Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru ei Biwro Cyflogaeth a Menter ei hun i baratoi pobl ifanc ar gyfer byd gwaith a’u helpu i gael hyd i swydd neu i ddechrau eu busnes eu hunain, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Biwroau o’r radd flaenaf yn rhan bwysig o un o gynlluniau pwysicaf Llywodraeth Cymru, y Warant i Bobl Ifanc. Mae’n warant y bydd pob person o dan 25 oed sy’n byw yng Nghymru yn cael help i gael hyfforddiant neu le mewn addysg a help i gael hyd i swydd neu i fynd yn hunangyflogedig.

Bydd Llywodraeth Cymru’n neilltuo £2.36 miliwn y flwyddyn ariannol hon i’r biwroau newydd i helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer y farchnad lafur trwy becyn o gyfleoedd fydd yn cael eu cynnig i ddysgwyr amser llawn a rhan-amser fel ei gilydd.

Bydd y cymorth hwn yn meithrin sgiliau cyflogaeth a menter hanfodol, a chynigir cyngor ac arweiniad hefyd i helpu pobl ifanc i fyd gwaith neu hunangyflogaeth.

Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn helpu i ddiogelu cenhedlaeth o bobl rhag effeithiau colli dysg a’r oedi a fu cyn ymuno â’r farchnad lafur oherwydd pandemig Coronafeirws ac i helpu i wneud Cymru’n lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo’n hyderus wrth gynllunio’u dyfodol.

Y colegau fydd yn gyfrifol am y Biwroau Cyflogaeth a Menter gan gydweithio â phartneriaid fel cyflogwyr, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, Gyrfa Cymru a Cymru’n Gweithio.

Byddan nhw’n creu cyfleoedd i ddysgwyr weithio gyda chyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol; gan gyflwyno amrywiaeth o lwybrau i waith trwy raglenni fel Twf Swyddi Cymru+, Prentisiaethau a Syniadau Mawr Cymru. Byddan nhw hefyd yn cynnig cyngor ac arweiniad personol a bydd hyrwyddwyr entrepreneuriaeth ym mhob coleg i annog dysgwyr i fagu uchelgais i fod yn entrepreneuriaid.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething:

“Mae’r Biwroau Cyflogaeth a Menter o’r radd flaenaf yn rhan bwysig o’n strategaeth i atal diweithdra ymhlith pobl ifanc a sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu dal yn ôl na’u gadael ar ôl o achos y pandemig.

“Bydd amrywiaeth o gymorth a chyfleoedd gwaith ar gael iddyn nhw i’w helpu i fynd o fod yn ddysgwyr i fod yn weithwyr.

“Bydd hyn yn cynnwys porthi uchelgais ar gyfer menter a busnes a chryfhau’r llwybrau i fyd hunangyflogaeth.  Bydd annog pobl ifanc i aros yng Nghymru trwy adeiladu eu gyrfaoedd a lansio’u busnesau eu hunain yn allweddol wrth i ni ailddylunio ein heconomi ar ôl coronafeirws.

Mae’r Biwroau Cyflogaeth a Menter wedi’u cynllunio hefyd i gynhyrchu’r talentau fydd eu hangen i gyrraedd ein targed sero net ac i feithrin y sgiliau sy’n addas i’r sectorau y bydd gofyn i ni eu tyfu.

“Rydyn ni am weld pobl ifanc yn cael y dechrau gorau posibl i fyd gwaith ac rwy’n benderfynol o wneud popeth yn ein gallu fel llywodraeth i sicrhau’r manteision economaidd tymor hir y mae’n pobl ifanc yn eu haeddu.”

Dywedodd cynghorydd dysgu seiliedig ar waith a chyflogadwyedd ColegauCymru Jeff Protheroe:

“Mae ColegauCymru yn falch o weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu dysgwyr addysg bellach i gymryd eu camau cyntaf i fyd gwaith.

“Bydd y Biwroau Cyflogaeth a Menter yn sicrhau bod dysgwyr yn cael yr arweiniad sydd ei angen arnyn nhw i wireddu eu potensial.

“Wrth i gyflogwyr orfod addasu i ddiwallu anghenion economi sy’n newid yn gyflym, mae ein colegau addysg bellach yn chwarae rhan bwysig mewn cyd-destun lleol a rhanbarthol, ac maen nhw mewn sefyllfa ddelfrydol i fod yn ddolen rhyngddyn nhw a’u gweithlu yn y dyfodol, gan ddiwallu anghenion y ddau.”