Neidio i'r prif gynnwy

Wrth baratoi ar gyfer Bil Caffael Llywodraeth y DU a Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi datblygu rhestr wirio cyn gweithredu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth baratoi ar gyfer Bil Caffael Llywodraeth y DU a Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi datblygu rhestr wirio cyn gweithredu i helpu awdurdodau contractio yng Nghymru i baratoi ar gyfer y rheolau newydd.

Mae’r rhestr wirio yn nodi meysydd posibl y dylai awdurdodau contractio ddechrau meddwl amdanyn nhw nawr, er mwyn sicrhau eu bod yn barod ac yn gallu manteisio ar yr hyblygrwydd a’r tryloywder cynyddol sy’n gysylltiedig â’r rheolau newydd. I gael mynediad i'r rhestr wirio, ewch i wefan GwerthwchiGymru.

Tryloywder

Wrth i’r Bil Caffael barhau â’i daith ddeddfwriaethol drwy Dŷ’r Arglwyddi a’r Senedd, rydyn ni wedi bod yn ystyried effaith cynigion tryloywder Llywodraeth y DU a’u heffaith ar y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Rydyn ni wedi creu taflen wybodaeth sy’n amlinellu ein cynlluniau ar gyfer bwrw ymlaen â’r cynllun gweithredu digidol caffael a’r cyfleoedd posibl sy’n deillio o’r newidiadau.

Diwygio’r Broses Gaffael yn Procurex Cymru 2022

Bydd Carl Thomas, o’n Tîm Diwygio’r Broses Gaffael, a Sue Hurrell o’r tîm Partneriaethau Cymdeithasol a Gwaith Teg, yn cynnal amrywiaeth o sesiynau yn Procurex Cymru. Cynhelir y digwyddiad yn Arena Ryngwladol Caerdydd (Arena’r Motorpoint, gynt) ar 8 Tachwedd. Nod y sesiynau fydd cynnig arweiniad a chymorth ymarferol ar sawl maes pwysig o’r Biliau, gan gynnwys y Ddyletswydd Caffael Cymdeithasol Gyfrifol a’r Gweithdrefnau a’r Offer Caffael newydd, yn ogystal â sesiwn gyda’r nod o helpu cyflenwyr i baratoi ar gyfer y rheolau newydd.

Bydd y sleidiau cyflwyniad o’r sesiynau ar gael yn yr adran Diwygio Caffael ar GwerthwchiGymru ar ôl y digwyddiad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Ddiwygio’r Broses Gaffael yng Nghymru, anfonwch neges atom ni ar TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru