Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r atodiad hwn yn cyfeirio at Lyfryn Canllawiau Cynllun Troi’n Organic Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd 15 Gorfennnaf 2022. Mae'r holl newidiadau ac ychwanegiadau a wnaed i Adran G – Taliadau a Adran H Trosglwyddo neu Werthu o dan Gontract llyfryn gwreiddiol.

Mae hyn bellach wedi newid i:

Adran G: taliadau

Hawliadau

Dim ond yn y flwyddyn hawlio berthnasol y bydd taliadau o dan y Cynllun Troi’n Organig ar gael i'w hawlio ar Ffurflen y Cais Sengl; gwneir taliadau pan fydd eich hawliad wedi cael ei ddilysu. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gofynion o ran trosi ac ardystio tir wedi cael eu bodloni y telir hawliadau. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn derbyn taliadau o dan y Cynllun Troi'n Organig, rhaid ichi:

  • Fod wedi ymrwymo i gontract o dan y Cynllun Troi'n Organig a chadw at yr holl ofynion.
  • Peidio â gwneud gosodiad na datganiad ffug neu gamarweiniol, na rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol.
  • Peidio â bod wedi creu'n artiffisial yr amodau sydd eu hangen i gael y taliadau.
  • Caniatáu i dir gael ei archwilio ar unrhyw adeg yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru neu unrhyw un arall sydd â chaniatâd a darparu unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gall Llywodraeth Cymru neu’r sawl sydd â chaniatâd ofyn amdanynt.
  • Cyflwyno hawliadau dilys a chyflawn erbyn y dyddiad a bennwyd gan ddefnyddio Ffurflen y Cais Sengl yn y flwyddyn hawlio berthnasol.  Ni fydd hawliad yn ddilys nes bod yr holl wybodaeth ategol hefyd wedi cael ei chyflwyno.
  • Rhaid hawlio’r taliad cyn y dyddiad terfyn wedi’i nodi yn eich contract. Caiff hawliadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau eu gwrthod yn awtomatig.

Hawliadau Anghywir a Chosbau

Os byddwn yn canfod anghysondebau yn eich hawliad, bydd taliadau'n cael eu lleihau yn unol â gwerth yr anghysondebau.

Tanddatgan

Gallai peidio â datgan yr holl dir / ardaloedd amaethyddol ar eich deiliad ar Ffurflen y Cais Sengl (SAF) (gan gynnwys pob darn o dir sy’n eiddo ichi a phob rhan o dir rydych chi’n ei rentu – h.y. nid y tir y gwnaethoch ei nodi yn eich contract o dan y Cynllun Troi’n Organig yn unig) olygu bod eich taliadau’n cael eu lleihau.

Gorddatgan

Bydd cosbau am orddatgan yn cael eu rhoi os yw'r arwynebedd a ddatganwyd ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig ar y Ffurflen Cais Sengl (SAF) yn fwy na'r arwynebedd a nodir. Cyfrifir cosbau gan ddefnyddio'r arwynebedd a ddatganwyd ar eich SAF sy'n derbyn yr un gyfradd gymorth (y cyfeirir ati fel grwpiau cnydau).  Yn achos y Cynllun Troi'n Organig, mae pob cyfradd dalu yn grŵp cnydau ar wahân.

Os yw'r arwynebedd yr hawlir amdano o dan y Cynllun Troi'n Organig yn fwy na'r arwynebedd cymwys (e.e. mae nodwedd anghymwys wedi cael ei hychwanegu at arwynebedd y contract), os na chaiff hyn ei ddatgan yn Ffurflen y Cais Sengl yn y flwyddyn hawlio berthnasol, bydd unrhyw grant a delir ar gyfer yr arwynebedd anghymwys yn cael ei adennill.

Os yw'r arwynebedd yn fwy na naill ai 3% neu ddau hectar o arwynebedd y contract, bydd yr arwynebedd sy'n gymwys ar gyfer taliad yn cael ei leihau 1.5 gwaith y gwahaniaeth wedi'i nodi.

Ni fydd y gosb yn fwy na 100% o'r symiau sy'n seiliedig ar yr arwynebedd a ddatganwyd.

Isod mae enghreifftiau o gosbau am orddatgan.

Enghraifft 1:

Mae cynllun o dan y Cynllun Troi'n Organig a hawliodd gyfradd dalu 1 wedi datgan 100 hectar, ond gwelwyd mai 98.5 hectar yw'r arwynebedd gan fod yr hawliwr wedi codi adeilad amaethyddol newydd ar dir o fewn arwynebedd y contract. Ni fydd gostyngiad yn berthnasol gan nad yw'r gwahaniaeth yn fwy na 3% neu ddau hectar, ond bydd taliad y Cynllun Troi'n Organig yn seiliedig ar 98.5 hectar.

Enghraifft 2:

Mae cynllun o dan y Cynllun Troi'n Organig a hawliodd gyfradd dalu 1 wedi datgan 100 hectar, ond gwelwyd mai 90 hectar yw'r arwynebedd gan fod yr hawliwr wedi plannu coetir newydd ar dir o fewn arwynebedd y contract. Gan fod y gwahaniaeth yn fwy na 3% neu ddau hectar, bydd cosb yn berthnasol. Bydd taliad y Cynllun Troi'n Organig yn seiliedig ar 75 hectar, sef 90 hectar minws 15 hectar (10 hectar x 1.5).

Torri Amodau Trawsgydymffurfio

Byddwch chi’n gyfrifol am fodloni’r holl ofynion trawsgydymffurfio ar gyfer y flwyddyn galendr lawn. Os nad ydych yn bodloni’r Gofynion Rheoli Statudol neu ofynion o ran cynnal cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da, p’un a yw hynny drwy esgeulustod neu’n fwriadol, gallech golli rhywfaint neu’r cyfan o’ch taliad o dan y Cynllun Troi’n Organig, a hynny am flwyddyn neu ragor. Wrth bennu’r gostyngiadau ac eithriadau hyn, ystyrir pa mor fawr yw’r tramgwydd, ei ddifrifoldeb, pa mor barhaol ydyw a pha mor debygol ydyw o ddigwydd eto.

Adennill Taliadau

Gall Llywodraeth Cymru adennill taliadau pan nad yw prosiect y cymeradwywyd cymorth grant ar ei gyfer wedi’i gwblhau yn llawn a lle nad yw’r cais wedi cydymffurfio â thelerau ac amodau contract o dan y Cynllun Troi’n Organig. Mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun Troi’n Organig. Bydd archwiliadau yn cynnwys gwirio cywirdeb data a gyflwynwyd wrth hawlio taliadau ac mewn dogfennau ategol. Byddant hefyd yn cwmpasu’r holl ymrwymiadau a gofynion y gellir eu gwirio, megis gwaith a wnaed yn unol â’r cais cymeradwy.

Gwahardd yn y Dyfodol

Diben gwahardd yn y dyfodol yw sicrhau bod manteision amgylcheddol yn cael eu sicrhau drwy'r Cynllun Troi'n Organig, drwy annog pobl nad ydynt wedi ymrwymo i gynnal y newid i gynhyrchu organig drwy gydol y contract i beidio â chyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Gallai peidio â chwblhau contract hefyd atal rheolwyr tir a busnesau ffermio eraill heb gael eu dewis ar gyfer y Cynllun Troi’n Organig.

Os yw Llywodraeth Cymru yn derbyn na allwch gwblhau unrhyw ymrwymiadau yn y Cynllun Troi'n Organig oherwydd amgylchiadau eithriadol, a bod tystiolaeth o hynny, bydd yr ymrwymiad yn cael ei ddileu o'r contract. Caiff pob cais ei asesu fesul achos.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r Cynllun Troi'n Organig.  Mae troseddau'n cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n fyrbwyll, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig; rhwystro arolygydd neu swyddog; a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran H: trosglwyddo neu werthu tir o dan gontract

Byddwch yn ymwybodol y gellir trosglwyddo contractau o dan y Cynllun Troi'n Organig os yw'r busnes fferm sy'n derbyn rheolaeth dros y tir yn cytuno i barhau â thelerau ac amodau'r contract. Fodd bynnag, os byddwch yn gwerthu neu'n trosglwyddo tir (cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig neu anysgrifenedig) heb i'r busnes fferm arall gytuno i barhau â'r contract, cyn cwblhau'r contract, bydd eich contract yn cael ei ganslo ac ni fydd taliad yn cael ei wneud. At hynny, mae'n bosibl y bydd taliadau a wnaed ichi eisoes yn ystod y contract yn cael eu hadennill.

Mae’n ofynnol ichi roi gwybod i Lywodraeth Cymru am newidiadau i barseli tir, a hynny o fewn 30 diwrnod i ddyddiad y newid. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • caeau nad ydynt wedi’u cofrestru’n flaenorol o dan gynllun Taliadau Gwledig Cymru (h.y. nad ydynt wedi’u cynnwys ar yr SAF yn flaenorol)
  • caeau sydd wedi cael eu rhannu yn barhaol
  • caeau sydd wedi cael eu huno yn barhaol
  • caeau sydd â therfynau newydd
  • caeau sy’n cynnwys nodweddion parhaol y gwnaed newidiadau iddynt.

Mae’n ofynnol ichi hefyd roi gwybod i Lywodraeth Cymru am newidiadau i feddiannaeth tir – yn cynnwys newidiadau mewn perchnogaeth ac unrhyw gytundebau tenantiaeth – o fewn y 30 diwrnod.

Defnyddiwch y cyfleuster Rheoli fy Nhir drwy eich cyfrif RPW Ar-lein i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am y newidiadau hyn, a hynny o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad y gwnaed y newid.

Gallai peidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru o fewn y cyfnod hwn arwain at gosb yn cael ei rhoi.