Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi

Mae’r dogfennau tendro a’r hysbysiad contract ar gyfer ein fframwaith gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi newydd bellach yn fyw ar GwerthwchiGymru yn dilyn mewnbwn gan gwsmeriaid a chydweithwyr polisi.

Rydym yn bwriadu gwerthuso'r ceisiadau yn gynnar yn 2023. Os hoffai cydweithwyr sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gymryd rhan yn y broses werthuso er mwyn sicrhau bod y fframwaith yn cyd-fynd â'ch anghenion a'ch gofynion, e-bostiwch: CommercialProcurement.PeopleCorporate@gov.wales

Ymgyrchoedd marchnata integredig a chysylltiadau cyhoeddus

Mae cyflenwr ar ein fframwaith (REF: NPS-CS-107-20) wedi newid ei enw o BrandContent Ltd i The Folk Group Ltd. Mae dogfennau canllaw ar GwerthwchiGymru yn adlewyrchu'r newidiadau hyn.