Neidio i'r prif gynnwy

Annwyl gydweithwyr   

Rwy'n ysgrifennu i gyhoeddi galwad am dystiolaeth ar reoli ac amddiffyn safleoedd gwarchodedig yng Nghymru.

Yn fy rôl fel Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (IEPAW), rwyf wedi derbyn nifer o gyflwyniadau am safleoedd gwarchodedig yng Nghymru. O ganlyniad, rwy'n bwriadu llunio adroddiad ar safleoedd gwarchodedig i Weinidogion Cymru i:

  • asesu a yw'r fframwaith cyfreithiol presennol yn gweithio'n iawn;
  • nodi lle nad yw’r amddiffyniad cyfreithiol presennol yn esgor ar y manteision a fwriedir, yn enwedig mewn perthynas â diogelu bioamrywiaeth;
  • nodi bylchau posibl yn y ddeddfwriaeth;
  • nodi’r ffactorau sy’n ein rhwystro rhag gweithredu’r Ddeddfwriaeth yn ymarferol; a
  • llunio argymhellion drafft ar gyfer sut y gellid gwella'r gyfraith. 

Ar hyn o bryd, mae cwmpas y prosiect wedi’i gyfyngu i safleoedd gwarchodedig daearol yn unig, sef Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau) ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau). Nid yw’n cynnwys tirweddau gwarchodedig/dynodedig.

Gwnaeth prosiect Asesiad Gwaelodlin CNC yn 2020 asesu ansawdd yr holl safleoedd gwarchodedig - yr asesiad llawn cyntaf ers 2003. Nid oedd yn bosibl iddynt benderfynu ar gyflwr tua hanner nodweddion yr holl safleoedd (er enghraifft ansawdd cynefinoedd neu nifer y rhywogaethau) oherwydd nad oedd digon o dystiolaeth. O'r nodweddion yr oeddent yn gallu eu hasesu, roedd 20% mewn cyflwr ffafriol, 30% mewn cyflwr anffafriol a 50% ddim yn y cyflwr a ddymunir.

Yn ogystal, ym mis Hydref 2022, cyhoeddwyd yr argymhellion a wnaed yn sgil yr Archwiliad Manwl Gweinidogol ar Fioamrywiaeth. Canolbwyntiodd hwn ar y ffordd y byddwn ni yng Nghymru yn gweithredu targed Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i warchod o leiaf 30% o’r tir a 30% o’r môr erbyn 2030. Mae’r drafft cyntaf presennol o’r fframwaith ôl-2020 yn nodi: ‘Dylid sicrhau bod o leiaf 30% o ardaloedd daearol ac ardaloedd morol ar lefel fyd-eang – yn enwedig ardaloedd o bwys arbennig o ran bioamrywiaeth a’i chyfraniadau at fywydau pobl – yn cael eu gwarchod drwy fesurau cadwraeth seiliedig ar ardal a thrwy systemau o ardaloedd gwarchodedig a reolir mewn modd effeithiol a theg, sy’n ecolegol gynrychiadol ac wedi’u cysylltu’n dda, a’u bod yn cael eu hintegreiddio yn y tirweddau a’r morweddau ehangach.’

Gyda hyn mewn golwg rwy'n chwilio am farn a thystiolaeth ar: 

  • A ddylid gwneud monitro safleoedd gwarchodedig yn ddyletswydd statudol? Os felly, gan fod adnoddau’n gyfyngedig, beth yw’r ffordd orau o ennyn cyfranogiad gan chwaraewyr allweddol mewn strategaeth fonitro integredig, a hybu ymagwedd 'tîm Cymru’? Ai canolbwyntio ar nodweddion monitro yw’r dull cywir, neu a ddylid rhoi mwy o sylw i ddulliau seiliedig ar safle a methodoleg fwy cytbwys?
  • A ddylid gosod targedau ar gyfer ansawdd a chysylltedd safleoedd gwarchodedig? Os felly, beth ddylai’r targedau eu cwmpasu?
  • Pa newidiadau y dylid eu gwneud i’r fframwaith cyfreithiol presennol, os o gwbl, er mwyn sicrhau bod cyflwr safleoedd gwarchodedig yn gwella yn gyffredinol? Er enghraifft, a allai unrhyw un o’r mecanweithiau cyfreithiol a ddefnyddir ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig fod yn fanteisiol i gategorïau eraill o safleoedd gwarchodedig?
  • A oes unrhyw beth yn atal cytundebau rheoli rhag cael eu cadarnhau? Os felly, sut y gellid goresgyn y rhwystrau hyn?
  • Pa newidiadau i’r mecanweithiau gorfodi presennol, os o gwbl, fyddai’n cyflawni canlyniadau gwell ar gyfer safleoedd gwarchodedig?
  • Nodwch sylwadau ar unrhyw fecanweithiau cyfreithiol presennol neu yn y dyfodol a allai hwyluso ffordd fwy ymaddasol o reoli safleoedd gan arwain at wella cyflwr safle gwarchodedig yn gyffredinol.

A fyddai’n bosibl i unrhyw sylwadau neu dystiolaeth ysgrifenedig am y cwestiynau uchod gael eu hanfon ataf erbyn dydd Gwener 20 Ionawr 2023.  Os oes angen ychydig mwy o amser gadewch i mi wybod.  Rhowch wybod i mi hefyd os ydych yn fodlon i'ch sylwadau/tystiolaeth gael ei ddyfynnu yn yr adroddiad terfynol a'i briodoli i chi a/neu eich sefydliad. Mae rhagor o wybodaeth am fy rôl i yn Codi pryderon am sut mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio

Diolch yn fawr.  

Ar rhan / On behalf of

Dr Nerys Llewelyn Jones

Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru / Interim Environmental Protection Assessor for Wales

E-bost / E-mail: IEPAW@llyw.cymru / IEPAW@gov.wales