Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

  • Frances Duffy, Cadeirydd
  • Saz Willey, Is-gadeirydd
  • Bev Smith
  • Ruth Glazzard
  • Leighton Jones, Ysgrifenyddiaeth Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
  • Kevin Jones, Democratiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Cyflwyniad

Cyfarfu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 20 Medi.

Nod y cyfarfod oedd cytuno ar adroddiad blynyddol drafft 2023, a’i gymeradwyo’n derfynol, a chytuno â'r Ysgrifenyddiaeth pryd y byddai'r adroddiad drafft yn cael ei gyhoeddi ar ei wefan a'i ddosbarthu i randdeiliaid.

Rhoddodd yr Ysgrifenyddiaeth ddiweddariad i'r Panel ar yr adolygiad o effeithiolrwydd y Panel.

Trafododd y Panel bynciau eitemau agenda, a chytunodd arnynt, ar gyfer y cyfarfodydd ym mis Hydref a mis Tachwedd fel rhan o'i gynllun gwaith yn y dyfodol.

Dyma grynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau'r Panel.

Adroddiad Blynyddol Drafft 2023: cymeradwyo

Ystyriodd y Panel y newidiadau terfynol i'r adroddiad drafft yn barod i'w gyhoeddi ym mis Hydref. Cafodd y Panel wybod am yr amserlen gan yr Ysgrifenyddiaeth a pha waith oedd ei angen cyn y dyddiad cyhoeddi.

Adolygiad o Effeithiolrwydd

Diweddarwyd y Panel ar yr adolygiad o effeithiolrwydd. Bydd pob aelod o'r Panel yn cyfarfod â Tom Smithson yn unigol i helpu i ddeall rôl y Panel, sut mae'r Panel yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu a defnyddio tystiolaeth i lywio gwaith y Panel.

Cyfarfodydd i ddod

Trafododd y Panel eitemau agenda arfaethedig a fyddai'n cyd-fynd â'i raglen waith yn y dyfodol. Ymysg yr eitemau agenda yr oedd ailedrych ar lythyr cylch gwaith 2022 i 2023 er mwyn sicrhau bod ei waith yn bodloni'r amcanion a osodwyd yn gynharach yn y flwyddyn.

Unrhyw fusnes arall

Trafododd y Panel ymatebion i dri ymholiad a oedd wedi dod i law prif gynghorau, a chytunodd arnynt. Roedd yr ymholiadau hyn yn gofyn i'r Panel am gyngor ac eglurhad yn ymwneud ag absenoldeb salwch ar gyfer deiliad cyflog a thaliadau a wnaed i aelodau cyfetholedig o brif gynghorau.

Cytunodd y Panel hefyd ar ddyddiadau cyfarfodydd mis Hydref 2022 i fis Chwefror 2023, mae'r dyddiadau hyn ar gael yma.

Y cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ddydd Mawrth 18 Hydref.

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech dynnu sylw'r Panel atynt, mae croeso ichi gysylltu â’r Ysgrifenyddiaeth drwy e-bostio IRPMailbox@llyw.cymru.