Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Drwy Gynnig Gofal Plant Cymru, mae Llywodraeth Cymru'n darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar i blant tair a phedair oed, 48 wythnos y flwyddyn. Mae hyn yn galluogi rhieni i fynd i'r gwaith neu gynyddu eu horiau gwaith. Rydym wedi ymestyn y cynnig i rieni sy'n astudio ar lawer o gyrsiau addysg uwch ac addysg bellach.

Rydym yn gwneud buddsoddiad sylweddol pellach yn y maes polisi hwn drwy ddatblygu gwasanaeth digidol Cymru gyfan, i wneud mynediad at y Cynnig Gofal Plant hyd yn oed yn haws a darparu profiad mwy cyson ledled Cymru. Bydd y gwasanaeth newydd hefyd yn symleiddio'r prosesau y mae darparwyr gofal plant wedi gorfod eu dilyn i hawlio taliadau drwy wahanol systemau awdurdodau lleol. Bydd yn symleiddio’r broses o weinyddu'r Cynnig Gofal Plant ar gyfer awdurdodau lleol, gan sicrhau arbedion maint.

Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer gofal plant wedi'i ariannu ym mis Ionawr 2023 yn dechrau ar 7 Tachwedd, a dyna pryd fydd y gwasanaeth digidol newydd yn agor i rieni. Bydd gwasanaethau presennol awdurdodau lleol ar gyfer darparu'r Cynnig yn parhau tan Awst 2023 i rieni sydd eisoes yn derbyn y Cynnig.

Er mai dim ond ar-lein y bydd gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant ar gael, bydd amrywiaeth o opsiynau cymorth all-lein ar gael i bobl i'w galluogi i ryngweithio â'r gwasanaeth ar-lein, er enghraifft dros y ffôn neu trwy gymorth wyneb yn wyneb.

Gan fod y gwasanaeth ar gael trwy ddyfeisiau sydd wedi’u cysylltu â'r rhyngrwyd, bydd pobl yn gallu cael mynediad i'r gwasanaeth drwy ddyfeisiau sydd ar gael am ddim mewn llyfrgelloedd cyhoeddus.

I symud i’r gwasanaeth digidol cenedlaethol, rydym wedi gweithio'n agos gyda'r 22 awdurdod lleol, a gyda rhieni a darparwyr gofal plant ar draws Cymru, i ddatblygu'r platfform digidol a’r gwasanaeth cymorth. Yn ystod yr haf cynhaliwyd prawf rheoledig o'r gwasanaeth newydd mewn amodau byw, a chafwyd canlyniadau ac adborth cadarnhaol.

O ganlyniad, mae pob lleoliad gofal plant sy'n darparu oriau’r Cynnig Gofal Plant wedi cael gwahoddiad i gofrestru ar y platfform newydd erbyn diwedd mis Hydref. Mae staff awdurdodau lleol wedi bod yn eu helpu i wneud hyn ers dechrau mis Medi.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod Gweinidogion yn parhau i gael gwybodaeth. Os bydd Aelodau am inni wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.