Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae dwy ran o dair o boblogaeth Cymru yn byw mewn trefi neu ddinasoedd sydd â dros 10,000 o bobl. Felly, mae canol trefi a dinasoedd llwyddiannus yn hanfodol i les amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Maen nhw’n creu ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth, lle mae pobl yn cwrdd, yn siopa, yn byw ac yn gweithio.

Ond mae rhai o ganol trefi Cymru’n dirywio. Maen nhw’n wynebu heriau cymhleth sydd weithiau’n unigryw i leoedd penodol. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r problemau a wynebir gan drefi yng Nghymru sy’n ei chael yn anodd, yn gallu cael eu priodoli i gyfuniad o ddirywiad yng nghanol y dref a datblygiadau y tu allan i’r dref ar ôl y 1980au.

Mae angen i ni gydnabod cymhlethdod y problemau hyn a gweithio gyda’n gilydd ym mhob sector ledled y wlad i adfywio canol ein trefi. Mae’r datganiad hwn yn nodi’r heriau sy’n wynebu trefi, yn ogystal â’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i osod y sylfeini ar gyfer newid a galluogi cyflawni’n lleol i ddatblygu ein canol trefi fel lleoliadau ar gyfer ystod o wasanaethau, menter economaidd, gwaith ac i fod yn gymunedau sydd wedi’u cysylltu.

Yr heriau mae trefi’n eu hwynebu

Symud gwasanaethau o ganol trefi i’r cyrion

Un o’r heriau yw cystadleuaeth am weithgarwch rhwng canol trefi a datblygiadau y tu allan i drefi, sydd wedi gweld gwasanaethau a busnesau’n gadael canol y dref, gan leihau nifer yr ymwelwyr a gwariant lleol.

Mae pandemig y Coronafeirws wedi gwneud hyn yn waeth oherwydd mae rhywfaint o’r gweithgarwch a oedd yn dal i fodoli mewn trefi, ee caffis, campfeydd ac ati, nawr yn cael eu hadleoli wrth i’r sector preifat geisio dod o hyd i ffyrdd eraill o ddefnyddio unedau y tu allan i drefi sy’n cael eu gadael yn wag oherwydd bod siopau cadwyn yn cau.

Fodd bynnag, nid yw’r heriau sy’n wynebu ein trefi wedi’u priodoli’n llwyr i newid arferion siopa. Yn 2020, roedd adwerthu yn cyfrif am tua un rhan o dair o'r cyfeiriadau[1] ar strydoedd mawr y DU. Mae canol trefi felly’n fwy na dim ond siopau. Yn hanesyddol, roedd pwrpas a llwyddiant canol y dref yn seiliedig ar ei gysylltedd effeithlon, ei ddarpariaeth ddiwylliannol ac adwerthol, crynhoad swyddogaethau dinesig, a lleoliad cyfleusterau addysg ac iechyd. Roedd rhyngddibyniaethau’r swyddogaethau hyn yn golygu bod trefi’n amrywiol ac yn rhoi llawer o resymau i bobl ymweld â hwy. Mae lleihad adwerthu – yn ogystal â sefydliadau iechyd ac addysg, pencadlysoedd swyddogaethau dinesig a busnesau – wedi tarfu ar y cydbwysedd bregus hwn. Mae popeth sy’n symud allan o ganol y dref yn cyfrannu at leihau nifer yr ymwelwyr ac yn herio hyfywedd y defnyddiau sy’n weddill.

Materion modelau busnes

Y tu ôl i'r gystadleuaeth anghyfartal hon am weithgarwch rhwng canol trefi a datblygiadau y tu allan i drefi, mae materion sy’n ymwneud â modelau busnes. Ers 1980, mae'r rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd wedi cael eu gwneud gan y sector preifat sy’n canolbwyntio ar adeiladu’r hyn sy’n broffidiol. Mae datblygu ar safleoedd maes glas y tu allan i drefi yn rhatach, yn haws ac yn fwy proffidiol.

Mae datblygiadau yng nghanol trefi, sydd ar safleoedd tir llwyd yn bennaf neu sy’n golygu ailddatblygu’r seilwaith presennol, yn fwy costus ac anodd felly maent yn cynhyrchu enillion llawer is, er gwaethaf y manteision cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae'r mater hwn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan fod llawer o wahanol bobl/sefydliadau yn berchen ar eiddo yng nghanol trefi, ac efallai nad yw rhai ohonynt yn lleol i’r dref neu’r ardal gyfagos, sy’n golygu ei bod yn anodd dod o hyd i bwy sy’n berchen ar eiddo.

Felly, dros y 30 mlynedd diwethaf, mae safleoedd newydd, mwy proffidiol y tu allan i’’r trefi wedi ei hadeiladu ar draul canol trefi a oedd yn bodoli eisoes. Mae symudiad sylweddol tuag at siopa ar-lein a bancio ar-lein dros y blynyddoedd diwethaf hefyd wedi gwaethygu hyn ymhellach i ganol trefi. Weithiau, yr hyn sy’n cael ei adael ar ôl yng nghanol ein trefi yw adeiladau gwag wedi’u hesgeuluso, seilwaith sy’n dirywio a llai o bresenoldeb a gwariant, sy’n arwain at gylch dieflig o ddirywiad mewn atyniad a diffyg mewnfuddsoddi.

Lleoliadau y tu allan i drefi yn cael eu hatgyfnerthu gan ddibyniaeth ar geir preifat

Ceir preifat yw'r dull trafnidiaeth mwyaf poblogaidd o bell ffordd ar gyfer siwrneiau yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer teithio i’r gwaith. Amcangyfrifir bod ceir a faniau yn cyfrif am 75% o siwrneiau i’r gwaith o’i gymharu â 15% ar gyfer cerdded a beicio, 6% ar gyfer bysiau a 3% ar gyfer trenau[2]. Mae datblygiadau y tu allan i drefi sydd â darpariaeth parcio am ddim helaeth a chysylltiadau cludiant cyhoeddus gwael yn cadarnhau y ddibyniaeth ar geir.

Mae ein dibyniaeth gynyddol ar geir preifat wedi cefnogi datblygiad parhaus lleoliadau y tu allan i drefi ac wedi annog pobl i symud oddi wrth fyw yng nghanol y dref. Yn gyffredinol, gall aelwydydd incwm is feddiannu'r tai sydd yn amgylchynu nifer o drefi Cymru. Yn aml, bydd gan y cartrefi hynny lai o fynediad at drafnidiaeth breifat ac yn cyfrif am gyfran sylweddol o gerddwyr yng nghanol y dref. 

Argyfyngau hinsawdd a natur

Mae'r argyfyngau hinsawdd a natur yn golygu bod ein trefi’n wynebu mwy o heriau. Wrth hyrwyddo polisïau canol trefi yn gyntaf, rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r goblygiadau o ran newid hinsawdd oherwydd mae rhai o’n trefi a’n dinasoedd yn agored i lifogydd. Wrth adfywio ein trefi a’n dinasoedd, rhaid i ni sicrhau bod darpariaeth addas ar gyfer adeiladu a chynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd mewn ffordd sy’n cefnogi datblygiad. Mae adnoddau ecolegol pwysig, fel coed a mannau gwyrdd, hefyd yn cael eu colli o’r amgylchedd trefol, gan greu argyfwng bioamrywiaeth yn ein trefi, gyda rhai o’r rhywogaethau a arferai fod yn gyffredin yn dod yn fwyfwy prin. Gall colli nodweddion naturiol mewn lleoliadau trefol hefyd waethygu’r heriau presennol sy’n wynebu trigolion ac ymwelwyr, e.e. swyddogaeth coed aeddfed o ran lliniaru ynysoedd gwres trefol, rheoli ansawdd aer a lleihau llifogydd.

Os ydym am gyrraedd ein targedau datgarboneiddio a dim gwastraff, mae angen i ni wneud y defnydd gorau o’r seilwaith presennol yng nghanol trefi. O safbwynt carbon corfforedig, mae’n well ailddefnyddio na dymchwel, ac mae’n well defnyddio deunyddiau adeiladu wedi’u hailgylchu yn hytrach na rhai newydd. Wrth adeiladu neu ailbwrpasu adeiladau, mae angen ystyried sut y gellir lleihau effaith amgylcheddol yr adeilad, sut y bydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio nawr a sut y gellid ei ddefnyddio yn y dyfodol, gan ymgorffori hyblygrwydd a’r gallu i addasu o’r dechrau. Yn ogystal â hyn, mae pontio i economi gylchol yn annog cadwyni cyflenwi byrrach a ffocws mwy lleol a rhanbarthol ar ddod o hyd i ddeunyddiau.

Gallu i gyflawni’n lleol

Ni all y gwaith o drawsnewid ein trefi fod yn weithred o’r brig i lawr gan y llywodraeth, er mai Llywodraeth Cymru yw’r galluogwr allweddol drwy gyfeiriad polisi cydlynol a chyson.

Mae set amrywiol o randdeiliaid yng nghanol trefi, gan gynnwys meddianwyr, perchnogion eiddo, busnesau, awdurdodau lleol, sefydliadau’r trydydd sector, gweithwyr, preswylwyr, ac ymwelwyr. Bydd trefi’n parhau i’w chael hi’n anodd oni bai fod gweithredwyr lleol yn dod at ei gilydd i greu partneriaethau newydd, neu’n cryfhau partneriaethau sy’n bodoli eisoes, er mwyn cyflawni’r newidiadau sydd eu hangen i gynnal trefi. Mae amrywioldeb sylweddol ledled Cymru o ran capasiti a gallu awdurdodau lleol, sefydliadau angor a grwpiau cymdeithas sifil i gydweithio i gyflawni’r newid trawsnewidiol sydd ei angen.

[1] High streets in Great Britain - Office for National Statistics (ons.gov.uk)

[2] Ffynhonnell: Data Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Polisïau canol trefi yn gyntaf

Mae tynnu busnesau a sefydliadau'r sector cyhoeddus o ganol trefi wedi cyfrannu at ddirywiad canol trefi. Bydd lleoli neu adleoli’r sefydliadau angor hyn yn strategol i ganol trefi yn cynyddu nifer yr ymwelwyr a gwariant cwsmeriaid er mwyn cefnogi sector adwerthu cadarn, yn ogystal â chreu galw am wasanaethau eraill. Bydd hyn yn gwneud trefi’n fwy deniadol i fusnesau presennol a newydd, ac ar gyfer mewnfuddsoddi.

Ers cyhoeddi Cymru'r Dyfodol yn 2021, mae Canol Trefi yn Gyntaf wedi bod yn ofyniad polisi ar gyfer cynlluniau datblygu yng Nghymru. Mae hefyd yn egwyddor drawsbynciol sydd wedi’i gwreiddio yn y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae hyn yn golygu mai canol trefi sy’n cael eu hystyried yn gyntaf ar gyfer lleoliad cyfleusterau masnachol, adwerthu, addysg, iechyd, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus newydd, arwyddocaol. Ochr yn ochr â hyn, mae ein gweledigaeth strategol gyffredin ar gyfer y sector manwerthu yn cydnabod bod newid wyneb canol ein trefi yn hanfodol i fanwerthu ac, yn ei dro, mae angen sector manwerthu llwyddiannus a gwydn ar ganol ein trefi. Fodd bynnag, mae gormod o'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud ar sail symudiad sefydliadau unigol ar hyn o bryd, pan mai'r hyn sydd ei angen yw cyfres o symudiadau cysylltiedig a fyddai’n golygu ailddefnyddio safleoedd ac adeiladau yng nghanol trefi.

  • Cam Gweithredu - Gweithio ar draws y llywodraeth i ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer lleoli a/neu adleoli amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus i ganol trefi, gyda chefnogaeth strategaethau rheoli asedau priodol a strwythurau llywodraethu cysylltiedig cyrff gwasanaethau cyhoeddus.

Mae cost a chymhlethdod y datblygiadau yng nghanol trefi a amlinellir uchod yn golygu y gall y polisi Canol Trefi yn Gyntaf fod yn rhwystredig oherwydd gall fod yn anodd i ddatblygwyr ddod o hyd i safleoedd addas. Gall y materion hyn greu heriau pellach i sefydliadau cyhoeddus, lle gallai’r fframweithiau ariannol y maent yn gweithredu oddi mewn iddynt olygu eu bod o'r farn mai lleoli gwasanaethau y tu allan i drefi yw’r unig opsiwn ariannol hyfyw.

  • Cam Gweithredu - Gweithio ar draws y llywodraeth, deall refeniw a gwariant cyfalaf, a fframweithiau caffael sefydliadau allweddol yn y sector cyhoeddus (ee iechyd, addysg) er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r polisi Canol Trefi yn Gyntaf.

Mae nifer yr ymwelwyr yn hollbwysig i sicrhau canol trefi llwyddiannus a ffyniannus. Ymwelwyr preswyl yw’r math gorau o ymwelwyr, oherwydd bydd pobl sy’n byw yn y dref yn defnyddio ei siopau a’i sefydliadau, ac yn gallu gwneud hynny drwy drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol, a byddant yn gofalu am ddiogelwch y dref gyda’r nos. Os ydym am ailwampio canol trefi, mae’n hanfodol bwysig sicrhau bod pobl yn byw mewn trefi a bod ganddynt ddeiliadaeth a mathau cymysg, wedi’i chefnogi gan seilwaith teithio llesol mewn ymdrechion ehangach i helpu i greu cymdogaethau cerddadwy

  • Cam Gweithredu - Sefydlu consortia o landlordiaid cymdeithasol a datblygwyr preifat i alluogi datblygiadau tai mewn lleoliadau priodol mewn trefi ac o’u cwmpas, sy’n dilyn egwyddorion creu lleoedd.

Polisïau ar gyfer datblygiadau y tu allan i drefi a’u cysylltedd â chanol trefi

Rhaid i nod sylfaenol unrhyw bolisi ar gyfer datblygu y tu allan i drefi ymwneud ag annog mantais ariannol a chyfleoedd datblygu tuag at ganol y dref, neu sicrhau bod datblygiadau y tu allan i drefi wedi’u cysylltu’n gymdeithasol ac yn ofodol â chanol trefi. Fodd bynnag, ni all hyn olygu dymchwel neu ailddatblygu datblygiadau y tu allan i drefi, oherwydd nid yw hynny’n ddymunol nac yn amgylcheddol gyfrifol.

Mae angen i bolisi cynllunio ystyried datblygiad canol trefi yn gyntaf cyn adeiladu safleoedd y tu allan i’r trefi. Mae gan lywodraeth genedlaethol a lleol ran i’w chwarae i gefnogi ailddefnyddio datblygiadau y tu allan i drefi mewn modd addasol, fel ardaloedd sydd wedi’u cysylltu â chanol trefi drwy deithio llesol, gyda chyfleusterau gan gynnwys mannau gwaith a rennir a seilwaith cymdeithasol.

  • Cam Gweithredu - Cryfhau gweithrediad y polisi Canol Trefi yn Gyntaf wrth gynllunio a grymuso cynllunwyr lleol i wrthod datblygiadau nad ydynt yn bodloni'r polisi ac i gynnig cynlluniau newydd ar gyfer ailddefnyddio datblygiadau y tu allan i drefi mewn modd addasol.

Rhaid i ni ganolbwyntio hefyd ar leihau allyriadau carbon. Yn 2019, trafnidiaeth oedd yn cyfrif am oddeutu 16% o gyfanswm allyriadau Cymru (Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr fesul Blwyddyn ar Stats Cymru), felly mae’n rhaid i hynny chwarae ei ran yn ein dyfodol glanach. Mae angen i ni leihau nifer y siwrneiau a wneir mewn ceir preifat a chynyddu nifer y bobl sy’n cerdded, yn beicio ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae llai o dagfeydd traffig, seilwaith gwyrdd, gweithio mwy o bell, aer glanach, a defnyddio gofod strydoedd yn fwy effeithlon i gyd yn gyfleoedd ar gyfer canol ein trefi.

Mae gan Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, ddull triphlyg: lleihau'r angen i deithio yn y lle cyntaf drwy ddod â swyddi, siopau, gwasanaethau a chyfleusterau yn agos i’r ardal lle mae pobl yn byw; gwneud dulliau teithio cynaliadwy – cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus – yn ddewis deniadol naturiol; ac annog pawb i wneud y dewisiadau cynaliadwy hynny o ran trafnidiaeth.

Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi dod yn gyfrifol am baratoi Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ddiweddar. Mae alinio datblygiad economaidd rhanbarthol, trafnidiaeth a dulliau cynllunio defnydd tir drwy Gydbwyllgorau Corfforaethol yn rhoi cyfle i fanteisio ar y cyd-ddibyniaeth rhyngddynt, gan gynnwys ystyried sut y bydd ein canol trefi yn cyfrannu at yr agendâu pwysig hyn.

Bydd Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynnwys:

  • polisïau ar gyfer hybu cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth diogel, integredig, effeithlon ac economaidd yn eu hardal;
  • polisïau sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion pobl sy’n byw neu'n gweithio yn yr ardal, neu sy’n ymweld â’r ardal honno neu’n teithio drwyddi;
  • polisïau sy’n ofynnol ar gyfer cludo llwythi; a
  • pholisïau sy’n cynnwys cyfleusterau a gwasanaethau i gerddwyr.

Rhaid i gynlluniau gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru ar yr amod:

  • bod y cynllun yn gyson â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, a
  • bod y polisïau yn y cynllun yn ddigonol ar gyfer rhoi’r Strategaeth ar waith.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn paratoi canllawiau i helpu Cyd-bwyllgorau Corfforedig i baratoi cynlluniau sy’n rhoi cyfle i sicrhau bod Partneriaethau Pontio Rhanbarthol yn ystyried cynlluniau ehangach ar gyfer creu lleoedd a Chanol Trefi yn Gyntaf.

  • Cam Gweithredu - Bydd ein canllawiau ar gyfer paratoi Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ei gwneud yn ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ystyried polisïau ehangach, gan gynnwys Canol Trefi yn Gyntaf.

Er mwyn cyflawni yn erbyn ein targedau lleihau carbon a newid dulliau teithio, mae angen newid y ffordd rydym yn teithio. Mae angen llai o geir ar ein ffyrdd, ac mae angen i fwy o bobl gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Un maes sy’n dod i’r amlwg ac sydd â'r potensial i newid dulliau teithio, mynd i'r afael â thargedau carbon a chefnogi buddsoddiad mewn trafnidiaeth gynaliadwy yw cynlluniau rheoli’r galw, fel codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd ac ardollau parcio ceir, ochr yn ochr â phecyn o fanteision sy’n gwella’r drafnidiaeth gynaliadwy a gynigir.

  • Cam Gweithredu - Byddwn yn edrych ar ddull ‘pecynnau buddion a chodi tâl’ teg a chyfartal o gyflwyno unrhyw gynlluniau rheoli'r galw newydd, gan edrych ar ffyrdd o wella gwasanaethau cyn codi tâl, neu gyflwyno prisiau is pan fydd y cyfnod codi tâl yn dechrau.

Cyflawni mewn ffordd gydgysylltiedig

Yn ogystal â’r heriau a nodir uchod, bydd pob tref hefyd yn wynebu problemau a chyfleoedd penodol eraill, ac mae deall y cyd-destun lleol yn hollbwysig er mwyn penderfynu pa fath o fuddsoddiad sy’n debygol o fod fwyaf effeithiol o ran cefnogi llwyddiant tref. Bydd y pethau sylfaenol yn debyg ar gyfer y rhan fwyaf o drefi – fel gwasanaeth bysiau digonol, cynnig gwasanaethau amrywiol, cysylltedd digidol da – ond bydd y ffordd orau o’u darparu a’u blaenoriaethu yn wahanol. Nid oes datrysiad syml, na model sy’n addas i bawb. Felly, mae’n hanfodol cael dull sy’n caniatáu i bob tref ddod o hyd i atebion lleol sy’n manteisio i’r eithaf ar fenter a gwybodaeth leol.

Lansiwyd y Rhaglen Trawsnewid Trefi ym mis Mawrth 2020 i gefnogi’r gwaith o ddatblygu prosiectau adfywio strategol, yn ogystal â gweithgareddau creu lleoedd ar raddfa lai. Mae’r Rhaglen hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi lleoliad gwasanaethau yng nghanol trefi a allai fod wedi’u lleoli yn rhywle arall. Mae gan y rhaglen Trawsnewid Trefi rôl barhaus, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £100m arall i'r Rhaglen dros y tair blynedd nesaf. Mae cyllid dan y Rhaglen ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gallu sefydlu partneriaethau lleol newydd yn unol â gweledigaeth hirdymor a rennir drwy gynlluniau bro ar gyfer y trefi y maent yn eu blaenoriaethu.

  • Cam Gweithredu - Rhaid targedu’r cyllid Trawsnewid Trefi yn yr ardaloedd lle mae’n gallu cefnogi cyfleoedd trawsnewidiol ac o dan gynllun creu lleoedd sydd wedi cael ei ddatblygu’n lleol ar draws pob sector.

Dylai cynlluniau creu lleoedd gael eu harwain yn lleoedd gael eu harwain yn lleol a chynnwys rhanddeiliaid ar draws amrywiaeth o ddiddordebau. Dylent ddechrau gyda chymunedau a phobl yn adeiladu ar eu hanghenion, eu dymuniadau a’u dyheadau, gan ystyried asedau a meithrin hyder a gweithredu’n lleol. Dylai datblygu cynlluniau creu lleoedd hefyd chwilio am gyfleoedd gan y sector preifat a’r trydydd sector i ddenu mewnfuddsoddiad a sicrhau dyfodol cynaliadwy i drefi.

Mae awdurdodau lleol yn hanfodol yn hyn o beth gan eu bod yn gallu defnyddio eu maint a’u gwasanaethau i gyflawni, gan ddod â chymunedau, busnesau, elusennau a sefydliadau lleol allweddol eraill at ei gilydd i gydweithio. Gall sefydliadau ar lefel genedlaethol, gan gynnwys cyrff cyhoeddus ac asiantaethau, adeiladu ar hyn a chyfrannu gwybodaeth ac arian er mwyn cyflawni ar lefel trefi lleol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwysau ar adnoddau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu, ac mae wedi dyrannu cyllid refeniw dros dair blynedd o dan y rhaglen Trawsnewid Trefi. Byddwn yn ystyried opsiynau o ran sut y gellid ei ddefnyddio i gryfhau capasiti awdurdodau lleol wrth gynhyrchu cynlluniau creu lleoedd a rhoi mynediad iddynt at arbenigwyr i gefnogi’r gwaith o gyflawni. Mae Comisiwn Dylunio Cymru eisoes wedi darparu’r math hwn o gymorth fesul prosiect.

  • Cam Gweithredu - Ystyried opsiynau i gefnogi’r capasiti ar gyfer cyflawni a darparu cymorth arbenigol, gan gynnwys ystyried cylch gwaith Comisiwn Dylunio Cymru yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r argyfyngau natur a hinsawdd wrth wraidd ei phroses gwneud penderfyniadau. Mae angen gweithredu’n wahanol a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd wrth adfywio canol ein trefi oherwydd maent yn wynebu risgiau amgylcheddol sylweddol fel yr amlinellir uchod. Mae Seilwaith Gwyrdd a mabwysiadu dull economi gylchol yn adnodd dibynadwy ar gyfer delio â llawer o'r problemau y mae trefi a dinasoedd yn eu hwynebu, a helpu i wella’r gallu i wrthsefyll effaith yr argyfwng natur a newid hinsawdd.

Rhaid i Seilwaith Gwyrdd fod yn rhan gadarn o gynlluniau canol trefi. Rhaid darparu swm a math priodol o Seilwaith Gwyrdd gyda phob datblygiad, ac adlewyrchu heriau a chyfleoedd y lleoliad dan sylw. Ar hyn o bryd, nid yw hyn yn digwydd fel rhan annatod o’r datblygiad cyfan fel mater o drefn – yn hytrach, mae’n aml yn cael ei ychwanegu er mwyn mynd i'r afael â phroblem benodol.

Yn aml, mae adeiladau cyhoeddus, adwerthu a swyddfeydd yng nghanol trefi sydd â photensial sylweddol i ddefnyddio seilwaith ynni adnewyddadwy (paneli solar, tir, a phympiau gwres ffynhonnell aer ac ati). Gallai cymell ardaloedd i gynhyrchu trydan yn lleol helpu i feithrin cadernid busnesau a gwasanaethau yng nghanol trefi, yn enwedig lle mae clystyrau o adeiladau’n cydweithredu. Ar ben hynny, bydd darparu mwy o gyfleoedd i wefru cerbydau trydan mewn mannau priodol yng nghanol trefi yn cefnogi'r broses o drosglwyddo o danwydd ffosil.

Mae angen i ni ddeall beth sy’n atal Seilwaith Gwyrdd integredig rhag cael ei ddarparu ar hyn o bryd, a mabwysiadu egwyddorion economi gylchol fel mater o drefn. Drwy ddeall hyn, gallwn gefnogi'r gwaith o ddarparu seilwaith gwyrdd ac atebion sy’n seiliedig ar natur yng nghanol trefi er mwyn sicrhau manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd wedi’u targedu.

  • Cam Gweithredu - Gweithio gyda phartneriaid cyhoeddus, cymdeithasol a phreifat i ddadansoddi’r rhwystrau a chanfod cyfleoedd i sicrhau bod seilwaith gwyrdd ac atebion sy’n seiliedig ar natur – gan ddefnyddio egwyddorion economi gylchol – yn cael eu gwreiddio a’u blaenoriaethu yn y broses o wneud penderfyniadau wrth ymgymryd â gwaith mewn mannau cyhoeddus yng nghanol trefi.