Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwyf yn darparu crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad technegol ar Reoliadau drafft Ardrethu Annomestig (Personau y Mae'n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2023 (“y Rheoliadau”).  Rwyf hefyd yn cadarnhau y caiff y rheoliadau, fel y'u drafftiwyd ac fel yr ymgynghorwyd arnynt, eu gosod gerbron y Senedd ac y deuant i rym ar 1 Ebrill 2023 ar yr amod y cytunir arnynt.

Mae ardrethi annomestig yn darparu ffrwd refeniw hanfodol sy'n cyfrannu at gostau gwasanaethau llywodraeth leol, gwasanaethau yr ydym i gyd yn elwa arnynt. Ymgynghorwyd ar ystod o fesurau i fynd i'r afael â thwyll ac osgoi ardrethi annomestig yn ystod haf 2018, yn dilyn ymarfer casglu tystiolaeth a gynhaliwyd yn 2017. Yn dilyn yr ymgynghoriad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ystod o fesurau ar 16 Hydref 2018.

Un o'r mesurau hyn oedd cyflwyno pŵer cyfreithiol newydd i awdurdodau lleol ofyn am wybodaeth gan drethdalwyr a thrydydd partïon sy'n darparu gwasanaeth mewn perthynas ag eiddo, i gefnogi eu rôl yn y gwaith o filio a chasglu ardrethi annomestig.

Cynhaliwyd ymgynghoriad technegol ar ddrafft o'r Rheoliadau rhwng 24 Mehefin a 16 Medi 2022. Roedd hwn yn gofyn am safbwyntiau ynghylch eglurder y Rheoliadau ac am unrhyw sylwadau eraill yn eu cylch. Yn dilyn yr ymgynghoriad, nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau drafftio i’r Rheoliadau. 

Mae crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad technegol ar gael yn:

https://llyw.cymru/rheoliadau-ardrethu-annomestig-drafft-i-fynd-ir-afael-thwyll-ac-osgoi-talu-trethi