Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi a Lesley Griffiths,
y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymhellach i'n datganiad ysgrifenedig ar 3 Chwefror, cyfarfu Grŵp Arweinyddiaeth y Tasglu am yr eildro ddydd Gwener diwethaf, 17 Chwefror.

Siom oedd clywed gan y cwmni nad oedd cam cyntaf yr ymgynghoriad wedi adnabod unrhyw gynlluniau hyfyw ar gyfer 2 Sisters Ltd i gynnal y safle yn Llangefni, a bod y cwmni bellach yn symud ymlaen gyda chynlluniau i roi'r gorau i gynhyrchu yno.

Mae Grŵp Gweithredol y Tasglu yn cyfarfod yn wythnosol ac yn cynnwys ystod eang o sefydliadau ac asiantaethau. Eu prif ffocws o hyd yw adnabod a chydlynu cymaint o gymorth â phosibl i gefnogi'r gweithwyr gafodd eu heffeithio o ganlyniad i'r cynlluniau i gau, o ran sicrhau cyflogaeth newydd yn y dyfodol a'u lles.

Roedd y Tasglu'n unfrydol ei gefnogaeth i ymgysylltu'n gynnar a rhagweithiol â pherchennog y safle er mwyn sicrhau ei ddyfodol fel safle cyflogi allweddol i Langefni a'r ardal ehangach.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cyngor Ynys Môn, yr undebau llafur a rhanddeiliaid eraill i gefnogi'r unigolion a'r gymuned leol.