Neidio i'r prif gynnwy

Mae cemegydd ymchwil sy’n adnabyddus ledled y byd, yr Athro Jas Pal Badyal FRS, wedi'i benodi yn Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel Prif Gynghorydd Gwyddonol newydd Cymru, bydd yr Athro Badyal yn rhoi cyngor am wyddoniaeth i Brif Weinidog Cymru a Gweinidogion Cymru.

Bydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu gallu Llywodraeth Cymru ym maes gwyddoniaeth a chefnogi twf sylfaen wyddoniaeth ac ymchwil gref a deinamig yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae'r Athro Badyal yn Athro yn yr Adran Gemeg ym Mhrifysgol Durham. Mae'n enwog am ei ymchwil arloesol ar weithredu arwynebau soled ac ychwanegu nanohaenau swyddogaethol ar gyfer cymwysiadau technolegol a chymdeithasol.

Dywedodd yr Athro Jas Pal Badyal:

"Rwy'n llawn cyffro i gael y cyfle hwn i gyfrannu tuag at feithrin economi sgiliau uchel, uwch-dechnoleg, gan helpu i gael effaith gadarnhaol a lles i bobl Cymru.

"Mae gan Gymru botensial mawr i ddod yn arweinydd byd o ran datblygiadau arloesol technolegol ac yn targedu rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu dynoliaeth heddiw—gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, dirywiad amgylcheddol, ynni adnewyddadwy, diogelwch bwyd, gofal iechyd, ac anghydraddoldeb cymdeithasol cynyddol."

Wrth groesawu'r penodiad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Rwy'n falch iawn o groesawu'r Athro Jas Pal Badyal fel Prif Gynghorydd Gwyddonol nesaf Cymru.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru'n genedl lle mae gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd yn cael eu cefnogi ac yn cyflawni i safon uchel.  Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef i gyflawni'r uchelgais honno."

Mae'r Athro Badyal, a fydd yn dechrau yn y rôl ym mis Chwefror 2023, yn cymryd lle'r Athro Peter Halligan, a ymddeolodd o'r swydd yn 2022.