Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Eluned Jones (Cadeirydd) a Sarah Bound (Llywodraeth Cymru), Adrian Judd (Cefas), Helen Bloomfield, Lee Murray a Lucie Skates (CNC), Stephen Jay (Prifysgol Lerpwl), Claire Stephenson (RSPB), Alex Curd (MMO), Dr Julian Wainwright (RCAHMW), Emma Thorpe (JNCC), Katie Havard-Smith (Severn Estuary Partnership), Mark Russell (BMAPA), Mike Butterfield a Phil Horton (RYA), Nick Salter (MCGA), Rosie Kelly (TCE), Stephen Thompson (MEW) a Thomas Fey (JNCC).

1. Trosolwg o gynhyrchion cynllunio morol

Estynnodd Eluned Jones groeso i’r aelodau a chyflwynodd:

Papur 1 – Trosolwg o gynhyrchion cynllunio morol:

Cyfeirlyfr o ddogfennau ac offer cynllunio morol presennol ac sy’n cael ei ddatblygu a ddosbarthwyd gyda'r agenda cyn y cyfarfod.

2. Cael profiad o’r môr: Ymgais cynllunwyr morol i ymgysylltu â'u milieu cynllunio.

Cyflwynodd Stephen Jay o Brifysgol Lerpwl ymchwil a wnaed yn 2020 ar ymgysylltiad cynllunwyr morol â'u milieu cynllunio.  Fe wnaeth Stephen gyfweld ag 11 gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio ym maes gwyddoniaeth forol a chynllunio / polisi i archwilio: Profiad personol a phroffesiynol o'r môr; Rheidrwydd cael profiad o’r môr; Gwella gwybodaeth am y môr, profiad tîm a meddwl ac actio fel y môr.

Gwahoddodd Stephen y grŵp i drafod allbynnau ei ymchwil. Rhannodd Mark Russell ei arsylwadau ar y gwahaniaeth enfawr mewn graddfa rhwng cynllunio morol a daearol, nad yw weithiau’n cael ei werthfawrogi ddigon. Pwysleisiodd Mark hefyd yr angen am wneud pellteroedd yn berthnasol ac amlygodd hefyd fod cynllunio morol yn aml yn ymdrin â sawl mater a defnydd, yn wahanol i gynllunio daearol.

Mae dolen i’r ymchwil i’w gweld yn Arferion ac Ymchwil Cynllunio

3. Dull seiliedig ar Systemau / Effeithiau cronnol

Rhoddodd Adrian Judd (Cefas) gyflwyniad yn disgrifio’r dull sy’n seiliedig ar systemau i asesu effeithiau cronnol sy’n cael ei ddatblygu a’i gymhwyso yn Adroddiad Statws Ansawdd OSPAR 2023. Mae hwn cyfleu dull sy’n seiliedig ar ecosystem drwy ystyried y cysylltiadau lluosog ac sy’n ymwneud â’i gilydd rhwng Gyrwyr – Gweithgareddau – Pwysau – Newidiadau Cyflwr – Effeithiau ar Wasanaethau Ecosystem – Ymatebion Rheoli (DAPSIR). Mae fframwaith DAPSIR yn cyfuno ystyriaeth o risg (drwy Dadansoddiad Tei Bô) a chysylltiad, effaith a difrifoldeb (drwy fethodoleg ODEMM). Mae synergedd rhwng y dull hwn ac asesiadau sy’n seiliedig ar gyfalaf naturiol ac mae’n defnyddio pwysoliadau i nodi’r cyfuniadau hynny o weithgarwch dynol a phwysau sy’n peri’r pryder mwyaf ac sydd felly’n cyfiawnhau cymryd camau gweithredu fel mater o flaenoriaeth. Cytunwyd ar yr allbynnau gyda Grwpiau Arbenigwyr OSPAR ac maent bellach yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Bioamrywiaeth i’w cynnwys yn yr Adroddiad Statws Ansawdd a fydd yn cael ei gyhoeddi yn haf 2023.

Gofynnodd Phil Horton a oedd unrhyw beth annisgwyl wedi dod i’r amlwg wrth fynd drwy'r broses neu a oedd disgwyliadau cychwynnol y grŵp ffocws am natur yr effeithiau mawr yn cyd-fynd â'r canfyddiadau? Cadarnhaodd Adrian fod y canfyddiadau'n cyfateb yn uniongyrchol i'r hyn yr oedd y grŵp ffocws wedi'i ragweld ond cafodd asesiad hyder ei ddefnyddio.

Holodd Phil ymhellach, wrth baratoi'r adroddiad statws ansawdd, a yw’r grŵp yn ystyried a fydd y camau gweithredu a gymerir yn gwella’r sefyllfa mewn gwirionedd neu a yw'n adroddiad ffeithiol yn unig ar y statws presennol. Dywedodd Adrian, er bod yr asesiadau'n ffeithiol yn unig i raddau helaeth, fod dull sy’n seiliedig ar systemau wedi'i gymryd i helpu i ystyried effaith.

Gofynnodd Thomas Fey, mewn perthynas â'r 5 elfen, sut mae amlder yn cael ei fesur? Cadarnhaodd Adrian fod yr amledd yn seiliedig ar weithgarwch dynol yn unig.

I'r rhai sydd ag unrhyw ymholiadau am y cyflwyniad neu sy'n dymuno derbyn gwybodaeth am ddatblygiad y gwaith, gellir anfon negeseuon drwy marineplanning@llyw.cymru

4. Gwaith mapio ystyriaethau amgylcheddol CNC

Cyflwynodd Lee Murray yr allbynnau diweddaraf o waith mapio ystyriaethau amgylcheddol CNC yn ardal cynllun morol Cymru, ac esboniodd rai enghreifftiau o'r data a'r opsiynau ar gyfer sut y gellid ei gyflwyno. Nododd Lee fod CNC yn ystyried y ffordd orau o arddangos y mapiau a chaniatáu i ddefnyddwyr weld a chwilio mapiau a data sylfaenol; er enghraifft fel adnodd ar-lein rhyngweithiol. Gofynnodd am adborth gan y grŵp ar sut yr hoffent i’r mapiau a'r data gael eu harddangos i'w gwneud yn hawdd eu defnyddio. Fe wnaeth Lee hefyd ddiweddaru'r grŵp ar y camau nesaf, gan nodi'r angen parhaus i barhau i ddiweddaru'r mapiau gyda setiau data newydd, yn ogystal â gwneud mwy o waith o amgylch lefelau hyder, cynnwys prosesau ffisegol a WFD ac amodau nodwedd.

Gofynnodd Stephen sut yr aseswyd pwysigrwydd cadwraeth. Dywedodd Lee a Lucie Skates ei fod yn cael ei asesu drwy farn arbenigol sy’n cyd-fynd â'r fframwaith deddfwriaethol presennol. 

I'r rhai sydd ag unrhyw ymholiadau neu adborth ar y cyflwyniad, cysylltwch â Lee.Murray@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a Helen.Bloomfield@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

5. Unrhyw fater arall a’r cyfarfod nesaf

Rhoddodd Helen Bloomfield wybod i'r grŵp am lwyddiant digwyddiad hyfforddi diweddar CNC ar yr amgylchedd hanesyddol morol ac arfordirol. Roedd llawer iawn wedi mynychu’r digwyddiad ac roedd yn cynnwys nifer o gyflwynwyr allanol arbenigol.  Cysylltwch â Helen yn uniongyrchol drwy'r cyfeiriad e-bost uchod os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn gwybodaeth o'r digwyddiad.

Gwahoddodd Eluned awgrymiadau ar gyfer cyflwyniadau yng nghyfarfod nesaf MPSRG.

Cyfarfod nesaf – cynigiwyd ddiwedd Ebrill / dechrau Mai 2023

Ymholiadau i: marineplanning@llyw.cymru