Neidio i'r prif gynnwy

Y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol

Mae’r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yn cynnwys cael mynediad at y rhyngrwyd, offer digonol a digon o hyfforddiant a chymorth, ond mae’n fwy na hynny. Mae’n golygu gallu cyfathrebu, cysylltu ac ymgysylltu â chyfleoedd yn ddiogel ac yn hyderus.

Datblygodd y gwaith o ymgynghori ag aelwydydd Cymru a'r DU fasgedaid o nwyddau, gwasanaethau, a sgiliau sydd eu hangen ar aelwydydd â phlant i fodloni’r diffiniad hwn fel prawf-o-gysyniad.

Argymhellion

  • Llywodraeth Cymru i ystyried sut y gellir defnyddio'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol i sicrhau nad oes unrhyw aelwyd yng Nghymru yn is na'r trothwy, fel rhan o weledigaeth ar gyfer cynhwysiant digidol yng Nghymru.
  • Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r Llywodraeth Ganolog, y rheoleiddiwr a'r sector telathrebu i sicrhau bod y seilwaith band eang a data symudol yn ei le fel y gellir cyrraedd y safon lle mae dulliau dylanwadu ar bolisi a rheoleiddio y tu allan i bwerau datganoledig.
  • Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ymchwil i’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru er mwyn llywio a mesur cynnydd tuag at Statws Dangosydd Cenedlaethol Cynhwysiant Digidol.
  • Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol ar draws Cymru i ddefnyddio'r safon fel sbardun ar gyfer camau cydgysylltiedig, cydweithredol ar draws sectorau a nodi polisi pendant a chamau ymarferol i helpu i gyflawni hyn ar gyfer pob aelwyd yng Nghymru.
  • Llywodraeth Cymru i chwarae ei rôl lawn wrth hyrwyddo cydraddoldeb y Gymraeg wrth ddylunio a darparu systemau digidol, gwasanaethau, hyfforddiant, a chymorth yng Nghymru.
  • Gall sefydliadau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru - ar draws sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol - ddefnyddio'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru i asesu eu dull eu hunain, cefnogi cydweithio, a chyfeirio adnoddau tuag at gynhwysiant digidol.
  • Llywodraeth Cymru i gomisiynu gwaith pellach (gan adeiladu ar brawf cysyniad) i ddeall goblygiadau'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol ar amrywiaeth ehangach o aelwydydd a chymunedau, ac i gynnull rhanddeiliaid i nodi cyfleoedd ar gyfer gweithio ar y cyd i gyrraedd y safon.eholders to identify opportunities for collaborative working to achieve the standard.

Cefndir

Mae anghydraddoldebau digidol yn cwmpasu gwahaniaethau, diffygion a chyfyngiadau mewn mynediad, sgiliau a galluoedd sydd â chanlyniadau diriaethol sylweddol i ddinasyddion, aelwydydd, a chymunedau. Yng Nghymru, nid yw'r rhaniad digidol - rhwng y rhai sydd â'r dyfeisiau a'r data, yn ogystal â'r sgiliau a'r galluoedd, a'r rhai sydd hebddynt - erioed wedi bod yn fwy amlwg a chanlyniadol. Mae Cymru'n wynebu heriau gwahanol o ran cynhwysiant digidol, yn enwedig materion iaith, amddifadedd cymdeithasol, poblogaethau gwledig ynysig, a phoblogaeth sy'n heneiddio. Nod y prosiect hwn yw symud trafodaeth ymchwil a pholisi ar gynhwysiant digidol ymlaen trwy feithrin dealltwriaeth gyffredin ochr yn ochr â mesurau mwy cadarn i lywio ymyriadau - mesurau sy'n adlewyrchu ystyr a chanlyniadau cynhwysiant ac allgau digidol ar gyfer dinasyddion, aelwydydd, a chymunedau yng Nghymru.

Mae'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yn ddiffiniad sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion o'r hyn sy'n cyfrif fel cynhwysiant neu allgáu digidol. Mae'r dull gweithredu'n defnyddio methodoleg y Safon Isafswm Incwm (MIS) i faterion cynhwysiant digidol - gan ddefnyddio dulliau o ymgynghori ag aelodau'r cyhoedd i ddatblygu safon yn seiliedig ar gonsensws cyhoeddus a'i wreiddio ynddi. Gan ddilyn y Safon Isafswm Incwm, mae'r MDLS yn gosod 'trothwy cyfranogiad digidol', a ddiffinnir gydag aelodau'r cyhoedd, fel isafswm, ac o dan yr isafswm hwn, nid oes gan aelwydydd bopeth sydd ei angen arnynt i gymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd. Fel astudiaeth prawf-o-gysyniad, mae'r MDLS wedi canolbwyntio i ddechrau ar anghenion aelwydydd â phlant trwy gyfres o grwpiau ffocws gyda rhieni a phobl ifanc i sefydlu'r hyn maen nhw'n credu sydd ei angen ar deuluoedd i gyrraedd y trothwy hwn. Mae hyn yn cynnwys dyfeisiau, cysylltiad rhyngrwyd yn ogystal â sgiliau.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru dîm prosiect MDLS i helpu i ddatblygu Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru. Roedd y prosiect yn cynnwys cyfres o weithgareddau ymchwil: ymgysylltu ag aelodau Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru; adolygu llenyddiaeth; cyfweliadau ar-lein ac arolwg gyda rhanddeiliaid o bob rhan o dirwedd ddigidol Cymru. Bu'r tîm hefyd yn cynnal grwpiau ffocws ymgynghorol gydag aelodau'r cyhoedd yng Nghymru i brofi ac archwilio perthnasedd diffiniad MDLS i Gymru, a chynnwys yr MDLS ar gyfer aelwydydd trefol â phlant - gan gynnwys ei berthnasedd mewn ardaloedd gwledig.

Prif fewnwelediadau o'r ymchwil

Mewnwelediad 1

Teimlai aelodau'r cyhoedd fod y diffiniad o Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol a chynnwys yr MDLS ar gyfer aelwydydd trefol â phlant yn briodol ac yn adlewyrchu'r anghenion yng Nghymru. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar rwystrau rhag diwallu'r anghenion hynny.

Mewnwelediad 2     

Croesawodd rhanddeiliaid yng Nghymru (ar draws sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol) y syniadau o feincnod cenedlaethol ar gyfer cynhwysiant digidol i Gymru. Roedden nhw'n teimlo y gallai hyn:

  • gynorthwyo i gydlynu cymorth ar draws Cymru, gan annog Llywodraeth Cymru ac eraill i fentro mwy a gweithio ar y cyd i raddau mwy helaeth i gyrraedd safon o'r fath
  • gwella a datblygu eu cynigion digidol wrth i sefydliadau leoli neu weithio yng Nghymru, gan gyfeirio mwy o adnoddau at gefnogi bywydau digidol pobl y maen nhw'n eu cefnogi
  • cyfnerthu ymrwymiad hirdymor i wella cydraddoldeb digidol yng Nghymru, gan roi blaenoriaeth i gynhwysiant digidol yn uwch i fyny'r agenda ar gyfer polisi a buddsoddi

Mewnwelediad 3     

Roedd y rhan fwyaf o randdeiliaid yn cefnogi'r diffiniad MDLS ar gyfer Cymru. Nododd rhanddeiliaid feysydd allweddol i'w hystyried wrth symud y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru ymlaen:

  • rhwystrau fforddiadwyedd, yn enwedig yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw presennol
  • rhwystrau seilwaith – seilwaith band eang a data symudol, ond hefyd seilwaith ehangach yn enwedig (ond heb fod yn gyfyngedig i) ardaloedd gwledig yng Nghymru
  • cydraddoldeb y Gymraeg mewn systemau digidol, gwasanaethau, hyfforddiant, a chymorth
  • gallu darparwyr a sefydliadau i helpu aelwydydd i gyrraedd y safon
  • pwysigrwydd cydnabod, adnabod, a mynd i'r afael â chydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant
  • nodi rolau Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, ac eraill, gan gynnwys dylanwadu ar Lywodraeth Ganolog, rheoleiddwyr, a chwmnïau'r DU ar ran Cymru

Towards a minimum digital living standard for Wales

Mae'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yn ddiffiniad sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion o'r hyn sy'n cyfrif fel cynhwysiant neu allgáu digidol. Roedd y fethodoleg ar gyfer datblygu'r MDLS yn cynnwys grwpiau ffocws gydag aelodau'r cyhoedd yn y DU, gan gynnwys Cymru. Yn ogystal, ariannodd Llywodraeth Cymru dîm MDLS i gynnal grwpiau ffocws ychwanegol gyda rhieni a phobl ifanc yng Nghymru i brofi ac archwilio perthnasedd diffiniad MDLS, a chynnwys yr MDLS ar gyfer aelwydydd trefol â phlant yng Nghymru. Roedd pobl a oedd yn cymryd rhan yn y grwpiau hyn yn byw mewn ardaloedd gwledig yn ogystal ag ardaloedd trefol ledled Cymru.

Cadarnhaodd y grwpiau fod diffiniad yr MDLS a chynnwys yr MDLS yn briodol i Gymru. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y ffactorau pwysig sy'n dylanwadu ar alluoedd pobl yng Nghymru i gyrraedd y trothwy, yn benodol:

  • cyflymder band eang cartref, ansawdd cysylltiad a dibynadwyedd, gyda goblygiadau ar gyfer fforddiadwyedd
  • bylchau o ran darpariaeth signal data symudol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ond hefyd mewn ardaloedd trefol - ac felly'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i reoli'r defnydd o ddata symudol
  • seilwaith ehangach - er enghraifft, agosrwydd at wasanaethau llyfrgell er mwyn medru argraffu mewn ardaloedd gwledig
  • pryderon oedolion a phobl ifanc ynghylch risgiau a niwed digidol posib, gyda rhieni'n arbennig o bryderus am ddiogelwch digidol i blant a sut i reoli hyn

MDLS: Aelwydydd Trefol â Phlant

Roedd grwpiau gyda rhieni a phobl ifanc yn teimlo bod aelwydydd â phlant angen yr ystod o nwyddau, gwasanaethau a sgiliau a amlinellir isod i fodloni’r MDLS - i'w galluogi i gyflawni'r tasgau a'r gweithgareddau sydd eu hangen ar deuluoedd, ac i deimlo'n hyderus, yn ddiogel ac wedi'u cynnwys yn y byd digidol. Mae anghenion digidol yn gydgysylltiedig, felly mae sicrhau MDLS yn cynnwys cyfuniad o'r elfennau hyn.

Mae'r nwyddau, gwasanaethau a sgiliau a restrir yn y tabl yn cyflwyno beth oedd y grwpiau yn teimlo oedd ei angen ar gyfer cyrraedd MDLS. Fodd bynnag, ni fwriedir i MDLS fod yn rhagnodol, nid yw'n nodi sut y dylid diwallu'r anghenion hyn, na beth ddylai unrhyw sefydliad neu gorff llywodraeth ei ddarparu. Yn hytrach, mae sefydlu beth sydd ei angen ar bobl i gyrraedd MDLS yn llywio ymdrechion eang i gefnogi teuluoedd i deimlo’n hyderus, yn ddiogel, ac i gael eu cynnwys yn y byd digidol.

Nwyddau a gwasanaethau digidol

Band eang cartref

  • Gyda digon o ddibynadwyedd a chyflymder i gefnogi mynediad at y rhyngrwyd i bob aelod o'r teulu ar yr un pryd.

Ffôn a data symudol

  • Ffôn clyfar lefel mynediad i bob rhiant a phlentyn oedran ysgol uwchradd + 5GB o ddata'r mis yr un.
  • 3GB ychwanegol o ddata bob mis os oes ganddynt blentyn oedran cyn-ysgol neu oedran ysgol gynradd.

Gliniadur/tabled

  • Gliniadur lefel mynediad i bob aelwyd – rhiant/rhieni a phlentyn cyntaf yn rhannu un ddyfais.
  • Dyfais ychwanegol ar gyfer pob plentyn oed ysgol ychwanegol.

Clustffonau

  • Set o glustffonau i blant oed ysgol.

Teledu a thanysgrifiad teledu

  • Teledu clyfar, lefel mynediad â sgrin 32".
  • Gwasanaeth tanysgrifio teledu lefel mynediad (e.e. Netflix, Disney+) yn ogystal â thrwydded deledu.

Uchelseinydd clyfar

  • Uchelseinydd clyfar lefel mynediad.

Consol chwarae a thanysgrifiad

  • Consol chwarae a thanysgrifiad gemau ar-lein lefel mynediad.

Sgiliau

Mae angen i rieni fod â'r sgiliau sy'n cael eu hamlinellu isod, ac mae'r lliwiau'n nodi'r oedran/cam lle mae angen i blant ddechrau datblygu'r sgiliau hyn, yn ôl rhieni a phobl ifanc.

Sgiliau ymarferol a swyddogaethol

Gan ddefnyddio dyfeisiau digidol, rhaglenni a'r rhyngrwyd

  • Defnyddio swyddogaethau dyfeisiau (cyn-ysgol).
  • Defnyddio apiau a rhaglenni (ysgol gynradd cynnar).
  • Lawrlwytho apiau a rhaglenni (ysgol gynradd hwyr).
  • Cadw ac adfer dogfennau (ysgol gynradd hwyr).
  • Cysylltu dyfeisiau â'r rhyngrwyd/poethfannau (ysgol gynradd hwyr).
  • Newid gosodiadau (ysgol uwchradd cynnar).

Ymgysylltu ar-lein

  • Defnyddio Zoom/Teams/Google classrooms (ysgol gynradd hwyr).
  • Cyflawni chwiliadau porwr (ysgol gynradd hwyr).
  • Defnyddio apiau ysgol (gwaith cartref, cyfathrebu ysgol-cartref) (ysgol uwchradd cynnar).
  • Creu cyfrif e-bost ac anfon e-byst (ysgol uwchradd hwyr).
  • Archebu a ffurflenni ar-lein (e.e., apwyntiadau) (ysgol uwchradd hwyr).
  • Taliadau heb arian/ar-lein (ysgol uwchradd hwyr).

Rheoli a monitro dyfeisiau digidol a defnydd data

  • Creu a didoli ffeiliau a ffolderi (ysgol gynradd cynnar).
  • Diffodd dyfeisiau yn iawn (ysgol gynradd cynnar).
  • Dileu hen ffeiliau i reoli storio ar ddyfeisiau (ysgol gynradd hwyr).
  • Monitro a rheoli defnydd data ffonau (ysgol uwchradd cynnar).

Sgiliau ar gyfer deall a rheoli risgiau digidol

Rheoli diogelwch

  • Defnyddio cyfrineiriau diogel (ysgol gynradd hwyr).
  • Gwybod am bryniannau mewn-ap a'u hosgoi (ysgol gynradd hwyr).
  • Defnyddio nodweddion diogelwch ffôn pan fyddwch allan (e.e., ‘tap triphlyg' neu 'SOS’) (ysgol uwchradd cynnar).
  • Monitro gweithgarwch bancio ar-lein (ysgol uwchradd hwyr).
  • Dileu manylion cerdyn banc er mwyn osgoi prynu damweiniol (ysgol uwchradd hwyr).
  • Gwybod sut i osod rheolaethau rhieni (rhieni).

Rhyngweithio ag eraill

  • Gwerthuso pa fanylion i'w rhannu ar-lein (ysgol gynradd cynnar).
  • Nodi risgiau (e.e., sgamiau, cysylltiadau anniogel, swynwyr trwy dwyll, pobl sy'n meithrin perthynas amhriodol) (ysgol gynradd cynnar).
  • Gwerthuso ceisiadau i fod yn ffrind (ysgol gynradd hwyr).
  • Rheoli pwysau cymdeithasol ac amser ar-lein (ysgol gynradd hwyr).

Rhannu a derbyn gwybodaeth

  • Gwerthuso ansawdd gwybodaeth (e.e., nodi camwybodaeth/twyllwybodaeth neu luniau afrealistig) (ysgol gynradd hwyr).
  • Gwybod sut i osgoi ac adrodd cynnwys amhriodol/tramgwyddus (ysgol gynradd hwyr).
  • Deall ôl-troed digidol (ysgol uwchradd cynnar).

Gwerth y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yng Nghymru

Roedd rhanddeiliaid o blaid y syniad o osod meincnod cenedlaethol ar gyfer Cymru.

Dwi'n meddwl bod cyflwyno'r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yn mynd i newid yr holl ffocws.

Arweinydd elusen.

Cytunodd y rhan fwyaf o randdeiliaid gyda'r diffiniad gan nodi meysydd i'w hystyried wrth symud y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru yn ei blaen.

Roedd rhanddeiliaid o'r farn y gallai'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru annog Llywodraeth Cymru, cwmnïau, a sefydliadau eraill i fentro mwy, cydweithio'n fwy cydweithredol a chydlynu ymdrechion i gyrraedd y safon honno yng Nghymru. Roedd rhanddeiliaid yn teimlo y gallai wella a datblygu eu cynigion digidol eu hunain a helpu i flaenoriaethu cynhwysiant digidol mewn polisïau a buddsoddiadau cyhoeddus.

Nododd rhanddeiliaid feysydd allweddol i'w hystyried wrth symud y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru yn ei blaen.

Fforddiadwyedd

Gan adlewyrchu'r argyfwng costau byw presennol, a phryder am lefelau amddifadedd mewn rhai rhannau o Gymru. Roedd rhai rhanddeiliaid yn myfyrio bod hyd yn oed 'tariffau cymdeithasol' gostyngol ar gyfer band eang yn gallu bod yn fwy nag y gall rhai aelwydydd eu fforddio ar hyn o bryd.

O ran yr ochr honno o gost a fforddiadwyedd, nid band eang yn unig yw hi ar hyn o bryd, mae trydan, os nad ydych yn gallu talu eich bil trydan, yna allwch chi ddim cael mynediad i'r we

Darparwr tai cymdeithasol.

Ardaloedd gwledig

Thema gyson, er bod rhai'n teimlo nad oedd yn nodedig i Gymru. Roedd yna rywfaint o bryder bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU o ran seilwaith band eang a data symudol, gyda chydnabyddiaeth y byddai angen buddsoddiad ychwanegol i gyrraedd y safon ar draws pob ardal. Daeth ardaloedd gwledig hefyd i'r amlwg ynghylch seilwaith ehangach fel gwasanaethau llyfrgell a chefnogaeth gymunedol.

Daeth cydraddoldeb y Gymraeg

Drwodd yn gryf gan rai rhanddeiliaid, gyda disgwyliadau ynghylch dylunio a darparu systemau, gwasanaethau, a hyfforddiant digidol. Gall hyn fod yn heriol lle mae'r rhain yn cael eu comisiynu, eu cynhyrchu, a'u cynnal y tu allan i Gymru a thu allan i'r DU.

Cydraddoldebau ac amrywiaeth

I'r rhai sy'n gweithio gyda grwpiau sy'n fwy tebygol o gael eu hallgau’n ddigidol (fel oedolion hŷn, pobl anabl, pobl sy'n profi digartrefedd), roedd pwysigrwydd myfyrio ar eu hanghenion, eu hamgylchiadau a'u dewisiadau penodol yn neges allweddol, gan gynnwys y dewis i beidio â defnyddio digidol. Mae angen gwneud cysylltiadau pwysig rhwng y safon a'r ecwiti ehangach, ac ymrwymiadau a deddfwriaeth amrywiaeth a chynhwysiant.

Y camau nesaf

Mae disgwyl penderfyniad ar ail gam prosiect MDLS Cymru erbyn Mawrth 2023. Os cytunir ar hynny, bydd yn archwilio – gyda dinasyddion, rhanddeiliaid, a grwpiau sy'n cynrychioli dinasyddion – yr hyn fydd ei angen i symud tuag at sicrhau'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru. Bydd yn cynnwys materion yn ymwneud â chyflawni yn ogystal â safbwyntiau pobl ar ba gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnynt i oresgyn rhwystrau i gyrraedd MDLS. Bydd y cam hwn yn creu argymhellion am sut i weithredu'r MDLS yng Nghymru.

Ynglŷn â'r adroddiad hwn

Mae’r crynodeb hwn yn ymdrin â phrosiect a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru (W-MDLS). Mae hyn yn adeiladu ar brosiect ledled y DU a ariennir gan Sefydliad Nuffield a Nominet i ddatblygu Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol y DU (MDLS).

Datblygwyd y syniad o MDLS gan dîm prosiect MDLS (Prifysgol Lerpwl, Prifysgol Loughborough, Sefydliad Good Things a City, Prifysgol Llundain). Ariennir prosiect MDLS gan Sefydliad Nuffield o dan y rhif grant FR000022935. Rhoddodd Nominet arian ychwanegol i gefnogi grwpiau ffocws gyda phobl ifanc. Cam nesaf prosiect MDLS yw arolwg cynrychioliadol cenedlaethol a digwyddiadau ymgynghorol.

Gwefan.

Awduron

  • Simeon Yates.
  • Katherine Hill.
  • Chloe Blackwell.
  • Emma Stone.
  • Gianfranco Polizzi.
  • Rebecca Harris.
  • Jeanette D’Arcy.
  • Abigail Davis.
  • Matt Padley.
  • Dan Roberts.
  • Jocelle Lovell.
  • Hamish Laing.

Sefydliadau

  • Loughborough University.
  • University of Liverpool.
  • Cwmpas.
  • Good Things Foundation.
  • Prifysgol Abertawe.