Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr Offeryn Statudol olaf yn ymwneud â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 i gael ei osod gerbron Senedd y DU: ‘Rheoliadau Rheoli Cymorthdaliadau (Swm Ariannol Gros a Chyfwerth Ariannol Gros) 2022’.

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi egwyddorion a methodolegau i awdurdodau cyhoeddus eu defnyddio pan fyddant yn pennu gwerth gwahanol fathau o gymorthdaliadau [nad ydynt yn grantiau] er mwyn cydymffurfio â’r trothwyon ariannol yn y Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau a rheoliadau cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys rheoliad ynghylch sut y dylid pennu gwerth cymhorthdal nad yw’n grant drwy gyfeirio at y budd i’r fenter o’i gymharu â’r telerau y gellid bod wedi disgwyl yn rhesymol i’r un fath o gymorth ariannol fod wedi bod ar gael yn unol â hwy ar y farchnad i’r fenter honno.

Croesawaf y manylder a’r eglurder mawr eu hangen y mae’r Rheoliadau hyn yn eu darparu i’r rhan hon o weithredu’r Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau. Cyn cyflwyno’r Rheoliadau hyn, mae diffyg annerbyniol wedi bod o ran manylder, ac mae hynny wedi arwain at ddiffyg hyder i swyddogion a busnesau ledled Cymru ers bron i ddwy flynedd. Rwy’n falch o weld cynnydd bach tuag at ddarparu manylder digonol yn y gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau newydd ar ôl i mi ofyn droeon am hyn.

Rwyf wedi adolygu’r Rheoliadau a dod i’r casgliad nad ydynt yn ymgysylltu â Rheol Sefydlog 30A na Rheol Sefydlog 30B. Serch hynny, bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio’n sylweddol ar faes datganoledig datblygu economaidd gan eu bod yn berthnasol i gymhwysiad ymarferol y gyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau. At hynny, roedd y pŵer galluogi yn adran 82 o’r Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau yn un o’r darpariaethau a oedd dan sylw yn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol pan wrthododd Senedd Cymru roi cydsyniad.

Roeddwn felly’n teimlo ei bod yn briodol tynnu sylw’r Senedd at y mater hwn.