Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion Fframwaith Môr Iwerddon

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fframwaith Môr Iwerddon

Fframwaith anffurfiol yw hwn a fydd yn arwain a dylanwadu ar gamau i gynyddu cydweithrediad economaidd ar draws ardal Môr Iwerddon. Ei nod yw pennu cyfeiriad strategol ar gyfer y tymor byr a thrywydd i’w dilyn er mwyn cyrraedd nodau tymor canolig. Mae'r fframwaith yn hyblyg a bydd yn esblygu ac yn ategu polisïau, strategaethau a rhaglenni perthnasol. Yn eu plith y bydd y Datganiad a’r Cynllun Gweithredu ar y cyd rhwng Cymru ac Iwerddon a rhaglenni Interreg 2021 i 2027.

Ardal Môr Iwerddon

Yr ardal ddaearyddol a ddiffinnir gan Fôr Iwerddon, y Môr Celtaidd a Sianel y Gogledd. Mae gwledydd a rhanbarthau cyfagos yn dylanwadu ar yr ardal hon hefyd. Yn eu plith y mae Cymru, Iwerddon, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gogledd-orllewin Lloegr, De-orllewin Lloegr ac Ynys Manaw. Bydd y ddaearyddiaeth economaidd sydd ohoni a chysylltiadau dwyochrog yn dylanwadu ar y gweithgarwch hefyd.

Wrth weithredu yn yr ardal hon, dylid hoelio sylw ar fanteision economaidd a chymdeithasol yn hytrach nag ar ddaearyddiaeth. Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran darpar bartneriaid sydd am elwa ar y manteision hynny. Er enghraifft, mae gan Lydaw gysylltiadau diwylliannol ac economaidd cryf ag ardal Môr Iwerddon eisoes.

Y Cefndir

Mae cydweithredu â chenhedloedd a rhanbarthau eraill yn ychwanegu gwerth at weithgarwch economaidd. Mae'n galluogi partneriaid i weithredu ar raddfa ehangach, i sicrhau màs critigol ac i roi proffil uwch i’w hunain. Mae cydweithio yn golygu bod modd cyfnewid syniadau ac arferion da. Gall arwain at fwy o arloesi ac at fod yn fwy cystadleuol, yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â materion allweddol sydd y tu hwnt i unrhyw ffiniau. Nid yw mynd i'r afael â heriau fel adfer ar ôl Covid, y newid yn yr hinsawdd, a globaleiddio, yn rhywbeth y gall unrhyw genedl neu ranbarth ei wneud ar ei ben ei hun.

Mae Interreg wedi galluogi sefydliadau, busnesau a chymunedau i gydweithio. Mae rhwydweithiau trawsffiniol a grëwyd mewn meysydd polisi allweddol wedi sicrhau canlyniadau economaidd sylweddol. Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â gwahodd trydydd gwledydd i gymryd rhan yn rhaglenni Interreg 2021 i 2027. Un eithriad yw’r rhaglen PEACE Plus rhwng y DU/Iwerddon (rhwng y Gogledd a’r De) ar ynys Iwerddon. Mae'r sefyllfa hon yn gryn fygythiad i gynaliadwyedd llawer o rwydweithiau a phrosiectau yn ardal Môr Iwerddon sydd wedi cael cymorth o dan amryfal raglenni Interreg. Mae hefyd yn golygu bod llawer iawn yn llai o bosibilrwydd y bydd prosiectau cydweithredu arloesol newydd yn dod i'r amlwg.

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â'i phartneriaid yn y Llywodraethau Datganoledig, sef Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, wedi bod yn ystyried cyfleoedd i gydweithio’n economaidd ac yn gymdeithasol ar draws ac o amgylch ardal Môr Iwerddon, gan wneud hynny mewn ffordd gynaliadwy. Mae Llywodraeth Iwerddon wedi cadarnhau hefyd ei bod am edrych ar yr opsiynau ar gyfer cynnal ac adeiladu ar y prosiectau a'r partneriaethau a ddatblygwyd drwy fod yn rhan o raglenni cyllido’r UE.

Ym mis Mawrth 2021, comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad annibynnol, sef yr 'Irish Sea Study' er mwyn edrych ar y mater hwn. Fe’i paratowyd gan y Ganolfan Ymchwil i Bolisïau Ewropeaidd ym Mhrifysgol Ystrad Clud, ac mae'n tynnu sylw at y cyfle i ddechrau ar gyfnod newydd o weithgarwch a chydweithredu ar draws tiriogaethau. Mae'n dangos bod manteision sylweddol yn gysylltiedig â chydweithredu, ac mae’n tynnu sylw at nifer flaenoriaethau economaidd cyffredin. Mae’r argymhellion yn amlinellu sut i fynd ati fesul cam i fwrw ymlaen â’r cysyniad o gydweithio yn ardal Môr Iwerddon. Mae’n argymell llwybr hyblyg a fydd yn caniatáu i bartïon sydd â diddordeb ymuno ar eu cyflymder eu hunain.

Gweithgarwch y rhoddir cymorth ar ei gyfer

Bydd y fframwaith yn cefnogi unrhyw weithgarwch a fydd yn:

  • sbarduno cydweithrediad economaidd ar draws ac o amgylch ardal Môr Iwerddon
  • ychwanegu gwerth at weithgarwch sy’n digwydd eisoes
  • sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol.

Bydd yn cynnwys:

  • hyrwyddo mwy o ymgysylltu
  • tynnu sylw at gryfderau
  • nodi cyfleoedd  
  • meithrin partneriaethau a datblygu rhwydweithiau
  • treialu gweithgarwch
  • dylanwadu ar gyllidwyr

Gellir cynnwys dau neu fwy o ranbarthau wrth gydweithio ar draws ffiniau. Nod y fframwaith yw sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael eisoes yn cael yr effaith orau bosibl a, phan fo modd, ysgogi buddsoddiad. Bydd gan unrhyw gyllid cyfochrog ei delerau a’i amodau ei hun hefyd.

Cyllid

Nid rhaglen gyllido yw'r fframwaith. Ei nod yw sicrhau bod adnoddau sydd ar gael eisoes yn cael yr effaith orau bosibl a, phan fo modd, ysgogi buddsoddiad. Mae’n bosibl y bydd rhaglenni cyllido a fydd yn cyd-fynd â'r fframwaith yn dod i'r amlwg yn y dyfodol, ond nid oes unrhyw sicrwydd o hynny.

Mae’n bosibl y bydd rôl ar gyfer cyllid sbarduno, oherwydd bod buddsoddiadau bach yn gallu cefnogi rhwydweithiau a helpu i ysgogi cyllid arall a chyfleoedd eraill. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu cyllid sbarduno i gyd-fynd â'r fframwaith ac mae'n bosibl y bydd yn gwneud hynny eto. Dichon y bydd partneriaid eraill a phartneriaid posibl yn defnyddio rhywfaint o’u buddsoddiad mewn ffordd debyg.

Pwy sy'n rhan o'r fframwaith

Rhanddeiliaid o'r rhanbarthau a'r cenhedloedd o amgylch ardal Môr Iwerddon, yn ogystal â rhanbarthau a chenhedloedd ymhellach i ffwrdd sydd â buddiannau cyffredin. Mae'r fframwaith yn un anffurfiol ac mae’r gweithgarwch yn wirfoddol. Mae cynghrair o bartneriaid sy’n barod i ymuno yn y gweithgarwch yn ymgasglu o amgylch y rhanddeiliaid a fydd yn bwrw ymlaen â’r camau gweithredu. Ni fydd yr holl  randdeiliaid yn ymwneud â'r fframwaith i’r un graddau, ond llywodraethau ac awdurdodau perthnasol fydd yr arweinwyr strategol. Mae rhanddeiliaid yn cael eu hannog i fwrw ymlaen â chamau o dan y fframwaith. Gall hynny gynnwys cynnal digwyddiadau, sefydlu rhwydweithiau neu hyd yn oed gydweddu buddsoddiadau. Mae'r heriau o ran adnoddau a chyllid yn golygu bod mynd ati fel hyn i sbarduno gweithgarwch ac i gydgyfeirio ymdrechion yn rhan bwysig o'r Fframwaith.

Blaenoriaethau

Mae'r fframwaith yn nodi tri maes eang a fydd yn cael blaenoriaeth wrth fynd ati i gydweithio. Nid yw'r rhain yn golygu na fydd modd gweithredu mewn meysydd eraill ac mae’n bosibl y byddant yn esblygu, ond y tri maes hyn fydd yn llywio’r gwaith o flaenoriaethu adnoddau, camau gweithredu a chyllid yn y tymor byr. Gan fanteisio ar Astudiaeth Môr Iwerddon, aed ati ar y cyd yn Symposiwm Môr Iwerddon, a gynhaliwyd ym mis Mehefin, 2022 i bennu’r blaenoriaethau. Maent eisoes wedi cael cefnogaeth fras ymhlith y rhanddeiliaid. Maent hefyd yn adlewyrchu’r capasiti sydd ar gael ar hyn o bryd ac yn ategu llawer o bolisïau a rhaglenni sy’n bodoli eisoes, yn ogystal â rhai sydd yn yr arfaeth.

Blaenoriaeth 1: Economi Las Gynaliadwy

Mae’r flaenoriaeth hon yn cydnabod bod Môr Iwerddon, y Môr Celtaidd a Sianel y Gogledd yn asedau allweddol. Mae hefyd yn cydnabod yr heriau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd a’r polisi sero net. Mae ynni morol ac ynni adnewyddadwy, gan gynnwys datgarboneiddio ac ynni gwyrdd (cynhyrchu ynni gwynt ar y môr, hydrogen, etc) yn gyfleoedd allweddol. Mae rôl porthladdoedd, y diwydiant pysgota a chymunedau arfordirol yn ystyriaethau hefyd. Mae angen cadw’r ddysgl yn wastad rhwng sicrhau cynifer o gyfleoedd economaidd â phosibl a diogelu'r amgylchedd a bioamrywiaeth.

Blaenoriaeth 2: Cryfderau Arloesi

Mae’r flaenoriaeth hon yn cydnabod bod arloesi ar draws sectorau yn alluogydd allweddol. Gallai gynnwys ymchwil, ond ymchwil a fydd yn canolbwyntio ar effaith ac ar gydweithio â'r sector preifat. Mae iechyd a gwyddorau bywyd yn cynnig cyfleoedd pwysig. Bydd egwyddorion cysyniad Arbenigo Clyfar yr UE yn cael eu defnyddio er mwyn nodi cyfleoedd eraill. Mae potensial hefyd i drosglwyddo gwybodaeth ryngwladol er mwyn gwella'r ffordd y mae’r blaenoriaethau’n cael eu cyflawni, er enghraifft, ym maes iechyd ac ym maes sero net.

Blaenoriaeth 3: Cymunedau a diwylliant

Mae’r flaenoriaeth hon yn cydnabod pwysigrwydd cymunedau arfordirol a gwledig. Mae potensial hefyd i gynnwys cymunedau trefol. Mae'n cydnabod bod gan ardal Môr Iwerddon hanes a diwylliant cyffredin. Mae cyfle i’r cymunedau hynny ymwneud â’i gilydd drwy gyfrwng y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth a chwaraeon. O ddefnyddio asedau cymunedol er budd economaidd, gellir cynyddu twristiaeth a chefnogi diwydiannau sy'n seiliedig ar y môr.

Nid oes unrhyw brif flaenoriaeth ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw adnoddau wedi’u dyrannu rhwng blaenoriaethau ychwaith. Ond gall gweithgaredd Blaenoriaeth 1 a Blaenoriaeth 2 sicrhau manteision economaidd mwy uniongyrchol, a bydd rhai cyllidwyr yn rhoi blaenoriaeth iddyn nhw.

Llywodraethu

Ni fydd y fframwaith yn cael unrhyw effaith ar drefniadau llywodraethu arferol y rhanddeiliaid. Sefydlwyd gweithgor sy’n cael ei arwain gan y Llywodraethau Ddatganoledig i drafod cydweithio ym Môr Iwerddon yn y dyfodol. Mae’r gweithgor hwnnw’n cysylltu â rhanddeiliaid eraill fel y bo'n briodol. Mae’n bosibl y bydd yn esblygu'n grŵp llywio ar gyfer y fframwaith er mwyn rhannu gwybodaeth a meithrin consensws ar gamau gweithredu a blaenoriaethau.

Ymwneud â'r fframwaith

Gallwch gymryd rhan ar 3 lefel.

Ar lefel y fframwaith

Mae croeso i gynrychiolwyr sectorau, awdurdodau, rhanbarthau a chenhedloedd ystyried chwarae rhan bosibl yn y fframwaith. Gallai hynny olygu bod yn rhan o grŵp llywio ar gyfer y fframwaith. Gallent wneud hynny naill ai fel partneriaid ochr yn ochr â'r Llywodraethau Datganoledig neu fel aelodau cysylltiol ar bynciau penodol.

Ar lefel y blaenoriaethau

Gallai rhanddeiliaid sydd â diddordeb cryf yn un o'r meysydd blaenoriaeth gymryd rhan yn y rhwydweithiau sy'n dechrau datblygu yn y meysydd hynny. Er enghraifft, chwarae rôl ragweithiol mewn ymarferion mapio a blaenoriaethu neu gydweithredu ar gamau gweithredu a chydweddu eu hadnoddau eu hunain.

Ymwneud ar lefel gyffredinol

Os nad ydych mewn sefyllfa i fod yn rhagweithiol eto, gallwch ddilyn y datblygiadau drwy’n rhwydwaith Môr Iwerddon a thrwy ddod i ddigwyddiadau perthnasol. Rydym hefyd yn hapus i ystyried sut y gallech gymryd mwy o ran yn y dyfodol.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni ar AgileCymru@llyw.cymru i gael rhagor o fanylion neu i ymuno â'n rhwydwaith rhanddeiliaid Môr Iwerddon.