Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 29 Mawrth 2022, cyhoeddais ddatganiad a oedd yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio ardrethi annomestig yn ystod tymor presennol y Senedd. Yn ddiweddarach, lansiais ymgynghoriad ar amrywiaeth o gynigion i wella ardrethi annomestig yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad Diwygio Ardrethi Annomestig yng Nghymru rhwng 21 Medi a 14 Rhagfyr 2022.  

Gofynnodd yr ymgynghoriad am safbwyntiau ar ystod eang o welliannau i’r system ardrethi annomestig yng Nghymru. Ymhlith ein cynigion mae’r canlynol:

  • Cylchoedd ailbrisio amlach. Mae hwn yn newid y mae llawer o randdeiliaid wedi bod yn gofyn amdano er mwyn sicrhau bod prisiadau ardrethi yn adlewyrchu amodau diweddaraf y farchnad yn fwy cywir, ynghyd â mesurau ychwanegol sydd eu hangen i gefnogi hyn.
  • Gwella llif gwybodaeth rhwng y llywodraeth a thalwyr ardrethi, gan gymryd mantais o wasanaethau digidol.
  • Darparu deddfwriaeth mwy hyblyg i Lywodraeth Cymru ddiwygio gostyngiadau ac eithriadau yn y dyfodol.
  • Adolygiad o ostyngiadau ac eithriadau er mwyn sicrhau bod y trefniadau’n cyd-fynd ag ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu a bod y cymorth sydd ar gael wedi’i dargedu yn y ffordd fwyaf effeithiol.
  • Darparu mwy o gwmpas i amrywio’r lluosydd er mwyn helpu i alinio’r cynnydd blynyddol gyda’n blaenoriaethau o ran datblygu’n economaidd.
  • Gwella’r broses o weinyddu swyddogaethau prisio a rhestrau ardrethi er mwyn symleiddio prosesau a lleihau’r baich ar y llywodraeth a thalwyr ardrethi.
  • Rhagor o fesurau i sicrhau y gallwn fynd i’r afael ag achosion o osgoi.
  • Ystyried dull arall, fel treth gwerth tir leol, er mwyn codi trethi lleol yn yr hirdymor.

Cafodd yr ymgynghoriad 73 o ymatebion, gyda safbwyntiau manwl ac ystyriol yn cael eu cyflwyno gan amrywiaeth eang o grwpiau cynrychioliadol, awdurdodau lleol a sefydliadau unigol. Yn gyffredinol, roedd safbwyntiau’n cefnogi’r rhan fwyaf o gynigion Llywodraeth Cymru. Heddiw, rydw i wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, byddwn yn datblygu eich cynigion ymhellach ar gyfer ein Bil Cyllid Llywodraeth Leol arfaethedig. Yn benodol, byddwn yn parhau’n ymrwymedig i gyflwyno prosesau ailbrisio tair blynedd a’r mesurau sydd eu hangen i’w cefnogi. Byddwn hefyd yn parhau i ddatblygu’r cynigion eraill a nodir yn yr ymgynghoriad.

Yn fwy uniongyrchol, byddaf yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth, a ddaw i rym o 1 Ebrill 2023 ymlaen, er mwyn egluro pa faterion na ddylai arwain at newid mewn gwerth ardrethol rhwng prosesau ailbrisio. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn adfer y safbwynt polisi a fwriadwyd ar gyfer cwmpas apeliadau sy’n nodi newid perthnasol mewn amgylchiadau, gan sicrhau bod y gyfraith yn glir ac yn deg.

Rwy’n nodi’r sylwadau a godwyd mewn perthynas â dulliau eraill o godi trethi lleol. Bydd y safbwyntiau cychwynnol a roddwyd gan dalwyr ardrethi a rhanddeiliaid yn helpu i lywio gwaith parhaus wrth ddatblygu syniadau yn y dyfodol o ran codi refeniw mewn ffyrdd gwahanol ar gyfer gwasanaethau lleol. Byddai unrhyw newid sylweddol i drethiant lleol yn gofyn am ddatblygiad pellach y tu hwnt i dymor presennol y Senedd.

Wrth i gynigion barhau i gael eu datblygu, byddwn yn gweithio’n agos gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio, llywodraethau lleol a rhanddeiliaid eraill. Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd am eu cyfraniadau gwerthfawr fel rhan o’r broses ymgynghori – bydd hyn yn llywio gwelliannau pellach i’r system ardrethi annomestig yng Nghymru.

Gellir dod o hyd i’r crynodeb o ymatebion drwy ddilyn y ddolen hon:

Ymgynghoriad ar ddiwygio ardrethi annomestig yng Nghymru – crynodeb o’r ymatebion