Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi cytundeb contract newydd ag ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru, a fydd yn cyflawni’r diwygiad mwyaf sylweddol i’r contract ers 2004.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r contract yn cynnwys cytundeb cyflog newydd ar gyfer yr holl staff sy’n gweithio ym maes ymarfer meddygol, a bwriedir iddo leihau’r baich gweinyddol ar ymarferwyr cyffredinol, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar ddarparu gofal ansawdd uchel mewn trefniadau contract o 2023 ymlaen.

Gan gydnabod rôl hanfodol ymarferwyr cyffredinol a’u timau, mae’r cytundeb ar gyfer eleni yn cynnwys codiad cyflog o 4.5% i ymarferwyr cyffredinol fel yr argymhellir gan y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion, ac mae eto’n mynd ymhellach i sicrhau bod yr holl staff sy’n gweithio ym maes ymarfer meddygol, hefyd yn cael yr un codiad cyflog o 4.5%.

O fis Ebrill 2023 ymlaen, bydd safonau mynediad y mae practisau wedi bod yn gweithio tuag atynt ers 2019 yn dod yn orfodol i’w cyflawni a’u cynnal fel rhan o’r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Bydd hyn yn helpu i'w gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at apwyntiadau meddyg teulu ledled Cymru a byddan nhw'n gwybod beth i'w ddisgwyl wrth gysylltu â'u meddygfa.

Bydd y Contract Unedig newydd yn destun ymgynghoriad yn ystod gwanwyn 2023 gyda’r bwriad o’i roi ar waith yn hydref 2023. Bydd hyn yn symleiddio’r trefniadau presennol i sicrhau bod ymarferwyr cyffredinol a’u timau yn gallu canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau i gleifion.

Mae Llywodraeth Cymru, Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru a GIG Cymru wedi ymrwymo i ymgymryd â gwaith pellach ar y cyd, i newid a gwella nifer o feysydd allweddol ymhellach, gan gynnwys cynaliadwyedd y gweithlu a’r gwasanaeth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

Mae ymarferwyr cyffredinol a’u staff wedi gweithio’n ddiflino i ddiwallu anghenion eu cleifion, er gwaethaf yr heriau parhaus. Maent wedi bod yn hyblyg ac yn ymatebol yn y cyfnod heriol hwn, ac mae’r cytundeb a’r buddsoddiad yn cydnabod yr ymrwymiad hwnnw tuag at ddarparu gwasanaethau i gleifion.

Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy o hyd i wella mynediad at feddygfeydd a bydd y contract newydd hwn yn mynd peth o’r ffordd i fynd i’r afael â hynny. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn parhau i wynebu heriau o ran cael mynediad at eu meddygfa, mae angen datrys hynny a byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i geisio gwella.

Wrth symud ymlaen, bydd contract newydd, symlach yn dileu unrhyw fiwrocratiaeth ddiangen ar gyfer ymarferwyr cyffredinol a’u timau yn ogystal ag atgyfnerthu’r safonau yr ydym yn disgwyl i bractisau gadw atynt wrth weithredu – gyda mynediad i gleifion yn rhan hanfodol o’r safonau hynny.

Ym mis Ebrill flwyddyn nesaf, byddaf yn nodi mwy o fanylion am sut bydd y contract newydd yn gweithio.

Dywedodd Nicola Prygodzizc, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

Rydym yn falch o weld y cytundeb hwn, a luniwyd drwy rownd gydweithredol o drafodaethau teirochrog, ac sy’n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad yr holl staff sy’n gweithio ym maes ymarfer meddygol.

Mae maint y newid sy’n cael ei wneud yn uchelgeisiol ac yn dyst i ymrwymiad pob parti i leihau biwrocratiaeth a gwella gwasanaethau i bobl yng Nghymru. Bydd y cytundebau ehangach, gan gynnwys yr ymrwymiadau ar y cyd i weithredu gwaith mewn meysydd allweddol, yn ein galluogi i barhau i weithio’n agos gyda’r proffesiwn a’n rhanddeiliaid i gefnogi cynaliadwyedd y gwasanaeth yn yr hirdymor.

Dywedodd Dr Gareth Oelmann, Cadeirydd Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru:

Mae darparu mynediad i gleifion at wasanaethau yn seiliedig ar angen clinigol wrth wraidd y cytundeb contract hwn, gyda mwy o bwyslais ar fesurau iechyd ataliol.

Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau’r cytundeb gorau posibl ar gyfer practisau ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru yn y sefyllfa bresennol. Bydd ailstrwythuro’r trefniadau tâl cytundebol yn symleiddio pethau ac yn lleihau biwrocratiaeth. Bydd hefyd yn creu sicrwydd o ran ffrydiau incwm i bractisau, ar adeg pan fo hyfywedd llawer ohonynt wedi bod yn ansicr.

Rydym hefyd yn falch y bydd ein staff sy’n gweithio’n galed mewn practisau yn gallu cael codiad cyflog o ganlyniad i’r cytundeb hwn. Edrychwn ymlaen at wneud newidiadau a gwelliannau pellach ar gyfer ymarferwyr cyffredinol a chleifion yng Nghymru yn 2023.