Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi cyflwyno Cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Mae’r gyllideb hon yn sicrhau ein hymrwymiad i flaenoriaethu’r bobl fwyaf agored i niwed a diogelu gwasanaethau cyhoeddus, gan barhau i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach i bawb.

Yn ogystal â’r dyraniadau rydym eisoes wedi’u nodi yn y Gyllideb Ddrafft, mae Cyllideb Derfynol 2023-24 yn cynnwys dyraniadau cyfalaf Trafodiadau Ariannol a nifer o newidiadau gweinyddol.

Mae dogfennau’r Gyllideb derfynol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru:

  • Cynnig y Gyllideb Flynyddol;
  • Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (tablau BEL);
  • Nodyn Esboniadol y Gyllideb Derfynol; a
  • Tablau sy’n ategu’r cynlluniau gwario.

Mae’r ddogfen ganlynol, sy’n rhan o’r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael hefyd:

  • Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol - asesiad annibynnol o'n cynigion trethi - Rhagolwg Trethi Cymreig, diweddariad Chwefror 2023.

Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bwriad i gyhoeddi Datganiad y Gwanwyn ar 15 Mawrth. Rwyf yn bwriadu gwneud datganiad mor gynnar â phosibl yn dilyn hyn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon a manylion unrhyw symiau canlyniadol i Gymru.

Cynhelir dadl a phleidlais ar y Gyllideb derfynol yn y Senedd ar 7 Mawrth.