Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022.

Effaith y coronafeirws

Mae’r amcangyfrifon yma yn cwmpasu’r cyfnod Gorffennaf i Fedi 2022 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer y cyfnod Hydref 2021 i Fedi 2022.

Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddi i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.

Prif bwyntiau

Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Gorffennaf 2000 i Medi 2022

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart llinell yn dangos y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 2000. Cynyddodd pob un o’r tri mynegai ar gyfer Cymru yn flynyddol; y pedwar chwarter diweddaraf (Hydref 2021 i Fedi 2022). Yn chwarterol, dangosodd y mynegai adeiladu gynnydd tra bod gwasanaethau marchnata a chynhyrchu yn dangos gostyngiadau. Mae hyn yn dilyn cyfnod o newid gyda’r gostyngiadau chwarterol mwyaf ar gofnod ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).

Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mynegai Gwasanaethau Marchnata

  • Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 4.3% yng Nghymru a chynnydd o 6.8% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2022, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
  • Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn chwech allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.
  • Mae’r Mynegai Gwasanaethau Marchnata ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 0.6% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 0.2%, dros yr un cyfnod.

Mynegai Cynhyrchu

  • Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 1.5% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 3.2% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2022, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
  • Mae’r Mynegai Cynhyrchu ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 4.5% o’i gymharu â’r chwarter blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 2.5% dros yr un cyfnod.

Mynegai Adeiladu

  • Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 10.2% ar gyfer Cymru a chynnydd o 5.3% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2022, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
  • Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 1.5% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un blaenorol. gostyngodd allbwn y DU 0.2% dros yr un cyfnod.

Adroddiadau

Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Gorffennaf i Fedi 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 704 KB

PDF
Saesneg yn unig
704 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Alex Fitzpatrick

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.