Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal rhaglen ymchwil i gael gwybod mwy am rôl cynghorwyr yng Nghymru, eu cydnabyddiaeth ariannol a’u profiadau o ymgysylltu â dinasyddion. Mae’r rhaglen waith yma'n adeiladu ar werthusiad o gam cyntaf y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth gan Lywodraeth Cymru (McConnell and Stevenson, 2019), a oedd yn nodi’r angen am ddull gweithredu mwy penodol a phwrpasol i gynorthwyo grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i’w helpu i fynd ati i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Roedd y gwerthusiad hefyd yn tynnu sylw at ddiffyg ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o rôl cynghorwyr, a’r cyfraniad pwysig maent yn ei wneud ar ran cymunedau.

I ddiwallu’r anghenion tystiolaeth hyn, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad tystiolaeth o gydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr yng Nghymru a sut mae’n cymharu â gwledydd eraill (Williams, 2021), ac arolwg o agweddau’r cyhoedd (Owens, 2021). Roedd elfen olaf yr ymchwil hon yn cynnwys cynnal arolwg ar-lein o gynghorwyr yng Nghymru ar lefel prif gynghorau a chynghorau cymuned a thref. Gyda’i gilydd, bydd canfyddiadau’r ymchwil o’r tri cham yn dyfnhau dealltwriaeth o rôl a chydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr yng Nghymru o sawl persbectif.

Bydd canfyddiadau’r adolygiad tystiolaeth a’r arolwg o agweddau’r cyhoedd yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â’r dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o’r ymchwil hon i lywio’r gwaith o gynllunio a darparu gweithgarwch o dan gam nesaf y Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth, gyda’r nod o gynyddu hyder cynghorwyr eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a sicrhau bod y disgwyliadau a roddir arnynt yn deg a bod eu cydnabyddiaeth ariannol yn adlewyrchu eu gwaith yn briodol.

Methodoleg

Pwrpas yr arolwg ar-lein oedd cael gwybod mwy am rôl cynghorwyr ar lefelau cynghorau cymuned a thref a phrif gynghorau, gan gynnwys y math o waith maen nhw’n ei wneud, yr amser maen nhw’n ei dreulio’n gweithio fel cynghorwyr i gynorthwyo cymunedau, y gydnabyddiaeth ariannol maen nhw’n ei derbyn a’r hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu i gefnogi’r rôl.

Datblygwyd cwestiynau’r arolwg gan ymchwilwyr cymdeithasol a swyddogion polisi yn Llywodraeth Cymru ar y cyd â chynrychiolwyr o Un Llais Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cafodd yr arolwg ei weinyddu gan ddefnyddio SmartSurvey, llwyfan arolwg ar-lein sy’n ei gwneud yn bosibl i lenwi arolygon ar gyfrifiaduron, dyfeisiau tabled a ffonau clyfar, ac roedd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae pwyntiau cyswllt allweddol yn Un Llais Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi helpu i rannu gwybodaeth am yr arolwg â rhwydweithiau perthnasol ynghyd â dolen i’r arolwg ar-lein, gyda’r nod o gyrraedd cynghorwyr ar hyd a lled Cymru, mewn prif gynghorau ac mewn cynghorau cymuned a thref. Cafwyd cyfanswm o 1,624 o ymatebion.

Proffil yr ymatebwyr

Roedd tua dau o bob tri o’r ymatebwyr (66%) yn gynghorwyr cymuned neu dref yn unig, ac oddeutu un o bob pump (19%) yn gynghorwyr prif gyngor yn unig. Dywedodd y 15% a oedd ar ôl eu bod yn gweithio fel cynghorwyr ‘dwy het’.

Ar draws pob categori o gynghorydd, roedd 14% wedi bod yn gwasanaethu fel cynghorydd ers blwyddyn neu ddwy, ac ychydig llai nag un o bob tri (32%) yn gwasanaethu ers 3-5 mlynedd. Roedd ychydig mwy nag un o bob pump (21%) o’r ymatebwyr wedi bod yn gwasanaethu fel cynghorydd ers 10-20 mlynedd, a 15% ers mwy nag 20 mlynedd.

Roedd tua thri chwarter (73%) yn cyflawni rolau gwirfoddol neu ddi-dâl ochr yn ochr â’u gwaith fel cynghorydd. Roedd y math o weithgareddau gwirfoddol yr oedd cynghorwyr yn eu gwneud yn amrywio’n fawr, ac yn cynnwys trefnu digwyddiadau cymunedol; rhoi cymorth ymarferol drwy gasglu neges a meddyginiaeth a danfon parseli bwyd; helpu i gynnal cynlluniau cyfeillio a chyfeillgarwch cymunedol; cyd-drefnu banciau bwyd lleol; a chynnal mannau agored cyhoeddus.

Rhesymau dros fod yn gynghorydd

Roedd cyfran fawr o’r ymatebwyr wedi mynd yn gynghorwyr er mwyn gwella eu cymuned a’i gwneud yn lle gwell i fyw. Roedd eraill wedi sefyll fel ymgeiswyr er mwyn ‘helpu pobl’ a ‘rhoi llais i bobl leol’.

Roedd nifer o gynghorwyr wedi cael eu hannog i sefyll neu’n teimlo cymhelliant i wneud hynny o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan gynghorwyr blaenorol yn eu hardal. Teimlai eraill fod ganddynt yr wybodaeth, y profiad a’r gwerthoedd priodol i gyflawni’r rôl yn llwyddiannus.

Canfyddiadau o rôl a dylanwad cynghorydd

Dywedodd y mwyafrif llethol o’r ymatebwyr (91%) mai rôl bwysicaf cynghorydd oedd ‘cynrychioli barn ac anghenion trigolion lleol’, wedyn ‘cefnogi’r gymuned leol’ (88%) a ‘gweithio gyda thrigolion i fynd i’r afael â materion lleol’ (87%).

Roedd dros hanner yr holl ymatebwyr (61%) yn cytuno bod eu dealltwriaeth o’r rôl wedi newid yn ystod eu cyfnod fel cynghorydd. Dyma rai o’r esboniadau cyffredin am y newid hwn:

  • ddim yn barod ar gyfer maint a chymhlethdod y gwaith yr oedd disgwyl iddynt ei wneud pan gawsant eu hethol yn wreiddiol
  • bod y rôl yn ymrwymiad mawr ar ben eu llwyth gwaith presennol
  • nad oeddent yn gallu cyfrannu cymaint ag y byddent yn dymuno oherwydd pellter ymddangosiadol rhyngddyn nhw a’r prosesau gwneud penderfyniadau

Dywedodd cynghorwyr cymuned a thref yn arbennig fod yr hyn roeddent wedi disgwyl ei gyflawni yn anghyson â realiti’r broses ddemocrataidd.

Rhoddodd ymatebwyr enghreifftiau o’r camdybiaethau mwyaf cyffredin sydd gan y cyhoedd am rôl cynghorydd, gan gynnwys:

  • diffyg dealltwriaeth o’r hyn y gall cynghorwyr ei gyflawni ar gyfer trigolion
  • bod pob cynghorydd yn wleidydd llawnamser, cyflogedig
  • bod pob cynghorydd ‘yno er ei fudd ei hun’

Teimlai tua hanner (49%) fod ganddynt lai o ddylanwad i newid pethau nag oeddent wedi’i ddisgwyl yn wreiddiol wrth ddechrau ar eu rôl, a theimlai ychydig mwy nag un o bob tri (35%) fod ganddynt gymaint o ddylanwad ag oeddent wedi’i ddisgwyl.

Roedd cyfran ychydig uwch o gynghorwyr cymuned neu dref (51%) yn meddwl bod ganddynt lai o ddylanwad i newid pethau na’r disgwyl, mewn cymhariaeth â 44% o gynghorwyr prif gyngor a 45% o gynghorwyr dwy het. Ar y llaw arall, roedd cynghorwyr prif gyngor (19%) a chynghorwyr dwy het (23%) yn fwy tebygol o ymateb yn gadarnhaol a dweud bod ganddynt fwy o ddylanwad i newid pethau na’r disgwyl, o'u cymharu â chynghorwyr cymuned neu dref.

Llwyth gwaith cynghorwyr

Roedd bron i hanner (47%) yn treulio 10 awr neu lai bob wythnos yn cyflawni’r rôl. Ar ben arall y raddfa, roedd 8% yn treulio mwy na 40 awr bob wythnos ar hynny.

Roedd tua dau o bob tri (69%) o gynghorwyr cymuned neu dref yn treulio 10 awr neu lai yn cyflawni eu rôl, gydag oddeutu dau o bob pump o gynghorwyr prif gyngor (44%) a chynghorwyr dwy het (38%) yn dweud eu bod yn treulio 31 awr neu fwy bob wythnos yn ymgymryd â busnes y cyngor. O blith y ffigurau hyn, dywedodd chwarter y cynghorwyr prif gyngor (25%) ac 17% o’r cynghorwyr dwy het eu bod yn gweithio mwy na 40 awr yr wythnos.

Dywedodd dau o bob tri o’r ymatebwyr (66%) eu bod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Dim ond 4% o’r ymatebwyr oedd wedi pennu amseroedd penodol i etholwyr allu cysylltu â nhw.

Pwysleisiodd y cynghorwyr prif gyngor fod eu rôl a’u llwyth gwaith o ddydd i ddydd yn amrywio’n fawr bob wythnos, gan ddibynnu ar natur eu gwaith ar y pryd (er enghraifft, mynychu cyfarfodydd pwyllgor a ffurfiol y cyngor, delio â gwaith achos ac ymgysylltu ag etholwyr), a’r mathau o rolau oedd ganddynt yn y cyngor.

Un pryder penodol gan bob categori o gynghorydd oedd yr ymrwymiadau amser a’r llwyth gwaith cynyddol y mae’r rôl yn galw amdanynt, gyda llawer yn ei chael yn fwyfwy anodd cadw bywyd y cyngor ar wahân i'w bywyd preifat. Dywedodd ymatebwyr hefyd ei bod yn mynd yn fwy ac yn fwy anodd i gynghorwyr gynnal eu hymrwymiadau gwaith ochr yn ochr â swydd lawnamser.

Pwysleisiodd nifer o gynghorwyr tref a chymuned fod y ffaith eu bod mor amlwg yn y gymuned yn eu helpu i reoli eu hymrwymiadau amser a’u gwaith o ddydd i ddydd.

Annog pobl eraill i sefyll fel ymgeiswyr

Dywedodd wyth o bob 10 ymatebydd (80%) y byddent yn annog pobl eraill i sefyll fel cynghorydd, a dim ond 6% ddywedodd na fyddent yn gwneud hynny.

Mewn termau cadarnhaol, dywedodd ymatebwyr ar draws y tri math o gynghorydd fod cael eu hethol yn ‘fraint’, gan bwysleisio bod y rôl yn anodd ond bod gallu cyflawni ar ran y gymuned yn ei wneud yn brofiad ‘gwerth chweil’ sy’n ‘rhoi boddhad’.

Dywedodd nifer bach o ymatebwyr fod profiadau personol o gael eu cam-drin a’u bygwth, ac ymddygiad annerbyniol roeddent wedi’i weld tuag at gyd-gynghorwyr, yn rhesymau allweddol pam y byddent yn annog pobl eraill i beidio â sefyll am swydd etholedig.

Roedd y rhwystrau sy’n atal ymgeiswyr posibl rhag sefyll yn cynnwys y gofynion amser, maint a chymhlethdod y gwaith dan sylw, a diffyg amrywiaeth yn y boblogaeth bresennol o gynghorwyr.

Pwysleisiodd y cynghorwyr fod angen annog ystod ehangach o ymgeiswyr, yn enwedig mwy o fenywod, cynrychiolwyr ar ran lleiafrifoedd ethnig a phobl ifanc, i sefyll mewn etholiad er mwyn gwella cydbwysedd oedran, rhyw a chymdeithasol  y boblogaeth gyffredinol o gynghorwyr.

Cydnabyddiaeth ariannol

Dim ond tua hanner y cynghorwyr cymuned a thref oedd yn gwybod bod ganddynt hawl i gael taliad sylfaenol i gyflawni eu dyletswyddau. Doedd tua tri chwarter y cynghorwyr cymuned a thref ddim wedi hawlio eu taliad sylfaenol ac uwch yn llawn.

Mewn cymhariaeth, roedd y rhan fwyaf o gynghorwyr prif gyngor yn ymwybodol y gallent hawlio cyflog sylfaenol i gyflawni eu dyletswyddau, a hefyd wedi hawlio eu cyflog yn llawn. Fodd bynnag, dim ond tua un o bob pum cynghorydd prif gyngor ddywedodd eu bod wedi hawlio ad-daliad llawn am gostau teithio a chynhaliaeth a oedd wedi codi fel rhan o’u rôl.

Dywedodd cynghorwyr eu bod yn aml yn wynebu beirniadaeth gan y cyhoedd ynghylch y lwfansau a’r treuliau sy’n cael eu talu i aelodau etholedig. Yn sgil hynny, roedd cynghorwyr yn gyndyn o hawlio’r hyn yr oedd ganddynt hawl iddo oherwydd bod arnynt ofn ymddangos eu bod yn ‘troi'r dŵr i’w melin eu hunain’, neu y byddai cyd-gynghorwyr ac etholwyr yn eu cywilyddio am dderbyn arian cyhoeddus.

Roedd llawer o ymatebwyr yn gwrthwynebu’r syniad o gynghorwyr yn derbyn tâl am eu gwaith, gyda chynghorwyr cymuned a thref yn arbennig yn pwysleisio bod hyn yn anghyson â natur eu rôl. Roedd nifer llai o gynghorwyr cymuned yn amddiffyn y system bresennol o gydnabyddiaeth ariannol i gynghorwyr, ac yn dadlau bod gallu hawlio cymorth fel y lwfansau gofalwyr yn eu galluogi i gyflawni eu rôl yn effeithiol.

Ymddygiad ac agweddau at gynghorwyr

Gwelwyd yn yr arolwg enghreifftiau eang o fwlio ac ymddygiad sarhaus ac amhriodol tuag at gynghorwyr, a hynny gan gyd-aelodau etholedig, y cyhoedd a swyddogion.

Roedd tua hanner yr ymatebwyr (48%) wedi profi neu wedi gweld ymddygiad amhriodol gan aelodau o’r cyhoedd wrth gyflawni eu rôl. Roedd tua phedwar o bob 10 (41%) wedi gweld neu brofi ymddygiad amhriodol gan gynghorwyr eraill.

Roedd yr enghreifftiau o aflonyddu a bwlio geiriol gan gydweithwyr yn cynnwys:

  • rhoi sylwadau sarhaus ac amhriodol o natur bersonol ar-lein
  • lledaenu sïon maleisus
  • ymddygiad amhriodol mewn cyfarfodydd gyda’r bwriad o wangalonni neu danseilio unigolion

Soniodd ymatebwyr am achosion o ragfarn a chasineb yn erbyn menywod, hiliaeth a homoffobia. Roedd cam-drin, bwlio ac aflonyddu ar gynghorwyr sy’n fenywod yn rhywbeth cyffredin iawn. Roedd tystiolaeth hefyd o normaleiddio ymddygiad sarhaus tuag at gynghorwyr, a disgwyliad y dylai cynghorwyr ei dderbyn fel ‘rhan o’r gwaith’.

Oherwydd y defnydd cynyddol o gyfryngau cymdeithasol, mae cynghorwyr o dan y chwyddwydr fwy a mwy ac wastad o dan lygaid barcud etholwyr a’r cyhoedd yn cyffredinol. Dywedodd cynghorwyr eu bod yn wynebu mwy a mwy o fygythiadau ac ymddygiad sarhaus a brawychus ar-lein, ac ymddygiad amhriodol yng nghyfarfodydd y cyngor cymuned lle’r oeddent yn cael eu cam-drin yn eiriol yn arbennig.

Soniodd nifer o gynghorwyr am ddigwyddiadau’n ymwneud â bygythiadau corfforol, ymddygiad bygythiol ac aflonyddu, ac roedd nifer o’r rhain wedi arwain at ryw fath o gysylltiad â'r heddlu. Gwnaed sylwadau hefyd am y lefelau cynyddol o begynnu mewn trafodaethau cyhoeddus ar lefel leol, a oedd yn deillio o effeithiau Brexit, y ffordd y deliwyd â phandemig Covid-19, a llai o ymddiriedaeth mewn gwleidyddion.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Nerys Owens

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Nerys Owens
Ebost: ymchwil.gwasanaethaucyhoeddus@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 75/2022
ISBN digidol 978-1-80535-079-8

Image
GSR logo