Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wybod pa frechiadau sydd eu hangen arnoch wrth deithio tramor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn y DU, mae amserlen imiwneiddio rheolaidd y GIG yn eich amddiffyn rhag nifer o glefydau. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys yr holl glefydau heintus sydd i’w canfod dramor.

Os ydych chi'n bwriadu teithio y tu allan i'r DU, dylech ystyried a oes angen brechiadau ychwanegol arnoch. Bydd y rhain yn dibynnu ar yr ardaloedd y byddwch yn teithio iddynt. Gallwch gael gwybod rhagor am y brechiadau sydd angen ichi eu cael neu’r brechiadau sy’n cael eu hargymell wrth deithio ar y gwefannau hyn:

O 1 Hydref 2023, gallwch gael y brechiadau teithio canlynol am ddim gan y GIG. Gofynnwch yn eich meddygfa am ragor o fanylion:

  • polio
  • teiffoid
  • hepatitis A 
  • colera

Mae rhai brechiadau teithio ond ar gael yn breifat. Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gallu rhoi gwybod ichi faint yw cost y brechiadau hyn. Os nad yw eich meddygfa yn rhoi brechiadau teithio am ddim, cysylltwch ag un o’r canlynol:

  • clinig brechiadau teithio preifat 
  • fferyllfa sy'n cynnig gwasanaethau gofal iechyd teithio 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar GIG 111 Cymru.