Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Mick Antoniw AS
  • Vaughan Gething AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS
  • Yr Athro Huw Dixon, Prifysgol Caerdydd (eitem 1)

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmonds, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr Partneriaethau Cymdeithasol a Gwaith Teg
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, yr Is-adran Adfer ac Ailddechrau
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adfer wedi COVID-19 a’r Grŵp Llywodraeth Leol
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)

Eitem 1: Diweddariad gan Arbenigwr – yr Athro Huw Dixon, Prifysgol Caerdydd

1.1 Croesawodd y Prif Weinidog yr Athro Dixon i'r cyfarfod a'i wahodd i wneud cyflwyniad i'r grŵp.

1.2 Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ddiweddariadau arbenigol a fydd yn cael eu darparu i'r Pwyllgor, ochr yn ochr â diweddariadau gan bartneriaid cymdeithasol a thystiolaeth a dadansoddiadau ar draws portffolios.

1.3 Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar bedair thema allweddol: chwyddiant a chynnyrch domestig gros; ynni a bwyd; cynnwrf macroeconomaidd; a'r effaith ar dai.

Chwyddiant a chynnyrch domestig gros

1.4 Awgrymodd gwaith ymchwil a wnaed gan y Sefydliad Cenedlaethol Dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR), y byddai chwyddiant yn is oherwydd Gwarant Pris Ynni Llywodraeth y DU (EPG). Ond byddai costau gwneud hynny yn sylweddol, o bosib yn £70 biliwn neu fwy dros y chwe mis cyntaf, a oedd yn ymyrraeth ariannol mwy na'r cynllun ffyrlo yn ystod y pandemig.

1.5 Gobaith Llywodraeth y DU oedd y byddai'r EPG, ynghyd â'r toriadau treth a gyhoeddwyd yn y datganiad diweddar gan y Canghellor, yn hybu galw yn yr economi ac yn cynyddu'r gyfradd dwf. Awgrymodd dadansoddiad NIESR y gallai twf gynyddu o 0% hyd at 2% yn 2023, a fyddai'n effaith gwerth £40 biliwn.

1.6 Fodd bynnag, gan fod cyfradd y banc yn cynyddu i fynd i'r afael â chwyddiant, gallai hyn fynd yn groes i rywfaint o'r twf a ragwelwyd. Byddai tro pedol diweddar Llywodraeth y DU dros y gyfradd dreth uchaf ddim ond yn arwain at fân arbediad o £2-3 biliwn yng nghyd-destun ehangach gwrthdroi'r cynnydd i gyfraniadau Yswiriant Gwladol a mesurau eraill.

1.7 Byddai effaith yr ymyriadau hyn ar Gymru yn sylweddol, a chafwyd adroddiadau fod toriadau posibl i fudd-daliadau ar y gweill, neu eu rhewi, a fyddai'n cael effaith anghymesur ar Gymru, o gofio bod mwy o gartrefi ar ben isaf y raddfa economaidd-gymdeithasol.

Ynni a bwyd

1.8 Roedd yn amlwg o dystiolaeth NIESR fod bwyd ac ynni yn farchnadoedd arbennig o gyfnewidiol o ran prisiau, gyda bwyd yn destun cynnydd sydyn ers mis Tachwedd 2021. Roedd y gostyngiad mewn nwy o Rwsia wedi arwain at gynnydd aruthrol mewn prisiau byd-eang, sefyllfa a oedd yn annhebygol o wella yn y tymor byr, gan y byddai’n cymryd nifer o flynyddoedd i unrhyw ffynonellau newydd o ran cyflenwad ynni ddod yn weithredol.

1.9 Er y byddai'r Gwarant Pris Ynni yn lleihau chwyddiant yn uniongyrchol, ni chafodd ei anelu at ben tlotaf y raddfa incwm, a byddai'r cyfoethocaf, a oedd yn defnyddio'r mwyaf o ynni ar gyfartaledd, yn cael mwyaf o gymhorthdal. Fodd bynnag, aseswyd y byddai'r Gwarant Pris Ynni yn helpu aelwydydd tlotach yn fwy nag aelwydydd cyfoethocach fel cyfran o gyllideb yr aelwyd.

1.10 Fodd bynnag, roedd yn amlwg y byddai effaith y cynnydd hwn mewn prisiau yn llym yng Nghymru, gan fod bwyd ac ynni'n hanfodion sy’n cynrychioli cyfran uwch o gyllidebau cartrefi yma.

1.11 Ni fyddai'r Gwarant Pris Ynni  yn datrys problemau â chyflenwi, ac roedd posibilrwydd y byddai toriadau pŵer dros y gaeaf. Efallai y bydd angen i aelwydydd a busnesau leihau faint o ynni y maent yn ei ddefnyddio.

1.12 Bydd helpu’r bregus yn allweddol, gydag angen yn datblygu am fannau cynnes ac efallai am lety dros nos brys.

Cynnwrf macroeconomaidd

1.13 Nodwyd y byddai cynnwrf macroeconomaidd yn dal i fod yn y dyfodol agos tra bod yr argyfwng ynni'n parhau. Byddai'r cynnydd mewn costau ynni yn golygu bod pawb ledled y DU ar eu colled a doedd dim modd osgoi hynny yng Nghymru. Pan lwyddir yn y pen draw i gael cyflenwadau ynni nad ydynt yn dod o Rwsia, bydd y rheini’n ddewisiadau amgen drytach, fel nwy hylifedig naturiol (LNG). Bydd ynni adnewyddadwy hefyd yn cymryd cryn amser i dyfu i raddfa ddigonol.

1.14 Byddai cyflogau go iawn yn gostwng wrth i chwyddiant gynyddu ac wrth i gyflogau fethu a chadw lan, er y byddai cymysgedd o rai ar eu hennill ac ar eu colled.

1.15 Byddai cyfraddau llog cynyddol yn cael effaith fawr yng Nghymru. Byddai'r codiadau hyn yn cael eu gyrru’n rhannol gan bolisïau Banc Lloegr yn codi cyfraddau llog ac yn rhannol gan weddill y byd, wrth i fanciau canolog godi cyfraddau yn fyd-eang, ac yn rhannol oherwydd bod buddsoddwyr ledled y DU yn colli’u hyder, fel y tystia ymyrraeth frys Banc Lloegr i gefnogi cronfeydd pensiwn.

1.16 Doedd dim amheuaeth y byddai effaith gronnus y cynnwrf hwn yn cael ei deimlo’n waeth yng Nghymru, oherwydd ei sector cyhoeddus mwy a'i phroffil economaidd-gymdeithasol.

Tai

1.17Roedd y cynnydd mewn cyfraddau llog yn debygol o arwain at ostyngiad mewn prisiau tai, neu fan leiaf at eu hatal rhag codi’n unol â chwyddiant. Er y gallai hynny gael ei groesawu gan rai rhannau o gymdeithas, fel prynwyr tro cyntaf iau yn ymdrechu i gael eu traed ar yr ysgol, byddai canlyniadau ehangach.

1.18 Roedd tystiolaeth gynnar fod trafferthion â morgeisi ar y gorwel, gyda chyfraddau'n cynyddu'n sylweddol i'r rhai sy’n ail-forgeisio ac fe allai hyn arwain at brynwyr diweddar â morgeisi mawr mewn sefyllfa ecwiti negyddol.

1.19 Roedd y farchnad rhentu hefyd yn destun pryder, o ystyried y gallai’r ffaith fod landlordiaid yn wynebu costau morgais cynyddol arwain at gynnydd anghynaladwy mewn rhenti, neu landlordiaid yn cael eu gorfodi i werthu a gadael y farchnad, gan gynyddu'r pwysau ar nifer yr eiddo sydd ar gael i'w rhentu, ac felly'n gyrru rhenti'n ddrutach fyth.

1.20 Mae'n bosibl y bydd angen i'r Llywodraeth ymyrryd i sefydlogi'r farchnad rhent.

1.21 Diolchodd y Pwyllgor i'r Athro Dixon am ei gyflwyniad a nododd y byddai cymorth yn cael ei dargedu at y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, yn wahanol iawn i ddull gweithredu Llywodraeth y DU.

Eitem 2: Adroddiad â’r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau costau byw

2.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor gytuno ar ddull adrodd ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol a nodi'r cynnydd hyd yma.

2.2 Croesawodd y Pwyllgor y bwriad i wahodd partneriaid cymdeithasol. Nodwyd bod gan y gymuned ffydd ac eraill rwydweithiau rhagorol a phresenoldeb effeithiol ar lawr gwlad o ran helpu'r bregus drwy fanciau bwyd a dulliau eraill o ddarparu cyngor a chefnogaeth.

2.3 Cytunodd y Pwyllgor ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Eitem 3: Cyfathrebu a'r ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’

3.1 Gofynnodd y Prif Weinidog i'r Pennaeth Cyfathrebu Strategol, Toby Mason roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith ymgyrchu diweddaraf.

3.2 Adroddwyd bod ymgyrch ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ yn ceisio sicrhau bod pobl yn hawlio'r hyn sy’n ddyledus iddynt o dan y gwahanol gynlluniau i helpu pobl ymdopi yn ystod yr argyfwng costau byw.

3.3 Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar y gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, gyda phrofion â grwpiau ffocws yn digwydd ar hyn o bryd. Dangosodd yr arwyddion cynnar ymateb cadarnhaol i'r ymgyrch tanwydd gaeaf, gyda dros 18,000 o drawiadau uniongyrchol ar wefan Llywodraeth Cymru.

3.4 Roedd  yr Awdurdodau Lleol, ein partneriaid cyflenwi, hefyd yn adrodd am ddiddordeb cryf a byddant yn allweddol o ran lledaenu gwybodaeth ar lefel leol i'r rhai sydd fwyaf angen cael mynediad at y cymorth sydd ar gael.

Eitem 4: Cylch gorchwyl – CAB-CoL(22-23)04

4.1 Nododd y Pwyllgor y Cylch Gorchwyl ac y bydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan.