Neidio i'r prif gynnwy

Y cyngor penodol sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru yn 2023 i 2024

1a) Adroddiadau manwl, a phan fo'n briodol, adnoddau eraill sy'n defnyddio tystiolaeth a gesglir o arolygiadau thematig

Mae’r adolygiadau thematig, sydd i'w cynnwys yng nghylch gwaith Estyn ar gyfer 2023 i 2024, wedi’u rhestru yn y tabl isod.

Mae’r eitemau sydd wedi’u cynnwys yn adlewyrchu cylch gwaith strategol sydd â phwyslais ar y diwygiadau presennol o ran gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg a diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, ac mae un eitem yn canolbwyntio ar ddatblygu'r Gymraeg a chefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed.

Adolygiadau thematig, sydd i'w cynnwys yng nghylch gwaith Estyn ar gyfer 2023 i 2024
  Teitl Diben Hyd
1

Cwricwlwm i Gymru: Pontio

Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried sut mae’r broses bontio yn cyd-fynd â'r ddealltwriaeth gyffredin o gynnydd, lles dysgwyr a chynllun y cwricwlwm, a sut mae’n cael ei hategu gan waith clwstwr. Byddai’n ddefnyddiol cynnwys pontio 3 i 16, gan gynnwys pontio i Ddysgu Sylfaen.

Adolygiad safonol
2

Cwricwlwm i Gymru: Datblygu sgiliau darllen Cymraeg

Bydd yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar sgiliau darllen Cymraeg pobl ifanc 11 i 14 oed, a'r pontio rhwng Blwyddyn 6 a Blwyddyn 7, mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae'n dilyn yr adolygiad o ddatblygu sgiliau darllen Saesneg yn 2022 i 2023.

Blwyddyn 2 (adolygiad bach)
3

Diwygio ym maes ADY: Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg mewn ysgolion; blwyddyn 2

Bydd yr adolygiad yn dilyn adolygiad blwyddyn 1 o weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg mewn ysgolion, sydd i fod i gael ei gyhoeddi yn 2023. Blwyddyn 2 yr adolygiad safonol
4

Effaith tlodi ar y cymorth, y ddarpariaeth a’r broses bontio i addysg gynnar o safbwynt cyrhaeddiad addysgol

Bydd yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd y cymorth a'r ddarpariaeth ar gyfer addysg gynnar. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried y broses bontio o'r cartref i'r lleoliad ac o'r lleoliad i'r ysgol. Adolygiad safonol
5

Addysg a hyfforddiant ôl-orfodol: Asesu dyfnder, ehangder ac effeithiolrwydd rôl y prif weithiwr NEET ledled Cymru.

Mae'r adolygiad hwn yn cefnogi polisi Llywodraeth Cymru o ran y Warant i Bobl Ifanc, gan edrych ar y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid sydd wedi'i adnewyddu, ac effeithiolrwydd cefnogaeth y prif weithiwr ar gyfer pobl ifanc NEET. Adolygiad safonol
6 Adolygiad Prentisiaethau Iau Bydd yr adolygiad thematig hwn yn ystyried effaith y Rhaglen Prentisiaethau Iau ar ddeilliannau dysgwyr. Bydd yn ceisio tynnu sylw at arferion da ac adnabod rhwystrau rhag darpariaeth effeithiol o’r Rhaglen gan sefydliadau addysg bellach. Adolygiad safonol

1b) Cyngor sy’n parhau sy’n defnyddio tystiolaeth a gesglir o arolygiadau, gwaith ymgysylltu a gweithgarwch arall

Mae Estyn yn darparu cyngor a chymorth i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn amryw o feysydd. Yn ystod 2023/24 bydd Estyn yn parhau i gasglu gwybodaeth sy’n deillio o arolygiadau a gwaith ymgysylltu i gefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sectorau addysg a hyfforddiant. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl parhau i roi cyngor trwy gyfarfodydd â swyddogion Llywodraeth Cymru, a bydd yn sail i gyfraniadau Estyn i weithgorau cenedlaethol, Sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol, cyngor ysgrifenedig, canllawiau a gyhoeddir neu adroddiadau.

Bydd Estyn hefyd yn darparu cyngor yn benodol ar ddefnyddio staff cymorth dysgu yn effeithiol ac yn briodol, i gynorthwyo’r addysgu, yn ogystal â mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd datblygu proffesiynol, ynghyd â chymorth ehangach o ran lles; ysgolion lle mae egwyliau cinio wedi'u cwtogi i raddau sy'n cyfyngu ar gyfleoedd dysgwyr i fwyta pryd iach o fwyd, a chael amser i gymdeithasu, chwarae a chael egwyl les; a lefelau presenoldeb sy'n parhau i fod yn bryder. Mae deall y ffactorau sy’n cyfrannu at pam mae dysgwr yn colli ysgol, ee ADY neu statws economaidd-gymdeithasol, yn allweddol i welliant parhaus yn lefelau presenoldeb. Bydd cyngor Estyn ar y mater hwn yn rhan bwysig o'n sylfaen dystiolaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydnabod pwysigrwydd lles mewn ysgolion fel ffactor sy’n cyfrannu at sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu manteisio ar eu haddysg a chyrraedd eu llawn botensial. Fel rhan o weithredu'r canllawiau statudol ar les a gyhoeddwyd yn 2021, rydym yn parhau i adolygu'r maes hwn, ac mae rôl Estyn o ran cefnogi'r broses o gasglu tystiolaeth yn ganolog i'r gwaith hwn.

Bydd Estyn hefyd yn parhau i roi gwybodaeth reolaidd ar gyflwyno'r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Efallai y gofynnir i Estyn roi cymorth i wahanol weithgorau trwy gynrychiolaeth, cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig neu drafodaethau gydag uwch swyddogion y Gyfarwyddiaeth Addysg a SHELL. Byddai hyn hefyd yn cynnwys cyngor a chefnogaeth o ran yr agweddau hynny ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol sydd o fewn cylch gwaith y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

1c) Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gefnogi ysgolion uwchradd sy’n destun pryder drwy'r dull aml-asiantaethol

Bydd Estyn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gyflwyno dulliau o gefnogi ysgolion uwchradd ac Unedau Cyfeirio Disgyblion sy’n destun pryder ac ysgolion arbennig sy’n destun pryder, sy'n gweithio gyda dysgwyr oedran uwchradd.

1d) Parhau i weithio ar y cyd ag arolygiaethau eraill ar raglen Arolygiadau ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant

Bydd Estyn yn parhau i weithio ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Iechyd Cymru, a Gwasanaeth Prawf EF i arolygu trefniadau amddiffyn plant yn rhanbarthau byrddau iechyd lleol yng Nghymru.

1e) Gwaith datblygu Estyn o ran arolygiadau o fis Medi 2024

Yn unol â'r argymhellion yn Arolygiaeth Dysgu a chanllawiau gwella ysgolion Llywodraeth Cymru, mae Estyn yn bwriadu cynnal arolygiadau mwy rheolaidd o ysgolion o fis Medi 2024 ymlaen. Yn ystod 2023 i 2024, bydd Estyn yn gwneud gwaith datblygu i baratoi ar gyfer hyn a chyn cyflwyno fframwaith arolygu newydd.

Yn ystod 2023 i 2024 bydd Estyn hefyd yn ymgynghori ar newidiadau i'r fframwaith arolygu a’r trefniadau ar gyfer sectorau addysg a hyfforddiant eraill o fis Medi 2024.

1f) Meysydd eraill y gallai Llywodraeth Cymru geisio cyngor a chymorth yn eu cylch mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant yng Nghymru

Mae Estyn hefyd yn cynnig cefnogaeth barhaus yn y meysydd canlynol:

  • cynigion yn ymwneud â chau ac ad-drefnu ysgolion
  • gwaith monitro rheolaidd mewn perthynas ag ysgolion annibynnol cofrestredig i gynnig darpariaeth ddysgu ychwanegol i ddysgwyr â datganiadau AAA neu gynlluniau datblygu unigol
  • arolygu a monitro’n flynyddol holl golegau arbenigol annibynnol Cymru, a darparu arolygydd fel rhan o dîm ar gyfer yr arolygiadau neu’r ymweliadau monitro blynyddol â cholegau arbenigol annibynnol yn Lloegr lle y caiff lleoedd 10 neu ragor o ddysgwyr o Gymru eu cyllido
  • cofrestru ysgolion annibynnol, gan gynnwys ceisiadau am newidiadau sylweddol
  • datblygu cymwysterau a threfniadau arolygu ar gyfer unrhyw ofynion newydd arfaethedig o ran hyfforddiant cychwynnol i athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes
  • ysgolion sy’n peri pryder
  • gwaith dilynol gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol a threfniadau rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau gwella ysgolion
  • gweithio gyda thîm Anrhydeddau Canolog Llywodraeth Cymru i gyfrannu unrhyw wybodaeth berthnasol fel rhan o'i broses ar gyfer dilysu achosion o gyfeirio gweithwyr proffesiynol am anrhydedd o fewn lleoliadau hyfforddiant ac addysg
  • gwybodaeth gefndir ar gyfer cyfarfodydd ac ymweliadau Gweinidogion ag ysgolion a darparwyr eraill
  • qwestiynau'r Senedd
  • gweithredu Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, gan gynnwys is-ddeddfwriaeth berthnasol a materion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith Estyn i’r dyfodol a'i berthynas â'r Comisiwn newydd a Llywodraeth Cymru