Neidio i'r prif gynnwy

A thrwy gyngor a chytundeb y doethion a ddaeth yno, archwiliwyd yr hen gyfreithiau, gadawyd rhai ohonynt i barhau, diwygiwyd eraill, a dilewyd eraill yn gyfan gwbl, a gosodwyd rhai eraill o'r newydd.

Llyfr lorwerth 1240

Diben yr adroddiad

1.Lluniwyd yr adroddiad blynyddol hwn o dan adran 2(7) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru)2019. Mae’n nodi’r cynnydd a wnaed o dan raglen y Llywodraeth i wella hygyrcheddcyfraith Cymru: Dyfodol cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021 i 2026, rhwng lansiad yrhaglen ar 21 Medi 2021 a 14 Hydref 2022.

Cefndir y rhaglen

2.Rhaid i bob rhaglen sy’n cael ei llunio o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 gynnwysprosiectau sy’n:

  1. cyfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru
  2. cynnal ffurf cyfraith Cymru (wedi iddi gael ei chodeiddio)
  3. hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru
  4. hwyluso defnydd o’r Gymraeg.

3.Gosodwyd y rhaglen gyntaf o dan Ddeddf 2019 gerbron y Senedd ar 21 Medi 2021 acmae’n cynnwys cyfuniad o brosiectau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol i gyflawni’rgofyniad hwn. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar y prosiectau hyn drwygyfeirio at ein nodau hollgynhwysol o ran:

  1. dosbarthu cyfraith Cymru
  2. cydgrynhoi cyfraith Cymru
  3. codeiddio cyfraith Cymru, a
  4. chyfathrebu cyfraith Cymru.

Dosbarthu cyfraith Cymru

Ymrwymiadau’r rhaglen

Yn ystod tymor y Senedd hon bydd y Llywodraeth yn:

  1. adolygu a diwygio’r dacsonomeg ddrafft bresennol o bynciau (a luniwyd ac yrymgynghorwyd arni yn wreiddiol yn 2019) er mwyn canfod pa ddeddfiadau ym meysydd datganoledig y gyfraith a ddylai berthyn i bob haen o’r dacsonomeg.
  2. gweithio gyda’r tîm sy’n gyfrifol am legislation.gov.uk yn yr Archifau Gwladol i ddarparu swyddogaethau ychwanegol ar y safle hwnnw fel y gall defnyddwyr gyrchu cyfraith Cymru yn ôl pwnc.

Cynnydd yn ystod y cyfnod adrodd

Tacsonomeg ar gyfer trefnu cyfraith Cymru

4.Mae gwaith pellach wedi’i wneud i brofi’r dacsonomeg ddrafft a ddatblygwyd yn 2019,drwy fapio meysydd pwnc posibl ar gyfer llawer o Offerynnau Statudol Cymru syddwedi’u gwneud hyd yma. Dangosodd hyn y bydd profi pellach gan ddefnyddwyr yn fuddiol, gan fod y gwaith hwn wedi cadarnhau ein canfyddiadau cynharach nad oes rhaniadau llwyr rhwng meysydd pwnc. Mae hyn yn golygu fod posibilrwydd y gall Codau orgyffwrdd, sy’n rhywbeth y dylid ei osgoi, a bod cysylltiadau anorfod rhwng rhaidar pariaethau mewn Codau. Mae’n debyg y bydd angen cyfeirio at y cysylltiadau hyn,a’u hesbonio mewn dulliau eraill, o bosibl. Bydd profi pellach gan ddefnyddwyr yn  digwydd pan fydd yr Archifau Gwladol yn gallu gweithio gyda ni ar drefnu deddfwriaeth Cymru yn well ar wefan legislation.gov.uk (gweler isod).

Trefnu deddfwriaeth ar legislation.gov.uk yn ôl pwnc

5.Mae’r Archifau Gwladol wedi rhoi blaenoriaeth i waith ar wella swyddogaethau gwefanlegislation.gov.uk er mwyn gallu dangos diwygiadau i gyfraith Cymru yn Gymraeg yn eucyd-destun (gweler isod) – mewn geiriau eraill, i sicrhau bod deddfwriaeth sy’n cael eidiwygio gan ddeddfwriaeth ddiweddarach yn cael ei chyhoeddi ar ffurf gyfoes yn y ddwyiaith. Nid oedd ganddynt y capasiti i weithio gyda ni ar y prosiect trefnu deddfwriaeth ynystod y flwyddyn ddiwethaf, fodd bynnag.

6.Yn lle hynny mae’r Llywodraeth wedi datblygu ymhellach y gofynion o ran swyddogaethau yr hoffem iddynt gael eu cyflwyno, er mwyn llywio gwaith datblygu’r Archifau Gwladol yn well pan fyddant yn gallu rhoi sylw i hyn. Mae hyn yn cynnwys meysydd lle rydym yn credu y bydd profi yn bwysig i asesu sut y gall y swyddogaethau gefnogi defnyddwyr orau.

7.Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos fod bron i 6,000 o eitemau o ddeddfwriaeth y bydd angen eu diwygio, felly rydym yn asesu goblygiadau ‘tagio’r’ ddeddfwriaeth hon â gwybodaeth ychwanegol, o ran adnoddau. Bydd tagio yn galluogi defnyddwyr i chwilio deddfwriaeth Cymru ar y wefan drwy ystod o nodweddion adnabod, ynghyd â’i phwnc.

8.Ym mis Awst, ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at Argraffydd y Brenin (sydd hefyd yn Brif Weithredwr yr Archifau Gwladol) i gadarnhau, ymysg pethau eraill, mai’r prosiect hwn yw blaenoriaeth anneddfwriaethol nesaf y Llywodraeth i wella hygyrchedd y gyfraith. Mae’r Archifau Gwladol yn bartner hanfodol wrth helpu i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch – o ran sut y caiff deddfwriaeth ei hargraffu a’i chyhoeddi, a sut y caiff ei darparu’n ddigidol yn rhad ac am ddim.

Cydgrynhoi cyfraith Cymru

Ymrwymiadau’r rhaglen

Yn ystod tymor y Senedd hon bydd y Llywodraeth yn datblygu:

  1. Bil cydgrynhoi sy’n dod â’r gyfraith ar yr amgylchedd hanesyddol ynghyd.
  2. Bil cydgrynhoi sy’n symleiddio ac yn moderneiddio’r gyfraith ym maes cynllunio.
  3. Bil cydgrynhoi sy’n diddymu neu’n datgymhwyso darpariaethau deddfwriaethol sydd wedi darfod, wedi dod i ben, neu nad ydynt bellach o ddefnydd ymarferol yng Nghymru o bob cwr o’r llyfr statud.

Byddwn hefyd yn:

  1. adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol mewn nifer o feysydd er mwyn nodi dau brosiect cydgrynhoi arall i weithio arnynt yn ystod tymor y Senedd hon.
  2. datblygu’r pecyn o is-ddeddfwriaeth y disgwylir y bydd ei angen i weithredu Bil yr amgylchedd hanesyddol.
  3. ymgymryd â phrosiect graddol o gydgrynhoi is-ddeddfwriaeth cynllunio gwlad a thref allweddol.
  4. ail-wneud a diweddaru’r rheolau ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
  5. llunio ‘Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl’ yn ddwyieithog cyn yr etholiad cyffredinol i’r Senedd yn 2026.

Cynnydd yn ystod y cyfnod adrodd

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

9. Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) i’r Senedd ar 4 Gorffennaf 2022. Mae’r Bil hwn yn y cyfnod Ystyriaeth Gychwynnol ar hyn o bryd, o dan Reol Sefydlog 26C, ac mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn craffu arno.

10.Mae’r Bil yn dwyn ynghyd ddeddfwriaeth sydd wedi’u nodi ar hyn o bryd mewn sawl Deddf, yn bennaf:

  1. Deddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953
  2. Rhannau 1 a 3 o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979
  3. Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
  4. Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.

11.Mae’r Bil hefyd yn ailddatgan y ddeddfwriaeth gynllunio a ganlyn:

  1. darpariaethau yn Rhannau 14 a 15 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a
  2. Rhan 5 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, i’r graddau y mae’n gymwys i benderfyniadau o dan Ddeddf Adeiladau Rhestredig 1990.

12.Yn ogystal â dwyn ynghyd ddarpariaethau perthnasol o’r Deddfau amrywiol, mae’r Bil hefyd yn ymgorffori rhai o ddarpariaethau is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Deddfau sy’n cael eu cydgrynhoi, a pheth cyfraith achosion ac ymarfer sy’n bwysig i ddeall gweithrediad y Deddfau hynny. Mae’r Bil hefyd yn rhoi effaith i nifer o argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith yn ei adroddiad terfynol ar Gyfraith Cynllunio yng Nghymru (Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr, 2018 - Cyfraith Cynllunio yng Nghymru: Law Com 383).

Symleiddio a moderneiddio cyfraith cynllunio

13.O fewn y Llywodraeth, mae swyddogion polisi cynllunio a chyfreithwyr yn gweithio gyda chwnsleriaid deddfwriaethol, cyfieithwyr ac ieithyddion deddfwriaethol, i lunio Bil i gydgrynhoi cyfraith cynllunio. Mae’r gwaith hwn wedi elwa ar y profiad o lunio Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), ac mae rhai o’r rhai a fu’n gweithio ar y Bil hwnnw yn gweithio ar y prosiect cynllunio hefyd. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda ond gan fod y Bil yn debyg o fod yn rhyw 400 tudalen o hyd (800 tudalen yn y ddwy iaith), mae’n brosiect enfawr sy’n cymryd llawer iawn o amser.

Bil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru)

14. Lansiodd y Cwnsler Cyffredinol ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft o Fil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru) ar 7 Hydref 2022. Dewiswyd y diddymiadau a’r diwygiadau arfaethedig yn y Bil gan eu bod yn ymdrin â:

  1. darpariaethau anarferedig, darpariaethau a ddisbyddwyd neu ddarpariaethau nad ydynt fel arall o ddefnydd ymarferol mwyach
  2. darpariaethau sy’n annhebygol o gael eu cychwyn, ar ôl bod heb eu cychwyn am gyfnod ac mae’r cyd-destun gwreiddiol wedi newid yn ystod y cyfnod hwnnw, neu
  3. darpariaethau sydd fel arall yn ddiangen (er enghraifft, pan fo’r diben yn cael ei fodloni drwy ryw fodd arall).

15.Ar ddiwedd yr ymgynghoriad bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymatebion a gafwyd ac yn cyhoeddi crynodeb ohonynt. Bydd y Bil drafft yn cael ei ystyried yng ngoleuni’r ymatebion a gafwyd, gyda’r bwriad o gyflwyno Bil i’r Senedd ar bwynt addas yn y rhaglen ddeddfwriaethol.

16.Roedd rhaglen y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru yn rhag-weld yn wreiddiol y byddai Bil sy’n diddymu cyfraith statud yn cael ei gyflwyno i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 26C y Senedd. Erbyn hyn, ystyrir ei bod yn fwy priodol cyflwyno’r Bil o dan Reol Sefydlog 26, sy’n nodi’r weithdrefn ar gyfer Biliau sy’n diwygio’r gyfraith.

Pennu cwmpas meysydd pwnc pellach

17. Rydym yn disgwyl i’r gwaith o bennu cwmpas prosiectau gael ei gynnal yn nes ymlaen yn y rhaglen hon. Serch hynny, cafodd un maes o’r gyfraith ei ystyried dros dro yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ond barnwyd nad oedd yn addas ar gyfer cydgrynhoi bryd hynny gan fod gwaith diwygio’r gyfraith yn cael ei wneud yn lle hynny.

Is-ddeddfwriaeth ar etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru

18. Cyflawnwyd yr ymrwymiad hwn drwy Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021, Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 a Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022. Defnyddiwyd y Rheolau, a rheoliadau canlyniadol, ar gyfer cynnal etholiadau lleol yng Nghymru ym mis Mai 2022.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007

19.Mae gwaith wedi dechrau ar gydgrynhoi ac ail-wneud Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026. Cynhelir ymgynghoriad ar ddrafft o’r Gorchymyn arfaethedig, i lywio gwaith pellach.

Codeiddio cyfraith Cymru

Ymrwymiadau’r rhaglen

Nid oedd unrhyw gynigion i godeiddio cyfraith Cymru ar unwaith yn y rhaglen, ond bydd hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

20.Fel y nodir uchod, mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) wedi’i gyflwyno i’r Senedd. Os bydd y Senedd yn ei gymeradwyo, bydd y Ddeddf, ynghyd â’r is-ddeddfwriaeth a wneir oddi tani, yn ffurfio Cod cyfraith Cymru ar yr Amgylchedd Hanesyddol. Fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil:

Mae’r statws hwnnw’n arwyddocaol mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi pob deddfiad sy’n rhan o’r Cod gyda’i gilydd. Yn ail, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhagweld y bydd, yn amodol ar gytundeb y Senedd, yn newid Rheolau Sefydlog y Senedd er mwyn ceisio sicrhau bod unrhyw newidiadau a wneir yn y dyfodol i gyfraith sy’n rhan o God yn cael eu gwneud drwy ddiwygio neu ddisodli’r deddfiadau yn hytrach na gwneud darpariaethau gwahanol, “annibynnol”, a fyddai unwaith eto’n arwain at gymhlethdod wrth amlhau cyfreithiau.

21.Mewn tystiolaeth ar y Bil i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ymrwymo i gysylltu â’r Llywydd ynglŷn â newidiadau posibl i’r Rheolau Sefydlog yn ystod hanner cyntaf 2023. Bydd adroddiadau blynyddol pellach yn nodi’r cynnydd ar hyn.

Cyfathrebu cyfraith Cymru

Ymrwymiadau’r rhaglen

Yn ystod tymor y Senedd hon bydd y Llywodraeth yn:

  1. gweithio gyda’r tîm sy’n gyfrifol am legislation.gov.uk i sicrhau bod Deddfau ac Offerynnau Statudol dwyieithog ar gael ar ffurf gyfoes yn y ddwy iaith.
  2. ehangu a gwella cynnwys gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales yn sylweddol er mwyn creu ‘siop un stop’ i gyrchu a deall cyfraith Cymru.
  3. archwilio ffyrdd o symud draw o fodel cyhoeddi deddfwriaeth yr 20fed ganrif, sy’n seiliedig ar fersiynau print, i system ddigidol fodern.
  4. datblygu’r ffordd yr ydym yn llunio deddfwriaeth ddwyieithog, gan ddefnyddio technoleg iaith i’w llawn botensial.
  5. archwilio’r potensial ar gyfer defnyddio dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

Cynnydd yn ystod y cyfnod adrodd

Sicrhau bod cyfraith Cymru ar gael ar ffurf gyfoes ar wefan legislation.gov.uk

22.Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r tîm golygyddol yn adran Gwasanaethau Deddfwriaeth yr Archifau Gwladol sydd wedi datblygu swyddogaethau’r system olygyddol sy’n cynnal legislation.gov.uk. Bellach mae’r system yn gallu cyflwyno diwygiadau i destunau Cymraeg Deddfau, Mesurau ac Offerynnau Statudol. Cafodd y swyddogaethau newydd eu profi yn ystod yr haf fel bod modd dechrau defnyddio’r system newydd ddiwedd mis Hydref 2022.

23.Mae criw bach o staff yn Llywodraeth Cymru wedi cael hyfforddiant ar y system anodi ac wedi bod yn cyflwyno diwygiadau i destunau Saesneg er mwyn paratoi ar gyfer y swyddogaethau newydd sy’n golygu y bydd modd ymgorffori diwygiadau i destunau Cymraeg. Bu hyn yn brofiad gwerthfawr, gan helpu i lywio’r dull gweithredu arfaethedig ac amcangyfrif faint o amser y bydd ei angen i weithio ar y bron i 46,000 o “effeithiau” (newidiadau i’r llyfr statud) sydd eto i’w cyflwyno i destunau cyfraith Cymru ar y wefan.

24.Gan edrych ymlaen at pan fydd deddfwriaeth yn cael ei diweddaru’n ddwyieithog fel mater o drefn, bwriadwn flaenoriaethu deddfwriaeth sylfaenol yn gyntaf, gan ddechrau gyda’r ddeddfwriaeth a wnaed yn fwyaf diweddar a gweithio yn ôl i 2007. Bydd hyn yn parhau i gael ei gynnal wrth i ddiwygiadau pellach gael eu cyflwyno gan ddeddfwriaeth yn y dyfodol. Yna bydd gwaith yn dechrau ar ddiweddaru ac anodi Offerynnau Statudol Cymru ar sail ein profiad gyda deddfwriaeth sylfaenol. Felly, bydd adroddiadau yn y dyfodol yn nodi’r cynnydd tuag at sicrhau bod deddfwriaeth Cymru wedi ei diweddaru’n llawn yn y ddwy iaith.

Ehangu a Gwella Cyfraith Cymru/Law Wales

25.Ychydig cyn lansio rhaglen y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, symudwyd gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales i blatfform newydd a’i huwchraddio’n sylweddol. Eleni rydym wedi canolbwyntio ar ddatblygu deunydd newydd ar gyfer y wefan. Roedd hyn yn cynnwys:

  1. diweddaru adran fawr o’r wefan ar gyfraith tai
  2. ychwanegu adran newydd ar ymadawiad y DU â’r UE yn lle’r tudalennau presennol sydd wedi dyddio, ac
  3. cyhoeddi erthyglau newydd ar wahanol agweddau ar y gyfraith a ddarperir yn rhad ac am ddim gan gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru.

26.Ni fu modd gwneud cynnydd o ran diweddaru a chyhoeddi adrannau eraill ar y wefan (mewn perthynas ag addysg a’r amgylchedd yn benodol) yn sgil diffyg adnoddau mewnol i adolygu a dilysu deunydd cyn ei gyhoeddi.

27.Mae ymholiadau i’r wefan ynghylch amrywiaeth o agweddau ar gyfraith Cymru wedi cynyddu’n raddol drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhain yn amrywio’n fawr o ran ystod a chymhlethdod, ond yn dangos diddordeb parhaus mewn deunydd am y gyfraith ac mewn dysgu mwy am y gyfraith yng Nghymru.

28.Rydym wedi ymdrin ag ystod o faterion yn ymwneud â hygyrchedd y wefan. Mae’r wefan bellach yn cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, gan gyrraedd safon Lefel AA. Rydym hefyd wedi gwneud newidiadau pellach er mwyn ychwanegu swyddogaethau newydd i’r wefan i sicrhau ei bod yn dal i fod yn hawdd ei defnyddio ac yn ddefnyddiol.

Nodi cyfleoedd i wella hygyrchedd digidol deddfwriaeth

29.Rhaid inni gydweithio ag Argraffydd y Brenin a swyddogion yn yr Archifau Cenedlaethol er mwyn cyflawni rhai o ymrwymiadau’r rhaglen o ran hygyrchedd digidol. Fel y nodwyd yn gynharach, maent wedi blaenoriaethu’r gwaith o anodi testunau Cymraeg cyfraith Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Maent wedi ymrwymo o hyd i weithio gyda ni er mwyn parhau i ddatblygu a gwella hygyrchedd digidol deddfwriaeth. Rhagwelir y bydd gwaith ar y materion hyn yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon.

Adolygu’r ffordd y mae’r Llywodraeth yn llunio deddfwriaeth ddwyieithog

30.Mae Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yn y broses o gaffael a sefydlu system cof cyfieithu a rheoli terminoleg newydd. Mae’r cyflenwr wedi’i ddewis ac mae trafodaethau ar y gweill ynglŷn â manylion y contract.

31.Gobeithir y bydd y system newydd yn arwain at fwy o effeithlonrwydd a chywirdeb yn y broses gyfieithu, yn ogystal â’n galluogi i archwilio ffyrdd mwy effeithlon o ymchwilio i derminoleg, safoni termau ac ymgynghori arnynt.

32.Mae prosiect wedi’i gwblhau i gymharu’r termau deddfwriaethol yng nghronfa ddata terminoleg ar-lein y Gwasanaeth Cyfieithu, TermCymru, â’r Eirfa Ddrafftio, er mwyn sicrhau cysondeb llwyr rhwng y ddwy gronfa dermau. Roedd hyn yn golygu ystyried a safoni cannoedd o dermau deddfwriaethol. Yn dilyn y prosiect untro hwn, mae gweithdrefnau wedi’u rhoi ar waith i sicrhau bod TermCymru a’r Eirfa Ddrafftio yn cael eu diweddaru’n rheolaidd ac yn aros yn gyson yn y dyfodol.

33.Yn ogystal, mae’r prosesau safoni terminoleg arferol sy’n gysylltiedig â phrosiectau Biliau wedi parhau yn ystod y flwyddyn. Roedd y rhain yn cynnwys proses safoni ar gyfer Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a fydd hefyd yn werthfawr ar gyfer gwaith deddfwriaethol yn y maes hwn yn y dyfodol. Arweiniodd hyn at 105 o dermau newydd, termau diwygiedig neu dermau a gadarnhawyd yn TermCymru.

34.Mae’r Gwasanaeth Cyfieithu hefyd wedi cynnal cyfres o weithdai ar gyfer Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol a’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol gan ganolbwyntio ar sut y gall y broses gyfieithu helpu i wella’r testun dwyieithog.

35.Mae camau’n cael eu cymryd i sefydlu prosiect i gydlynu seilwaith y Gymraeg yn well. Bydd hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o’r adnoddau sydd ar gael o ran geiriaduron a therminoleg i’w gwneud hi’n haws i bobl eu defnyddio a dod o hyd i atebion sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Yn y pen draw, bydd y gwasanaeth hwn yn helpu i sicrhau bod termau deddfwriaethol safonedig ar gael yn eang ac yn cynyddu proffil y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yn y maes hwn.

36.Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatblygu offer cyfieithu peirianyddol parth-benodol ar gyfer y gyfraith a deddfwriaeth erbyn mis Ebrill 2023. Bwriad hyn yw y bydd defnyddwyr sy’n gweithio yn y maes hwn yn gallu defnyddio offer ar-lein diogel sy’n cynhyrchu canlyniadau mwy penodol a chywir na chyfieithu peirianyddol a ddefnyddir at ddibenion cyffredinol.

Dysgu peirianyddol / deallusrwydd artiffisial a deddfwriaeth

37.Yn ystod y flwyddyn cynhaliwyd prosiect cyfnod penodol i:

  1. sefydlu a yw dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial yn cael eu defnyddio wrth lunio deddfwriaeth o fewn Llywodraeth Cymru, ac os ydynt sut y gwneir hynny
  2. deall pa dechnolegau dysgu peirianyddol sydd ar waith mewn swyddfeydd drafftio eraill
  3. ystyried a ellid defnyddio deallusrwydd artiffisial i nodi nodweddion penodol mewn deddfwriaeth (er enghraifft, a yw’n bosibl ‘darllen’ deddfwriaeth i weld a yw’n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd)
  4. archwilio a allai rhaglenni iaith naturiol ‘ddarllen’ deddfwriaeth ac ateb cwestiynau arni.

38.Nid yw’r un o’r swyddfeydd drafftio deddfwriaeth y cysylltwyd â hwy yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i gynorthwyo eu gwaith, er bod dwy o’r swyddfeydd yr ymgynghorwyd â hwy yn cynnal prosiectau eraill y gellid eu cynnwys o dan yr ymbarél ‘digidol’. Daeth y prosiect i’r casgliad bod cyfleoedd cyfyngedig yn y maes hwn i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar unwaith, oherwydd:

  1. mae deallusrwydd artiffisial yn dal i fod yn dechnoleg sy’n datblygu,
  2. nid yw rhannau o’r llyfr statud, yn enwedig testunau Cymraeg, wedi’u hanodi mewn fformat y gall peiriant ei ddarllen.

39.Daethom i’r casgliad hefyd na all deallusrwydd artiffisial, yn ei gyflwr presennol, nodi nodweddion deddfwriaethol megis a yw eitemau o ddeddfwriaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ai peidio. Nododd y prosiect fod peth defnydd yn cael eiwneud o ‘sgwrsfotiaid’, ond eu bod yn dibynnu ar raglennu dwys o ran adnoddau yn hytrach na thechnoleg i ddarllen deddfwriaeth ac ateb cwestiynau arni. Fodd bynnag, gellid defnyddio technolegau digidol eraill, sy’n symlach, i ateb cwestiynau cyffredin.

40.Ym mis Mehefin, cynhaliodd y Llywodraeth gynhadledd wythnos o hyd a ‘hacathon’ ar y cyd â Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe. Daeth hyn ag arbenigwyr o’r sector cyfreithiol a’r sector technoleg at ei gilydd i archwilio materion sy’n dal y system gyfreithiol yn ôl. Y nod oedd llunio cysyniadau a fydd yn gwella a chyflymu’r broses o wneud y gyfraith yn fwy hygyrch. Roedd y tridiau cyntaf yn dilyn fformat cynhadledd draddodiadol gyda siaradwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, o arbenigwyr technolegol i academyddion yn y maes, ynghyd â sesiwn dan arweiniad staff Llywodraeth Cymru a oedd yn canolbwyntio ar ein huchelgeisiau ar gyfer y rhaglen hon. Yna cynhaliwyd hacathon dros ddeuddydd, ble cafodd y cynrychiolwyr eu rhoi mewn timau i ystyried her hygyrchedd y gyfraith a chynnig atebion technolegol ac arloesol y gellid efallai eu datblygu yn y dyfodol. Roedd fformat y gynhadledd/hacathon yn ffordd ddefnyddiol o ddod â dwy ddisgyblaeth wahanol at ei gilydd i ddeall heriau a chyfleoedd y maes hwn o’r gyfraith.

41.Mae’n amlwg fod modd defnyddio’r dechnoleg newydd i helpu i wneud gwybodaeth am y gyfraith yn fwy hygyrch ac yn haws ei deall wrth ymdrin â materion penodol fel rhwymedigaethau treth neu hawliau tai. Ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, byddai angen ymrwymo cryn amser ac arbenigedd gan ddefnyddio dulliau gweithio traddodiadol. Ar hyn o bryd rydym ymhell o allu defnyddio dysgu peirianyddol a mathau eraill o ddeallusrwydd artiffisial i ddarparu “ateb cyflym”.

42.Mae’r prosiect cyfnod penodol bellach wedi dod i ben, ond os daw rhagor o adnoddau ar gael gallai gwaith yn y dyfodol ganolbwyntio ar agweddau ar yr hyn a ddysgwyd drwy’r ymchwil gynnar hon.

Diweddaru’r canllawiau a llunio canllawiau ychwanegol

43.Ym mis Mai cyhoeddodd y Llywodraeth ail rifyn o Datrysiadau deddfwriaethol cyffredin: canllaw i ymgodymu â materion polisi sy’n codi’n aml mewn deddfwriaeth. Mae’r ddogfen hon yn cynnig atebion posibl i broblemau deddfwriaethol sy’n codi dro ar ôl tro er mwyn helpu’r rhai sy’n datblygu, yn craffu ac yn defnyddio deddfwriaeth i ddeall y ffordd orau o fynd i’r afael â hwy.

44. Dogfen waith fewnol yw’r Llawlyfr Deddfwriaeth ar Filiau’r Cynulliad sy’n cael eirhannu’n allanol er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw. Mae’n amlinellu’r broses ymarferol o ddatblygu deddfwriaeth a mynd â hi ar ei hynt drwy’r Senedd. Mae’rcynnwys yn cael ei adolygu’n gyson, ac mae’n debyg y bydd argraffiad diwygiedig yn caelei gyhoeddi yn ystod tymor y Senedd hon.

45.Mae Drafftio Deddfau i Gymru yn nodi’r prif egwyddorion a thechnegau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith wrth ddrafftio deddfwriaeth. Mae’n parhau i gael ei adolygu, ond nid ystyriwyd bod angen cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

46.Mae gwaith yn mynd rhagddo i gasglu’r gwersi a ddysgwyd o lunio’r Biliau cydgrynhoi cyntaf. Defnyddir y rhain i helpu i lunio canllawiau newydd yn ddiweddarach yn ystod tymor y Senedd hon.

Prosiectau eraill

Ymrwymiadau’r rhaglen

Yn ystod tymor y Senedd hon, bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio gyda Chomisiwn y Gyfraith.

Cynnydd yn ystod y cyfnod adrodd

47.Mae Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr wedi gofyn am farn ar gynigion ar gyfer ei Bedwaredd Raglen ar Ddeg o Ddiwygio’r Gyfraith. Bydd hyn yn cynnwys prosiectau sy’n ymwneud â’r gyfraith yng Nghymru a gallai gynnwys un neu ragor o brosiectau arbennig ar gais Gweinidogion Cymru. Mae disgwyl i Gomisiwn y Gyfraith wneud cyhoeddiadau pellach am hyn yn ystod y misoedd nesaf.

448.Bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn parhau i ddefnyddio eu pwerau i gyfeirio materion at Gomisiwn y Gyfraith er mwyn cael cyngor a gwybodaeth ganddo. Mae cyfeiriadau fel hyn wedi arwain at gwblhau prosiectau sydd bellach yn cael sylw gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Rheoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru; Tribiwnlysoedd Datganoledig yng NghymruChyfraith cynllunio yng Nghymru. Cyhoeddodd Gweinidogion Cymru eu Hadroddiad ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith ym mis Chwefror 2022.

Diwygio’r rhaglen

49.Mae adran 2(6) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn caniatáu i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen. Nid yw hyn wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

50.Bydd yr adroddiad blynyddol nesaf i’r Senedd hefyd yn cynnwys adolygiad o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, yn unol ag ymrwymiadau a wnaed gan y Cwnsler Cyffredinol (bryd hynny) pan oedd y Senedd yn craffu ar y Bil.

Materion i gloi

51.Roedd cyflwyno Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn garreg filltir bwysig a oedd yn nodi dechrau ymdrech newydd i roi gwell trefn ar lyfr statud Cymru, a chyflwyno Codau cyfraith Cymru. Er y bydd cyfuno a chodeiddio cyfraith Cymru yn cymryd cenhedlaeth neu fwy i’w cyflawni, rydym yn hyderus bod hygyrchedd a symlrwydd cynyddol y gyfraith yn gwneud hwn yn brosiect gwerth chweil a phwysig. Mae cydgrynhoi’r gyfraith ar yr amgylchedd hanesyddol hefyd yn gam sylweddol ymlaen i’r Gymraeg, gan y bydd rhan helaeth o’r gyfraith a oedd ar gael yn Saesneg yn unig gynt ar gael yn ddwyieithog yn y dyfodol, os gwêl y Senedd yn dda i basio’r Bil.

52.Carreg filltir arall oedd datblygu’r swyddogaethau newydd ar legislation.gov.uk yn ddiweddar i’n galluogi i ddechrau anodi testunau Cymraeg deddfwriaeth. Mae hyn arwyddocaol iawn o ran sicrhau cydraddoldeb hir-ddisgwyliedig i’n dwy iaith wrth gyhoeddi deddfwriaeth.

53.Er hyn, ni fu cyflwyno’r rhaglen gyntaf i wella hygyrchedd cyfraith Cymru heb ei heriau:

  1. Mae’r Archifau Cenedlaethol yn bartner hanfodol yn ein hymdrechion i wella hygyrchedd digidol deddfwriaeth. Serch hynny, rhaid inni yn Llywodraeth Cymru gydnabod eu bod hefyd yn gwasanaethu’r Deyrnas Unedig gyfan. Mae dyletswydd arnynt i wasanaethu’r pedair gwlad ac mae’n rhaid iddynt gydbwyso eu blaenoriaethau yn ofalus, yn enwedig o ystyried toriadau arfaethedig Llywodraeth y DU i’r Gwasanaeth Sifil ac effaith barhaus ymadael â’r UE a’r pandemig.
  2. Yn fewnol, mae tîm bach o fewn Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r rhaglen, ond wrth gwrs mae’n perthyn i’r Llywodraeth gyfan. Wrth i fwy o waith gael ei wneud o dan y rhaglen, gan gynnwys criw cynyddol o gyfranwyr, rydym yn disgwyl iddi ddod yn agwedd sefydledig ar fywyd y Llywodraeth – er y byddwn yn parhau i gystadlu â blaenoriaethau eraill i’w chyflawni.

54.Deuwn i’r casgliad bod y rhaglen ar y trywydd iawn ar hyn o bryd ac rydym yn falch o roi gwybod am y cynnydd da a wnaed.