Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon

Cyrhaeddodd tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, o dan arweiniad Robert Page, rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 drwy guro Wcráin yn y gêm ail-gyfle olaf ym mis Mehefin 2022.

Ym mis Tachwedd 2022, dan gapteniaeth Gareth Bale, fe wnaeth y tîm chwarae tair gêm yng nghamau grŵp rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Doha, Qatar yn erbyn UDA, Iran a Lloegr.

Fe roddodd cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd gyfle i’r tîm pêl-droed a’i gefnogwyr arddangos hunaniaeth, iaith a diwylliant Cymru i filiynau o bobl ar draws y byd. Daeth het fwced Cymru yn olygfa adnabyddus yn Doha, ac ymddangosodd fersiynau enfawr o’r het yn Doha ac mewn llefydd eraill ledled Cymru.

Daeth hyn ar ôl eu hymddangosiad yn nhwrnamaint Ewro 2016 yn Ffrainc, pan wnaethant gyrraedd y rownd gynderfynol, ac Ewro 2020 pan wnaethant gyrraedd yr 16 olaf. Cynhaliwyd y twrnamaint hwnnw ar draws 11 o wledydd, a hynny yn 2021 oherwydd oedi o ganlyniad i bandemig COVID.

Bydd y tîm yn cychwyn ar eu taith i gymhwyso ar gyfer Ewro 2024 ym mis Mawrth. Maent yn Grŵp D, a bydd eu gwrthwynebwyr yn cynnwys Croatia, Latfia, Twrci ac Armenia.