Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Diben y newid deddfwriaethol yw diwygio Dosbarth 6 o’r eithriadau i bremiymau’r dreth gyngor ar gyfer anheddau a feddiennir yn gyfnodol ac ychwanegu eiddo sy’n ddarostyngedig i amod cynllunio sy’n pennu na chaniateir defnyddio annedd ond ar gyfer llety gwyliau tymor byr, neu sy’n atal meddiannaeth o’r eiddo hwnnw fel unig neu brif breswylfa person. Byddai eiddo o’r fath yn agored i dalu’r dreth gyngor ar y gyfradd safonol ond ni ellid codi premiwm arno.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y cefndir

Mae gan Weinidogion Cymru bŵer o dan adran 12(B)(5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i ragnodi’r anheddau a fydd yn cael eu hesemptio rhag premiwm y dreth gyngor drwy gyfeirio at y ffactorau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl eu bod yn addas. Caniateir eu rhagnodi drwy gyfeirio, ymysg eraill, at y ffactorau a ganlyn:

  • nodweddion ffisegol anheddau, neu faterion eraill sy’n ymwneud â hwy
  • amgylchiadau unrhyw berson sy’n agored i dalu swm y dreth gyngor o dan sylw, neu faterion eraill sy’n ymwneud ag unrhyw berson o’r fath

Mae’r pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau nad yw’r premiwm yn gymwys mewn amgylchiadau pan fyddai’n afresymol neu’n anghydnaws â’r nodau polisi. Mae’r amgylchiadau hyn wedi’u rhagnodi yn Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015 (‘Rheoliadau 2015’) ac maent yn darparu ar gyfer y dosbarthau ar annedd na chaniateir i awdurdod bilio gymhwyso premiwm ar gyfradd safonol y dreth gyngor mewn perthynas â hwy.

Mae eithriad eisoes ar gyfer eiddo y mae ei feddiannu wedi ei gyfyngu gan amod cynllunio (yr amod meddiannaeth dymhorol) sy’n atal meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau o leiaf mewn unrhyw flwyddyn. Mae hyn yn ymwneud ag eiddo nad yw’n addas i’w feddiannu’n barhaus, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, a hynny oherwydd natur ei adeiladwaith neu ei ddyluniad. Hefyd, gall amodau tymhorol gael eu cymhwyso er mwyn diogelu nodweddion lleol, er enghraifft pan fo’r safle’n agos i gynefin bregus y mae angen ei ddiogelu ar adegau penodol o’r flwyddyn.

Mae modd meddiannu llawer o lety hunanddarpar modern drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, pan fo llety o’r fath wedi’i leoli mewn ardaloedd lle y byddai darparu tai parhaol yn groes i bolisïau cenedlaethol a/neu leol, gall awdurdod cynllunio lleol osod amod sy’n pennu bod rhaid ei ddefnyddio fel llety gwyliau yn unig, neu sy’n atal meddiannaeth o’r eiddo hwnnw fel unig neu brif breswylfa person. Ymysg yr enghreifftiau o hynny mae trosi adeiladau diangen yn llety gwyliau pan na fyddai caniatâd ar gyfer eu trosi yn anheddau preswyl, er enghraifft er mwyn lleihau’r pwysau ar dai eraill mewn ardaloedd gwledig neu i leihau’r pwysau ar wasanaethau lleol.

Ar hyn o bryd, nid yw eiddo sydd ag amod cynllunio sy’n pennu bod rhaid ei ddefnyddio fel llety gwyliau, neu sy’n atal meddiannaeth o’r eiddo hwnnw fel unig neu brif breswylfa person, wedi’i eithrio o bremiwm y dreth gyngor.

Pam y mae’r rheoliadau drafft yn cael eu cynnig?

Drwy Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 (Gorchymyn 2022), cynyddodd trothwyon y cyfnodau y mae’n rhaid i eiddo hunanddarpar fod ar gael i’w osod, a chael ei osod mewn gwirionedd, er mwyn iddo gael ei ddosbarthu’n eiddo annomestig a bod yn agored i dalu ardrethi annomestig.

Mae Gorchymyn 2022 yn diwygio isafswm y diwrnodau y mae’n ofynnol i eiddo hunanddarpar fod ar gael i’w osod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, o 140 i 252, a’r diwrnodau y caiff ei osod mewn gwirionedd, o 70 i 182, er mwyn iddo gael ei ddosbarthu’n eiddo annomestig, a hynny o 1 Ebrill 2023 ymlaen.

Bydd eiddo hunanddarpar nad yw’n bodloni’r meini prawf newydd yn cael ei ddosbarthu’n eiddo domestig a bydd yn agored i dalu’r dreth gyngor. Bydd hyn yn cynnwys premiwm os yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu cymhwyso tâl o’r fath i ail gartrefi.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod rhywfaint o eiddo hunanddarpar sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau cynllunio sy’n atal meddiannaeth barhaol ohono neu sy’n pennu ei fod i’w ddefnyddio fel llety gwyliau tymor byr yn unig. Ni all eiddo o’r fath gael ei werthu na’i osod fel cartref tymor hir i aelod o’r gymuned leol, heb newid yr amodau cynllunio, a gellir dadlau nad yw’n cyfyngu ar y stoc dai leol wrth gael ei osod am gyfnodau byr i bobl ar wyliau. Efallai, felly, fod gan berchnogion eiddo o’r fath lai o opsiynau ar gyfer ymateb i’r meini prawf newydd.

Mae’r fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2023 (‘y Rheoliadau drafft’) yn estyn Dosbarth 6 o’r eithriadau i bremiymau’r dreth gyngor er mwyn ychwanegu eiddo sy’n ddarostyngedig i amod cynllunio sy’n pennu na chaniateir defnyddio annedd ond ar gyfer llety gwyliau tymor byr, neu sy’n atal meddiannaeth o’r eiddo hwnnw fel unig neu brif breswylfa person. Byddai eiddo o’r fath yn dod yn agored i dalu’r dreth gyngor ar y gyfradd safonol os nad yw’n bodloni’r meini prawf o ran cyfnodau gosod ar gyfer cael ei ddiffinio’n eiddo annomestig, ond ni ellid codi premiwm arno.

Y dyddiad cymhwyso arfaethedig ar gyfer cyflwyno’r eithriad yw 1 Ebrill 2023, i gyd-fynd â’r trothwyon uwch ar gyfer dosbarthu eiddo sy’n darparu llety hunanddarpar yn eiddo annomestig.

Yr offeryn statudol drafft

Mae’r offeryn statudol drafft yn atodiad a.

Y camau nesaf

Bydd yr ymgynghoriad technegol hwn ar y Rheoliadau drafft ar agor am gyfnod o chwe wythnos. Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, caiff yr holl ymatebion eu hystyried a bydd unrhyw ddiwygiadau y gall fod eu hangen yn cael eu drafftio.

Y bwriad yw rhoi effaith i’r Rheoliadau drafft cyn gynted â phosibl, a byddant yn gymwys o 1 Ebrill 2023.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A yw’r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynglŷn â’r amgylchiadau pan fo eiddo sydd ag amod cynllunio yn gallu cael ei eithrio o bremiwm y dreth gyngor? Os nad ydynt, sut y gellir eu gwella?

Cwestiwn 2

A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol i’r cynnig i estyn Dosbarth 6 o’r eithriad i bremiwm y dreth gyngor? Allwch chi roi enghreifftiau?

Cwestiwn 3

A oes gennych unrhyw sylwadau eraill am y Rheoliadau drafft?

Cwestiwn 4

Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau y byddai’r Rheoliadau drafft yn eu cael ar y Gymraeg, ac ar y canlynol yn benodol:

  • ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
  • ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Beth fyddai’r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 5

Eglurwch hefyd sut y gellid llunio neu newid y Rheoliadau drafft er mwyn:

  • cael effeithiau cadarnhaol neu gynyddu’r effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
  • osgoi unrhyw effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 6

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â hwy yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i’w cofnodi.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 22 Rhagfyr 2022, ar un o’r ffurfiau a ganlyn:

Cangen Polisi’r Dreth Gyngor
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan amgylchiadau penodol) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan amgylchiadau penodol) i gludadwyedd data
  • i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Mae ymatebion i ymgyngoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai’n well gennych i’ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod inni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych chi wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG46230

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.