Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i ni agosáu at ddiwedd blwyddyn gythryblus arall, gadewch i mi ddechrau ar nodyn positif gyda phethau y gallwn eu dathlu!

Ym mis Tachwedd, am y tro cyntaf yn eu hanes 22 mlynedd, daeth gwobrau Bwyd a Ffermio'r BBC i  Gaerdydd a roddodd gyfle inni roi sylw i'n diwydiant Bwyd a Diod gwych yng Nghymru ymhlith dylanwadwyr allweddol a defnyddwyr o bob rhan o'r DU. Ar yr un pryd, gwnaeth Cymru hefyd gynnal Gwobrau Caws y Byd, pan fu dros 4000 o gawsiau rhyngwladol yn cystadlu am nifer fawr o wobrau uchel eu bri. I mi, mae'r ddau ddigwyddiad hyn yn darparu tystiolaeth bod Bwyd a Diod Cymru bellach mewn lle amlwg ar y sîn fwyd fyd-eang!

Gan fy mod yn trafod dathlu, hoffwn gydnabod y gwaith a wnaed er mwyn i'r genhinen Gymreig ennill PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) statws GI y DU sy'n gwarchod y symbol eiconig hwn o Gymru rhag cael ei ddynwared a’i gamddefnyddio.

Ro'n i'n teimlo'n emosiynol iawn pan wnaeth nifer ohonom ni gyfarfod eto ar ôl dwy flynedd o Covid yn ystod tywydd crasboeth y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf. Mae'r Sioe yn parhau i atgyfnerthu pwysigrwydd bwyd a diod yn ein diwylliant yng Nghymru, ac yn pwysleisio ein bod yn ddiwydiant cryf, unigryw a balch. Roedd yn ysbrydoliaeth gweld y gwaith a wnaeth Sarah Lewis a'i thîm yn Lantra ar gyfer y Parth Gyrfaoedd a oedd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd denu a chadw pobl i'n diwydiant drwy ddarparu gyrfaoedd diddorol a gwerth chweil.

Fodd bynnag, rhaid edrych ar realiti’r sefyllfa. Er ei bod yn dda dathlu ein llwyddiant yn 2022, dylem gydnabod bod ein llwyddiant yn dyst i waith caled y llu o fusnesau bwyd a diod rydym yn lwcus o'u cael yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod pethau'n anodd i lawer o fusnesau sy'n parhau i wynebu heriau, gan gynnwys heriau o ran gweithwyr ac ynni yn ogystal â heriau ariannol, ac rwy'n gwybod na fydd y rhain yn diflannu dros nos. Yn ystod gwyliau yn y Gogledd yn ddiweddar, fe wnes i gwrdd â llawer o fusnesau bwyd a diod er mwyn deall eich pryderon a’r heriau o lygad y ffynnon, yn ogystal â’r cyfleoedd. Gwerthfawrogais y trafodaethau hyn, ac mae croeso i chi anfon eich safbwyntiau unrhyw bryd drwy anfon e-bost ataf ar Chair.FDWIB@llyw.cymru.

Gan fy mod wedi bod yn optimist erioed, rwy'n hyderus fod y dyfodol yn ddisglair i Ddiwydiant Bwyd a Diod Cymru. Nid yw'r brwdfrydedd hwn yn seiliedig ar bositifrwydd dall, mae'n seiliedig ar y ffaith ein bod yn parhau i dyfu ar raddfa, ac o ran dylanwad a soffistigeiddrwydd. Mae gennym yr holl gynhwysion i lwyddo: perthnasau gwych, arloesedd gwych, cynnyrch gwych ac yn fwy na dim, pobl wych.

Wrth i ni ddechrau 2023, rwy'n gobeithio y bydd ein diwydiant yn parhau â'i drywydd twf sy'n torri record. Er y bydd y twf hwn yn parhau i ganolbwyntio ar farchnad y DU yn bennaf oherwydd Brexit a chwtogi cadwyni cyflenwi byd-eang, byddwn wrth fy modd yn gweld allforion Bwyd a Diod o Gymru yn ehangu er mwyn manteisio ar y byd masnachu newydd. Dim ond tua 7% o'n trosiant Bwyd a Diod yng Nghymru yr ydym yn ei allforio, a gyda'r DU yn trafod mwy a mwy o gytundebau masnach mae angen i ni ddeall a manteisio i’r eithaf lle mae gan Gymru fantais gystadleuol yn y farchnad fyd-eang. Yn allweddol, mae angen i ni gyfleu'n glir nid yn unig lle rydym am amddiffyn ein buddiannau, ond mae angen i ni hefyd egluro a mesur lle mae'r cyfleoedd ar gael i'r rhai sy'n trafod cytundebau masnach ar ein rhan.

Hoffwn gloi drwy ddiolch i bawb yn y diwydiant sydd wedi gweithio'n ddiflino eleni i fwydo'r genedl  ac i gadw eu busnesau i fynd o dan yr amgylchedd busnes heriol presennol. Heb os nac oni bai, mae gennym ni rywbeth arbennig yng Nghymru. Bwyd a diod yw dau o'n hasedau a'n cyfleoedd mwyaf. Rwyf yn parhau i fod yn argyhoeddedig y bydd ein hysbryd cydweithredol yng Nghymru yn ein cynnal drwy'r cyfnod anodd a heriol hwn, a bydd y Bwrdd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnal a datblygu'r ethos hwn yn ystod 2023.

Diolch am yr hyn rydych chi i gyd yn parhau i'w wneud ar gyfer ein diwydiant anhygoel! Fel Bwrdd Bwyd a Diod byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ac eiriol drosoch chi yn 2023.   Dymunaf Nadolig hapus i chi i gyd wedi ei lenwi â bwyd a diod o Gymru.

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru