Neidio i'r prif gynnwy

Mae Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 yn gosod rhwymedigaethau tryloywder ar awdurdodau cyhoeddus sy'n dyfarnu cymorthdaliadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pa rwymedigaethau tryloywder sy'n berthnasol?

Diben y rhwymedigaethau tryloywder yw hyrwyddo atebolrwydd a bod yn agored. Maent yn llymach na'r rhwymedigaethau o dan gyfundrefnau rheoli cymorthdaliadau blaenorol neu gyfundrefn cymorth Gwladwriaethol yr UE.

Yn y mwyafrif o achosion, rhaid i awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi manylion cymorthdaliadau a ddyfarnir, neu gynlluniau cymhorthdal a wneir, yng nghronfa ddata cymorthdaliadau'r DU.

Gallwch chwilio yng nghronfa ddata cymorthdaliadau’r DU yn GOV.UK.

Pa gymorthdaliadau y mae angen imi eu cyhoeddi?

Rhaid i awdurdod cyhoeddus gyhoeddi:

  • Pob cymhorthdal annibynnol, ni waeth beth yw ei werth
  • Pob cynllun cymhorthdal
  • Pob dyfarniad gwerth dros £100,000 a wneir o dan gynllun cymhorthdal
  • Pob cymhorthdal Cymorth Ariannol Lleiaf neu Gymorth Gwasanaeth o Fudd Economaidd Cyhoeddus (SPEI) gwerth dros £100,000

Pryd y mae angen imi lanlwytho'r wybodaeth?

Rhaid i awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi cymorthdaliadau a chynlluniau yng nghronfa ddata cymorthdaliadau'r DU. Rhaid iddynt wneud hyn o fewn 3 mis i gadarnhad yr awdurdod cyhoeddus o'i benderfyniad i roi'r cymhorthdal neu i wneud y cynllun cymhorthdal. Ar gyfer dyfarniadau cymorthdaliadau ar ffurf mesurau treth, rhaid ychwanegu manylion at gronfa ddata cymorthdaliadau’r DU o fewn blwyddyn i ddyddiad y datganiad treth.

Sut mae lanlwytho'r wybodaeth dryloywder?

Uned Rheoli Cymorthdaliadau Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r broses o adrodd am dryloywder cymorthdaliadau a ddyfarnir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill Cymru. Gall awdurdodau cyhoeddus Cymru gyflwyno'r wybodaeth ofynnol ar gyfer y gronfa ddata tryloywder gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol:

Cysylltwch â'r tîm os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhwymedigaethau tryloywder drwy e-bostio transparency@llyw.cymru.