Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn ystod cyfnodau o darfu, mae’n hanfodol bod dysgu, diogelwch a lles yr holl blant a phobl ifanc yn ein hysgolion yng Nghymru yn cael eu cynnal. Mae hyn yn wir hefyd yn achos pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru sy’n cael ei addysgu mewn Uned Cyfeirio Disgyblion neu drwy ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, neu, yn achos ein dysgwyr ieuengaf, a fydd efallai yn cyrchu addysg gynnar mewn lleoliad gofal plant.

Gwyddom fod cyfnodau sylweddol i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth yn cael effaith fawr ar blant a phobl ifanc, nid yn unig o ran eu dysgu o ddydd i ddydd a’u cyflawniad hirdymor, ond hefyd o ran eu datblygiad corfforol, meddyliol, emosiynol a chymdeithasol.

Gwyddom hefyd y gallai rhai dysgwyr fod mewn perygl mwy o gael eu hesgeuluso, eu niweidio neu eu cam-drin. Dylid atgoffa pob aelod staff o’u dyletswyddau diogelu a nodir yn y canllawiau diogelwch statudol i leoliadau addysg, 'cadw dysgwyr yn ddiogel' a 'gweithdrefnau diogelu Cymru'.

Er mwyn sicrhau bod ysgolion yn cynllunio ar gyfer parhad dysgu a bod effaith unrhyw darfu ar ddysgu plant a phobl ifanc yn cael ei lliniaru, dylai pob ysgol yng Nghymru nodi eu cynlluniau wrth gefn ar gyfer parhad dysgu a’u cynnwys yn eu trefniadau arferol o ran cynllunio parhad busnes.

Bydd hyn yn sicrhau bod gweithdrefnau clir y cytunwyd arnynt ar waith i ysgolion eu dilyn os bydd cyfnod o darfu ar ddysgu o ganlyniad i gau’r ysgol yn llawn neu’n rhannol, neu os na fydd digon o staff ar gael i gynnal gweithgareddau dysgu ar gyfer yr ysgol gyfan.

Mae’n hollbwysig cynnal gweithgareddau dysgu wyneb yn wyneb o safon uchel ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc, pryd bynnag y bo modd. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol a phan fetho popeth arall y dylai unrhyw darfu ar ddysgu ddigwydd. Byddai amgylchiadau eithriadol yn cynnwys achosion lle y byddai cynnal gweithgareddau dysgu wyneb yn wyneb yn mynd yn groes i ganllawiau Llywodraeth Cymru a/neu Lywodraeth y DU neu lle mae risg i iechyd a diogelwch neu risg diogelu wedi cael ei chanfod ar gyfer rhai dysgwyr mewn ysgol neu bob un ohonynt.

Mae rôl y person diogelu dynodedig yn hanfodol, a dylai’r holl staff a dysgwyr wybod pwy yw hwn a sut i gysylltu ag ef/hi. Gallai fod yn anoddach cael gafael ar oedolyn y mae dysgwyr yn ymddiried ynddo, neu’r person diogelu dynodedig, pan fydd lleoliad wedi’i gau’n rhannol neu’n llawn. Dylai ysgolion ystyried sut i ddarparu trefniadau i ddysgwyr gael sgwrs breifat gyda nhw. Mae canllawiau ar gael i leoliadau addysg.

Dylai ysgolion, lleoliadau a gwasanaethau plant barhau i gydweithio’n agos i sicrhau bod pob plentyn a theulu yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Bydd awdurdodau lleol yn gweithredu ystod o arferion gwaith eisoes i sicrhau bod partneriaid diogelu yn gallu cydweithio i gadw dysgwyr yn ddiogel.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn atgoffa ymarferwyr sy’n gweithio ar draws asiantaethau o’u cyfrifoldebau i ddiogelu a chefnogi dysgwyr drwy ymateb i bryderon ynghylch dysgwyr sydd mewn perygl. Mae’r canllawiau yn gysylltiedig â gweithdrefnau diogelu cenedlaethol Cymru, a dylid eu defnyddio ochr yn ochr â nhw.

Cydnabyddir na fydd modd ail-greu pob agwedd ar ddysgu wyneb yn wyneb yn yr ysgol mewn amgylchedd o bell, yn enwedig o ran rhyngweithio rhwng y dysgwyr a’r athro a rhwng y dysgwyr a’i gilydd, yn ogystal â threfnu’r ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, dylai arweinwyr ysgolion weithio gyda’u timau staffio i sicrhau dysgu o bell o’r safon orau sy’n diwallu anghenion eu dysgwyr, o oed meithrin ymlaen, a’u cymuned, a sicrhau bod hyn yn cael ei ddarparu’n brydlon. Bydd rhoi cynlluniau priodol ar waith yn golygu na fydd yn rhaid i ysgolion ddilyn model sy’n seiliedig ar ddiffyg er mwyn ‘dal i fyny’ ar yr hyn a gollwyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion ddefnyddio’r canllawiau hyn i ddatblygu cynlluniau lleol sy’n gweddu orau i’w cyd-destun ac y gellir eu defnyddio fel sail ar gyfer ymateb i bob cyfnod unigol o darfu wrth iddo ddigwydd.

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol pan fydd ysgolion yn ystyried cau’n rhannol neu’n llawn yn ystod cyfnodau o darfu, yn hytrach na phan fydd dysgu o bell yn cael ei ystyried i ddiwallu anghenion dysgwyr unigol. Yn yr amgylchiadau hyn, anogir ysgolion i gysylltu â’u hawdurdod lleol i drafod cefnogaeth ac ymyrraeth briodol.

Nid yw gweithredu diwydiannol yn dod o dan gwmpas y ddogfen hon. Byddai'r protocolau presennol y bydd gan awdurdodau lleol eisoes yn eu lle yn cael eu gweithredu yn hytrach.

Cyd-destun

Arweiniodd pandemig coronafeirws (COVID-19), yn enwedig yn ystod y dyddiau cynnar, at darfu sylweddol ar ddysgu plant a phobl ifanc ledled Cymru gyfan. Mae tystiolaeth o’r effaith hon yn dal i gael ei chasglu, ond mae’r canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu bod y tarfu a achoswyd gan y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ddysgu a lles plant a phobl ifanc.

Rhagwelir y bydd angen rhoi amrywiaeth eang o ymyriadau ar waith dros y blynyddoedd nesaf er mwyn lliniaru’r effeithiau hyn a sicrhau na fydd effaith barhaol ar ddeilliannau hirdymor plant a phobl ifanc.

Ein nod, fel Llywodraeth Cymru, yw sicrhau na fydd tarfu ar y raddfa hon yn ein hysgolion byth eto. Mae’r risgiau i ddysgu a lles ein plant a’n pobl ifanc yn rhy fawr.

O ganlyniad uniongyrchol i’r risgiau hyn, dylid rhoi blaenoriaeth i gynllunio ar gyfer parhad dysgu ym mhob ysgol er mwyn sicrhau os bydd yn rhaid tarfu ar ddysgu am unrhyw reswm, pan fetho popeth arall, bod ysgolion wedi paratoi’n llawn ac yn gallu parhau i helpu plant a phobl ifanc i ddysgu drwy gydol y cyfnod o darfu.

Un o’n hysgogiadau allweddol ar gyfer mynd i’r afael â pharhad dysgu yw sicrhau ein bod yn adeiladu ar yr arferion ardderchog ym maes dysgu digidol a ddatblygodd yn gyflymach yn ystod y pandemig ac a oedd ar gael i ddysgwyr drwy Hwb. Bydd adeiladu ar y dull hwn yn sicrhau y bydd unrhyw gyfnodau o darfu yn y dyfodol, a fydd yn arwain at gau ysgol yn llawn neu’n rhannol, yn cael eu rheoli’n gyson ac y bydd plant a phobl ifanc yn parhau i allu dysgu i safon uchel yn ystod y cyfnodau hyn.

Er mwyn cyflawni hyn, disgwylir i bob ysgol yng Nghymru ddatblygu cynlluniau parhad dysgu fel rhan o’u trefniadau arferol o ran cynlluniau busnes wrth gefn.

Yr egwyddorion cyffredinol ar gyfer parhad dysgu

Argymhellir y dylid ystyried yr egwyddorion canlynol wrth gynllunio ar gyfer parhad dysgu pan na fydd dysgwyr yn gallu cymryd rhan mewn gwersi wyneb yn wyneb.

Safon

Dylai safon dysgu o bell fod mor debyg â phosibl i brofiadau dysgu wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth o ran cynnwys, adborth, cynnydd, ac ati, gan gydnabod bod dysgu o bell yn cynnig cyd-destun gwahanol iawn i ddysgu wyneb yn wyneb.

Dylai’r dysgu fod yn eang ac yn gytbwys, gan ymdrin ag amrywiaeth o wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd. Mae dysgu anghydamserol a chydamserol yn cynnig cyfleoedd amrywiol i ddatblygu sgiliau a dylai’r math o ddysgu fod yn gyson â’r math o brofiad a gynigir. Arweiniodd y pandemig at fuddiannau i ddysgwyr o ran dysgu digidol ac annibynnol: dylid cadw’r rhain mewn cof wrth ystyried opsiynau ar gyfer cyfleoedd dysgu o bell. Rhaid cydnabod a darparu ar gyfer anghenion gwahanol eich dysgwyr hefyd, yn enwedig eich dysgwyr ieuengaf, gan ymgysylltu â rhieni yn y broses. Yn anad dim, dylai ysgol roi ffocws clir ar sicrhau bod dysgwyr yn parhau i wneud cynnydd yn eu dysgu ni waeth beth fo’r dull dysgu.

Priodol i lefel a natur y tarfu

Bydd yr ymateb i unrhyw darfu ar ddysgu yn dibynnu ar amgylchiadau’r tarfu ac mae’n bosibl y bydd angen addasu cynlluniau yn unol â hynny. Dylai ysgolion ystyried:

  • hyd y tarfu
  • y rheswm dros y tarfu
  • pa ddysgwyr yr effeithir arnynt, eu hoedran a’u mynediad at ddyfeisiau a chysylltedd
  • lefel y gefnogaeth ofynnol gan rieni
  • anghenion unigol dysgwyr
  • gallu dysgwyr i barhau i ddysgu yn unol â’r disgwyl
  • asesiadau neu arholiadau allanol sydd i ddod

Parhad a pherthnasedd

Lle bo modd, dylai ysgolion sicrhau bod y cwricwlwm dysgu o bell yn gyson â’r cwricwlwm wyneb yn wyneb presennol.

Dylai dysgu o bell ganolbwyntio cymaint â phosibl ar y rhaglen astudio neu’r cynlluniau gwaith arferol y byddai dysgwyr yn eu dilyn pe baent yn yr ysgol. Bydd hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer dysgwyr yn y sefyllfa fwyaf tyngedfennol (er enghraifft, y rhai sydd mewn blynyddoedd arholiadau a’r dysgwyr ieuengaf).

Pontio i ddysgu o bell ac yn ôl

Dylai’r broses o newid i ddysgu o bell ac yn ôl fod mor ddidrafferth ac ymarferol â phosibl. Os bydd angen i ysgolion newid i ddysgu o bell, dylai fod cyn lleied â phosibl o fwlch rhwng y profiadau dysgu o safon a ddarperir.

Er mwyn gallu pontio’n ddidrafferth i rith-ddysgu, dylid sicrhau bod y dysgwyr wedi cael manylion mewngofnodi perthnasol, mynediad at waith, adnoddau a hyfforddiant ar ddefnyddio unrhyw lwyfan rhith-ddysgu yn ôl yr angen cyn unrhyw darfu. Bydd hyn yn sicrhau y bydd y dysgu’n parhau heb unrhyw doriadau diangen.

Efallai yr hoffai ysgolion ystyried y ffordd y maent yn datblygu ac yn cyfuno gweithgareddau dysgu o bell o fewn cwricwlwm arferol yr ysgol yn ystod cyfnodau pan fydd y dysgwyr yn yr ysgol. Bydd hyn yn sicrhau bod y dysgwyr yn gyfarwydd â’r llwyfan dysgu a’r broses o ddysgu o bell.

Dylai unrhyw weithgareddau dysgu fod yn briodol i oedran a gallu’r dysgwyr, gan sicrhau y caiff unrhyw ddisgwyliadau o ran cymorth gan rieni neu ofalwyr, ac argaeledd cymorth gan rieni neu ofalwyr, eu hystyried. Bydd hyn yn arbennig o bwysig i ddysgwyr iau.

Dysgwyr agored i niwed

Gellir ystyried llawer o ddysgwyr yn agored i niwed, a dylai ysgolion gofio y gall hyn amlygu ei hun mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol ddysgwyr, ar wahanol adegau.

Ni fydd pob dysgwr a ystyrir yn agored i niwed yn wynebu rhwystrau dysgu, ond efallai y bydd ystod o elfennau yn eu rhwystro rhag cyflawni eu potensial, a bydd angen gwahanol ddatrysiadau a chefnogaeth bwrpasol, felly, er mwyn diwallu pob angen unigol.

Lles, tegwch a chynhwysiant

Lles yw’r sail ar gyfer dysgu a chynnydd o safon uchel, a dylid ei flaenoriaethu bob amser, felly. Yn ystod cyfnodau o darfu, dylai ysgolion ymdrin â darpariaeth academaidd yr holl ddysgwyr, a’u darpariaeth o ran lles, mewn modd cytbwys.

Dylai prosesau fod ar waith er mwyn sicrhau bod dysgwyr, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, mewn cysylltiad rheolaidd â’u hysgol. Dylai ysgolion benderfynu ar y dull gorau o gadw mewn cysylltiad â dysgwyr sy’n agored i niwed, gan gydnabod y gallai pob dysgwr eu cael eu hunain yn agored i niwed, a bod graddau’r sefyllfa honno yn gallu newid. Dylai arweinwyr ysgolion benderfynu ar y dull gorau o fewn eu cyd-destun lleol (er enghraifft, cyswllt wyneb yn wyneb diogel, cyswllt dros y ffôn a/neu drwy wersi cydamserol).

Wrth ddylunio gweithgareddau dysgu o bell, dylai ysgolion ystyried yn ofalus effaith gweithgareddau o’r fath ar les dysgwyr a’u gallu i ymgysylltu â’r dysgu dan gyfarwyddyd. Mae hyn yn cynnwys mynediad dysgwyr at offer, adnoddau a chymorth. Dylai ysgolion fod yn ystyriol o allu dysgwyr unigol i ymgysylltu â’r gweithgaredd dysgu, yn enwedig o ran gwaith ymarferol a lle i astudio a’r ffordd y bydd costau byw yn effeithio ar hyn, a lefel yr ymgysylltiad â rhieni sy’n ofynnol.

Bydd angen i ysgolion ystyried effaith dysgu o bell ar ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn ofalus. Lle bo modd, dylid dylunio gweithgareddau mewn ffordd sy’n diwallu anghenion unigol dysgwyr sydd ag ADY. Mae hyn yn cynnwys defnyddio staff sydd wedi cael hyfforddiant addas i ddylunio, defnyddio a chyflwyno cynnwys ar gyfer dysgwyr sydd ag ADY. Dylai ysgolion gydlynu ag asiantaethau eraill, megis gwasanaethau cymdeithasol neu fyrddau iechyd, lle mae’r asiantaethau hyn yn darparu therapïau neu gymorth iechyd/gofal cymdeithasol i gyflawni anghenion dysgwyr unigol yn yr ysgol.

Dylai arweinwyr ysgolion ac awdurdodau lleol ddeall y gofynion ar gyfer dysgu’n effeithiol o bell. Dylai ysgolion ymgysylltu’n rheolaidd â’u partner technoleg addysg i gael cyngor a chymorth. Dylid ystyried cynnal archwiliad o offer TGCh yr ysgol a sgiliau’r gweithlu fel rhan o drefniadau monitro, gwerthuso ac adrodd yr ysgol.

Os cyfyd pryderon ynglŷn â diogelwch neu les dysgwyr, dylid parhau i ddilyn gweithdrefnau diogelu arferol ysgolion yn ystod cyfnodau o ddysgu o bell.

Yn ystod cyfnodau pan fydd ysgolion ar gau, dylai awdurdodau lleol ystyried yn ofalus sut y bydd dysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim yn cael pryd iach o fwyd bob dydd.

Dylai ysgolion sicrhau bod unrhyw wersi a gynhelir drwy ffrydio byw neu fideogynadledda yn cydymffurfio â’r canllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol ar ffrydio byw. Mae canllawiau wedi cael eu cyhoeddi ar Hwb i gefnogi ysgolion yn y maes hwn.

Dylid ystyried anghenion y canlynol yn arbennig:

  • dysgwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol
  • dysgwyr â chynlluniau datblygu unigol
  • dysgwyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
  • dysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu’r rhai y mae ffactorau economaidd-gymdeithasol eraill yn effeithio arnynt
  • dysgwyr sy’n ffoaduriaid
  • dysgwyr cyfrwng Cymraeg
  • dysgwyr nad ydynt yn siarad iaith yr ysgol gartref
  • dysgwyr mewn addysg gynnar

Cyfathrebu

Dylai ysgolion sicrhau y caiff cynlluniau a threfniadau eu rhannu â’r holl randdeiliaid perthnasol, cyn i unrhyw gynlluniau gael eu rhoi ar waith, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bob parti yn ystod unrhyw gyfnod o darfu sy’n effeithio ar ddysgwyr. Dylai hyn gynnwys rhieni a gofalwyr bob amser. Lle bo’n berthnasol, dylid rhoi gwybod hefyd i adrannau gwasanaethau cymdeithasol a byrddau iechyd lleol.

Cysylltu â chynlluniau argyfwng sydd eisoes gan ysgolion

Dylai unrhyw gynlluniau ar gyfer parhad dysgu fod yn gyson â chynlluniau argyfwng ysgolion, neu gael eu hymgorffori ynddynt, yn enwedig os bydd tarfu ar ddysgu yn digwydd heb rybudd. Dylai ysgolion ystyried adolygu a diweddaru cynlluniau parhad dysgu yn unol â’r gwaith o ddiweddaru’r cynlluniau parhau busnes sydd eisoes ar waith ganddynt. Dylai ysgolion gyflwyno’r cynlluniau hyn i gyrff llywodraethu er mwyn iddynt eu hadolygu a’u cadarnhau. Yr awdurdod lleol a ddylai gymeradwyo’r cynlluniau yn derfynol.

Rheoli disgwyliadau a lles y gweithlu

Lle y bo modd, dylai’r dysgu drwy lwyfan rhithwir fod yn debyg iawn o ran safon i’r dysgu wyneb yn wyneb. Dylai ysgolion ystyried y ffordd y maent yn datblygu eu gweithlu drwy ddysgu proffesiynol er mwyn gallu cynllunio, cyflwyno a gwerthuso dysgu gan ddefnyddio dulliau cyfunol. Hefyd, dylai ysgolion bennu disgwyliadau realistig ar gyfer dysgu yn ystod cyfnodau o darfu. Mae hyn yn cynnwys hawl dysgwyr i gael amser dysgu priodol.

Dylai ysgolion ystyried y gwahaniaethau a fydd yn wynebu staff wrth gynllunio, cyflwyno a gwerthuso dysgu o bell, a chreu systemau sydd nid yn unig yn cyfoethogi’r dysgu ond hefyd yn cefnogi lles staff. Dylai ysgolion hefyd ystyried lles staff a’r disgwyliadau o ran llwyth gwaith. Mae angen ystyried amser paratoi ar gyfer rhith-ddysgu.

Cyfnodau o ddysgu

Dylai cyfnodau o ddysgu o bell gydnabod oedran a/neu gam cynnydd pob dysgwr a’r cyfnodau gofynnol o ddysgu annibynnol y gellir eu disgwyl ganddynt.

Er enghraifft:

  • 1 awr y dydd ar gyfer y rhai 3 i 5 oed neu’r cyfnod dysgu sy’n arwain at Gam cynnydd 1
  • 2 awr y dydd ar gyfartaledd ar gyfer y rhai 5 i 8 oed neu’r cyfnod dysgu sy’n arwain at Gam cynnydd 2
  • 3 awr y dydd ar gyfer y rhai 8 i 11 oed neu’r cyfnod dysgu sy’n arwain at Gam cynnydd 3
  • 4 awr y dydd ar gyfer y rhai 11 i 16 oed neu’r cyfnod dysgu sy’n arwain at Gamau cynnydd 4 a 5

Gallai hyn gynnwys cymysgedd o weithgareddau cydamserol ac anghydamserol, a ddarperir drwy gyfrwng digidol neu analog.

Mathau o darfu

Tarfu ar ddysgwyr unigol

Ar adegau, mae’n bosibl y bydd dysgwyr unigol yn absennol o’r ysgol.

Yn yr achosion hyn, dylid rhoi blaenoriaeth i ddysgu o bell ar gyfer y dysgwyr yn y sefyllfaoedd mwyaf tyngedfennol (er enghraifft, y rhai mewn blynyddoedd arholiadau) a sicrhau eu bod yn cael profiadau mor debyg â phosibl i brofiadau dysgu wyneb yn wyneb eu cyfoedion. Lle’r ysgol fydd penderfynu ar hyn yn dibynnu ar y rheswm dros yr absenoldeb ac amgylchiadau unigol y dysgwr a’i deulu.

Pan gaiff dysgwyr eu tynnu allan o’r ysgol yn wirfoddol am resymau sydd wedi’u hawdurdodi neu heb eu hawdurdodi (er enghraifft, gwyliau yn ystod y tymor), ni fydd disgwyl i ysgolion ddarparu sesiynau dysgu o bell mewn achosion o’r fath.

Tarfu ar grwpiau o ddysgwyr a’r gweithlu

Ar adegau, mae’n bosibl na fydd grwpiau o ddysgwyr neu aelodau o’r gweithlu yn gallu mynd i safle’r ysgol. Gallai’r adegau hyn gynnwys:

  • salwch sy’n effeithio ar garfan(au) o ddysgwyr yn unig
  • problemau sy’n gysylltiedig ag adeiladau ac sy’n effeithio ar ran o’r ysgol yn unig (er enghraifft, tân, llifogydd neu broblemau mewn ystafell ddosbarth neu floc)
  • problemau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth sy’n para mwy na diwrnod ac sy’n effeithio ar allu dysgwyr a/neu staff i ddod i’r ysgol
  • dim modd sicrhau lefelau staffio diogel oherwydd salwch a/neu ddiffyg argaeledd staff cyflenwi addas

Tarfu ar yr ysgol gyfan

Ar adegau prin, mae’n bosibl y bydd angen cau safle’r ysgol gyfan i’r holl ddysgwyr ac aelodau’r gweithlu. Gallai’r adegau hyn gynnwys:

  • cau lleoliad dan gyfarwyddyd yr awdurdod lleol/Llywodraeth er budd yr ardal leol neu’r wlad, nid yw hyn yn cynnwys gwyliau banc ond gallai’r rhain gynnwys:
    • salwch sydd ar led yng nghymuned yr ysgol gan arwain at gau’r ysgol yn llawn
    • dim modd sicrhau lefelau staffio diogel oherwydd problemau annisgwyl (er enghraifft, cyfraddau salwch uchel, problemau oherwydd tywydd garw)
  • cau adeilad am gyfnod byr oherwydd problemau diogelwch (er enghraifft, methiant y system wresogi, problemau gyda’r cyflenwad pŵer, tân neu lifogydd bach)
  • cau adeilad am gyfnod hir oherwydd problemau diogelwch mawr (er enghraifft, adeiledd yr adeilad, tân neu lifogydd mawr)

Sut y gall ysgolion baratoi ar gyfer cyfnodau o darfu ar ddysgu

Rhoddir y manylion canlynol fel enghreifftiau o’r ffordd y gall ysgolion gynllunio ar gyfer parhad dysgu a rhoi eu cynlluniau ar waith o bosibl. Nid oes disgwyl i ysgolion ddilyn y canllawiau hyn mewn modd rhagnodol.

Paratoi ar gyfer dysgu digidol

Fel rhan o gynnig cwricwlwm arferol ysgol, dylai dysgwyr gael cyfle i ddysgu a meithrin sgiliau digidol. Mae Hwb yn cynnig amrywiaeth o adnoddau digidol priodol i bob dysgwr. Fodd bynnag, gall ysgolion ddatblygu a defnyddio eu llwyfannau digidol eu hunain hefyd.

Fel rhan o gwricwlwm digidol ysgol, dylai dysgwyr gael cyfleoedd rheolaidd i wneud y canlynol:

  • mewngofnodi i’r llwyfan digidol yn annibynnol
  • cael gafael ar adnoddau ac apiau priodol yn annibynnol ac yn hyderus
  • cwblhau agweddau ar eu gwaith wythnosol drwy’r llwyfan digidol, a hynny yn yr ysgol a gartref

Mae’n bwysig bod ysgolion yn deall cyd-destun eu cymuned. Dylai fod gan arweinwyr ddealltwriaeth dda o fynediad dysgwyr at offer digidol gartref. Os bydd diffyg offer yn creu problem, dylai ysgolion gael sgyrsiau â’u hawdurdod lleol er mwyn sicrhau y gall dysgwyr gael darpariaeth addas.

Dylai gweithgareddau fod yn briodol i oedran a gallu dysgwyr.

Dylai ysgolion hefyd ystyried sut y gall dysgwyr o gartrefi di-Gymraeg ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Os bydd dysgu digidol yn amhosibl neu’n amhriodol

Os na fydd modd i ddysgwyr gael gafael ar adnoddau digidol tra byddant gartref, bydd angen i ysgolion ystyried sut y gellir dosbarthu adnoddau dysgu all-lein i ddysgwyr a’u casglu ganddynt. Dylai ysgolion benderfynu ar y ffordd orau o reoli’r broses hon.

Cefnogi dysgu sylfaen

Bydd angen i ysgolion a lleoliadau gofal plant ystyried yn ofalus sut i ddarparu sesiynau dysgu o bell i ddysgwyr iau. Mae hyn yn cynnwys galluogi rhieni a gofalwyr i gefnogi eu plant. O fewn addysg gynnar, rydym yn cydnabod bod lefel ymgysylltiad rhieni yn fwy nag ar unrhyw adeg arall ar daith addysgol plentyn. Dylid ystyried sut gellir cefnogi rhieni a gofalwyr i ymgysylltu â sesiynau dysgu plentyn yn y cartref, er mwyn sicrhau mynediad at brofiadau dysgu cyfoethog mewn amgylchedd dysgu cyfunol.

Mae’r blynyddoedd cynnar yn adeg hollbwysig yn natblygiad gwybyddol dysgwyr. Yn y cyfnod hwn o ddatblygiad cyflym, mae’n hanfodol bod dygwyr ifanc yn cael eu cefnogi wrth ddysgu a datblygu er mwyn osgoi colli cerrig milltir penodol.

Mae addysgeg dysgu sylfaen yn cynnig dull cefnogol o ddysgu gartref, gan ganolbwyntio ar ddysgu drwy chwarae, dysgu yn yr awyr agored a darparu profiadau sy’n codi’n naturiol. Mae profiadau perthnasol ac ystyrlon sydd wedi’u gwreiddio yng nghyd-destunau bywyd go iawn yn galluogi dysgwyr i wneud cysylltiadau, cymhwyso gwybodaeth a chryfhau sgiliau. Mae sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn allweddol i ddysgu, ac yn cael eu datblygu drwy’r profiadau a’r cyfleoedd chwarae naturiol hynny. Gall amgylchedd y cartref gynnig cyfleoedd cyfoethog i ddysgu. Mae plant yn datblygu sgiliau darllen cynnar drwy glywed, rhannu ac ailglywed ac ailrannu rhigymau syml, straeon, caneuon a cherddi.

Mae chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae yn cyfrannu at ddatblygiad holistaidd. Drwyddynt, gall plant ddysgu gydag eraill am y byd o’u cwmpas. Mewn amgylchedd awyr agored, gan gynnwys ardaloedd cymunedol, gall dysgwyr ddarganfod eu sgiliau, eu hymarfer a’u gwella. Mae bod y tu allan yn cyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol, yn ogystal â darparu cyfleoedd naturiol i ddysgwyr ddatblygu a chryfhau sgiliau trawsgwricwlaidd.

Mae adnoddau ar gael drwy Hwb.

Paratoi’n rhagweithiol ar gyfer absenoldeb y gweithlu

Dylai arweinwyr ysgolion ystyried pob dull posibl cyn ystyried atal dysgu wyneb yn wyneb dros dro a dylai ysgolion aros ar agor lle bynnag y bydd modd.

Lle penaethiaid fydd penderfynu ar y dull a ddefnyddir ar lefel leol i reoli absenoldeb ymhlith y gweithlu er mwyn cyflawni hyn, a hynny yn seiliedig ar gyd-destun eu hunain. Dylai’r awdurdod lleol neu’r gonsortia rhanbarthol roi cyngor lle bydd angen, a dylai pob penderfyniad gael ei wneud yn unol â’r gofynion a nodir yn 'nogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol (Cymru) 2021'. Dylid ystyried lles gweithlu’r ysgol bob amser wrth wneud pob penderfyniad sy’n ymwneud â rheoli absenoldeb ymhlith y gweithlu.

Paratoi’r gweithlu’n rhagweithiol ar gyfer dylunio dysgu

Dylai arweinwyr ysgolion gynllunio’r cynnig dysgu proffesiynol sydd ar gael i staff yn ofalus, ac ystyried datblygu dulliau o ddylunio addysgu a dysgu ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb, dysgu cyfunol a dysgu o bell. Dylai cynigion cwricwlwm ysgolion gynnwys cyfleoedd i staff gynllunio gweithgareddau dysgu cyfunol a dysgu o bell drwy gydol y flwyddyn ysgol fel bod dysgwyr, staff a rhieni/gofalwyr yn gyfarwydd â’r broses cyn gorfod ymgymryd â dysgu cyfunol neu rith-ddysgu oherwydd cyfnod o darfu.

Yn ystod cyfnodau estynedig o darfu, dylai arweinwyr ysgolion ystyried safon ac effaith y gweithgareddau dysgu cyfunol a dysgu o bell yn ofalus fel rhan o’u prosesau monitro, gwerthuso ac adrodd arferol.

Mae rhagor o wybodaeth am egwyddorion addysgegol a dylunio dysgu i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Paratoi ar gyfer rheoli lles yn ystod cyfnod o darfu

Mae dyletswydd ar ysgolion i sicrhau y caiff dysgwyr eu cadw’n ddiogel ac y gallant barhau i ddysgu. Ar gyfer absenoldeb tymor canolig a hirdymor, dylai ysgolion sicrhau bod dysgwyr mewn cysylltiad rheolaidd â’r staff, a dylai natur ac amlder y cyswllt adlewyrchu pa mor agored i niwed yw’r dysgwr ar y pryd.

Os bydd tarfu hirdymor yn agos at gerrig milltir addysgol tyngedfennol, dylai ysgolion ystyried sut y gall gweithgareddau megis pontio, dewis opsiynau pwnc, cymorth i baratoi ar gyfer arholiadau, ac ati, gael eu cynnal o bell.

Dylai ysgolion hefyd ystyried sut y gellir cefnogi lles staff, a dylid ystyried gweithdrefnau ar gyfer cadw mewn cysylltiad â staff drwy gyswllt unigol, cyfarfodydd tîm a gweithdrefnau cyfathrebu cysylltiedig hefyd.

Rolau a chyfrifoldebau

Penaethiaid

  • Sicrhau bod gwaith cynllunio parhad dysgu ar waith fel rhan o drefniadau cynllunio parhad busnes arferol yr ysgol.
  • Anelu at ymgorffori dull yr ysgol o ddarparu dysgu cyfunol neu rithiol ym mhob agwedd ar ddysgu ac addysgu a, thrwy hynny, geisio sicrhau bod unrhyw bontio rhwng dysgu wyneb yn wyneb a dysgu rhithiol ac yn ôl mor ddidrafferth â phosibl.
  • Sicrhau bod profiadau dysgu cyfunol neu rithiol i bob dysgwr mor debyg â phosibl o ran safon i ddysgu wyneb yn wyneb, gan gydnabod bod dysgu o bell yn cynnig cyd-destun gwahanol iawn i ddysgu wyneb yn wyneb.
  • Sicrhau os bydd angen cymorth ychwanegol ar ddysgwyr, yn enwedig lle y bydd risg o allgáu digidol, y caiff hyn ei nodi, ac y caiff cymorth ychwanegol ei roi lle bynnag y bo modd, a hynny gyda chymorth awdurdod lleol yr ysgol os bydd angen (er enghraifft, darparu offer TG neu ddosbarthu deunyddiau wedi’u hargraffu).
  • Sicrhau bod gan staff y sgiliau cywir a’u bod yn cael cyfleoedd i gymryd rhan yn y dysgu proffesiynol cywir i’w galluogi i gynnal gweithgareddau dysgu yn hyderus yn ystod cyfnodau o darfu.
  • Sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i les staff a dysgwyr yn ystod cyfnodau o darfu.
  • Sicrhau y caiff yr holl weithgareddau dysgu cyfunol a rhithiol eu cynnal gan flaenoriaethu diogelwch digidol dysgwyr ac ymarferwyr.
  • Sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn ymwybodol o’r gwaith cynllunio wrth gefn ar gyfer dysgu a’r trefniadau a gaiff eu rhoi ar waith yn ystod cyfnodau o darfu er mwyn cefnogi dysgwyr.

Ymarferwyr

  • Sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn deall pwysigrwydd ymgysylltu â’u dysgu a pharhau i ddysgu yn ystod cyfnodau o darfu.
  • Sicrhau bod yr holl ddarpariaeth dysgu cyfunol neu rithiol a gynigir drwy’r ysgol gyfan yn ystod cyfnodau o darfu o safon uchel yn gyson ac mor debyg â phosibl o ran safon i ddysgu wyneb yn wyneb.
  • Sicrhau bod y ddarpariaeth dysgu a ddefnyddir ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais yn briodol ac yn hygyrch.
  • Sicrhau y caiff amrywiaeth o ddulliau dysgu gwahanol eu datblygu, gan gynnwys rhai anghydamserol a chydamserol, a rhai all-lein pan fydd angen, er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael profiad o amrywiaeth o ddulliau.
  • Sicrhau bod systemau ar waith ar gyfer edrych yn ddyddiol i weld a yw dysgwyr sy’n dysgu o bell yn ymgysylltu â’u gwaith, a gweithio gyda theuluoedd i ddod o hyd i atebion effeithiol, a hynny’n gyflym, os bydd lefelau ymgysylltu yn peri pryder.
  • Sicrhau y caiff yr holl weithgareddau dysgu cyfunol a rhithiol eu cynnal gan flaenoriaethu diogelwch digidol dysgwyr.  
  • Sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i les dysgwyr yn ystod cyfnodau o darfu.

Awdurdodau lleol

  • Cydweithio â phenaethiaid i sicrhau y caiff parhad dysgu ei wreiddio mewn unrhyw waith cynllunio parhad busnes.
  • Sicrhau y caiff ysgolion eu cefnogi ac y caiff penderfyniadau eu gwneud yn brydlon yn ystod cyfnodau o darfu, gan alluogi ysgolion i baratoi ar gyfer y tarfu pryd bynnag y bydd modd.
  • Sicrhau bod yr awdurdod lleol wedi cymeradwyo cynllun parhad dysgu pob ysgol.

Llywodraethwyr

  • Sicrhau bod gwaith cynllunio parhad busnes yr ysgol yn gadarn a bod pob cynllun parhad busnes yn cynnwys y ddarpariaeth i sicrhau y bydd pob dysgwr yn parhau i ddysgu yn ystod cyfnodau o darfu drwy gynnig darpariaeth dysgu cyfunol neu rithiol o safon uchel.

Consortia rhanbarthol a phartneriaethau

  • Darparu amrywiaeth o adnoddau i benaethiaid ac ymarferwyr a fydd yn eu helpu i sicrhau parhad dysgu drwy ddull dysgu cyfunol neu rithiol.
  • Cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol priodol i ymarferwyr er mwyn eu helpu i sicrhau parhad dysgu drwy ddull dysgu cyfunol neu rithiol.

Estyn

  • Cydnabod y dylai parhad dysgu gael ei gynnwys yn nhrefniadau cynllunio pob ysgol.
  • Ystyried yr amrywiaeth o ddulliau dysgu cyfunol a rhithiol y dylid eu gwreiddio yn nhrefniadau dysgu ac addysgu ysgol, a’r ffordd y dylid defnyddio’r dulliau hyn i gefnogi dysgwyr yn ystod unrhyw gyfnodau o ddysgu o bell hefyd.

Llywodraeth Cymru

  • Darparu amrywiaeth o adnoddau drwy Hwb er mwyn cefnogi parhad dysgu, gan gynnwys canllawiau, adnoddau dysgu cyfunol neu rithiol ac astudiaethau achos.