Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r ‘Rhaglen lywodraethu: diweddariad’ yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

‘Buddsoddi yn amgylchedd dysgu Ysgolion Bro, cydleoli gwasanaethau allweddol, a sicrhau ymgysylltiad cryfach â rhieni a gofalwyr y tu allan i oriau traddodiadol.’

Mae hynny’n rhan allweddol o’n gwaith polisi ehangach sy’n mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, er mwyn sicrhau safonau ac uchelgeisiau uchel i bawb.

Mae'r canllawiau hyn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu Ysgolion Bro yng Nghymru. Mae'n tynnu ynghyd gyhoeddiadau a wnaed gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei ddatganiad llafar ar 22 Mawrth 2022 ac yn ei brif araith i Sefydliad Bevan ar 16 Mehefin 2022. Mae hefyd yn cefnogi ein nod i ddatblygu cymunedau sy'n ffynnu, wedi'u grymuso ac sy’n gydgysylltiedig.

Terminoleg allweddol

Rydym am sicrhau bod pawb yn deall ein gweledigaeth a bod ein canllawiau yn hollol glir.

Gweler yr adran eirfa sy’n esbonio beth yr ydym yn ei olygu pan fyddwn yn defnyddio rhai termau.

Pam datblygu Ysgolion Bro

Rydym am i bob ysgol yng Nghymru fod yn Ysgol Fro:

  • sy’n datblygu partneriaeth gryf gyda theuluoedd
  • sy’n ymateb i anghenion eu cymuned
  • sy’n cydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill

Dylai pob plentyn a pherson ifanc fod yn barod am eu bywyd yn y dyfodol. Dyma ddyhead y Cwricwlwm i Gymru; gan eu galluogi i fod yn uchelgeisiol, yn fentrus, yn foesegol ac yn iach, gan gynnwys cefnogi eu gyrfaoedd, eu cydberthynas ag eraill, eu hiechyd a'u lles. Dylai fod tegwch mewn addysg, a dylid cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i oresgyn rhwystrau a gwireddu eu potensial (Llywodraeth Cymru, 2022, ‘Cynllun Plant a Phobl Ifanc’). Mae hyn yn golygu cefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu ystod eang o sgiliau, profiadau ac ymagweddau sy'n eu galluogi i ffynnu.

Mae gan yr ysgol rôl allweddol wrth gyflawni hyn, ond mae amgylchedd y cartref a'r gymuned ehangach hefyd yn ddylanwadau sylweddol. Gan gydweithio ar draws yr ysgol, y cartref a'r gymuned, gallwn gefnogi ein plant a'n pobl ifanc yn fwy effeithiol.

Credwn fod gan bob plentyn, pob teulu a phob cymuned gryfderau y gellir eu datblygu. Trwy weithio mewn partneriaeth, rydym yn gallu dod o hyd i’r atebion sy'n diwallu anghenion y dysgwr unigol a'u teulu yn well.

Rydym yn gwybod bod llawer o ymarferwyr addysg wedi bod yn gweithio fel hyn ers degawdau, ond weithiau mae angen mwy o help, adnoddau, arweiniad neu gyllid ar ysgolion i ymgorffori'r dull hwn o weithio yn llawn.

Rydym yn deall bod llawer o ofynion sy’n gwrthdaro ar arweinwyr ac ymarferwyr addysg, yn enwedig yn sgil pandemig COVID-19, ac mae'n rhaid i'r dull hwn gefnogi staff fel y gallant yn eu tro gefnogi'r plant a'r bobl ifanc.

Mae'r canllawiau hyn yn esbonio beth yw Ysgol Fro a pham rydym yn credu y bydd mabwysiadu dull ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn helpu ein plant a'n pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau. Fe'i datblygwyd ar y cyd ag ystod eang o randdeiliaid allanol, gan gynnwys cynrychiolwyr o Estyn, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector. Mae'n cydnabod bod gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth ddatblygu Ysgolion Bro er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb addysgol a sicrhau safonau ac uchelgeisiau uchel i bawb.

Mae’r gwerthoedd canlynol yn sail i’r canllawiau hyn:

  • Mae pob plentyn yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd a dylai popeth a wnawn adlewyrchu hyn. Mae eu hawliau, fel y nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn cael eu cydnabod, eu parchu a'u hyrwyddo.
  • Mae rhieni'n bwysig. Nhw yw addysgwyr cyntaf a mwyaf parhaol plant ac mae eu hymgysylltiad yn hollbwysig.' (Addysg Gynnar, 2021, Birth to 5 matters)
  • Mae cydweithio yn hanfodol er mwyn sicrhau bod dull cwbl gynhwysol yn cael ei ddatblygu drwy ffurfio cydberthnasau a phartneriaethau ymddiriedus.
  • Mae gan bob plentyn, teulu a chymuned gryfderau y gellir adeiladu arnynt. 

Mae Estyn, yr Arolygiaeth dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, wedi cydnabod pwysigrwydd Ysgolion Bro. Mae eu hadroddiad, Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol’ yn darparu astudiaethau achos sy'n dangos agweddau ar bob elfen o'r dull ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Maent hefyd yn nodi 8 nodwedd sy’n diffinio Ysgol Fro:

  1. ffocws ar anghenion cymdeithasol ac emosiynol, ac anghenion iechyd, pob dysgwr, gan gynnwys mynediad at amrediad rhesymegol o wasanaethau a chynlluniau dysgu personol i ddysgwyr
  2. cysylltiad â theuluoedd, a hwnnw’n aml yn cynnwys datblygu gwasanaeth cymorth i deuluoedd yn yr ysgol
  3. cysylltiad â’r gymuned ehangach, gan ddarparu’r cyfle a’r mecanwaith i feithrin gallu yn y gymuned leol
  4. darparu addysg integredig yn yr ysgol, addysg anffurfiol yn ogystal ag addysg ffurfiol, a gwasanaethau gwaith cymdeithasol ac addysg iechyd a gwasanaethau hyrwyddo
  5. rheolaeth integredig sy’n aml yn cael ei chefnogi gan reolwr integreiddio
  6. gwasanaethau’n cael eu darparu yn unol â chyfres o amcanion integredig a chanlyniadau mesuradwy; un nodwedd bwysig mewn llawer o achosion yw rhannu lleoliad
  7. ymrwymiad ac arweinyddiaeth
  8. hyfforddiant amlddisgyblaethol a datblygu staff

Ein model ar gyfer Ysgolion Bro

Image
Ein model ar gyfer Ysgolion Bro

Mae’r model hwn yn dangos dull system gyfan. Mae gweithio o'r blynyddoedd cynnar i ôl-16 oed yn hanfodol i lwyddiant ein plant a'n pobl ifanc.

Mae’r elfennau sy’n ymwneud ag ymgysylltu â’r teulu, â’r gymuned ac â phartneriaethau amlasiantaeth yn gydgysylltiedig. Nid yw’r elfennau hyn yn gweithio ar eu pen eu hunain, ond maen nhw’n cael dylanwad ac effaith ar ei gilydd, ac yn cyfuno i fod yn fodel hunanbarhaol. Er enghraifft, pan fydd ysgolion yn ymgysylltu â theuluoedd, maent yn dod yn fwy ymwybodol o anghenion teuluoedd ac yn gallu cynnig ystod ehangach o wasanaethau. Er mwyn cael mynediad i'r gwasanaethau hyn, a darparu'r gwasanaethau hyn, mae'n rhaid i'r ysgol ymgysylltu â'r gymuned ehangach. Gallai enghreifftiau o phob un o’r elfennau hyn gynnwys y canlynol:

Ymgysylltu â’r teulu

  • Gweithio'n agos gyda theuluoedd i roi'r amgylchedd dysgu gorau posibl yn y cartref i blant a phobl ifanc. Sicrhau bod gan deuluoedd y sgiliau, yr hyder a'r adnoddau i fynd ati i gefnogi dysgu eu plentyn yn y cartref.
  • Gweithio mewn ffordd adeiladol gyda theuluoedd i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau rhag meithrin perthynas dda.

Ymgysylltu â’r gymuned

  • Gweithredu fel rhan allweddol o'r gymuned leol, gan gynnig cyfleoedd i ddefnyddio cyfleusterau'r ysgol ar gyfer dysgu oedolion, lles, chwarae, chwaraeon, a gweithgareddau diwylliannol a chymunedol eraill.
  • Cyfeirio at wasanaethau cymorth neu gynghori eraill.
  • Defnyddio'r sgiliau a'r sefydliadau yn y gymuned i ehangu a chyfoethogi cyfleoedd dysgu ac i ddylanwadu'n gadarnhaol ar newid.

Ymgysylltu â phartneriaethau amlasiantaeth

  • Cydweithio'n effeithiol gyda gwasanaethau ac asiantaethau allweddol eraill i sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu ac yn dysgu.
  • Rhannu gwybodaeth fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn gallu cael y gefnogaeth briodol ar yr adeg gywir.
  • Cefnogi mynediad at wasanaethau ehangach a allai gael eu cydleoli ar safle ysgol neu eu lleoli mewn mannau eraill yn y gymuned.

 

 

Bydd datblygu pob un o'r 3 elfen mewn ffordd integredig yn sicrhau'r effaith fwyaf ar gyrhaeddiad, ymddygiad, presenoldeb a dyheadau plant a phobl ifanc. Ac mae eu hangen yn arbennig mewn meysydd sy'n wynebu anfantais gymdeithasol-economaidd.

Er ei bod yn cael ei chydnabod bod llawer o ysgolion eisoes yn dilyn y dull hwn o ymdrin ag addysg, y gwahaniaeth rhwng Ysgol Fro ac ysgolion eraill yw'r dull bwriadol o ddod â'r elfennau hyn at ei gilydd i gefnogi'r plant a'r teuluoedd sy'n mynychu'r ysgol.

Mae 4 galluogwr allweddol sy'n cefnogi meithrin ymgysylltu â’r teulu, â’r gymuned ac â phartneriaethau amlasiantaeth.

Gweledigaeth ar y cyd

Yr angen i'r holl randdeiliaid helpu i ddatblygu a gwireddu'r weledigaeth ar gyfer yr ysgol, teuluoedd a chymunedau.

Arweinyddiaeth gydweithredol

Arweinyddiaeth sy'n cynnwys rhanddeiliaid, er mwyn sicrhau bod cyfle i bawb leisio’u barn a bod penderfyniadau a nodau yn cael eu gwneud ar y cyd.

Cydberthynas ymddiriedus

Cydberthynas ymddiriedus ac anfeirniadol rhwng ysgolion, teuluoedd ac aelodau o'r gymuned, a rhwng staff a phlant neu bobl ifanc, sy’n caniatáu i bawb deimlo y gwrandewir arnynt, a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.

Dysgu cydgysylltiedig

Ffocws cryf ar ddysgu cydgysylltiedig o ansawdd uchel yn y cartref, yr ysgol a'r gymuned, gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd ym mhob maes.

Gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant

Rydym yn gwybod mai'r dulliau mwyaf effeithiol yw'r rhai sy'n cael eu datblygu mewn partneriaeth â rhieni ac wedi’u teilwra i anghenion penodol y rhieni a'r gymuned (Goodall, J. 2018. A Toolkit for Parental Engagement: From Project to Process. School Leadership and Management). Mae hyn yn golygu y bydd pob Ysgol Bro yn edrych yn wahanol gan y bydd yn diwallu anghenion penodol ei phlant a'i phobl ifanc, teuluoedd a chymunedau. Bydd yn adlewyrchu amrywiaeth plant a phobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru ac yn creu awyrgylch gynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu parchu, eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.

Amrywiaeth

Mae Ysgol Fro yn dathlu ac yn cydnabod gwahaniaethau o ran plant a phobl ifanc, teuluoedd a chymunedau. Mae hefyd yn sicrhau bod arferion yn briodol ac yn adlewyrchu'r gwahaniaethau hynny.

Tegwch

Mae Ysgol Bro yn deall y gwahanol anghenion a'r rhwystrau y mae plant a phobl ifanc a theuluoedd yn eu hwynebu ac yn addasu'r gefnogaeth y maent yn ei ddarparu yn unol â hynny.

Cynhwysiant

Mae Ysgol Bro yn creu awyrgylch lle mae pob person yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, yn gallu cymryd rhan weithredol ac yn teimlo fel eu bod yn perthyn.

Trwy fabwysiadu'r dull cyfannol a chydgysylltiedig hwn, a thrwy ganolbwyntio ar dysgu ac addysgu o ansawdd uchel, byddwn yn cyflawni safonau ac uchelgeisiau uchel i bawb.

Elfennau Ysgol Fro

Ymgysylltu â’r teulu

Mae’r hyn y mae teuluoedd yn ei wneud yn bwysig, ac mae’r teulu’n hanfodol i lwyddiant plant a phobl ifanc. Mae'r hyn sy'n digwydd yn y cartref ym mlynyddoedd cynnar bywyd plentyn nid yn unig yn llywio eu datblygiad gwybyddol a'u cyflawniad addysgol, ond hefyd eu llwyddiant yn y tymor hwy (National Literacy Trust, 2020. Literature review on the impact of COVID-19 on families, and implications for the home learning environment). Mae gweithredu’n gynnar a chefnogi rhieni i fod yn rhan o ddysgu cynnar eu plentyn yn allweddol (Finnegan, J., Telfer, C., a Warren, H. 2015. Ready to Read: closing the gap in early language skills so that every child in Scotland can read well), ac mae’r ysgolion sy'n meithrin perthynas â rhieni mewn sefyllfa dda i wneud hynny. Fodd bynnag, mae'n bwysig i ysgolion a theuluoedd weithio mewn partneriaeth â'i gilydd. I gyflawni hynny, rhaid meithrin cydberthnasau ymddiriedus a pharchus â theuluoedd. Fel rhan o ddull yr Ysgol Fro, mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi a bod staff yr ysgol yn gwrando arnynt. Mae eu cryfderau, eu sgiliau a'r rôl sydd ganddynt wrth gefnogi dysgu a datblygiad eu plentyn yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi. Dylai ysgolion fod yn rhagweithiol wrth feithrin perthynas â theuluoedd, a chymryd yr amser i ddeall y ffordd orau y gallant ymgysylltu â nhw. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach os oes gan deuluoedd bryderon oherwydd profiad anodd o fod yn yr ysgol. Yn sgil hynny, mae’n bosibl bod amgylchedd yr ysgol yn codi ofn arnynt.

Dylid sicrhau bod teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u hannog i deimlo eu bod yn rhan o'r ysgol. O wneud hynny, mae ysgolion yn y sefyllfa orau i weithio gyda nhw i ddatblygu strategaethau ehangach sy'n cefnogi ennyn eu diddordeb a sicrhau eu bod yn rhan o’r hyn y mae eu plant yn ei ddysgu, gan gydnabod effaith yr amgylchedd dysgu yn y cartref. Trwy wrando ar deuluoedd a chydweithio â nhw, gellir datblygu cyngor penodol sydd wedi'i dargedu ar sut i helpu plant yn y cartref, gan gynnwys darparu adnoddau ategol (Llywodraeth Cymru, 2014, Canllawiau ar gyfer defnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion: Beth sydd wir yn gweithio?; Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, 2018, Cynnwys Rhieni - Cyfathrebu rhwng ysgolion a rhieni plant oedran ysgol).

Er mwyn i ymdrechion i ymgysylltu â'r teulu fod yn llwyddiannus, mae angen gweledigaeth gryf a dull ysgol gyfan. Fodd bynnag, mae ymchwil hefyd wedi dangos bod penodi aelod o staff i arwain ar y gwaith o ymgysylltu â'r teulu yn fwy effeithiol (Goodall, J. a Vorhaus, J. 2011. Review of Best Practice in Parental Engagement. Llundain: Adran Addysg). Ac felly cynghorir datblygu rolau swyddogion ymgysylltu â theuluoedd. Rydym yn cydnabod nad yw pob plentyn a pherson ifanc yn cael addysg yn yr ysgol. Mae rhai yn cael eu haddysg mewn lleoliadau eraill neu wedi dewis derbyn addysg yn y cartref. Fodd bynnag, mae gwerthoedd ac elfennau'r canllawiau hyn yn dal i fod yn berthnasol.

Astudiaeth achos: Ysgol A (Ysgol Gynradd)

Mae’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn Ysgol A wedi bod yn y swydd ers 11 blynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi arwain dull ysgol gyfan o ddatblygu ymgysylltiad â’r teulu ac â’r gymuned.

Un o flaenoriaethau cynnar yr ysgol oedd datblygu cyfranogiad rhieni, fel bod y rhieni'n teimlo eu bod yn cael eu croesawu i'r ysgol ac yn cael cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau’r ysgol.

Dros amser, mae pwyslais rôl y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd wedi newid i ganolbwyntio ar ennyn diddordeb rhieni yn yr hyn y mae’r plant yn ei ddysgu, ac yn sgil hynny gwelwyd bod y rhieni’n cymryd mwy o gyfrifoldeb am yr hyn y mae eu plant yn ei ddysgu ac yn cymryd rhan ragweithiol. Mae fforwm y teulu yn rhoi cyfleoedd i rieni gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau drwy gynnig eu barn, ac i'r ysgol wrando ar eu barn. Mae wythnos Sgiliau Cymunedol yn galluogi'r ysgol i ddefnyddio sgiliau a chryfderau'r rhieni i ehangu’r hyn y mae’r plant yn ei ddysgu.

Mae cyfathrebu effeithiol, a’r defnydd o archwiliadau a holiaduron, wedi caniatáu i'r ysgol deilwra cyngor a chanllawiau'r cwricwlwm gan ymateb i safbwyntiau ac anghenion y rhieni. Enghraifft o hyn yw'r gefnogaeth a'r wybodaeth a gynigir i rieni ynglŷn â datblygu sgiliau llythrennedd cynnar. Mae gweithdai sy'n cynnwys rhieni a'u plant yn canolbwyntio ar addysgu ffoneg, a chaiff adnoddau eu rhannu i gefnogi dysgu ychwanegol yn y cartref. Mae gwerthusiad o’r rhaglen hon yn dangos effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad plant mewn ffoneg ynghyd â chynnydd yn hyder rhieni o ran deall sut i gefnogi ffoneg yn y cartref.

Ymgysylltu â’r gymuned

Mae'r dystiolaeth ymchwil yn dangos bod angen ymgysylltiad cryf os yw ysgolion am chwarae rhan lawn mewn lliniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Rhaid sicrhau ymgysylltiad â nid yn unig teuluoedd y dysgwyr, ond hefyd â’r gymuned ehangach (Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. 2020. Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol). Mae ysgolion yn rhan allweddol o'r gymuned leol; drwy ddatblygu partneriaethau ac ymgysylltu â sefydliadau cymunedol a thrwy wneud y defnydd gorau o’u hasedau, gallant ddod yn ganolbwynt pwysig i'r gymuned. Mae gweithio mewn partneriaeth yn dod â manteision i'r ysgol, ac i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd. Mae hefyd yn dod â manteision cadarnhaol i'r gymuned, gan helpu i greu cymunedau ffyniannus, grymus a chydgysylltiedig.

Gall datblygu partneriaethau cymunedol ehangach, grwpiau cymunedol lleol yn ogystal â sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat:

  • gryfhau gwaith ymgysylltu’r ysgol â theuluoedd
  • cryfhau'r ysgol, drwy ddod ag adnoddau i mewn a chyfoethogi'r cwricwlwm
  • galluogi ysgolion i wneud cyfraniad cadarnhaol at fywyd cymunedol, gan ddatblygu cydlyniant cymunedol a chyfalaf cymdeithasol
  • darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu oedolion, gan ganiatáu i aelodau o'r gymuned ddysgu sgiliau newydd a datblygu eu hyder
  • galluogi defnydd cymunedol ehangach o asedau'r ysgol, er enghraifft, cyfleusterau chwaraeon a chymdeithasol, neu o dir yr ysgol, sy'n gallu gwella iechyd a lles y gymuned leol
  • cynyddu'r defnydd o wasanaethau cymorth cymunedol ehangach, er enghraifft, cyngor ar bopeth, a chyngor ar yrfaoedd, ac ati
  • galluogi cydweithio ag arweinwyr grwpiau cymunedol ar gyfer prosiectau cymunedol ar y cyd
  • caniatáu i ysgolion fanteisio ar wybodaeth, sgiliau ac adnoddau arbenigol yn y gymuned i gefnogi anghenion addysgol, cymdeithasol, iechyd a lles plant a phobl ifanc
  • helpu ysgolion i annog ailymgysylltu â dysgwyr drwy gysylltiadau â darparwyr cymunedol a thrydydd parti ehangach, er enghraifft, darparwyr chwarae, i gefnogi cyfleoedd cyfoethogi ychwanegol

Astudiaeth achos: Ysgol B (Ysgol Uwchradd)

Mae sesiynau ymgysylltu Clwstwr Ysgolion B yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i rieni ac i aelodau'r gymuned elwa ar adnoddau ffisegol ac adnoddau dynol yr ysgol. Mae'r staff yn cynnig ystod o gyfleoedd dysgu i aelodau o’r teulu a’r gymuned yn rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys sesiynau ar:

  • TGCh sylfaenol a diogelwch ar y rhyngrwyd
  • mathemateg ariannol
  • prydau bwyd mewn 30 munud
  • dwyieithrwydd.

Yn ogystal, mae'r ysgol yn gwerthfawrogi ac yn parchu'r sgiliau, y doniau a'r adnoddau y gall y gymuned eu cynnig i'r ysgol.

Drwy weithio mewn partneriaeth â rhieni a'r gymuned, mae'r ysgol wedi cyfrannu at ostyngiad sylweddol yng nghanran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, ac mae troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned wedi lleihau. Mae’r gymuned yn falch o gyflawniad y plant a’r bobl ifanc, ac mae hynny’n cyfrannu at godi eu dyheadau a’u hunan-barch.

Ymgysylltu â phartneriaethau amlasiantaeth

Nid yw dysgu yn digwydd ar wahân. Mae cysylltiad agos rhwng iechyd, lles a chyrhaeddiad. Mae plant a phobl ifanc sydd â gwell iechyd a lles yn fwy tebygol o gyflawni. Cydnabyddir bod plant a phobl ifanc yn aml yn dod i'r ystafell ddosbarth gyda heriau sy'n effeithio ar eu gallu i ddysgu, archwilio, a datblygu i'w potensial mwyaf. Dim ond mewn amgylchedd lle mae plant yn ymgysylltu y gall dysgu effeithiol ddigwydd, a dim ond pan fydd plant mewn cyflwr emosiynol priodol i fod yn ymatebol i ddysgu (Llywodraeth Cymru, 2021. Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol).

Bydd cyfeirio at ystod eang o wasanaethau, neu gydleoli ystod eang o wasanaethau, yn sicrhau bod anghenion pob plentyn yn cael eu diwallu a bod y rhwystrau sy’n atal plant rhag dysgu yn cael eu lleihau cymaint â phosibl. Gallai gwasanaethau gynnwys y rhai sy'n targedu iechyd a lles yn ogystal ag anghenion corfforol, gwybyddol a chymdeithasol.

Mae hefyd yn bwysig cydnabod rôl chwarae wrth gefnogi lles plant a phobl ifanc, gan sicrhau bod ganddynt amser a lleoedd i chwarae ac i fynegi eu hunain. Mae'r dull cydweithredol hwn yn cyd-fynd â'r modelau presennol ac yn sicrhau bod sylw yn cael ei roi i oresgyn rhwystrau rhag dysgu drwy ddarparu gwasanaethau allweddol ar y safle. Mae Fframwaith NEST (Nurturing, Empowering, Safe and Trusted) y Gwasanaeth Iechyd yn cynrychioli dull system gyfan sefydledig ar gyfer datblygu gwasanaethau iechyd meddwl, lles a chymorth i blant a theuluoedd.

Mae cyfuno gwasanaethau a chynnig dull integredig yn darparu dulliau ymgysylltu cadarnhaol a chymorth i blant o'u genedigaeth. Mae ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol, gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr addysg a mentoriaid dysgu yn darparu tîm cynhwysfawr a medrus iawn i roi dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn a’r teulu ar waith, er mwyn gallu nodi eu hanghenion a’u diwallu yn effeithiol.

Astudiaeth achos: Ysgol C (Ysgol Arbennig)

Mae Ysgol C yn darparu sylfaen ar gyfer nifer o wasanaethau allweddol, gan gynnwys tîm gwaith cymdeithasol, tîm allgymorth Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig (ASD), gwasanaeth cymorth synhwyraidd a'r ganolfan datblygu plant. Mae'r ysgol ar agor drwy'r flwyddyn fel bod y ddarpariaeth hon ar gael drwy’r flwyddyn.

Mae'r dull integredig hwn o ddarparu gwasanaethau yn galluogi rhieni i fynychu apwyntiadau ar gyfer unrhyw fater sy'n gysylltiedig ag iechyd ar y safle. Mae’r dull hwn hefyd yn sicrhau bod plant yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn.

Gellir cael mwy o astudiaethau achos yn adroddiad Estyn ‘Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol'.

Tystiolaeth ar ymgysylltu â theuluoedd ac â’r gymuned

Mae ymchwil sylweddol sy'n amlygu'r cysylltiad rhwng cyfranogiad ac ymgysylltiad rhieni mewn perthynas â dysgu eu plant a deilliannau’r plant hynny. Mae ymchwil yn dangos bod yr effaith y gall rhieni ei chael ar ddysgu yn fwy na'r effaith y gall ysgolion ei chael (Desforges, C. ac Abouchaar, A. 2003. The Impact of Parental Involvement, Parental Support and Family Education on Pupil Achievement and Adjustment: A Literature Review), gan dynnu sylw at y ffaith bod y rhan fwyaf o'r gwahaniaeth o ran pa mor dda y mae plant yn ei wneud yn yr ysgol yn ddibynnol ar yr hyn sy'n digwydd y tu allan i gatiau'r ysgol, boed hynny yn y cartref neu yn y gymuned (Rasbash, J., G. Leckie, R. Pillinger a J. Jenkins (2010). Children's educational progress: partitioning family, school and area effects. Journal of the Royal Statistical Society: Series A (Statistics in Society) 173(3): 657 i 682).

Nid yw'n syndod felly bod ymgysylltu â rhieni ac â chymunedau wedi denu sylw cynyddol gan y rhai sy'n ceisio sicrhau deilliannau addysgol gwell.

Er mwyn sicrhau gwelliannau mewn dysgu, dylid cydnabod y dylanwadau ehangach sy'n effeithio ar ddysgu plant (Goodall, J. 2021. School Reform and Parental Engagement learning in the UK).

Mae 3 chylch dylanwad sy'n gorgyffwrdd lle mae plant yn dysgu ac yn tyfu: sef y teulu, yr ysgol a'r gymuned (Epstein, J. 2009. School, Family and Community Partnerships: caring for the children we share).

Image
Mae Ysgol Bro yn rhoi’r plentyn wrth wraidd ei ddull. Mae'n cysylltu'r teulu, yr ysgol a'r gymuned â'i gilydd er mwyn darparu dull cyfannol ac integredig o ddysgu a datblygu.

Mae Ysgol Bro yn rhoi’r plentyn wrth wraidd ei ddull. Mae'n cysylltu'r teulu, yr ysgol a'r gymuned â'i gilydd er mwyn darparu dull cyfannol ac integredig o ddysgu a datblygu (Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. 2020. Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol). Mae'n mabwysiadu dull cadarnhaol, gan adeiladu ar y cryfderau sydd eisoes gan deuluoedd, ysgolion a chymunedau, ac yn defnyddio'r rhain fel sylfaen i ddatblygu ymhellach.

Gall ysgolion mewn ardaloedd sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol wynebu cymhlethdodau ychwanegol sy'n effeithio ar y plentyn, y teulu a’r gymuned. Er na all ysgolion liniaru effeithiau negyddol pob ffactor allanol er mwyn gwella dysgu, mae'n briodol cynnwys rhieni, teuluoedd, a'r gymuned. Dyma farn sydd wedi'i gymeradwyo gan y Sefydliad Gwaddol Addysgol (EEF) sy'n datgan:

‘The research is clear that the best way to support learners, including those at risk of underachievement in the current system is to work in partnership with families.’ (EEF. 2018. The Attainment Gap)

Mae Estyn, arolygiaeth Cymru, wedi hyrwyddo'r defnydd o ddull ymgysylltu â rhieni ac â’r gymuned yn gyson (Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. 2018. Cynnwys Rhieni - Cyfathrebu rhwng ysgolion a rhieni plant oedran ysgol). Ac maent yn datgan:

‘Mae ysgolion cryf yn cydnabod na allant fynd i’r afael ag anfantais a achosir gan dlodi ar eu pennau’u hunain. Maent yn gweithio gyda theuluoedd, cymunedau ac ystod o bartneriaid i leihau effaith tlodi ar ddisgyblion sy’n agored i niwed.’ (Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. 2019. Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2018-2019).

Mae eu cyhoeddiad diweddaraf yn galw ar ysgolion i gryfhau dulliau ymgysylltu â theuluoedd ac â’r gymuned, ehangu'r defnydd o'u hasedau er lles y gymuned a chydleoli gwasanaethau (Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. 2020. Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol).

Mae gan blant anghenion lluosog, ac os na chânt eu diwallu, gallant rwystro eu cymhelliant a'u gallu i ddysgu (Basch, C. 2011. Healthier Students are better Learners: A missing link in school reforms to close the achievement gap. Journal of School Health). Yr ysgolion sy'n cydnabod hyn ac sydd â gwasanaethau wrth law i ddiwallu'r anghenion hyn yw’r rhai sy’n sicrhau bod pob plentyn yn gallu manteisio ar eu cyfleoedd dysgu. A’r ysgolion sy'n hyrwyddo dulliau ymgysylltu â theuluoedd ac â’r gymuned, ac sy’n gweithredu fel canolfan i'r gymuned (gan ddod ag addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ieuenctid a datblygu cymunedol at ei gilydd) yw’r rhai sy’n dangos gwell dysgu, teuluoedd cryfach a chymunedau iachach.

Cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd

Er gwaethaf y gwelliannau mewn tegwch, mae yna wahaniaethau mawr o hyd o ran deilliannau addysgol rhwng gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc, gyda'r plant hynny sy'n cael eu hystyried o dan anfantais economaidd-gymdeithasol yn gwneud yn waeth na'u cyfoedion (Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. 2020. Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol).

Mae'r bwlch hwn yn dechrau yn y blynyddoedd cynnar, ac mae’n amlwg pan fydd y plant yn dechrau'r ysgol yn 5 oed (EEF. 2018. The Attainment Gap; EEF. 2021. Impact of school closures and subsequent support strategies on attainment and socio-emotional well-being in Key Stage 1: Interim Paper 2). O'u cymharu â'r boblogaeth gyffredinol, mae plant yn parhau i fod yn fwy tebygol o fod mewn cartrefi incwm isel. Rhwng 2017 a 2018 a 2019 hyd at 2020, roedd 31% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, sy'n cyfateb i oddeutu 190,000 o blant (dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata aelwydydd islaw incwm cyfartalog yr Adran Gwaith a Phensiynau).

Ar ben hynny, mae plant a phobl ifanc dan anfantais economaidd-gymdeithasol wedi cael eu heffeithio'n fwy gan bandemig COVID-19 a'r cyfnodau clo dilynol mewn ysgolion, ac mae mwy o blant gam yn ôl o ran dysgu oherwydd cyfnodau hir i ffwrdd o’r ysgol (Y Sefydliad Gwaddol Addysgol (EEF). 2021. Impact of School Closures and subsequent support strategies on attainment and socio-emotional well-being in Key Stage 1: Interim Paper 2). Nid ydym yn gwybod eto beth fydd effaith lawn y pandemig, ond mae ymchwil sy'n dod i'r amlwg ar y tarfu ar ddysgu yn sgil y pandemig yn rhagweld y bydd y bwlch cyrhaeddiad yn ehangu ymhellach (Adran Addysg. 2021. Understanding Progress in the 2020/21 academic year).

Fodd bynnag, mae'r pandemig hefyd wedi gwneud inni ystyried ffordd newydd o weithio. Caeodd drysau ysgolion o ran nad oeddent yn cynnig addysg ar eu safleoedd i'r rhan fwyaf o ddysgwyr, ond parhaodd gwaith yr ysgol drwy ddull dysgu cyfunol. Amlygodd hyn y ffaith nad oes angen cyfyngu dysgu i'r hyn sy'n digwydd yn yr ysgol. Mae hefyd wedi pwysleisio'r rôl hollbwysig y mae rhieni, y teulu ac aelodau o’r gymuned yn ei chwarae ym maes dysgu plant, ac mae hynny wedi ysgogi trafodaeth ehangach am y rôl y gallant ei chwarae wrth symud ymlaen:

Stronger relationships with parents and the community will help education systems bring together the different environments in which students learn and strengthen more personalised learning approaches.’ (Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). 2020. Lessons for Education from COVID-19. A Policy Maker’s Handbook for More resilient Systems).

Mae goresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad a thorri cylch tlodi sy’n pontio'r cenedlaethau yn gymhleth, ac mae angen strategaeth hirdymor. Mae ymchwil wedi dangos mai dull cydlynus sy'n dod â meysydd polisi ynghyd sy’n cael yr effaith fwyaf (Sefydliad Polisi Addysg. 2021. Education, Recovery and Resilience in England: Phase two report). Ni ddylid ystyried ein hagwedd at Ysgolion Bro ar wahân, ond fel rhan ategol o'r meysydd polisi ehangach ym myd addysg. Ceir dolenni cyswllt at y meysydd hynny o dan ‘Atodiad 1: Cysylltiadau rhwng Ysgolion Bro a pholisïau eraill’.

Sut mae Ysgolion Bro yn cyd-fynd â'n polisïau eraill

Bydd plant yn dod i gysylltiad ag amrywiol wasanaethau a sefydliadau o'r eiliad y cânt eu geni hyd at fod yn oedolion. Mae'n bwysig bod y gwasanaethau cymorth hyn yn cydweithio fel piblinell effeithiol. Rydym yn gwybod bod symud o 1 sector i'r llall yn gallu amharu'n fawr ar blant, er enghraifft mae symud i'r ysgol uwchradd o'r ysgol gynradd yn gallu bod yn anodd i rai plant. Mae'n bwysig bod gwasanaethau ar lawr gwlad yn gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig, ond hefyd bod y rhai sy’n llunio polisïau yn sicrhau bod pecyn o bolisïau sy'n gweithio ar y cyd ar lefel strategol.

Mae dull Ysgol Bro yn cefnogi ystod eang o feysydd polisi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ‘Atodiad 1: Cysylltiadau rhwng Ysgolion Bro a pholisïau eraill’.

Geirfa

Mae’r diffiniadau hyn yn helpu i esbonio beth rydyn ni’n ei olygu wrth ddefnyddio’r termau canlynol:

  • Teuluoedd – system gymorth o rieni, brodyr a chwiorydd, perthnasau a phobl eraill sy'n gysylltiedig â lles yr aelodau.
  • Rhieni – pobl â chyfrifoldebau rhieni, er enghraifft mamau, tadau, gofalwyr maeth, rhieni sy’n mabwysiadu, llys-rieni, rhieni a theidiau a neiniau 'sy'n berthnasau'.
  • Cymuned – y rhai hynny yn yr ardal leol, ond hefyd pawb sy'n ymddiddori yn ansawdd yr addysg, ac sy'n cael eu heffeithio ganddi. Mae llawer o'n cymunedau yn ddaearyddol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol amrywiol, ond maent yn dal i rannu cysylltiadau cymdeithasol ac ymdeimlad o gynefin (perthyn) drwy'r ysgol, eu plant a'u teuluoedd.
  • Cyfranogiad rhieni – rhieni yn cymryd rhan ym mywyd a chymuned yr ysgol.
  • Ymgysylltiad rhieni – rhieni yn mynd ati i gefnogi dysgu eu plentyn.
  • Amgylchedd Dysgu yn y Cartref – gan gynnwys yr adnoddau ffisegol sydd ar gael yn y cartref, ond hefyd ansawdd y cymorth dysgu gan deuluoedd.
  • Amrywiaeth – yr holl ffyrdd y mae pobl yn wahanol, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig.
  • Tegwch – dyrannu adnoddau yn ôl yr angen, mewn ffordd bersonol, i sicrhau canlyniadau teg i bawb.
  • Cynhwysiant – sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cefnogi, eu parchu a'u gwerthfawrogi.
  • Arweinyddiaeth gydweithredol – arweinyddiaeth sy'n cynnwys rhanddeiliaid, er mwyn sicrhau bod pawb yn lleisio’u barn a bod penderfyniadau a nodau yn cael eu gwneud ar y cyd.
  • Ymgysylltu â’r gymuned – y berthynas waith rhwng cymunedau, sefydliadau cymunedol, a chyrff cyhoeddus a phreifat i’w helpu i nodi uchelgeisiau cymunedol a gweithredu arnynt.
  • Mapio cymunedol – proses a gyflawnir ar y cyd i greu rhestr o asedau a chryfderau lleol.
  • Dysgu oedolion yn y gymuned – cyfleoedd dysgu hyblyg, ffurfiol ac anffurfiol, i oedolion, a ddarperir mewn lleoliadau yn y gymuned i gyflawni anghenion lleol.
  • Cyfalaf cymdeithasol – cysylltiadau a rhwydweithiau cymdeithasol mewn cymuned, effeithiolrwydd sefydliadau cymunedol a gwirfoddol lleol, ac adnoddau sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector sydd ar gael i gefnogi cymuned.
  • Dysgu teuluol – unrhyw weithgarwch dysgu sy’n cynnwys y plant ac oedolion mewn teulu, sydd â deilliannau dysgu penodol ar gyfer y naill a’r llall.
  • Gweithredu ar sail asedau – dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar gyfleoedd a chryfderau sy’n edrych i’r dyfodol.
  • Gweithredu ar sail diffygion – dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddiffygion, gwendidau neu broblemau.