Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn oriau mân 6 Chwefror 2023, trawyd Türkiye (Twrci) a Syria â daeargryn a oedd yn mesur 7.8. Yn fuan wedyn, bu daeargryn arall a thros 60 o ôl-gryniadau.

Mae graddfa’r difrod yn enfawr, ac mae’r manylion yn dal i ddod i’r amlwg, ond mae’n glir bod nifer aruthrol wedi colli eu bywydau, wedi cael eu hanafu ac wedi gorfod gadael eu cartrefi.

Rwyf heddiw wedi anfon neges o gydymdeimlad ac o gefnogaeth at Lysgennad Twrci, ac rwy’n meddwl yn arbennig am bawb sydd wedi eu heffeithio, gan gynnwys pobl o Syria a Thwrci sy’n byw yng Nghymru, sydd â theuluoedd a ffrindiau yn ardal y ddaeargryn.

Mae ein meddyliau hefyd gyda’r timau chwilio ac achub dewr, a phobl ledled Cymru sydd eisoes yn cynnig cymorth o bob math. Disgwylir i’r ymateb brys ddarparu dŵr a glanweithdra, lloches a bwyd yn ogystal ag adsefydlu ac ailadeiladu yn y tymor hirach.