Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Ysbryd y gymuned

Mae Caroline Bridge yn byw yn y Blaenau ym Mlaenau Gwent ac mae wedi bod yn wirfoddolwr ymroddgar sy’n codi arian ar gyfer Hosbis y Cymoedd ers dros 30 mlynedd. Amcangyfrifir ei bod wedi codi dros £100,000 yn uniongyrchol ar gyfer yr elusen yn ystod y cyfnod hwn, drwy amrywiaeth o gasgliadau a digwyddiadau codi arian.

Mae Caroline yn gweithio’n llawn amser fel rheolwr cynllun tai gwarchod i Dai Cymunedol Tai Calon. Hi hefyd yw prif ofalwr ei gŵr, ond mae’n rhoi cymaint o’i hamser â phosibl, gan gynnwys peth o’i gwyliau blynyddol, i gefnogi’r elusen.

Cafodd ei hysbrydoli i gefnogi’r Hosbis fel gwirfoddolwr ar ôl cyfarfod sylfaenwyr yr Hosbis dros 30 mlynedd yn ôl, ac yn fuan iawn penderfynodd ganolbwyntio ar godi arian – drwy gynnal arwerthiannau pen bwrdd, a gwerthu cardiau Nadolig a dyddiaduron yn y gymuned leol. Hi hefyd fu’n bennaf gyfrifol am y siop a agorodd yr Hosbis yn y Blaenau. Yn ogystal â’r arian y mae hi ei hun wedi bod yn gyfrifol am ei godi, mae hefyd wedi codi mwy o arian yn anuniongyrchol drwy gefnogi ymgyrch Light Up A Life ac ymgyrchoedd codi arian eraill. Mae Caroline yn cael ei gwneud yn Llysgennad i’r Hosbis i gydnabod  ei chymorth gwerthfawr i gymuned yr Hosbis.