Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi Sector y Môr, Pysgodfeydd a Dyframaethu

Mae Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru yn ariannu cynllun i gefnogi twf amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy yn niwydiant bwyd môr Cymru, ac i annog cymunedau arfordirol Cymru i ffynnu.

Mae wedi cael ei ddatblygu i fod yn olynydd i Gronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop 2014–2020. Nad ydyn ni bellach yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd felly roedd angen cynllun newydd a ariennir yn ddomestig.

Dylid ystyried y canllawiau yn y ddogfen hon ar y cyd â Chynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Dogfen canllawiau cyffredinol.

Adran A: Cyflwyniad

Mae'r Nodiadau Canllaw hyn yn egluro nodau'r rownd gyllido Mesurau Marchnata a'r broses ymgeisio. Darllenwch nhw'n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn, gweler 'y Broses Gwneud Cais' yn adran D. 

Bydd y cyfnod ar gyfer datgan diddordeb (EOI) yn agor ar 5 Rhagfyr 2022 ac yn cau ar 13 Ionawr 2023.

Nodau ac amcanion strategol y rownd gyllido Mesurau Marchnata yw cefnogi mesurau marchnata ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu wedi'u hanelu at y canlynol:

  • Dod o hyd i farchnadoedd newydd ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu, gan gynnwys:
    • Rhywogaethau sydd â photensial i'w marchnata.
    • Dalfeydd nad oes eu hangen wedi'u glanio o stociau masnachol yn unol â mesurau technegol.
    • Cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu wedi'u cael gan ddefnyddio dulliau sy'n cael effaith isel ar yr amgylchedd.
    • Cymorth i farchnata cynhyrchion newydd.
  • Hyrwyddo ansawdd a gwerth ychwanegol drwy hwyluso:
    • Gwneud cais i gofrestru cynnyrch penodol a helpu'r gweithredwyr o dan sylw i addasu i'r gofynion perthnasol o ran cydymffurfedd ac ardystiad.
    • Ardystio a hyrwyddo cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu cynaliadwy, gan gynnwys cynhyrchion o bysgota ar raddfa fach [1], a dulliau prosesu sy'n amgylcheddol gyfeillgar.
    • Marchnata a gwerthu cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu'n uniongyrchol, gan gynnwys datblygu brand, strategaethau marchnata, marchnata ar y we a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol, a phlatfformau e-farchnata.
    • Cyflwyno a phecynnu cynhyrchion mewn ffordd sy'n ychwanegu gwerth, profi'r farchnad, grwpiau ffocws.
  • Cyfrannu at dryloywder a'r gallu i olrhain cynhyrchion a marchnadoedd, yn ogystal â chynnal ymchwil i'r farchnad, arolygon ac astudiaethau.

Mae rownd gyllido Mesurau Marchnata'r Cynllun yn refeniw yn unig.

Darllenwch reolau'r cynllun a'r canllawiau cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Os cewch eich dewis, rhaid ichi allu cwblhau'r prosiect a chyflwyno hawliad llawn erbyn 31 Mawrth 2024.

Bydd swm y grant a gynigir yn dibynnu ar amgylchiadau unigol, a bydd bob amser y swm lleiaf sydd ei angen i ganiatáu i'r buddsoddiadau fynd rhagddyn nhw.

Bydd unrhyw newidiadau'n cael eu cyhoeddi drwy Wefan Llywodraeth Cymru, a phan fydd angen byddwn yn cysylltu â chi yn uniongyrchol.

[1] Mae Pysgota Arfordirol ar Raddfa Fach (SSCF) yn golygu pysgota gan gychod sy'n 11.99 metr neu'n llai, a heb ddefnyddio gêr llusg / treillrwydi.

Adran B: Pwy sy'n Gymwys

Dim ond ar gyfer ymgeiswyr mae eu menter wedi'i chofrestru a'u lleoli yng Nghymru y mae'r cynllun hwn. Dylai ymgeiswyr y tu allan i Gymru wneud cais i weinyddwr y cynllun perthnasol.

Er mwyn cyflwyno ddatgan diddordeb, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael rhif cyfeirnod cwsmer (CRN). Darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru ar wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ar 0300 062 5004.

Rydych yn gymwys i wneud cais os ydych yn bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Rydych yn fenter bwyd môr yng Nghymru [2] sy’n un o’r canlynol:
    • Busnes bach neu ganolig sy'n endid micro (endid micro yw busnes sydd ag unrhyw ddwy o'r nodweddion canlynol: a) trosiant o £632,000 neu lai; b) £316,000 neu lai ar y fantolen; neu c) deg cyflogai neu lai.)
    • Busnes bach neu ganolig nad yw'n endid micro. (Busnes bach neu ganolig yw busnes sydd ag unrhyw ddwy o'r nodweddion canlynol: a) trosiant o lai na £36 miliwn; b) £18 miliwn neu lai ar y fantolen; c) 250 cyflogai neu lai)
    • Busnes nad yw’n fach neu'n ganolig
    • Sefydliad o  ddefnyddwyr môr yn gweithio ar y cyd er budd nifer o fentrau neu sector. (e.e. Sefydliad cynhyrchwyr a chymdeithas pysgotwyr ac ati)
  • Mae prif gyfeiriad eich menter yng Nghymru ac mae wedi'i chofrestru yng Nghymru.
  • Mae prif weithgaredd eich menter yng Nghymru.
  • Bydd y grant cyllid rydych yn gwneud cais amdano o fudd uniongyrchol i Gymru.

Fel rhan o'r datganiad o ddiddordeb, bydd yn ofynnol ichi ddangos bod eich menter yng Nghymru (cyfeiriad cofrestredig ac wedi'i leoli yng Nghymru a bod y gweithgaredd o fudd uniongyrchol i Gymru.

[2] Yn fenter ddyframaethu sy'n tyfu neu feithrin organeddau dyfrol. Er enghraifft, gall y rhain gynnwys pysgod asgellog, pysgod cregyn ac algâu.

Cymhwysedd ar y cyd

At ddibenion y rownd gyllido hon, cais ar y cyd yw lle mae dwy neu fwy o fentrau'n gwneud cais am un prosiect neu weithgaredd. Rhaid i'r prosiect fod o fudd i'r ddau ymgeisydd neu gael ei ystyried er da / er budd y cyhoedd. I wneud hynny, rhaid i bob ymgeisydd sy'n rhan o'r grŵp fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd, Hefyd, rhaid i'r grŵp fod wedi'i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru a bod wedi derbyn Cyfeirnod Cwsmer (CRN). Rhaid cyflwyno'r datganiad o ddiddordeb o dan y Cyfeirnod Cwsmer a gafodd ei gyhoeddi ar gyfer y grŵp.

Nid ydych yn gymwys o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Rydych wedi'ch cael yn euog o dwyll o dan unrhyw gynllun grant arall
  • Cafwyd eich bod wedi torri mesurau cadwraeth neu reoli mewn modd difrifol o fewn y 12 mis diwethaf.
  • Rydych wedi cael eich rhestru gan wladwriaeth y faner, y Sefydliad Bwyd ac Amaeth neu Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd Rhanbarthol, neu Drefniant ar gyfer Pysgota Anghyfreithlon ac Anrheoleiddiedig na Hysbysir amdano yn unol â rheolau a gweithdrefnau'r wladwriaeth, parti, sefydliad neu drefniant ac yn unol â chyfraith ryngwladol; neu
  • Rydych wedi'ch cael yn euog o drosedd yr ystyrir yn 'dor rheolau difrifol' (gan gynnwys unrhyw bysgota na hysbysir amdano, pysgota anrheoleiddiedig neu dwyl) yn y 12 mis cyn gwneud cais.
     

Costau cymwys

Unrhyw gostau refeniw mewn perthynas â marchnata'r fenter forol, bwyd môr a dyframaethu  Er enghraifft, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Costau gweithgareddau marchnata a hyrwyddo, gan gynnwys llogi lleoliadau, presenoldeb mewn ffeiriau masnach, dylunio deunyddiau hyrwyddo a sefydlu gwefannau
  • Ffioedd ymgynghorwyr, ffioedd technegol a phroffesiynol eraill; ffioedd am ganiatâd statudol, trwyddedau a chydsyniadau
  • Costau rhedeg prosiect, megis costau staff allweddol.
  • Eitemau traul (eitemau sy’n cael eu dileu o fewn flwyddyn fel arfer) sydd yn angenrheidiol i ac yn uniongyrchol ar gyfer cyflawni’r prosiect.
  • Costau uniongyrchol prosiectau ymchwil neu arolygon marchnad penodol wedi’u cysylltu â chynllun manwl

Costau anghymwys

Mae'r eitemau canlynol yn enghreifftiau o wariant nad ydyn nhw'n gymwys ar gyfer cymorth grant. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, a bydd pob un o'r eitemau gwariant yn cael ei hystyried fesul achos:

  • Eitemau Cyfalaf
  • Unrhyw offer a sicrhawyd o dan gytundeb hurbwrcasu neu logi prydles.
  • Eitemau y mae'n ofynnol iddynt gyrraedd safonau rheoleiddio.
  • Gweithgareddau sy'n dod y tu allan i amserlen cyllid y grant
  • costau gweithredu
  • TAW adenilladwy
  • prynu stoc masnachu
  • costau sy’n gysylltiedig â llenwi ffurflenni cais WMFS, yn cynnwys talu ymgynghorwyr i helpu pobl i lenwi’r ffurflenni cais
  • costau gwaith cynnal a chadw ataliol neu wedi’i drefnu ar gychod a chyfarpar ac ar adeiladau, peiriannau neu gyfarpar sy’n bodoli'n barod, gan gynnwys costau cynnal a chadw cerbydau
  • costau llafur a chyfarpar eich hun
  • cyfnewid peiriannau neu gyfarpar am rai newydd yr un fath
  • cyfarpar hamdden (er y gall setiau teledu, taflunyddion ac ati at ddibenion addysgol neu fusnes fod yn gymwys)
  • tirlunio, gwaith addurnol a darparu amwynderau hamdden
  • cyfarpar a dodrefn swyddfa cyffredinol heblaw am ddesgiau, cadeiriau, cyfarpar ffôn, cyfrifiaduron a chyfarpar TG arall, meddalwedd a theleargraffyddion, cyfarpar labordai a darlithfeydd sy’n hanfodol ar gyfer cyflawni’r prosiect
  • hyfforddiant ar gyfer cyfarwyddwyr a staff allweddol
  • treuliau cyfarwyddwyr allanol
  • costau sy’n gysylltiedig â chontract prydlesu fel elw leswyr, costau cyllido llog, gorbenion a thaliadau yswiriant
  • costau trefnu cyfleusterau gorddrafft, benthyciadau neu gyfleusterau cymorth ariannol eraill, gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig neu daliadau eraill
  • gorbenion sy’n cael eu dyrannu neu eu dosrannu ar gyfraddau llawer uwch na’r rhai a ddefnyddir ar gyfer gwaith tebyg a gyflawnir gan yr ymgeisydd
  • gwariant tybiannol
  • taliadau ar gyfer gweithgarwch o natur grefyddol a/neu wleidyddo
  • rhwymedigaethau digwyddiadol
  • hapddigwyddiadau / darpariaethau
  • elw a wneir gan yr ymgeisydd
  • buddrannau
  • taliadau llog
  • taliadau gwasanaeth sy’n deillio o brydlesau cyllid, hurbwrcasu a threfniadau credyd
  • costau sy’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr
  • costau sy’n ymwneud â dirwyn cwmni i ben
  • taliadau am ddiswyddo annheg
  • taliadau i gynlluniau pensiwn preifat
  • taliadau ar gyfer pensiynau heb eu cyllido
  • iawndal am golli swydd
  • Iawndal am gostau ychwanegol a ysgwyddir a/neu incwm na chafwyd
  • drwgddyledion sy’n deillio o fenthyciadau i weithwyr, perchenogion, cyfarwyddwyr, partneriaid, gwarantwyr, rhanddeiliaid neu berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain
  • taliadau am anrhegion a rhoddion
  • diddanwch personol (gan gynnwys alcohol)
  • costau sy’n gysylltiedig â gofynion a ddeillir o gamau gorfodi statudol
  • dirwyon a chosbau statudol
  • trethi statudol (ac eithrio TAW na ellir ei hadennill)
  • dirwyon a iawndal troseddol
  • treuliau cyfreithiol yn ymwneud â chyfreitha
  • prynu cerbydau ar gyfer cludiad allanol (megis lorïau, bysiau, faniau, bysiau mini neu unrhyw fath arall o gerbyd a ddefnyddir i gludo nwyddau neu bobl)
  • costau gorbenion

Dim ond pan fydd yr hawliwr wedi talu'r gost yn gywir, cyn cyflwyno hawliad, mae costau yn gymwys ar gyfer grant.

Costau Teithio a Chynhaliaeth

Mae costau teithio a chynhaliaeth sy'n ymwneud â darparu'r prosiect yn unig ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau CThEM ar gostau teithio busnes gweithwyr yn gymwys.

Mae costau llety ac unrhyw gostau cynhaliaeth arall yn gymwys, fodd bynnag, nid yw costau cysylltiedig sy'n gysylltiedig ag eitemau fel diodydd alcoholig yn gymwys. Rhaid ystyried yr holl gostau fel rhai rhesymol o ran natur a gwerth (h.y. ddim yn ormodol o ran maint neu gost).

Rydych yn gyfrifol am sicrhau a dangos tystiolaeth eich bod wedi defnyddio'r dull mwyaf effeithiol, rhesymol o ran cost a chynaliadwy o deithio gan ystyried:

  • costau teithio,
  • costau cynhaliaeth,
  • arbed amser swyddogol,
  • ymarferoldeb y daith, ac;
  • y llwybr byrraf i gyrraedd eich cyrchfan busnes

Costau Staff Prosiect Allweddol

Mae costau cyflog staff ar gyfer pobl sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu prosiectau, yn llawn amser neu'n rhan amser, yn gymwys.

Bydd model cyfradd fflat yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu costau staff. Mae cyfraddau ar gyfer swyddi prosiect cyffredin wedi'u cyfrifo yn seiliedig ar gostau cyfeirio, a bydd ar gael i bob prosiect lle mae costau staff yn wariant prosiect cymwys.

Mae'r cyfraddau isod wedi cael eu darparu a'u cadarnhau gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru ac yn seiliedig ar ddadansoddiadau gan ddefnyddio'r 'Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion' (ASHE). Ar gyfer y costau a gyflwynir isod, cymerwyd data o ddata lefel Cymru a gyfrifwyd gan yr is-adran Ystadegau Economaidd ar gyfer y flwyddyn 2020. Mae'r cyfraddau fesul awr wedi cael eu codi i dalu am orbenion. 

Cyfraddau
Swydd Cyfradd fesul awr
Gweithwyr Proffesiynol ym Maes Rheoli Prosiectau Ariannol a Busnes

 £            37.76

Gweithwyr Proffesiynol ym maes Busnes ac Ymchwil Cysylltiedig

 £            28.16

Swyddi Gweinyddol Eraill

 £            17.02

Swyddi Elfennol ym maes Gwaith Llaw, Gweinyddiaeth a Gwasanaethau

 £            16.25

Cyfradd uchaf ac isaf y grant

Y grant mwyaf a roddir yw £50,000 fesul prosiect, a'r grant lleiaf yw £500 fesul prosiect.

Trothwy uchaf y grant

Mae trothwy uchaf y grant / y gyfradd ymyrryd yn dibynnu ar y math o ymgeisydd (gweler y blwch isod).  

Math o Ymgeisydd

 

Ymgeisydd / math o brosiect

Y gyfradd ymyrryd uchaf

Busnes bach neu ganolig sy'n endid micro
Endid micro yw busnes sydd ag unrhyw ddwy o'r nodweddion canlynol: a) trosiant o £632,000 neu lai; b) £316,000 neu lai ar ei fantolen; neu c) deg cyflogai neu lai, ar adeg gwneud cais.

 

80%

Busnes bach neu ganolig nad yw'n endid micro
Busnes bach neu ganolig yw busnes sydd ag unrhyw ddwy o'r nodweddion canlynol: a) trosiant o lai na £36 miliwn; b) £18 miliwn neu lai ar y fantolen; c) 250 cyflogai neu lai, ar adeg gwneud cais.

 

50%

Preifat (nad yw’n fusnes bach neu ganolig)

30%

Preifat – sefydliadau o ddefnyddwyr y môr yn gweithredu ar y cyd (e.e. sefydliad cynhyrchwyr a chymdeithas pysgotwyr ac ati).

75%

Cyrff Cyfraith Gyhoeddus

100%

Prosiectau sydd o fudd i'r cyhoedd drwy rannu canlyniadau. Enghreifftiau o fudd i'r cyhoedd yw prosiectau sy'n cyfrannu at yr uchelgais ar gyfer Cymru Sero Net erbyn 2050 a lliniaru newid hinsawdd. Gallai hyn gynnwys cydweithredu rhwng cyrff cyfraith gyhoeddus, endidau preifat, cyrff trydydd sector ac ati.

 

100%

Cewch wneud cais am swm sy'n fwy na'r uchafswm, ond os yw'n cael ei ddewis, bydd y grant a roddir yn cael ei gapio i'r uchafswm o £50,000.

Adran C: Gofynion Allweddol

Rhaid cwblhau'r gweithgareddau a gwneud y gwariant a hawlio amdano erbyn 31 Mawrth 2024.

Ni fyddai'r brosiect yn mynd yn ei flaen heb gymorth y grant.

Caniatadau a chydsyniadau cynllunio a thrwyddedau

Os oes angen caniatâd cynllunio ar eich buddsoddiad, rhaid ichi fod wedi cael y caniatâd cynllunio angenrheidiol a chadw at unrhyw ofynion statudol perthnasol eraill. Rhaid i ymgeiswyr hefyd sicrhau nad yw eu cynigion yn torri unrhyw is-ddeddfau, yn rhwystro hawliau tramwy ac ati, a rhaid iddyn nhw osgoi peri unrhyw lygredd neu ddifrod i’r amgylchedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn deall, mewn rhai achosion, na fydd modd i ymgeiswyr fod â'r rhain ar waith pan fyddan nhw’n gwneud cais. Felly, yn yr achos hwn, derbynnir ceisiadau cyn cael y cytundebau sydd eu hangen. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol nodi’r cytundebau hyn yn y cais a bydd yn ofynnol eu cael cyn i'r prosiect ddechrau. Bydd methu â sicrhau bod y trwyddedau a'r cytundebau ar waith yn arwain at y grant a gynigir yn cael ei dynnu'n ôl.

Ni thelir unrhyw grant nes bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ac wedi cymeradwyo’r drwydded wreiddiol a/neu ddogfennau cymeradwyo’r cytundeb neu, os yw awdurdod cynllunio o'r farn nad oes angen caniatâd cynllunio, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth gan yr awdurdod cynllunio.

Adran D: Gwneud cais am Gynllun Môr a Physgodfeydd Chymru: Mesurau Marchnata

RPW (Taliadau Gwledig Cymru) Ar-lein

Rhaid i bob ymgeisydd fod wedi'i gofrestru gydag RPW Ar-Lein, gan fod rhaid cyflwyno'r datganiad o ddiddordeb drwy RPW Ar-Lein, a bydd pob gwahoddiad i wneud cais llawn yn cael ei wneud drwy RPW Ar-Lein.

Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, dylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Actifadu arno ichi allu agor cyfrif. Os nad oes gennych y cod hwn, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Dydd Llun – Dydd Gwener 9:00 – 16:00) a rhoi eich Cyfeirnod Cwsmer i’r gweithredydd. Bydd yn anfon Cod Actifadu newydd atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen ichi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Darllenwch ganllawiau RPW Ar-Lein: sut i gofrestru am ragor o fanylion. Mae modd gwneud y rhan fwyaf o newidiadau mae angen eu gwneud i fanylion eich busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru gydag RPW Ar-lein, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw'n gallu rhoi cyngor ichi, gan gynnwys ynghylch y cymorth digidol sydd ar gael ichi.

Cewch ragor o fanylion am RPW Ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru.

Y broses asesu dau gam

Bydd dau gam i’r broses ymgeisio. Datganiad o ddiddordeb a chais llawn.

Os bydd eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei ddewis, byddwch yn cael eich gwahodd i gwblhau cais llawn, a fydd ar gael ar RPW Ar-Lein, a chyflwyno'r holl ddogfennau ategol.

Bydd y datganiadau o ddiddordeb a gyflwynir yn cystadlu yn uniongyrchol â’i gilydd.

Bydd pob datganiad o ddiddordeb yn cael ei asesu am ei werth posibl i economi Cymru a'r graddau mae'r buddsoddiad yn cyflawni Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru; nod y rownd Mesurau Marchnata; a'r potensial ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor y farchnad / sector a/neu y busnes.

Bydd y datganiadau o ddiddordeb â’r sgoriau uchaf yn cael eu dewis yn nhrefn eu teilyngdod nes bod y cyllid sydd ar gael yn y rownd honno wedi cael ei ddyrannu.

Cewch wybod a yw eich datganiad o ddiddordeb wedi cael ei ddewis neu beidio drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Os yw'n cael ei ddewis, bydd y cais yn mynd yn ei flaen i Gam 2, pan fydd angen cyflwyno cais llawn sy'n cynnwys rhagor o fanylion a thystiolaeth ategol.

Cyflwyno datganiad o ddiddordeb

Mae'r ffurflen datgan diddordeb.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau'r ffurflen yn llawn.

Mae'r canllawiau isod yn darparu gwybodaeth am sut i gwblhau adran asesu ar gyfer dewis y datganiad o ddiddordeb, a dylid eu darllen ar y cyd â Chynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Llyfryn Canllawiau Cyffredinol.

Pan fyddwch wedi cwblhau'r datganiad o ddiddordeb, dylech ei gyflwyno drwy eich negeseuon yn eich cyfrif RPW Ar-Lein. Pan fyddwch yn cyflwyno eich datganiad o ddiddordeb, rhowch 'Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru – Marchnata' ar gyfer 'Teitl y neges hon'. Darllenwch 'Ganllawiau RPW Ar-Lein i gwsmeriaid: sut i ddefnyddio negeseuon'.

Asesu datganiadau o ddiddordeb ar gyfer dewis

Bydd datganiadau o ddiddordeb yn cael eu hasesu yn erbyn set o feini prawf dewis, a'u sgorio gan ddefnyddio graddfa 0 – 4; wedyn cân nhw eu lluosi â’r ffactor pwysoli cysylltiedig i roi sgôr derfynol.

Caiff y ceisiadau eu rhoi yn nhrefn eu teilyngdod. Caiff y ceisiadau eu dewis yn eu trefn nes na fydd arian ar ôl neu nes y byddwn wedi cyrraedd uchafswm nifer y ceisiadau. Ni allwn warantu y caiff yr holl arian ei ddyrannu, na chwaith y caiff uchafswm nifer y prosiectau eu dewis ar gyfer Cam 2 y broses – Cyflwyno Cais Llawn.

sod mae’r meini prawf ar gyfer dewis.

Dewis
Adran y Cynllun Prosiect/Busnes sydd i'w hasesu Sgôr

Ffactor pwysoli

Cyweddu Strategol

0 – 4

X 3

Cyflawnadwyedd

0 – 4

X 3

Gwerth am arian

0 – 4

X 4

  • Ni chaiff yr un cais fynd yn ei flaen heb gael sgôr o 20 o leiaf.
  • Byddai sgôr o 0 (sero) am unrhyw faen prawf yn golygu na chaiff y cais ei ystyried ar gyfer y cam nesaf.

Ar gyfer pob maen prawf, bydd yr asesiad yn seiliedig ar yr wybodaeth a’r esboniadau a roddir.

Bydd esboniadau cynhwysfawr sy’n cael eu cefnogi gan enghreifftiau o weithgareddau arfaethedig a manylion ynglŷn â sut bydd y gweithgareddau hynny’n cael eu rheoli yn derbyn sgôr uwch.

Rhoddir sgôr is am esboniadau nad ydyn nhw ond yn ddatganiad syml o fwriad, er enghraifft 'byddwn yn cynnal cyfarfodydd â rhanddeiliaid yn rheolaidd drwy gydol y prosiect'.

Cwestiynau'r datganiad o ddiddordeb a'r meini prawf asesu:

Cyweddu Strategol

Er mwyn i brosiect fodloni gofynion Cyweddu Strategol y cynllun, bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut y bydd y buddsoddiad arfaethedig yn cyfrannu at nodau ac amcanion strategol y rownd gyllido a dangos pam mae angen y buddsoddiad. Bydd angen ichi esbonio sut bydd y buddsoddiad yn gwella perfformiad technegol ac ariannol y busnes a sut bydd y buddsoddiad yn galluogi’r busnes i gynhyrchu mwy mewn ffordd gynaliadwy.

Bydd ymgeiswyr yn cael sgôr uwch os gallan nhw ddangos cysylltiadau clir rhwng y buddsoddiad a'r manteision sy'n cael eu darparu, fel y maen nhw'n cael eu hamlinellu yn nodau'r rownd gyllido berthnasol.

Sgôr

 

4

Rhoddir esboniad clir, gan gynnwys tystiolaeth, o sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun/rownd gyllido mewn modd cynhwysfawr, gan arwain at welliannau sylweddol ym mherfformiad technegol ac ariannol y busnes.

3

Rhoddir esboniad clir a rhywfaint o dystiolaeth sy'n ddangos bod y buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i un neu fwy o amcanion y cynllun / rownd gyllido, ac yn arwain at welliannau sylweddol i berfformiad technegol ac ariannol y busnes.

2

Rhoddir esboniad a rhywfaint o dystiolaeth i ddangos bod y buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i un neu fwy o amcanion y cynllun /rownd gyllido. Mae gwelliant amlwg i berfformiad technegol ac ariannol y busnes.

1

Rhoddir esboniad i ddangos bod y buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i un o amcanion y cynllun, ac yn arwain at fân welliannau neu welliannau gwan i berfformiad technegol ac ariannol y busnes.

0

Ni roddir unrhyw dystiolaeth nac esboniad i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn bodloni amcanion y cynllun.

Cyflawnadwyedd

Er mwyn i brosiect fodloni'r maen prawf Cyflawnadwyedd, bydd rhaid i ymgeiswyr ddangos bod cyflawni'r prosiect yn realistig, a hynny o fewn yr amserlen.

Sgôr

 

4

Rhoddir esboniad clir a thystiolaeth gref yn dangos bod y prosiect wedi cael ei hystyried a'i gynllunio'n drwyadl, bod yr amserlen a roddir y realistig gyda lwfansau wedi'u cynnwys, ac na fydd unrhyw broblemau o ran cyflawni'r prosiect o fewn yr amserlen.

3

Rhoddir tystiolaeth ac esboniadau yn dangos bod amserlenni'r prosiect wedi cael eu hystyried, gan ddangos bod amser ar gyfer llithriant wedi cael ei ystyried ac y gellir cyflawni'r prosiect o fewn yr amserlenni.

2

Rhoddir esboniad a rhywfaint o dystiolaeth yn dangos bod amserlenni'r prosiect wedi cael eu hystyried, ac y gellir cyflawni'r prosiect o fewn yr amserlenni a bennir.

1

Rhoddir tystiolaeth i ddangos dealltwriaeth sylfaenol o amserlenni'r prosiect, ond mae risg uchel na fydd y prosiect, fel y mae wedi cael ei ddisgrifio, yn cael ei gyflawni o fewn yr amserlen a nodwyd ac mae'n annhebygol y bydd yn cael ei gyflawn gan nad yw'r cynllun yn gyflawn.

0

Ni roddir tystiolaeth nac esboniad o'r ffordd y bydd y cynnig yn cael ei gyflawni

Gwerth am arian

Bydd buddsoddiad sy’n cadw neu’n diogelu swyddi presennol yn cael ei ystyried yn ganlyniad cadarnhaol. Hefyd, gallai buddsoddiadau hefyd ddiogelu’r gweithrediadau at y dyfodol, gan sicrhau bod y busnes yn gallu parhau neu ehangu mewn ymateb i bwysau’r farchnad neu bwysau amgylcheddol yn yr oes sydd ohoni neu yn y dyfodol. Dylai ymgeiswyr amlinellu ac egluro sut y gall y grant greu a / neu ddiogelu swyddi, ychwanegu gwerth at gynnyrch neu wasanaeth, gwella canlyniadau amgylcheddol a gwella cynaliadwyedd gweithgareddau'r sefydliad.

Rhoddir sgôr uwch i brosiectau sy’n sbarduno rhagor o fuddsoddiadau mewn gweithgareddau marchnata, pecynnu neu werth ychwanegol. Os yw buddsoddiad yn rhan o gynllun buddsoddi fesul cam, mae angen nodi hynny.

Sgôr

 

4

Rhoddir esboniad clir, gan gynnwys tystiolaeth, o sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes, gan gynnwys creu swyddi newydd. Mae’r buddsoddiad yn diogelu swyddi presennol. Hefyd, bydd yr ymgeisydd yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygu a buddsoddi yn y busnes yn y tymor byr.

3

Rhoddir tystiolaeth gref yn dangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes, gan gynnwys creu swyddi newydd a/neu ddiogelu swyddi presennol. Hefyd, bydd yr ymgeisydd yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygu a buddsoddi yn y busnes yn y tymor canolig.

2

Rhoddir rhywfaint o dystiolaeth yn dangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes. Nid yw’r prosiect yn creu swyddi newydd, ond mae’n diogelu swyddi presennol. Mae rhywfaint o dystiolaeth i ddangos sut bydd y  buddsoddiad yn sbarduno datblygu a buddsoddi posibl yn y busnes yn yr hirdymor.

1

Mae’r dystiolaeth a roddir i ddangos sut bydd y buddsoddiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes yn wan neu’n annigonol. Nid yw’r prosiect yn creu unrhyw swyddi newydd ac nid yw’n diogelu swyddi presennol. Nid yw’r ymgeisydd wedi dangos sut y bydd y buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygu a buddsoddi yn y busnes.

0

Ni roddir unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y buddsoddiad yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes.

Mae tri chanlyniad posibl i'r Cam Datgan Diddordeb:

  1. Nid yw eich cais yn gymwys ar gyfer grant.
  2. Nid yw eich cais wedi cael y sgôr sydd ei hangen i symud ymlaen i'r Cam Cais Llawn.
  3. Mae eich cais wedi bod yn llwyddiannus yn y cam datgan diddordeb a byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno cais llawn.

Os nad yw eich datganiad o ddiddordeb yn bodloni meini prawf y cynllun neu os na chaiff ei ddewis, rhoddir gwybod ichi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.  

Os yw eich datganiad o ddiddordeb yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich hysbysu am y canlyniad hwn drwy eich cyfrif RPW Ar-lein o fewn chwe wythnos.

Fe'ch cynghorir i gael dyfynbrisiau ar gyfer pob eitem neu wasanaeth a gyflwynir gennych ar eich datganiad o ddiddordeb, i sicrhau bod cyfanswm y grant a nodir ar y datganiad yn cynrychioli yn gywir gostau terfynol y prosiect. Os yw eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei ddewis, ni fydd unrhyw grant a roddir yn uwch na'r swm hwnnw a roddir ar eich datganiad.  

Datganiadau o ddiddordeb llwyddiannus – derbyn y cynnig

Os caiff eich datganiad o ddiddordeb ei ddewis, rhoddir gwybod ichi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Rhaid ichi naill ai dderbyn neu wrthod y cynnig drwy lenwi Atodiad y Cais a fydd ynghlwm wrth y llythyr yn eich hysbysu bod eich datganiad o ddiddordeb wedi cael ei ddewis drwy eich cyfrif ar-lein erbyn y dyddiad a fydd wedi’i nodi ar eich llythyr. Bydd y cais llawn yn cael ei ryddhau ichi pan gyhoeddir y llythyr yn eich hysbysu bod eich datganiad o ddiddordeb wedi cael ei ddewis. Bydd y ffurflen gais ar gyfer Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Mesurau Marchnata ar gael ichi yn adran 'Ceisiadau a Hawliau' eich cyfrif ar-lein.

Byddwn yn rhoi nodyn atgoffa ichi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.

Nid yw’r ffaith eich bod wedi cael llythyr yn eich hysbysu eich bod wedi cael eich dewis yn golygu y cewch ddechrau gweithio ar y Prosiect. Ni chewch ddechrau unrhyw waith nes y byddwch yn derbyn contract drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Ni fydd unrhyw brosiect sy’n torri’r rheol hon yn cael ei ystyried ar gyfer cymorth.

Os na fyddwch yn derbyn y cynnig neu os na fyddwch yn ateb Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad a nodir yn y llythyr, ni chaiff eich datganiad o ddiddordeb fynd ymhellach a chaiff y cynnig i’ch dewis ei dynnu’n ôl a chaiff mynediad at y cais llawn ei ddileu.

Datganiadau o ddiddordeb llwyddiannus – cyflwyno cais llawn

Os caiff eich datganiad o ddiddordeb ei ddewis, bydd y cais llawn ar gael yn eich cyfrif RPW Ar-lein. Rhaid i geisiadau llawn fod yn gyson â’r cynnig a amlinellwyd yn y datganiad o ddiddordeb.

Rhoddir 12 wythnos ichi gyflwyno eich cais llawn a'r dogfennau ategol drwy eich cyfrif RPW Ar-Lein.

Yn y cais llawn, bydd angen i ymgeiswyr ateb cwestiynau am:

  • Cyweddu strategaethol
  • Addasrwydd y buddsoddiad
  • Cyflawni’r prosiect
  • Risg a rheoli risg
  • Rheoli'r prosiect
  • Cynaliadwyedd hirdymor
  • Gwerth am arian.

Dyma’r dangosyddion a’r canlyniadau a fydd yn cael eu monitro yn sgil y buddsoddiad:

  • Nifer y swyddi wedi'u creu
  • Nifer y swyddi wedi'u diogelu
  • Nifer y marchnadoedd newydd wedi'u nodi / sicrhau
  • Cynnydd mewn refeniw a / neu werthiannau
  • Nifer yr arolygon/astudiaethau/ymarferion ymchwil i'r farchnad wedi'u cynnal o'u cymharu â blynyddoedd blaenorol.

Bydd y cais hefyd yn gofyn i ymgeiswyr egluro sut y bydd y prosiect yn cyfrannu at Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a'r amcanion llesiant canlynol:

  • Hyrwyddo a chefnogi'r Gymraeg
  • Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol
    • Galluogi canol ein trefni i ddod yn fwy ystwyth yn economaidd drwy helpu busnesau i gydweithredu, cynyddu eu gwasanaethau digidol a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol, gan gynnwys gwasanaethau cludo lleol
  • Cyllid a Llywodraeth Leol
    • Hyrwyddo prynu gwasanaethau a chynnyrch a wnaed yng Nghymru
  • Newid yn yr Hinsawdd
    • Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn
    • Grymuso cymunedau i gymryd rhan fwy mewn adfywio lleol.

Yn ogystal â chwblhau'r cais llawn ar-lein bydd angen ichi gyflwyno'r dogfennau ategol canlynol i'w harfarnu gan Lywodraeth Cymru o fewn 12 wythnos ichi gael eich hysbysu eich bod wedi cael eich dewis:

  • Tair blynedd o gyfrifon ardystiedig
  • Tair blynedd o amcanestyniadau ariannol
  • Tystiolaeth o'r arian cyfatebol sydd ar gael (benthyciad banc, gorddrafft ac ati)
  • Caniatâd cynllunio os yw'n berthnasol ac unrhyw gymeradwyaeth / cydsyniad arall
  • Unrhyw ddyfynbrisiau a gafwyd sy'n rhan o'r cais llawn.

Ar gyfer ceisiadau gan fentrau sy'n llai na thair oed, ystyriedwyd y cyfrifon sydd ar gael.

Ni fydd yr asesiad yn dechrau nes bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cais a’r HOLL ddogfennau ategol. Cewch ddarparu dogfennau a thystiolaeth arall yn ogystal â’r uchod er mwyn cefnogi eich cais.

Arfarnu'r cais llawn

Caiff y cais ei arfarnu yn unol â Chanllawiau’r Cynllun a’r rheolau cymhwysedd. Caiff archwiliadau ac arfarniad llawn o’u diwydrwydd dyledus eu cynnal (os oes angen), a dim ond ar ôl hynny y caiff penderfyniad terfynol ei wneud i gynnig grant neu i wrthod y cais. Nid oes gwarant y caiff cynnig am brosiect ei gymeradwyo ar gyfer grant. Ein nod yw arfarnu’r cais o fewn 90 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgeisio. Gall arfarnu ceisiadau cymhleth gymryd rhagor o amser ac os nad ydych yn ymateb yn brydlon i geisiadau am ragor o wybodaeth caiff y cais ei wrthod.

Sgorio Asesiadau Cam 2

Bydd yr wybodaeth a roddir yn cael ei hasesu ar sail y meini prawf sgorio canlynol ac ar sail hynny y penderfynir rhoi’r cymorth grant neu wrthod y cais:

  • Uchel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl mewn perthynas â’r holl dystiolaeth y gofynnwyd amdani
  • Canolig: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl mewn perthynas â’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnwyd amdani
  • Isel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu annigonol mewn perthynas ag un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnwyd amdani.

Y trothwy ansawdd yw sgôr ganolig ym mhob un o’r categori.

Noder, rydym yn eich cynghori i ddilyn y canllawiau'n ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani gyda'r cais.

Mae dau ganlyniad posibl i asesiad o gais llawn:

 

  1. Nid yw eich prosiect yn gymwys ac nid yw wedi’i gymeradwyo ar gyfer rhoi grant. Byddwn yn eich hysbysu ar eich cyfrif RPW Ar-lein am y rhesymau pam nad yw’ch cais wedi bod yn llwyddiannus. Cewch wneud cais ar gyfer yr un prosiect eto os bydd cyfnodau ymgeisio eraill ar gael yn y dyfodol (gan ddiwygio’r cais os ydych yn dymuno) ond dim ond os nad ydych wedi dechrau ar y gwaith.
  2. Mae eich prosiect yn gymwys ac mae’n cael ei gymeradwyo ar gyfer grant. Bydd contract yn cael ei gyflwyno ichi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein gan nodi telerau ac amodau’r grant. Gofynnir ichi ei dderbyn o fewn 30 niwrnod i ddangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau hynny. Bydd y contract yn rhoi awdurdod ichi ddechrau ar y gwaith. Bydd angen ichi dderbyn neu wrthod y contract o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn y contract o fewn y 30 niwrnod, caiff y contract ei dynnu’n ôl.

Byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y contract.

Caiff manylion llawn eu nodi yn y contract ynghylch pryd y bydd yn rhaid ichi dderbyn y contract a phryd y bydd yn rhaid ichi brynu'r eitemau a hawlio amdanyn nhw.

Os ydych yn derbyn y contract, bydd hefyd yn ofynnol ichi gwblhau proffil cyflawni i gadarnhau gwerth eich hawliadau a phryd y byddwch yn eu cyflwyno.

Ar ôl ichi gael eich dewis, os byddwch yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'ch contract neu os na fyddwch wedi derbyn y cynnig o fewn yr amser a ganiateir, mae'n bosibl na chewch wneud cais i Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru o dan unrhyw rowndiau yn y dyfodol. Os byddwch chi'n dewis gadael y contract cyn cwblhau'r gwaith neu os na fyddwch yn cwblhau'r holl waith a gymeradwywyd yn eich contract, mae'n bosibl na chewch wneud cais o dan unrhyw rowndiau yn y dyfodol.

Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, swm y grant a roddwyd ichi a chrynodeb o’ch prosiect.

Dechrau ar y Gwaith

Ni chewch ddechrau ar unrhyw waith nes bod contract wedi cael ei gynnig ichi. Os byddwch yn dechrau ar unrhyw waith, mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthod y gwaith a wnaed neu ddiddymu’r contract ac adennill unrhyw daliadau a wnaed.

Adran E: Amodau'r Grant

Rhaid ichi gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a roddir ac â chyfraith y DU.

Mae grant o dan Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru yn cael ei gynnig yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich contract, gan gynnwys y rheini a amlinellir isod.  Bydd hyd y contract yn dibynnu ar y rownd gyllido, a bydd yn dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y contract. Gallai methu bodloni telerau ac amodau’r grant arwain at ganslo eich contract a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu ichi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau:

Rhoddir y grant ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais a'r ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Ni chewch ddechrau gweithio ar y prosiect nes y byddwch wedi cael awdurdod ysgrifenedig i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru. Rhaid ichi fod wedi prynu'r offer (os yw'n berthnasol) ac wedi cysylltu ag RPW drwy RPW Ar-Lein neu drwy'r post erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio yn y contract.

Os yw’n dod i’r amlwg bod gwaith wedi cael ei ddechrau cyn derbyn y grant o dan Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Mesurau Marchnata, bydd Llywodraeth Cymru naill ai’n gwrthod y gwaith sydd wedi’i ddechrau ond gadael i’r ymgeisydd fwrw ymlaen â rhan gymwys y cais neu’n gwrthod y cais cyfan.

Mae enghreifftiau o ddechrau gwaith yn cynnwys y canlynol:

  • Llofnodi contract sy'n rhwymo mewn cyfraith (h.y. gyda chyflenwr ac ati).
  • Prynu offer/deunyddiau – a derbyn cyflenwadau ohonyn nhw.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried talu blaendal / ysgwyddo costau mewn cysylltiad â’r cais arfaethedig cyn i'r grant gael ei gymeradwyo yn achos o ddechrau gwaith.

Os na fyddwch wedi cysylltu ag RPW erbyn yr adeg honno, caiff y cynnig grant ei wrthod yn awtomatig.

 Ni chewch newid prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgareddau, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Ni chewch waredu, trosglwyddo na gwerthu offer a brynwyd â chymorth grant yn ystod y prosiect nac am bum mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect heb ganiatâd ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ymlaen llaw. Rhaid ad-dalu’r grant a ddyfarnwyd yn llawn.

Rhaid ichi gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u hamlinellu yn Nodiadau Canllaw'r Cynllun.

Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech wyro oddi wrth yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno drwy ddefnyddio ffurflen Hawlio Grantiau RPW Ar-lein a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen o dan y cynllun.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn y contract. Rhaid ichi beidio â gwyro oddi wrth yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi'i dalu y gellir rhoi'r grant, hynny yw, taliadau sydd wedi clirio o gyfrif banc.

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid ichi gadarnhau nad oes unrhyw eitemau sydd wedi cael eu cynnwys yn y cais yn cymryd lle eitemau dan hawliad yswiriant.

Mae’n rhaid ichi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall i’r prosiect yma (boed hynny o ffynonellau’r UE neu’r DU). Os daw’n amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Fel rhan o'ch cais, bydd angen i chi roi manylion am unrhyw arian cyhoeddus mae eich menter wedi'i dderbyn o fewn y flwyddyn ariannol hon a'r ddwy flynedd ariannol flaenorol.

Rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect.

Mae’n rhaid ichi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Os gofynnir ichi, rhaid ichi roi gwybodaeth iddyn nhw a/neu adael iddyn nhw weld y dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a roddir yn y cais ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig yn ddarostyngedig i God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Diogelu Data 2018.

Os ydych yn cael eich barnu’n euog o 'dor rheolau difrifol (gan gynnwys unrhyw pysgota na hysbysir amdano neu anrheoleiddiedig, neu dwyll) o fewn 12 mis i dderbyn taliad terfynol y grant, mae'n bosibl y byddwn yn ceisio adennill y taliadau a wnaed.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd ichi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae’r wybodaeth a roddir yn y cais yn ddarostyngedig i’r Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran F: Caffael a Thendro Cystadleuol

Rhaid ichi ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a gofynion y Nodiadau Canllaw Technegol ar gyfer Caffael a Thendro Cystadleuol drwy’r canlynol: 

Adran G: Taliadau

Hawliadau

Dim ond drwy ddefnyddio dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-Lein y cewch hawlio grant o dan Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru; gwneir taliadau ar ôl i'ch hawliad gael ei ddilysu. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi cael ei wneud a bod y gwaith wedi cael ei gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn derbyn taliad o gan Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru rhaid ichi:

  • Fod wedi derbyn contract gan Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru o fewn 30 diwrnod iddo gael ei gynnig, a chydymffurfio â’r holl ofynion.
  • Sicrhau mai dim ond yr eitemau sydd wedi'u rhestru yn eich contract y byddwch yn eu prynu, a hynny dim ond ar ôl ichi dderbyn y contract.
  • Sicrhau eich bod wedi prynu'r holl eitemau neu wasanaethau yn unol â'r atodlen yn eich contract.
  • Sicrhau bod yr holl eitemau a gwasanaethau'n cael eu prynu yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.
  • Dylid cyflwyno hawliadau terfynol ar gyfer talu grant drwy'r dudalen Hawlio Contractau yn eich cyfrif RPW Ar-Lein cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau’r gwaith ar y prosiect. Rhaid inni dderbyn pob hawliad terfynol erbyn 31 Mawrth 2024 fan bellaf, er mwyn i Lywodraeth Cymru wneud y taliad. Os byddwch yn methu â chyflwyno hawliadau, efallai y bydd y grant a dalwyd hyd hynny yn cael ei adennill.
  • Byddwn yn anfon hyd at ddau nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.
  • Cyflwyno anfonebau ar gyfer pob eitem sy’n destun hawliad.
  • Cyflwyno tystiolaeth bod y gwariant wedi cael ei wneud ar gyfer pob eitem sy’n destun hawliad.
  • Cyflwyno tystiolaeth bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi os oes ei angen.

Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn hawliad dilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno drwy’r dudalen Hawlio Contractau ynghyd â'r holl ddogfennau ategol.

Dogfennau Ategol

Mae’n rhaid ichi gyflwyno anfoneb ar gyfer pob eitem yn eich contract.

Mae’n rhaid ichi gyflwyno cyfriflenni banc fel tystiolaeth bod gwariant wedi’i wneud ar gyfer pob eitem o offer yn eich contract.

Gallwch gyflwyno’r anfonebau a’r cyfriflenni banc drwy eu sganio a’u hanfon drwy 'Fy negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein.

Ni fydd taliad yn cael ei wneud os oes tystiolaeth annigonol wedi cael ei darparu.

Hawliadau anghywir a chosbau

Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir, nad yw ond ar gyfer gwariant sydd wedi’i wneud (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys a bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno yn brydlon.

Mae’n rhaid i’r holl fuddsoddiadau a gymeradwywyd fod wedi eu cwblhau ar ôl derbyn y contract.

Mae eich hawliad yn anghywir yn yr achosion canlynol:

  • Rydych wedi prynu eitemau neu wasanaethau cyn ichi dderbyn y contract.
  • Nid ydych wedi prynu'r holl eitemau neu wasanaethau a restrir yn y contract.
  • Nid ydych wedi cyflwyno hawliad ynghyd â'r dogfennau ategol erbyn y dyddiad ar gyfer hawlio.

Os yw’r hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei leihau i’r swm sy'n gymwys, a bydd y grant sydd i’w dalu yn cael ei gyfrifo yn unol â hynny.

Os oes gennych unrhyw amheuon am unrhyw beth y bydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect, mae'n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig ei bod yn gymwys cyn ichi ysgwyddo’r costau.

Adran H: Newidiadau i Reolau’r Cynllun

Newidiadau i’r Ddeddfwriaeth (gan gynnwys Dehongliadau Newydd)

Mae deddfwriaeth yn cael ei newid o dro i dro a bydd angen ichi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanyn nhw.

Newidiadau i Reolau neu Gontract y Cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen inni newid rheolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen inni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y rhaglen. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran I: Rheoli, Monitro a Chadw Cofnodion

Mesurau Rheoli

Rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru.

Mae'n bosibl y bydd eich hawliad yn cael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud – cyn i'r grant gael ei dalu ichi neu wedyn.

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad yn cael eu gwirio.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau y bydd yr ymweliadau’n tarfu arnoch cyn lleied â phosibl, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu fethu rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod eich talu, gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu ichi yn ôl a gallech gael eich erlyn.

Monitro a gwerthuso

Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect.

Mae’n rhaid ichi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio’r eitemau (lle bo hynny'n berthnasol) a brynwyd yn ystod y pum mlynedd hyn, ac i gael mynediad at y gwaith papur cysylltiedig e.e. anfonebau, tystysgrifau, caniatadau ac ati.

Bydd ymweliadau â safleoedd canran o’r prosiectau a gymeradwywyd yn cael eu cynnal o fewn pum mlynedd i wneud y taliad terfynol, er mwyn sicrhau bod y busnes yn perfformio yn ôl y disgwyl.

Rydych yn cytuno i gydweithredu ag unrhyw gwerthusiad ôl-weithredu o'r prosiect ac o'r cynllun yn ei gyfanrwydd.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid ichi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am chwe blynedd.

Bydd yn ofynnol ichi hefyd:

  • Roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich contract o dan Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru, a darparu'r wybodaeth honno o fewn yr amserlen a bennir gan Lywodraeth Cymru
  • Rhoi mynediad i Lywodraeth Cymru, ei phersonau ag awdurdodiad a’i hasiantwyr, at gofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur sy’n ymwneud â’ch contract o dan Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru.
  • Caniatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfennau neu gofnodion i wneud copïau neu i godi darnau ohonynt.

Adran J: Y Drefn Apelio a Chwyno

Y Drefn Apelio

Nid oes sail dros apelio yn y cam datgan diddordeb. Bydd unrhyw apeliadau a gyflwynir yn cael eu ffeilio heb gymryd unrhyw gamau.

Os ydych am apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch eich cais llawn, yna mae rhaid cyflwyno apeliadau ynghyd â thystiolaeth ategol, drwy RPW Ar-Lein o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr, gan amlinellu'r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Nid ystyrir amgylchiadau arbennig neu anghytundeb ynghylch meini prawf cymhwysedd y cynllun yn sail ar gyfer apelio.

Swyddog/swyddogion nad oedden nhw'n rhan o wneud y penderfyniad gwreiddiol a fydd yn ystyried yr apêl.

Bydd swyddog yr apêl wedyn yn gwneud y penderfyniad terfynol ac yn hysbysu'r apelydd am y canlyniad, ynghyd â'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

Mae croeso ichi ohebu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr yn y Gymraeg os mai dyna yw’r iaith sy’n well gennych ei defnyddio.  Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Y Drefn Gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn ar gael gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
 

CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg 

E-bost: complaints@llyw.cymru    

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ
Ffôn 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

Adran K: Hysbysiad Preifatrwydd: Cymorth Ariannol gan Lywodraeth Cymru

Sut byddwn yn trin unrhyw ddata personol a roddir gennych mewn perthynas â'ch cais am gyllid grant

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrediad eang o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych mewn perthynas â'ch cais am gyllid grant. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid ac i weinyddu'r grant.

Cyn inni roi cyllid ichi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod rhoi'r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid rydych chi eisoes yn ei dderbyn.

Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.

Er mwyn asesu cymhwysedd, efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais â'r canlynol.

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Y Sefydliad Rheoli Morol
  • Gweinyddiaethau Môr a Physgodfeydd eraill y DU
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion derbynwyr grantiau, faint maen nhw wedi'i dderbyn ac enw'r busnesau ar gofrestr tryloywder pan fydd yn ofynnol inni wneud hynny, er enghraifft, o dan Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am saith mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, ac mae pob taliad wedi'i wneud. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol amdanoch mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw
  • gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn inni 'ddileu' eich data (o dan rai amgylchiadau)
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Neu i gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y GDPR (y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data), defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD

CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru 

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan : https://ico.org.uk/ 

Adran L: Y Ddeddfwriaeth

Mae Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 yn creu ac yn pennu telerau Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru. Gwnaed y Rheoliadau hyn o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymorthdaliadau

Ers gadael awdurdodaeth reoleiddiol yr UE, mae gwario ar bysgodfeydd a'r rhan fwyaf o feysydd cysylltiedig wedi gorfod cydymffurfio â chytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar gymorthdaliadau a'r mesurau gwrthbwysol, a rhwymedigaethau'r DU o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA) rhwng y DU a'r UE.

Derbyniodd Deddf Rheoli Cymorthdaliadau Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2022. Bydd hon yn pennu'r rheolau ar gyfer cymorthdaliadau pan fydd yn dod i rym.

Gwnaeth Sefydliad Masnach y Byd gytundeb newydd i wahardd rhai cymorthdaliadau ar gyfer pysgota ym mis Mehefin 2022. Pan fydd wedi dod i rym ni fydd Llywodraeth Cymru yn cael darparu cyllid ar gyfer pysgota stociau sydd wedi cael eu gorbysgota. Gwaherddir rhoi cymorthdaliadau i unrhyw un sy'n cael eu dal yn cynnal gweithgareddau pysgota anghyfreithlon, anrheoleiddiedig ac na hysbysir amdano.

Mae gwahanol ofynion tryloywder ar gyfer adrodd i Sefydliad Masnach y Byd, y Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau, cytundebau rhyngwladol eraill fel y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar gyfer pobl cytundeb masnach. Mae'n bosibl y bydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi ar gofrestr o dderbynwyr arian cyhoeddus os yw'r cyllid yn bodloni'r meini prawf ar gyfer gwneud hynny.

Adran M: Cysylltiadau

Ymholiadau – y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch gyflwyno gwestiynau dwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad i swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Wedyn bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud pob ymdrech i ddiwallu eich anghenion.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y Môr a Physgodfeydd, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.