Neidio i'r prif gynnwy

Yn ddiweddarach heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb ddrafft, a fydd yn cynnwys cyllid i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn parhau i gael y cyflog byw gwirioneddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yn cyhoeddi cyllid cylchol o tua £70 miliwn i gyflawni’r ymrwymiad, fel rhan o Gyllideb a fydd yn blaenoriaethu’r gwaith o ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen.

Bydd awdurdodau lleol a byrddau iechyd Cymru yn cael y swm amcangyfrifedig o £70 miliwn fel y gallant weithredu’r cynnydd i’r cyflog byw gwirioneddol – i £10.90 yr awr – y bydd gweithwyr yn cael budd ohono erbyn mis Mehefin 2023.

Mae’r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyfrifo’n annibynnol gan y Resolution Foundation ac yn cael ei oruchwylio gan y Comisiwn Cyflog Byw. Bydd y cynnydd yn berthnasol i weithwyr cofrestredig mewn cartrefi gofal ac ym maes gofal cartref, yn y gwasanaethau i oedolion a phlant. Bydd hefyd yn cynnwys cynorthwywyr personol sy’n darparu gofal a chymorth a ariennir drwy daliad uniongyrchol.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:

“Er gwaethaf y cyd-destun economaidd a chyllidol heriol, rydyn ni’n gwbl ymroddedig o hyd i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu’r gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw.

“Rwy’n falch o allu cynnal ein hymrwymiad i weithwyr gofal cymdeithasol, a bydda i’n dweud rhagor am sut y byddwn yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus pan fydda i’n cyhoeddi manylion llawn y Gyllideb yn ddiweddarach heddiw.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Roedden ni’n falch o allu darparu cyllid ychwanegol yng nghyllideb y llynedd i sicrhau cynnydd i gyflogau staff gofal cymdeithasol ledled Cymru, sef cynnydd yr oedd ei ddirfawr angen. Bydd y cynnydd pellach hwn yn helpu i hwyluso’r gwaith o recriwtio a chadw staff.

“Mae gofal cymdeithasol yn dal i wynebu pwysau sylweddol. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio tuag at wella telerau ac amodau cyflogaeth i’r sector.”

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol:

“Mae’r cyflog byw gwirioneddol yn gwneud gwahaniaeth o ddifrif ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi’r gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf, gan roi rhywfaint o amddiffyniad iddyn nhw rhag y cynnydd mewn costau byw. Rwy’n falch ein bod ni’n parhau â’n hymrwymiad i’r cyflog byw gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol, fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i waith teg.”