysydd polisi fel iechyd, addysg, trafnidiaeth a’r amgylchedd. 

Ymhlith ein gweithlu amrywiol o dros 5,000 o bobl mae’r cymysgedd o safbwyntiau, syniadau a phrofiadau gwahanol yn helpu i sicrhau bod ein polisïau’n adlewyrchu anghenion y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

Rydyn ni’n gweithio er mwyn helpu i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud ein gwlad yn lle gwell, mwy diogel a gwyrddach i fyw a gweithio ynddi.

Mae parhau i ddatblygu ein galluedd yn y Gyfarwyddiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg yn golygu ein bod yn gallu cefnogi Gweinidogion Cymru yn effeithiol drwy gam nesaf y daith ddatganoli a chyflawni ein hymrwymiadau i bobl Cymru.

Image