Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Nid yw trais o unrhyw fath yn erbyn unrhyw ddioddefwr byth yn dderbyniol ac nid oes lle iddo yma yng Nghymru. Gyda'n gilydd, ym mhob rhanbarth, rydym wedi ymrwymo i ddileu cam-drin a niwed i'r rhai sydd mewn perygl a, ble bo’n bosibl, i atal ymddygiad ac agweddau niweidiol o fewn ein cymdeithas, boed rheini yn weladwy neu'n guddiedig. Nod ein deddfwriaeth nodedig, Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ochr yn ochr â rhaglenni anneddfwriaethol, yw cadw ein cymunedau'n ddiogel. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n rhanddeiliaid, ein darparwyr arbenigol, ein cyrff cyhoeddus a'n goroeswyr i sicrhau y gallwn gyflawni’r uchelgais o sicrhau bod Cymru yn un o'r lleoedd mwyaf diogel i fenywod, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Yn 2015, daeth Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 i rym. Roedd yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth, ac mae hynny’n parhau i fod yn wir hyd heddiw, gyda’r nod o wneud Cymru yn wlad sy’n rhydd rhag camdriniaeth. Drwy'r ddeddf mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ystod o fesurau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), yn ogystal â bodloni'r amcan strategol o wella cydweithio ar draws y sector cyhoeddus a gwella ymatebion i VAWDASV yng Nghymru.

Mae strategaeth genedlaethol newydd VAWDASV a lansiwyd ym mis Mai 2022 yn adnewyddu'r ymrwymiad i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw. Mae chwe amcan i'r Strategaeth:

  • amcan 1: herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ymysg poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda'r nod o leihau'r achosion ohono
  • amcan 2: cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol
  • amcan 3: cynyddu'r ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu
  • amcan 4: rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal
  • acan 5: hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr
  • amcan 6: rhoi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar gryfderau, yn cael eu harwain gan anghenion ac sy'n ymatebol ledled Cymru

Mae'r strategaeth newydd i'w chyflwyno trwy ddull Glasbrint. Mae'r Glasbrint yn ddull profedig ar gyfer darparu a chydweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus ac arbenigol datganoledig a heb eu datganoli. Mae hefyd yn darparu system ar gyfer atebolrwydd. Mae'r strategaeth yn cydnabod nad yw effaith VAWDASV yn unffurf a bod VAWDASV yn effeithio ar bobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol. Felly bydd deall effaith VAWDASV ar gydraddoldeb ar sail groestoriadol yn hanfodol er mwyn inni fynd i'r afael â'r broblem i bawb yng Nghymru. Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cyfranogiad dioddefwyr a goroeswyr, ac o fewn y trefniadau llywodraethu newydd ar gyfer cyflawni a monitro'r strategaeth, bydd Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr a fydd yn cynnwys arbenigwyr drwy brofiad, ac yn rhoi cyfle i ddioddefwyr a goroeswyr lywio a dylanwadu ar bolisi, ar y broses gwneud penderfyniadau ac ar y gwasanaethau a ddarperir.

Rôl y Cynghorydd Cenedlaethol

Mae'r Cynghorydd Cenedlaethol yn rôl statudol, sy'n ofynnol gan y Ddeddf, ac fe'i penodir drwy'r broses benodi cyhoeddus. Mae disgwyl i'r Cynghorwyr Cenedlaethol ddarparu safbwynt annibynnol ac ar sail gwybodaeth ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan Weinidogion Cymru i ddatblygu a gweithredu polisi a deddfwriaeth yn y meysydd hyn. Yn rhinwedd adran 22 o'r Ddeddf, rhaid i'r Cynghorwyr Cenedlaethol baratoi cynllun blynyddol sy'n nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni swyddogaethau’r rôl hon yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol. Mae ein cynllun yn unol â'n cyfrifoldebau statudol ac o'r herwydd rydym yn awyddus i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i sicrhau y gallwn gyflawni nodau'r Ddeddf i wella profiadau goroeswyr, plant, a'r rheini sydd mewn perygl o ddioddef trais ar sail rhywedd.

Ymgynghori â rhanddeiliaid: Medi 2022

Ers ein penodi ym mis Awst 2022, rydym wedi sicrhau bod blaenoriaethau ein cynllun blynyddol yn cael eu dylanwadu gan leisiau a phrofiadau rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys goroeswyr. Fel rhan o'n gwaith ymgysylltu â phartneriaid allweddol, cynhaliwyd sesiwn gychwynnol yn benodol i ddylanwadu a llywio amcanion y Cynghorydd Cenedlaethol o fewn ein cynllun blynyddol ac i nodi meysydd gwaith dilynol â blaenoriaeth. Roedd themâu allweddol o’r gweithdy yn cynnwys y canlynol ond nid oeddent yn gyfyngedig iddynt:

  • sicrhau nad yw’r gwaith craidd o ddarparu gwasanaeth a chefnogaeth arbenigol i ddioddefwyr a goroeswyr yn cael ei golli
  • nodi plant a phobl ifanc fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain sydd ag anghenion penodol
  • rhaid adlewyrchu'r angen i ddelio â'r heriau a'r pwysau a grëwyd gan yr argyfwng costau byw presennol ar wasanaethau i ateb gofynion niferus, costau uwch a materion staffio
  • gwell dysgu a chynyddu ymwybyddiaeth o wasanaethau i bobl hŷn sy'n cael eu cam-drin, gan fanteisio ar waith gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn a'r ymchwil a gynhaliwyd yn 2022
  • ymateb i'r materion sy’n cael eu profi ar hyn o bryd gan ddioddefwyr a goroeswyr sy'n defnyddio gwasanaethau ond hefyd y risg uwch o gam-drin i ddioddefwyr a achosir gan yr argyfwng costau byw
  • ni ddylai olygu dim ond codi ymwybyddiaeth o anghenion cymunedau amrywiol, mae hefyd yn hanfodol bwysig gweithredu, yn enwedig o safbwynt menywod heb gymorth arian cyhoeddus
  • sicrhau bod safbwyntiau goroeswyr yn cael eu hystyried ac, yn bwysig, sut yr ymatebir i’r safbwyntiau hynny
  • blaenoriaethu mynd i'r afael â chyflawnwyr, gan fod hyn yn allweddol, a rhannu'r hyn a ddysgwyd o fodel yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl a sut y bydd hyn yn gweithio i nodi canlyniadau dysgu ledled Cymru
  • rhaid cynnwys ymyrraeth gynnar ac atal yn benodol
  • creu eglurder o safbwynt defnyddio termau megis dull iechyd y cyhoedd, dull cymdeithas gyfan, ac
  • ystyried lleihau'r amcanion ac egluro mwy ar sut y bydd y rhain yn cael eu gweithredu

Byddwn yn parhau i werthuso ac adeiladu ar y blaenoriaethau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod drwy ymgysylltu ac ymgynghori parhaus. Rydym wedi clywed yn glir bod angen inni fod yn ymatebol i faterion a heriau sy'n dod i'r amlwg. Byddwn hefyd yn sefydlu Grŵp Cyfeirio VAWDASV i barhau i ymgysylltu’n ystyrlon â'r gwasanaethau sy'n cefnogi goroeswyr yn uniongyrchol. Bydd hynny’n golygu ein bod yn parhau'n annibynnol ac yn gallu nodi bylchau a gwelliannau fel rhan o systemau rheoli ac atebolrwydd newydd y ffrydiau gwaith glasbrint yn ogystal â gwaith polisi ehangach. Yn ogystal â hyn, bydd y cyfarfod yn cyflwyno ffordd newydd o ymgysylltu a gwella'r gwaith integreiddio a chydgysylltu â darparwyr arbenigol VAWDASV i'r dull glasbrint ledled Cymru. Bydd arwain y Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr yn rôl sylweddol inni dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y panel hwn yn cynnwys arbenigwyr drwy brofiad a’i rôl fydd craffu ar waith y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a'i ddyletswydd i oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r strategaeth VAWDASV newydd a'r bwrdd a'r ffrydiau gwaith cysylltiedig. Fel hyn, bydd goroeswyr yn dylanwadu ar bolisi ac arferion yn y ffordd fwyaf arwyddocaol ers datblygu'r Ddeddf.

Mae sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ein hamcanion ar gyfer pob goroeswr yn golygu bod yn rhaid inni fabwysiadu dull croestoriadol sy'n mynd i'r afael â'r materion penodol sy'n effeithio ar ddioddefwyr sy'n profi nifer o rwystrau ac anfanteision. Gall hil, rhywioldeb a hunaniaeth rhywedd lywio profiad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac mae data'n dangos bod pobl anabl yn wynebu cyfraddau uwch o lawer o gam-drin domestig. Rydym yn falch bod rhyng-gysylltiad â strategaeth VAWDASV a chysylltiad â'r gwaith ar ddatblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Cynllun Gweithredu LHDTC+ a gwaith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl.

Heriau presennol

Yn ystod cyfnodau o ansicrwydd a heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, mae anghydraddoldebau rhwng y rhywiau yn golygu y bydd angen mwy o amddiffyniad a llwybrau at gefnogaeth ar fenywod a merched, yn enwedig y rhai sy'n profi niwed neu mewn perygl o’i brofi. Dyma ein realiti presennol, gyda’r adferiad yn sgil COVID-19 a'r argyfwng costau byw presennol. Rydym wedi clywed gan yr holl randdeiliaid bod hyn yn cynyddu'r pwysau aruthrol ar wasanaethau sydd â chapasiti cyfyngedig a llai o adnoddau, sydd hefyd yn gorfod bodloni'r galw cynyddol o ran nifer y goroeswyr sy'n chwilio am gefnogaeth, a chymhlethdod eu hachosion. Yng Nghymru, rhaid inni hefyd gydnabod y straen ar ein gwasanaethau arbenigol a chyhoeddus sydd hefyd yn wynebu problemau enfawr o ran y gweithlu a’r economi. O fewn y dirwedd gymhleth hon rhaid inni yn awr gynyddu ein hymdrechion cenedlaethol i wireddu'r uchelgais o wneud Cymru yn lle mwy diogel, ffyniannus a chyfartal i fenywod a phlant. Gallwn wneud hyn drwy fynnu pob ymdrech a gweithred i gyflawni'r strategaeth newydd, gyda'r dull glasbrint yn gyfrwng i sicrhau gwir newid ystyrlon.

Deddfwriaeth a Thirwedd Llywodraeth y DU

Yn ogystal â’r Ddeddf, y strategaeth a’r cyd-destun polisi ehangach, ceir cyd-destun o fewn y DU hefyd. Mae hyn yn berthnasol i'r holl waith ond yn arbennig i'r rhanddeiliaid sydd heb eu datganoli, gan gynnwys yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill. Yn ogystal â’r cynllun Tackling Domestic Abuse a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Swyddfa Gartref a'r strategaeth Tackling Violence against Women and Girls, mae nifer o feysydd allweddol eraill yn cael eu datblygu. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Chomisiynwyr yn unigol, lle bo hynny'n berthnasol, ond hefyd ar y cyd â Thîm Polisi Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill Cymru i sicrhau bod profiad, cyfraniad a heriau Cymru yn cael eu clywed a'u hystyried fel bod datblygiadau a chamau gweithredu yn briodol i Gymru a goroeswyr Cymru.

Mae nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth yn cael eu cynnig gan Lywodraeth y DU sy'n effeithio ar y dirwedd VAWDASV yng Nghymru. Bydd rhai yn cael mwy o effaith nag eraill, a rhan o'n rôl ni fel Cynghorwyr yw sicrhau bod y cyd-destun a'r gwahaniaethau yng Nghymru yn cael eu deall yn iawn a'u hadlewyrchu mewn deddfwriaeth a chanllawiau statudol er mwyn osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Fel Cynghorwyr ein pwrpas yw dylanwadu ar newid ac mae'r fframwaith statudol sy’n ymwneud â VAWDASV yn system allweddol ar gyfer newid. Ein bwriad yw sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei dylanwadu a'i gweithredu gyda dealltwriaeth llwyr o’r effaith yng Nghymru ac nad yw dioddefwyr, goroeswyr a chyflawnwyr yng Nghymru yn cael eu trin yn llai cyfartal nag yn Lloegr.

Deddf Cam-drin Domestig 2021 a Chanllaw Statudol

Y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 oedd y cyntaf i ddarparu diffiniad statudol o gam-drin domestig. Mae diffiniad Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn cynnwys ystod o fathau o gam-drin y tu hwnt i drais corfforol, gan gynnwys ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol, cam-drin emosiynol, ac, am y tro cyntaf, cam-drin economaidd. Mae hyn yn ein galluogi i adeiladu ar y gwaith yng Nghymru ac yn enwedig ar gyfer asiantaethau cyfiawnder troseddol. Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn cydnabod plant sy’n gweld, clywed neu brofi cam-drin domestig fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain. Mae'r canllawiau statudol newydd hyn yn manylu ymhellach er mwyn sicrhau bod cymhlethdod cam-drin domestig yn cael ei ddeall yn iawn i gefnogi ymateb 'system gyfan' cydlynol o gefnogi dioddefwyr a goroeswyr, gan gynnwys plant. Drwy nodi arferion gorau ac annog gweithio aml-asiantaeth, bydd ymateb system gyfan yn sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen i fynd i'r afael â'r drosedd atgas hon.

Yn ein rôl fel Cynghorwyr, gan gydnabod bod gan bawb rôl i'w chwarae wrth gefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig, byddwn yn parhau i ddarparu cyfeiriadau penodol at dirwedd Cymru yn ein gwaith ymgysylltu a’n gwaith gydag asiantaethau a Chomisiynwyr datganoledig ac yn sicrhau bod ein goroeswyr yn cael eu cynrychioli mewn grwpiau cenedlaethol a ffrydiau gwaith.

Y Bil Diogelwch Ar-lein

Mae'r Bil yn cyflwyno rheolau newydd i gwmnïau sy'n cynnal cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, hy y rhai sy'n caniatáu i ddefnyddwyr bostio eu cynnwys eu hunain ar-lein neu ryngweithio â'i gilydd, ac ar gyfer peiriannau chwilio. Byddant yn cynnwys dyletswyddau wedi’u teilwra sy'n canolbwyntio ar leihau faint o ganlyniadau chwilio niweidiol a gaiff eu cyflwyno i ddefnyddwyr. Bydd angen i'r platfformau hynny sy'n methu amddiffyn pobl ateb i'r rheoleiddiwr a gallent wynebu dirwyon o hyd at ddeg y cant o'u refeniw neu, yn yr achosion mwyaf difrifol, byddant yn cael eu rhwystro.

Mae hyn yn golygu y bydd yn ddyletswydd ar bob platfform sy’n dod o fewn y terfynau hyn i fynd i'r afael a chael gwared ar ddeunydd anghyfreithlon ar-lein, yn benodol deunydd sy'n ymwneud â therfysgaeth a cham-drin plant yn rhywiol, a chamfanteisio’n rhywiol ar blant. Bydd gan blatfformau sy'n debygol o gael eu defnyddio gan blant hefyd ddyletswydd i amddiffyn pobl ifanc sy'n defnyddio eu gwasanaethau rhag deunydd cyfreithlon ond niweidiol fel cynnwys sy’n gysylltiedig â hunan-niweidio neu anhwylderau bwyta. Yn ogystal â hynny, bydd hi’n ofynnol i ddarparwyr sy'n cyhoeddi neu'n gosod cynnwys pornograffig ar eu gwasanaethau atal plant rhag cael mynediad at y cynnwys hwnnw. Bydd yn rhaid i'r platfformau risg uchaf a’r rhai mwyaf o ran maint fynd i'r afael â chategorïau penodol o ddeunydd cyfreithlon ond niweidiol sy'n cael ei gyrchu gan oedolion, sy'n debygol o gynnwys materion fel cam-drin, aflonyddu, neu gysylltiad â chynnwys sy'n annog hunan-niweidio neu anhwylderau bwyta. Bydd angen iddynt amlygu eu telerau a’u hamodau, a’r hyn sydd yn dderbyniol ac yn annerbyniol ar eu safle, a gorfodi hyn. Mae canllawiau cod ymarfer wedi'u creu oherwydd bod cymaint o drais yn erbyn menywod a merched yn digwydd yn y byd digidol.

Y Bil Dioddefwyr

Mae'r Bil Dioddefwyr drafft, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022, yn ceisio gwella profiadau dioddefwyr o'r system cyfiawnder troseddol. Bydd y darpariaethau yn y Bil yn effeithio ar holl ddioddefwyr troseddau, ond disgwylir mai dioddefwyr troseddau difrifol, gan gynnwys VAWDASV, fydd yn gweld yr effaith fwyaf. Dyma’r prif feysydd a drafodwyd yn yr ymgynghoriad:

  • cynnwys Cod y Dioddefwyr mewn cyfraith ac ehangu darpariaethau'r cod lle bo angen
  • gwella cyfathrebu gyda dioddefwyr troseddau a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn y broses cyfiawnder troseddol
  • gwella goruchwyliaeth, perfformiad, ac ansawdd
  • darparu cymorth i ddioddefwyr drwy wasanaethau yn y gymuned.
  • cynyddu’r Gordal i Ddioddefwyr
  • gwella cefnogaeth eiriolaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol a thrais difrifol arall a gwella eiriolaeth i blant a phobl ifanc

Byddwn ni'n parhau i weithio, ochr yn ochr â Thîm Polisi Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr eraill o Gymru, gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyrff perthnasol ledled y DU i sicrhau bod Cymru'n cael ei chynnwys mewn cyfarwyddebau a rhaglenni polisi sy'n effeithio ar ein cymunedau ar draws pob rhanbarth.

Aflonyddu rhywiol cyhoeddus

Mae'r Swyddfa Gartref wedi ymgynghori'n ddiweddar ar ddeddfu i droseddoli aflonyddu rhywiol cyhoeddus ymhellach. Mae Diogelwch y Cyhoedd o fewn amcanion y strategaeth VAWDASV newydd ac o fewn cwmpas y ffrydiau gwaith glasbrint. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn credu bod deddfwriaeth yn bodoli ar gyfer hyn eisoes. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig opsiynau ar gyfer deddfwriaeth newydd. Credwn y byddai hyn yn gam sylweddol ymlaen i ddangos ymrwymiad llawn i herio agweddau cymdeithasol sy'n peri i drais gwrywaidd, casineb at fenywod ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau barhau.

Cynllun blynyddol 2023 i 2024

Yn ogystal â gwaith y dull glasbrint a ffrydiau gwaith penodol, rydym wedi nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein cynllun. O ystyried y cymhlethdodau a'r heriau sy'n wynebu ein holl wasanaethau a Llywodraeth Cymru rhaid inni hefyd ystyried rhai o'r blaenoriaethau y gallai fod angen eu gwella neu eu hadolygu.

Nod

Gweithio gyda’r llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus a chomisiynwyr, eu cynghori a’u herio er mwyn darparu dull system gyfan, gan atal cam-drin pellach a diogelu goroeswyr VAWDASV.

Blaenoriaethau:

  • Mynychu fforymau a chyfarfodydd sy'n darparu trosolwg o ddarparu strategaeth VAWDASV, y dull glasbrint a ffrydiau gwaith ynghyd ag unrhyw fforwm perthnasol arall.
  • Ymgysylltu ac ymgynghori ynghylch materion penodol sy’n arferion da, datblygiadau newydd yn ogystal â themâu a phryderon sy'n dod i'r amlwg.
  • Ymgyfarwyddo â thystiolaeth ac arferion da perthnasol a chynnal ymchwil er mwyn darparu ac ehangu dulliau gweithredu profedig o ddarparu gwasanaethau sy'n atal VAWDASV a diwallu anghenion goroeswyr yng Nghymru.
  • Cynnal ymwybyddiaeth o brofiadau a materion goroeswyr, eu rhannu a’u huwchgyfeirio drwy’r Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr, ymgynghori’n ehangach â goroeswyr a phrofiadau goroeswyr drwy'r sector arbenigol ac unrhyw ymgysylltu arall sydd ei angen.
  • Defnyddio pwerau fel y’u darperir o fewn y Ddeddf i ofyn am wybodaeth gan awdurdod perthnasol er mwyn craffu a chynghori'n briodol ar gyflawni'r Ddeddf.
  • Cynghori gwasanaethau cyhoeddus a rhanddeiliaid perthnasol yn benodol ar gyflawni eu cyfrifoldebau o fewn y Ddeddf ar gyfer atal, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr.
  • Sicrhau, tra bod newid ac arloesi, bod buddsoddiad hefyd mewn gwasanaethau 'craidd' a buddsoddiad gan ac ar gyfer gwasanaethau sy'n diwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr VAWDASV yn gyson.
  • Sicrhau bod materion cydraddoldeb a chroestoriadedd yn cael eu hystyried yn yr holl waith sy’n cael ei wneud i weithredu’r Ddeddf. Mae hyn yn golygu bod camau'n cael eu cymryd i ddiwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr lleiafrifiedig. Ar ben hynny, bod plant a phobl ifanc a phobl hŷn yn cael eu cydnabod am eu hanghenion penodol eu hunain fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain.
  • Cymryd rhan ym mhob fforwm er mwyn dod â'r profiad a'r anghenion Cymreig i ffocws ac ar gyfer penderfyniadau polisi, ariannu a llywodraethu sy'n ymwneud â VAWDASV
  • Cynrychioli safbwynt Cymru ym mholisi Llywodraeth y DU, gwella a chynrychioli safbwynt Cymru a lleisiau goroeswyr o fewn polisi ac ymysg Comisiynwyr Llywodraeth y DU
  • Gweithio gyda chyd-gomisiynwyr a chynghorwyr i wneud y mwyaf o effaith y gwaith hwnnw a sicrhau ei fod yn ystyried safbwynt a phrofiad Cymru.

Rydym yn rhagweld y bydd llawer o'n blaenoriaethau yn arwain at y canlyniadau sy'n cael eu hamlinellu isod: 

  • Ccynnydd mewn profi a datblygu modelau o ymyrraeth gynnar sy'n cynnwys gwaith perthnasoedd iach ond hefyd yn cynnwys dull cymdeithas gyfan o fynd i’r afael ag agweddau, ymddygiad a normau diwylliannol sy'n mynd i'r afael â'r amodau sy'n caniatáu derbyn, goddef a chyflawni VAWDASV yng Nghymru.
  • Gwella’r broses o gomisiynu gwasanaethau a buddsoddi yn yr hyn sy'n gweithio ac sy'n gwella gwasanaethau ond nad yw'n arwain at lai o fuddsoddiad yn y gwasanaethau cymorth sydd wedi ac sydd yn parhau i ddiwallu anghenion y mwyafrif o ddioddefwyr a goroeswyr VAWDASV (gwasanaethau craidd).
  • Mynediad at wasanaethau i oroeswyr sydd â dull cydraddoldeb sy'n gwella mynediad at gefnogaeth ac yn mynd i'r afael â'r materion diwylliannol, cymdeithasol a systemig sylfaenol sy'n achosi VAWDASV ond hefyd yn rhwystro mynediad i oroeswyr.
  • Tystiolaeth o ymyriadau sy'n herio'n effeithiol ac yn mynd i'r afael â'r ymddygiad a'r niwed a achosir gan gyflawnwyr.
  • Monitro gweithgarwch cyfunol ac unigol gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau arbenigol ac asesu’r hyn a gyflawnir yn erbyn y nodau a nodir yn y Ddeddf a'r Strategaeth.
  • Defnyddir tystiolaeth profiadau goroeswyr i ddatblygu strategaeth, polisi ac ymarfer. Comisiynu ymatebol a system llunio polisïau sy'n barod i fod yn hyblyg i ddiwallu unrhyw anghenion a heriau sy'n dod i'r amlwg.

Casgliad

Er ein bod yn cydnabod y bydd ein blaenoriaethau ar gyfer ein cynllun blynyddol yn cyd-fynd â'r strategaeth a'r dull glasbrint o weithredu hyn, ni allwn anwybyddu'r heriau economaidd a chymdeithasol sylweddol y mae gwasanaethau a chomisiynwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Rydym yn ymwybodol mai un o'r elfennau mwyaf o'r amcangyfrif o gost cam-drin domestig i economi'r DU yw'r niwed corfforol ac emosiynol a ddioddefir gan ddioddefwyr (£47 biliwn yn flynyddol). Mae'n hanfodol ein bod yn herio'r anghydraddoldebau a'r agweddau sy'n sail i drais a chamdriniaeth ond hefyd ein bod yn gwella ymatebion y sector cyhoeddus i VAWDASV ac felly mae nodi gwelliannau ar gyfer goroeswyr yn allweddol i'n gwaith. Rhaid iddynt hefyd fod yn gyfranwyr sylweddol at ddatblygu a gweithredu'r gwelliannau.

Rydym yn adeiladu ar waith gwych partneriaid yng Nghymru, sydd wedi ymrwymo i wella bywydau dioddefwyr ac atal camdriniaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fel Cynghorwyr Cenedlaethol, byddwn yn parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid i wireddu'r uchelgais a gwireddu’r potensial o fyw yn ddi-ofn ar strydoedd, mewn gweithleoedd, ar-lein ac ar draws pob rhanbarth yng Nghymru.