Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Penodwyd Carreg Las, mewn partneriaeth â Loxley Consultancy, i gynnal gwerthusiad terfynol o Welliannau Gorsaf Llandaf a Radur.

Mae Gwelliannau Gorsaf Drenau Llandaf a Radur yn elfen allweddol yng Ngham 1 o’r Rhaglen Gwella Gorsafoedd Metro (RhGGM), sy’n rhan o Raglen Metro De Cymru, sydd bellach yn ei hail gam. Ariennir y gweithrediad yn rhannol gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd trwy Raglen Weithredol Dwyrain Cymru ERDF, gan gyfrannu:

  • tuag at darged allbwn Blaenoriaeth 4 Creu neu wella cyfleusterau rhyngfoddol.
  • amcan Penodol 4.1 Cynyddu symudedd trefol a llafur i ac o ganolfannau trefol a chyflogaeth allweddol, yn ogystal â'r Themâu Trawsbynciol.

Cynhaliwyd y gwerthusiad rhwng Hydref 2021 a Mawrth 2022, dair blynedd ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu yn 2018.

Adolygu polisi

Cyd-destun

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ers tro bod angen gwella gorsafoedd trenau ledled Cymru gan fod mynediad gwael, cyfleusterau aros diolwg, a’r canfyddiad o ddiffyg diogelwch i gyd yn rhwystrau i’r cynnydd yn y nifer sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Nod y strategaethau a ddatblygwyd i fynd i'r afael â'r anghenion hyn yw darparu etifeddiaeth barhaus, gan gyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor o ran cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ar gyfer cymudo yn ogystal â theithiau eraill.

Perthnasedd i Strategaeth Drafnidiaeth Cymru

Roedd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (Mawrth 2010) yn nodi fframwaith polisi a dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer creu system drafnidiaeth integredig i gyflawni agenda “Cymru’n Un” y Llywodraeth. Ochr yn ochr â'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol mae'r strategaeth yn blaenoriaethu hygyrchedd (ee, bordio (mynd ar y trên) ar lefel mwy gwastad), darpariaeth ar gyfer beiciau a mesurau i wella nid yn unig seilwaith gorsafoedd, ond hefyd cyfnewidfeydd â dulliau trafnidiaeth eraill.

Mae’r gwelliannau i orsafoedd a ariennir gan ERDF yn Radur a Llandaf yn elwa o synergedd â’r rhaglen Mynediad i Bawb, sy’n hefyd yn cefnogi gwelliannau hygyrchedd gorsafoedd sy'n darparu gwerth ychwanegol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod manteision y rhaglenni hyn ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i gryfhau’r ddarpariaeth o seilwaith tebyg drwy gyfrwng Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021.

Perthnasedd i polisïau a strategaethau cenedlaethol eraill Llywodraeth Cymru

Mae’r cynlluniau gwella gorsafoedd yn cyd-fynd yn dda â’r polisïau rhyngberthynol sydd wedi’u crynhoi yn y Rhaglen Lywodraethu “Symud Cymru Ymlaen 2016-2021”, sy’n nodi’r prif ymrwymiadau mewn cyd-destun hirdymor i osod y sylfeini ar gyfer sicrhau ffyniant i bawb (Llywodraeth Cymru: Ffyniant i Bawb, Y Strategaeth Genedlaethol, 2016).

Mae’r dull gweithredu yn ymgorffori’r cysyniadau sydd wedi’u hymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, 2015 sy’n anelu at wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Yn benodol, sefydlodd y Ddeddf saith nod llesiant er mwyn creu: Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sy’n ffyniannus, yn gydnerth, yn iachach, yn fwy cyfartal, yn gydlynol, â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

Sefydlodd 'egwyddor datblygu cynaliadwy' y Ddeddf nodau sy'n sail i gamau gweithredu ERDF ledled Cymru ac sy'n dylanwadu ar amcanion y Thema Trawsbynciol (ThT) pob gweithrediad. Ymhlith amcanion ThT mae hyrwyddo'r Gymraeg yn unol â Strategaeth Iaith Gymraeg y Llywodraeth: Cymraeg 2050. Mewn ymateb, mae'r gwelliannau i orsafoedd yn ymgorffori camau gweithredu sy'n sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Themâu trawsbynciol ERDF

Yn unol â rheoliadau ERDF a Pholisi LlC, mae’r gweithrediad yn integreiddio ystod o ganlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a llesiant trwy roi sylw i gamau gweithredu ThT sy’n canolbwyntio ar yr hyn a ganlyn:

  • cyfle cyfartal/prif ffrydio rhyw
  • datblygu cynaliadwy
  • mynd i'r afael â thlodi ac allgau cymdeithas
  • yr iaith Gymraeg

Mae dull gweithredu Trafnidiaeth Cymru (TC) tuag at gyflawni seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy yn dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd gweithgareddau sy’n cefnogi amcanion ThT a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Methodoleg

Dull gweithredu / ymagwedd gyffredinol

Wrth ddatblygu methodoleg werthuso, rydym wedi bod yn ymwybodol bod gwaith a gefnogir o dan ERDF yn rhan o’r RhGGM ehangach a phwysigrwydd gwahaniaethu rhwng yr hyn a ariannwyd drwy Raglen Mynediad i Bawb Llywodraeth y DU, a oedd yn cynnwys gwell mynediad i deithwyr â symudedd cyfyngedig. Mae ein dull gweithredu, felly, wedi cynnal adolygiad cyfannol o'r gwelliannau i orsafoedd, gan nad yw canfyddiadau defnyddwyr y rheilffyrdd yn debygol o wahaniaethu rhwng yr elfennau ar wahân a adeiladwyd yn ystod yr un cyfnod.

Rydym yn ymwybodol o’r ffaith bod Gwelliannau i Orsaf Drenau Llandaf a Radur ar y gweill cyn i ni ofyn am gyllid ERDF ac rydym wedi addasu canllawiau arfer gorau yn ein dull gweithredu i gynnwys:

  • ymchwil desg o’r dogfennau polisi sydd ar gael a llenyddiaeth sy'n ymwneud â'r gweithrediad er mwyn sefydlu dealltwriaeth lawn o'r prosiect ac i gefnogi dadansoddiad;
  • asesiadau o ddarpariaeth trwy gyfrwng ymweliadau safle, sy'n bwydo i mewn i'r gwerthusiad o effaith a chyflawniad amcanion;
  • gwaith maes, yn cynnwys trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol ac arolwg o ddefnyddwyr gorsafoedd i ganfod canfyddiad o’r gweithrediad i ddilysu amcanion, gwerth a disgwyliadau’r fenter.

Mae'r dull gweithredu o gasglu data wedi defnyddio cyfuniad o ddulliau ansoddol a meintiol. Yn benodol, mae data meintiol wedi'i dynnu o ystadegau swyddogol (ee, Swyddfa'r Rheoleiddiwr Rheilffyrdd) i gefnogi dadansoddiad hydredol. Yn seiliedig ar hyn mae data cynradd a gasglwyd yn y gwerthusiad (trwy arolwg ar-lein) i ddarparu canfyddiadau ansoddol penodol o ddefnyddwyr gorsafoedd.

Mae’r arolwg ar-lein yn ymateb i’r angen i osgoi cyfweliadau wyneb yn wyneb mewn gorsafoedd oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

Canfyddiadau

Ar y cyfan, mae'r gweithrediad wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran bodloni amcanion a nodir yn y Cynllun Busnes.

Amcan 4.1 Cynyddu symudedd trefol a llafur i ac o ganolfannau trefol a chyflogaeth allweddol

Yn seiliedig ar y data defnydd crai mae'n amlwg y bu cynnydd cyson mewn symudedd i ac o ganolfannau trefol a chyflogaeth allweddol sy'n gysylltiedig â'r gorsafoedd, a allai gael ei briodoli i ddarpariaeth gwasanaeth mwy deniadol.

Defnyddiodd y gwerthusiad ddata tocynnau ar gyfer gorsafoedd Llandaf a Radur i ddangos effaith tymor byr y gwelliannau (a welwyd yn 2018 a 2019). Roedd y defnydd o orsafoedd yn cynyddu’n araf cyn y gwelliannau i orsafoedd (e.e., 0.5% yn Llandaf yn 2016-17 a 4.8% yn Radur. Parhaodd y defnydd o orsafoedd i dyfu yn ystod y cyfnod adeiladu (ee, yn Llandaf o 2.9% yn 2017-18) a Radur o 7.4%).

Parhaodd y twf ar ôl cwblhau, yn Llandaf 5.3% yn 2018-19 a Radur o 5.3%. Er mwyn cymharu, dim ond 0.4% y bu i’r nawddogaeth ar draws Cymru gyfan godi yn 2018-19.

Mae canllawiau gweithio o gartref Covid-19 wedi atal unrhyw ddadansoddiad dibynadwy ar gyfer nawddogaeth rheilffyrdd 2020 a 2021. Arhosodd y ffigurau ar gyfer nawddogaeth rheilffyrdd sydd ar gael yn gryf er gwaethaf effaith rheolau gweithio gartref a chyfnodau clo Covid-19, gyda chwympiadau yn y ddwy orsaf yn cyd-fynd yn fras â’r gostyngiad cenedlaethol o 4.4% (2019-20).

Blaenoriaeth 4 Creu neu wella cyfleusterau rhyngfoddol

Mae'r gweithrediad wedi creu a gwella seilwaith yng ngorsafoedd Llandaf a Radur, gan wneud y cyfraniad disgwyliedig at amcanion Blaenoriaeth 4 Rhaglen Weithredol ERDF Dwyrain Cymru. Yn benodol, mae’r gweithrediad a’r gwaith Mynediad i Bawb wedi darparu:

  • llochesi platfform
  • TCC a goleuadau ychwanegol
  • swyddfeydd tocynnau gwell
  • gwell mynediad i draffig, mannau parcio ceir a mannau codi teithwyr
  • cyfleusterau beicio ychwanegol
  • 187 o leoedd Parcio a Theithio
  • arwyddion a byrddau gwybodaeth newydd
  • pontydd a lifftiau

Mae ansawdd y gwelliannau i orsafoedd yn glir i'w weld yn seiliedig ar arsylwi'r cyfleusterau a chymariaethau â thystiolaeth ffotograffig cyn-gwelliannau. Ategir hyn gan farn defnyddwyr y rheilffyrdd.

Bodlonrwydd gyda gwelliannau i orsafoedd

Cynhyrchodd yr arolwg ar-lein o 644 o ddefnyddwyr rheilffyrdd 96 o ymatebion (51 yn Llandaf a 45 yn Radur). Mae hyn yn cynrychioli cyfradd ymateb o 14.91%. Roedd y mwyafrif (67.72%) yn defnyddio'r gorsafoedd yn aml (h.y., mwy na dwywaith yr wythnos), yn bennaf i gymudo i'r gwaith neu addysg (76.84%).

Mae'r cysyniad dylunio ar gyfer llochesi ar blatfform wedi cael derbyniad da ar y cyfan. Fodd bynnag, mae natur anorffenedig amddiffyniad rhag tywydd gwael, yn enwedig yng ngorsaf Llandaf lle’r oedd 62.75% yn anfodlon (N = 32) yn parhau i fod yn bryder, oherwydd ni chafwyd caniatâd cynllunio i dynnu’r hen strwythur, felly mae’r ardal o amgylch y lloches honno yn anhygyrch ac yn hyll.

Ar y cyfan, mynegodd ymatebwyr lefelau gweddol uchel o foddhad (47.37% N = 45) â diogelwch personol yn yr orsaf (ee teledu cylch cyfyng) , gyda dim ond 3.16% yn anfodlon (N = 3). Mae'n amlwg bod y gwelliannau teledu cylch cyfyng arwahanol yn cael eu croesawu, ond nid yw rhai wedi sylwi arnynt. Roedd yr agwedd gysylltiedig ar oleuadau a diogelwch yn denu lefelau gweddol uchel o foddhad (66.67% N = 64).

Mynegodd yr ymatebwyr lefelau uchel o foddhad gyda mynediad i'r swyddfa docynnau a pheiriannau tocynnau (85.42%), gyda chanmoliaeth i'r staff o dan sylw.

Roedd gan y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (65.62%) farn niwtral / dim barn ar y storfa beiciau, sy’n adlewyrchu’r nifer isel o ymatebwyr (2.08%) sydd fel arfer yn beicio i’r orsaf drenau.

Mae'r gwaith o osod wyneb newydd ar gyfleusterau parcio ceir a gwell cylchrediad traffig yn y gorsafoedd yn amlwg yn llwyddiant o safbwynt defnyddwyr y rheilffyrdd. Yn gyffredinol, mynegodd ymatebwyr lefelau uchel iawn o foddhad gyda Pharcio a Theithio yn y ddwy orsaf (76.05% N = 73).

Mae arsylwi arwyddion ar y safle yn cadarnhau ei fod o ansawdd priodol ac yn y fformat amlieithog safonol. Yn gyffredinol mynegodd ymatebwyr lefelau uchel o foddhad (63.83% ), fodd bynnag, mynegwyd anfodlonrwydd â gwybodaeth teithio ac arwyddion electronig yn gryfach yng ngorsaf Llandaf (29.41% N = 15).

Mynegodd ymatebwyr lefelau uchel o foddhad gyda mynediad gwastad i'r orsaf ac oddi mewn iddi (71.87% N = 69), er bod dibynadwyedd y lifftiau yn bryder.

Mae'r Adroddiad Terfynol yn cynnwys sylwadau manwl ar agweddau penodol lle mae cyfleusterau'n cael eu gwerthfawrogi'n arbennig, neu y gellid eu gwella ymhellach.

Casgliadau

Mae'r gwerthusiad wedi canfod tystiolaeth bod gweithrediad Gwella Gorsaf Drenau Llandaf a Radur wedi llwyddo i gyflawni'r holl ymrwymiadau a amlinellwyd yn y Cynllun Busnes, gan gynnwys yr amcanion penodol (SO4.1 EW), dangosyddion allbwn perthnasol a dangosyddion canlyniadau. Yn benodol, rydym yn canfod yr hyn a ganlyn:

  • mae'r gwelliannau seilwaith yn cyfrannu at greu neu wella 2 gyfleuster rhyngfoddol tuag at darged allbwn cyffredinol y Rhaglen.
  • mae data defnydd y rheilffyrdd yn dangos bod cynnydd cyson wedi bod mewn symudedd i ac o ganolfannau trefol a chyflogaeth allweddol sy’n gysylltiedig â’r gorsafoedd, a allai gael ei briodoli i ddarpariaeth gwasanaeth mwy deniadol, sy’n cyflawni Amcan Penodol 4.1: Cynyddu symudedd trefol a llafur i ac o ganolfannau trefol a chyflogaeth allweddol.
  • mae defnyddwyr yr orsaf yn gwerthfawrogi'r gwelliannau i'r orsaf yn fawr, ar y cyfan.
  • mae gweithgareddau ThT wedi'u cynnal yn effeithiol ac wedi'u gwreiddio mewn arferion contractwyr gan sicrhau bod y themâu trawsbynciol, y nodau, yr amcanion a'r dangosyddion sy'n ymwneud â ThT a amlinellir yn y Cynllun Busnes yn cael eu cyflawni.
  • mae gwelliannau i orsafoedd ERDF wedi elwa o synergedd â'r rhaglen Mynediad i Bawb.

Mae rheolaeth prosiect y gwaith wedi mynd yn dda ac wedi arwain at wersi defnyddiol ar gyfer mentrau yn y dyfodol.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Carreg Las, a Loxley Consultancy

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso
Ebost: rme.mailbox@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 78/2022
ISBN digidol 978-1-80535-119-1

Image
GSR logo