Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaeth Cadw waith ymchwil i gasglu tystiolaeth gan drigolion y cymunedau cyfagos Abaty Nedd am eu defnydd a'u hamgyffred o'r Abaty.

Bu'r ymchwil hefyd aeth ati i dreialu casglu data lles a chyfranogiad treftadaeth, i'w ddefnyddio fel llinell sylfaen i'w gymharu ar sut mae cyfranogiad treftadaeth yn cael effaith gadarnhaol ar les yn erbyn ymchwil yn y dyfodol.

Canfu'r ymchwil fod y canfyddiad o Abaty Nedd ac ymgysylltiiad â'r safle gan y gymuned yn dda, fodd bynnag, roedd potensial i wella drwy nifer o ymyriadau posibl. Byddai codi ymwybyddiaeth o'r Abaty ymhlith trigolion lleol a thu hwnt, o bosib, yn cael effaith gadarnhaol ar nifer yr ymwelwyr, a byddai mwy o ymgysylltu â'r gymuned yn helpu trigolion lleol i deimlo ymdeimlad o berchnogaeth.

Byddai gwell cyfleusterau ar y safle yn annog mwy o ymweliadau, gan gynnwys gwell parcio a thoiledau ac argaeledd lluniaeth. Mae canfyddiad hefyd nad oes llawer i'w wneud yn Abaty Nedd, sy’n cadw ymwelwyr rhag ymweld neu ailymweld â’r safle. Dangosodd yr adborth y byddai gwahanol fathau o ddigwyddiadau yn ffordd dda o oresgyn hyn.

Adroddiadau

Ymchwil gymunedol Abaty Nedd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ceri Thomas

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.