Neidio i'r prif gynnwy

Ffigurau ar y cymorth i fyfyrwyr a ddyfernir i ymgeiswyr ac a delir i fyfyrwyr neu eu darparwr addysg uwch ar gyfer 2022 (dros dro).

Mae'r tudalen hon yn darparu crynodeb o'r ystadegau a amlinellir yng nghyhoeddiad y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) o’r enw Cymorth i Fyfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru 2021/22. Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys ymgeiswyr a myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n dilyn cwrs addysg uwch (AU) dynodedig mewn coleg prifysgol neu addysg bellach (AB) yn y DU, yn ogystal ag ymgeiswyr a myfyrwyr yr UE (y tu allan i'r DU) sy'n dilyn cwrs dynodedig yng Nghymru.

Yn dilyn adolygiad Diamond o gyllid myfyrwyr Cymru, gwnaed newidiadau polisi yn 2018/19 a welodd grantiau ffioedd dysgu yn cael eu diddymu'n raddol a llai o symiau benthyciadau cynhaliaeth, wedi'u gwrthbwyso gan fwy o Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG).

Prif ganlyniadau

  • Roedd 2020/21 yn allanolyn a welodd rywfaint o gynnydd sylweddol a achoswyd gan bandemig COVID-19. Mae'n bosib bod rhai o'r gostyngiadau yn 2021/22 o ganlyniad i gael eu cymharu â blwyddyn anarferol o uchel.
  • Y swm a dalwyd i gefnogi myfyrwyr addysg uwch oedd £1.2 biliwn, gostyngiad bychan (1.8%) ers 2020/21.
  • Nifer y myfyrwyr a oedd yn derbyn cyllid oedd 83,700, sef gostyngiad o 3% o 86,300 yn 2020/21.
  • Ers 2013/14 mae'r swm a dalwyd allan ar gyfer cyllid addysg uwch wedi cynyddu 75.5% (o ran arian parod) o £671.6 miliwn, tra bo nifer y myfyrwyr sy’n cael cyllid wedi cynyddu 28.9% (o 65,000).

Cymorth i israddedigion ar gyfer ffioedd dysgu

Gostyngodd y cyfanswm a dalwyd allan am fenthyciadau ffioedd dysgu israddedigion amser llawn 1.2% ers y flwyddyn flaenorol, i £464.9 miliwn.

Cymorth cynhaliaeth i israddedigion

Gostyngodd nifer yr israddedigion amser llawn sy'n cael benthyciadau cynhaliaeth 1.4% i 56,600 o israddedigion amser llawn. Cynyddodd y swm a dalwyd 10.3% o £293.4 miliwn yn 2020/21 i £323.7 miliwn yn 2021/22. Mae'r cynnydd sylweddol yn y swm a dalwyd yn deillio o’r cynnydd yn uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael o'i gymharu â blwyddyn academaidd 2020/21.

Dyfarnwyd cyfanswm o £217.1 miliwn mewn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a’r Grant Cymorth Arbennig, gostyngiad o 5.8% o'r £230.4 miliwn a ddyfarnwyd yn 2020/21.

Cymorth ôl-raddedig

Talwyd £68.5 miliwn mewn benthyciadau ôl-raddedig (gradd meistr a doethuriaeth), gostyngiad o 11.9%.

Talwyd £22 miliwn mewn grantiau ôl-raddedig (gradd meistr yn unig). Mae gostyngiad sylweddol (17.8%) ers y llynedd (£26.7 miliwn) a oedd wedi gweld lefelau uchel o dwf. Mae benthyciadau a grantiau ôl-raddedig o hyd yn uwch nag oeddent yn 2019/20.

Data cynnar yn y flwyddyn ar gyfer 2022/23

Mae data cynnar yn y flwyddyn ar gyfer 2022/23 yn dangos bod tua 71,800 o fyfyrwyr yn cael cyllid, gostyngiad bach o’i gymharu â’r 74,500 ar yr un pryd y llynedd.

Cyswllt

Aron Nyberg

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.