Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol blynyddol hwn yn cyflwyno ffigurau am weithgarwch gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar draws Cymru.

Mae'r Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru a gyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2020 wedi cyflwyno fframwaith perfformiad a gwella newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Roedd yn manylu ar set o fetrigau data o dan yr adran 'Mesur Gweithgarwch a Pherfformiad' i'w darparu gan awdurdodau lleol. Dyma'r eildro i'r metrigau hyn gael eu casglu a'u cyhoeddi.

Mae data 2021-22 yn seiliedig ar ganllawiau manwl er mwyn ceisio sicrhau cydlyniant o fewn ac ar draws awdurdodau lleol.

Mae'r data sydd wedi'i gynnwys yn y datganiad hwn ynghyd â gwybodaeth bellach ar gyfer awdurdodau lleol unigol yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Oedolion

Yn ystod y flwyddyn 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022

  • Cafwyd 148,067 o gysylltiadau gan wasanaethau cymdeithasol statudol ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth (IAA) i oedolion nad oeddent yn cael gofal a chymorth, na chymorth (fel gofalwr) ar adeg y cyswllt.
  • Cafodd 70,884 o asesiadau newydd eu cwblhau ar gyfer oedolion oedd heb gynllun gofal a chymorth eisoes. Lle’r oedd y rhain wedi’u cofnodi, daeth 50% o asesiadau i'r casgliad bod gan yr oedolyn anghenion cymwys y gellid eu diwallu heb gynllun gofal a chymorth. [troednodyn 1]
  • Cwblhawyd 9,789 o becynnau ail-alluogi gan oedolion [troednodyn 2]. Lle'r oedd yn hysbys, roedd 90% o’r pecynnau a gwblhawyd wedi lleihau, cynnal neu lliniaru'r angen am gymorth yn dilyn y cyfnod o ail-alluogi. [troednodyn 3]
  • Derbyniwyd 21,463 o adroddiadau am oedolion yr oedd amheuaeth eu bod yn wynebu risg. Lle darparwyd categori’r cam-drin honedig, roedd 31% o’r adroddiadau am gam-drin honedig o dan y categori esgeulustod (gellir cynnwys mwy nag un categori amheuaeth mewn adroddiad). [troednodyn 4]
  • Fe wnaeth 13,359 (62%) o’r adroddiadau am oedolion yr oedd amheuaeth eu bod yn wynebu risg arwain at wneud ymholiadau. Cafodd 84% o’r ymholiadau eu cwblhau o fewn saith diwrnod gwaith. Penderfynwyd y dylid cymryd camau ychwanegol ar sail 4,299 (32%) o’r ymholiadau.

Ar 31 Mawrth 2022

  • Roedd gan 50,640 o oedolion gynllun gofal a chymorth [troednodyn 5]. Roedd gan 11% o'r rheini gynllun gofal a chymorth a oedd yn cael ei gefnogi drwy ddefnyddio Taliad Uniongyrchol.

Plant

Yn ystod y flwyddyn 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022

  • Cafwyd 209,008 o gysylltiadau gan wasanaethau cymdeithasol statudol ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth (IAA) i blant nad oeddent yn cael gofal a chymorth ar adeg y cyswllt.
  • Cafodd 46,685 o asesiadau newydd eu cwblhau ar gyfer plant [troednodyn 2]. Lle’r oedd y rhain wedi’u cofnodi, daeth 60% o asesiadau i'r casgliad bod gan y plentyn anghenion cymwys y gellid eu diwallu heb gynllun gofal a chymorth. [troednodyn 6]
  • Cafodd 83% o’r asesiadau newydd a gwblhawyd ar gyfer plant eu cwblhau o fewn yr amserlen statudol, sef 42 diwrnod gwaith o'r pwynt cyfeirio [troednodyn 7]. O’r 19 awdurdod lleol a ddarparodd ddata tebyg roedd hyn yn amrywio o 45% yng Nghaerdydd a 53% ym Mro Morgannwg i bron i 100% yn Sir Benfro gyda chwe awdurdod arall yn 90% neu uwch.
  • Cafodd 3,670 o blant eu rhoi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Ychwanegwyd 41% o dan y categori cam-drin emosiynol. Cafodd 3,470 o blant eu tynnu oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. [troednodyn 2]
  • Fe wnaeth 301 o’r rhai a adawodd ofal brofi digartrefedd (fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014). [troednodyn 2]

Ar 31 Mawrth 2022

  • Roedd gan 19,668 o blant gynllun gofal a chymorth. Roedd gan 7% o’r rheini gynllun gofal a chymorth a oedd yn cael ei gefnogi drwy ddefnyddio Taliad Uniongyrchol.
  • Roedd 2,932 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.
  • Roedd 7,080 o blant yn derbyn gofal (ac eithrio'r rhai oedd yn derbyn gofal drwy gyfres o seibiannau byr yn unig). [troednodyn 8]

Gofalwyr

Yn ystod y flwyddyn 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022

  • Cafodd y gwasanaethau cymdeithasol statudol 8,613 o gysylltiadau gan ofalwyr sy’n oedolion nad oeddent yn cael cymorth (fel gofalwr) ar adeg y cyswllt, neu weithwyr proffesiynol yn cysylltu â'r gwasanaeth IAA ar eu rhan.
  • Cafodd 7,341 o asesiadau newydd eu cwblhau ar gyfer gofalwyr sy'n oedolion.
  • Cafodd y gwasanaethau cymdeithasol statudol 1,624 o gysylltiadau gan ofalwyr ifanc nad oeddent yn cael cymorth (fel gofalwr) ar adeg y cyswllt, neu weithwyr proffesiynol yn cysylltu â'r gwasanaeth IAA ar eu rhan. [troednodyn 3]
  • Cafodd 1,136 o asesiadau newydd eu cwblhau ar gyfer gofalwyr ifanc. [troednodyn 3]

Ar 31 Mawrth 2022

  • Roedd gan 3,338 o ofalwyr sy’n oedolion gynllun cymorth. [troednodyn 2]
  • Roedd gan 1,510 o ofalwyr ifanc gynllun cymorth. [troednodyn 7]

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Roedd y gofynion casglu data ar gyfer 2021-22 yr un fath i raddau helaeth ag ar gyfer 2020-21, gyda gwelliannau i ganllawiau yn bennaf er mwyn ychwanegu eglurder. Roedd newidiadau i'r hyn a gasglwyd ar gyfer nifer bychan o fetrigau, sef:

AD/008: wedi'i ddiwygio i ystyried yr holl asesiad (o’r blaen roedd yn nodi asesiadau cyfrannol yn unig)

CH/008: wedi'i ddiwygio i ystyried yr holl asesiad (o’r blaen roedd yn nodi asesiadau cynhwysfawr yn unig)

CH/052: dileu cyfeiriad at o fewn 12 mis i adael gofal.

Fodd bynnag, mae rhai awdurdodau lleol wedi rhoi gwybod am newidiadau mewn systemau cofnodi ac adrodd, yn ogystal â newidiadau mewn arferion adrodd.

Taliadau Uniongyrchol

Ystyr taliadau uniongyrchol yw symiau ariannol a roddir gan awdurdodau lleol i unigolion, neu eu cynrychiolydd, i’w galluogi i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth neu, yn achos gofalwyr, eu hanghenion cymorth.

Materion ansawdd

Cyhoeddwyd data cyfyngedig ar gyfer 2020-21 oherwydd materion ansawdd data a nodwyd yn y casgliad newydd. Roedd y rhain yn ymwneud â data coll ac amrywiadau rhwng awdurdodau lleol yn y ffordd yr adroddwyd am ddata.

Ni ddarparwyd data gan bob un o'r 22 awdurdod lleol ar gyfer 66 (57%) o fetrigau. Mae data coll yn bennaf yn cynnwys achosion lle na ellir cipio neu adrodd data yn effeithiol oherwydd materion yn ymwneud â'r system ddata mewn awdurdodau lleol. Pan na ddarparwyd data ar gyfer 2021-22, mae rhywfaint o sicrwydd wedi ei roi bod newidiadau pellach i'r system yn cael eu rhoi ar waith er mwyn caniatáu adrodd ar gyfer 2022-23.

Mae'n amlwg o'r data bod anghysondebau o hyd ar gyfer rhai metrigau, sy'n debygol o gael eu hesbonio gan ddehongliadau o sut y dylid adrodd am ddata, ac arferion lleol.

Data cyhoeddedig

Ar gyfer oedolion, mae data ar gyfer 34 allan o 39 o fetrigau wedi'u cyhoeddi. Ar gyfer plant, mae data ar gyfer 40 allan o 48 o fetrigau wedi'u cyhoeddi (ac eithrio metrigau a gasglwyd o'r Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal). Ar gyfer gofalwyr, mae data ar gyfer pob un o'r 19 metrig wedi'u cyhoeddi. Mae rhagor o ddata yn ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal a gasglwyd fel rhan o Gyfrifiad y Plant sy'n Derbyn Gofal yn cael ei gyhoeddi yn rhan o'r data Plant sy'n derbyn gofal (StatsCymru).

Yn gyffredinol, mae'r data a gyhoeddwyd yn cynnwys ymwneud gan bob un o'r 22 awdurdod lleol. Fodd bynnag, nid oedd pob awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer rhai metrigau, gyda phedwar awdurdod lleol ar y mwyaf ddim yn darparu data (82% o ymwneud) ar gyfer y metrigau hynny a gyhoeddwyd. Dim ond fel arwydd o'r gweithgarwch a gofnodwyd gan yr awdurdodau lleol dethol y gellir defnyddio'r data hwn ac nid yw'n cynrychioli sefyllfa Cymru gyfan.

Heb ei gynnwys yma, ond wedi'i gyhoeddi ar StatsCymru, mae data ar lefel awdurdodau lleol, lle’r ystyriwyd bod yr ansawdd yn ddigon cadarn i adrodd amdano. Ceir amrywiaeth ar draws awdurdodau lleol ac ymchwilir ymhellach i’r gwahaniaethau gyda’r awdurdodau lleol.

Ar gyfer metrigau lle na chyhoeddwyd data, mae data coll ym mhob achos ond tri. Lle nad yw data wedi'i gofnodi yn unol â'r canllawiau, nid yw hyn wedi'i gyhoeddi.

Ni chyhoeddwyd unrhyw ddata ar gyfer y metrigau canlynol:

AD/007
AD/014
AD/028
AD/030
AD/031
CH/017
CH/018
CH/019
CH/025
CH/027
CH/028
CH/056
CH/057

Diwygiadau

Gwnaed mân ddiwygiadau fel rhan o brosesu data 2021-22 ac mae’r  awdurdodau lleol wedi cytuno ar y rhain. Mae diwygiadau a wnaed i ddata blynyddoedd blaenorol wedi'u labelu â "r”.

Dynodiad ystadegol

Cyhoeddir yr ystadegau hyn fel ystadegau arbrofol. Mae'r set ddata hon yn cael ei chyhoeddi yn dilyn ail flwyddyn casglu data. Mae materion ansawdd data wedi'u nodi; rydym yn disgwyl i hyn wella dros amser ac rydym yn mynd ati i weithio gyda darparwyr i wneud hyn.

Datblygiadau yn y dyfodol

Mae gofynion casglu data ar gyfer y metrigau Fframwaith Perfformiad a Gwella wedi'u hadolygu'n ddiweddar yn dilyn ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid. Cyhoeddwyd gofynion data wedi'u hadnewyddu ar gyfer blwyddyn adrodd 2022-23 sy'n cynnwys newidiadau mwy sylweddol i rai metrigau.

Bydd Adroddiad Ansawdd yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae'r rhain er mwyn sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10 (1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Adborth

Rydym yn croesawu adborth ar yr ystadegau hyn. Defnyddiwch y ffurflen adborth cysylltiedig i roi adborth.

Troednodiadau

[1] darparodd dau awdurdod lleol ddatganiadau rhannol ar gyfer y maes hwn.

[2] ni wnaeth un awdurdod lleol ddarparu data ar gyfer y maes hwn.

[3] ni wnaeth dau awdurdod lleol ddarparu data ar gyfer y maes hwn.

[4] darparodd tri awdurdod lleol ddatganiadau rhannol ar gyfer y maes hwn.

[5] mae un awdurdod lleol wedi adrodd am achosion agored oedolion yn hytrach na’r rheini sydd â chynllun gofal a chymorth.

[6] ni wnaeth un awdurdod lleol ddarparu data ac fe ddarparodd un awdurdod lleol ddatganiad rhannol ar gyfer y maes hwn.

[7] ni wnaeth tri awdurdod lleol ddarparu data ar gyfer y maes hwn.

[8] cesglir drwy'r Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
Email: ystadegau.gwascymdeithasol@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 239/2022