Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Rhagfyr 2018.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymatebion llawn , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym eisiau eich barn ar gynigion ar gyfer dangosyddion Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
MALlC yw dull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Cafodd y mynegai diwethaf ei gyhoeddi yn 2014 a bydd y mynegai diweddaraf ar gael ddiwedd 2019.
Rydym yn ymgynghori ar ba ddangosyddion i’w gynnwys ym mhob un o’r 8 maes ym MALlC. Mae’r ymgynghoriad yn cwmpasu:
- newidiadau arfaethedig i rai dangosyddion presennol a gynhwysir ym MALIC 2014
- ffynonellau data newydd a dangosyddion posibl
- sut i flaenoriaethu'r ffynonellau data newydd posibl.
