Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion cyfredol: LlC 2025 – Y Rhaglen Newid Trawsnewidiol

Rhif y papur

Papur: (22) 01

Sylwadau

Gweler y cofnodion.

2. Y defnydd o’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru

Rhif y papur

Papur: (22) 02

Sylwadau

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad mewnol.

3. Dangosyddion perfformiad allweddol

Rhif y papur

Papur: 22(03)

Sylwadau

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad mewnol.

4. Y Rhaglen Lywodraethu: Trosolwg o’r cynnydd / Statws Coch Melyn Gwyrdd

Rhif y papur

Papur: (22) 04

Sylwadau

Nid yw’r papurau wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

5. Y Rhaglen Lywodraethu: Cyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu ym maes Gofal Cymdeithasol

Rhif y papur

Papur (22)05

Sylwadau

Gweler y cofnodion.

6. Unrhyw fusnes arall

Rhif y papur

Llafar

Sylwadau

Gweler y cofnodion.

Papurau i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod blaenorol PTN 01 (22) 06

Rhif y papur

Papurau i’w nodi

Sylwadau

Wedi’i gyhoeddi.

Dangosfwrdd HRMI: PTN 02 Papur(22)07

Rhif y papur

Papurau i’w nodi

Sylwadau

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad mewnol.

Diweddariad cyllid: PTN 03 Papur(22)08

Rhif y papur

Papurau i’w nodi

Sylwadau

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad mewnol.

Cofrestr Risg Corfforaethol: PTN 05 Papur(22)09

Rhif y papur

Papurau i’w nodi

Sylwadau

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad mewnol.

Diweddariad ar y gyllideb: PT N06 Papur(22)10

Rhif y papur

Papurau i’w nodi

Sylwadau

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad mewnol.

Cofnodion drafft y Bwrdd Cysgodol: Papur i ystyried Papur(21)11

Rhif y papur

Papurau i’w nodi

Sylwadau

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad mewnol.

Yn bresennol

  • Andrew Goodall 
  • Meena Upadhyaya 
  • Gareth Lynn 
  • Ellen Donovan 
  • Tracey Burke 
  • Des Clifford 
  • Judith Paget 
  • David Richards 
  • Andrew Jeffreys 
  • Peter Kennedy
  • Natalie Pearson 
  • Gawain Evans 
  • Helen Lentle
  • Bekah Cioffi
  • Zakhyia Begum

Hefyd yn bresennol

  • Catrin Sully
  • Dylan Hughes
  • Bethan Griffiths
  • Bethan Webb
  • Jeremy Evas
  • Sharon Cross
  • Albert Heaney
  • Antony Jordan
  • Amy Jones

Ysgrifenyddiaeth

  • Charmain Watts

Ymddiheuriadau

  • Reg Kilpatrick
  • Andrew Slade

1. Croeso

1.1 Croesawodd yr Ysgrifennydd Parhaol bawb i gyfarfod y Bwrdd a chroesawodd Bekah Cioffi and Zakhyia Begum yn ôl fel Cyd-gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol. Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrth y Bwrdd y bu'n rhan o gyfarfod diweddaraf y Bwrdd Cysgodol er mwyn trafod cynnydd y Bwrdd hwnnw a chynnig safbwynt personol ar yr eitem gyntaf ar yr agenda, sef Llywodraeth 2025, a diolchodd i'r cyd-gadeiryddion am ganiatáu iddo fod yn rhan o'r cyfarfod.

1.2 Cadarnhaodd Cyd-gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol y cafodd presenoldeb yr Ysgrifennydd Parhaol ei groesawu.

1.3 Gofynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol i aelodau'r Bwrdd a ydynt yn fodlon ar gofnodion

y cyfarfod diwethaf. Caiff unrhyw sylwadau a/neu ddiweddariadau eu cyflwyno i'r ysgrifenyddiaeth cyn iddynt gael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.

1.4 Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ddiweddariad i'r Bwrdd ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng yn Wcráin a'r cymorth a gynigiwyd drwy waith Dyngarol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

1.5 Rhoddodd Judith Paget ddiweddariad ar y datblygiadau diweddaraf o ran COVID-19, a oedd yn canolbwyntio ar nifer y bobl â COVID-19 yng Nghymru, y sefyllfa mewn ysbytai ac unedau gofal dwys, a'r rhaglenni brechu a brechiadau atgyfnerthu.

1.6 Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrth y Bwrdd fod gwaith wedi ailddechrau o fewn timau'r Uwch-arweinwyr mewn perthynas â'n blaenoriaeth ar gyfer datblygu sefydliadol, gan fod consensws clir y dylem achub ar y cyfle i adeiladu ar yr hyn rydym wedi'i gyflawni dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ar ôl ystyried nifer o opsiynau, rydym yn bwriadu defnyddio rhaglen cyflawni gweithredol 'Llywodraeth Cymru 2025' fel llwyfan i drafod gwerthoedd ac ymddygiadau craidd, yn seiliedig ar ein hethos o wasanaeth cyhoeddus a'r hyn y gallwn ei wneud dros Gymru.

1.7 Dywedodd Natalie Pearson fod trafodaethau a hwyluswyd drwy staff yr Uwch-wasanaeth Sifil a grwpiau Uwch-arweinwyr dros yr ychydig wythnosau diwethaf wedi canolbwyntio ar y ffordd orau o ymgysylltu â chydweithwyr ar bob lefel. Cytunwyd hefyd fod angen rhaglen neu waith naratif cyffredinol sy'n nodi'r cyfeiriad teithio a'r paramedrau ar gyfer ymgysylltu fel y gall cydweithwyr ddeall yr hyn rydym yn anelu ato, sut mae elfennau gwahanol yn cyd-fynd â'i gilydd, a sut y gallant gymryd rhan a helpu i sicrhau'r newid.

1.8 Cadarnhaodd y Cyfarwyddwyr Anweithredol eu bod yn barod i gefnogi'r dull gweithredu a'u bod o'r farn bod yr wybodaeth yn bwerus iawn. Roeddent yn awyddus i'r wybodaeth gynnwys manylion am yr hyn y byddwn wedi ei gyflawni erbyn 2025.

1.9 Dywedodd Cyd-gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol fod yr aelodau yn hapus i gefnogi'r cyfeiriad a'u bod yn croesawu'r dull o ymgysylltu â staff a'u cynnwys, ond y byddent yn cefnogi amser i'r staff fyfyrio ar y blynyddoedd diwethaf drwy'r pandemig, cyn i'r newidiadau ddechrau gael eu rhoi ar waith.

2. Y Defnydd o'r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru

2.1 Rhoddodd Des Clifford ddiweddariad i'r Bwrdd ar strategaeth Llywodraeth Cymru i ymgorffori 'Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd'. Ers ei chyhoeddi ym mis Ebrill 2020, mae rhai camau syml wedi'u cymryd i wella'r hyfforddiant a gynigir a chydnabod sgiliau Cymraeg yn ein prosesau recriwtio.

2.2 Dywedodd Des wrth y Bwrdd y bydd angen camau mwy ymyriadol dros y tymor hwy er mwyn inni gyrraedd ein targed o fod yn sefydliad cwbl ddwyieithog erbyn 2050:

  • meithrin sgiliau ein gweithlu presennol (a gweithlu'r presennol)
  • cynnig mwy o gyfleoedd i'n cydweithwyr weithio'n ddwyieithog, gwella sgiliau yn ogystal â meithrin hyder
  • denu mwy o siaradwyr Cymraeg i'r sefydliad drwy fynd ati'n raddol i hysbysebu mwy o swyddi fel rhai lle mae'r Gymraeg yn hanfodol pan fydd yn briodol gwneud hynny.

2.3 Tynnodd Des sylw'r Bwrdd at bwysigrwydd arweinyddiaeth a'r angen inni sicrhau bod ein huwch-gydweithwyr yn ystyried materion ieithyddol, gan annog mwy o'r staff i ddysgu Cymraeg ar yr un pryd.

2.4 Rhoddodd Jeremy Evas ragor o fanylion i'r Bwrdd am y gwasanaethau cyfieithu newydd sydd ar y gweill ar gyfer Microsoft Teams. Dywedodd Jeremy hefyd fod gwaith yn mynd rhagddo gydag Academi Cymru i gyflwyno cwrs dwyieithog yn y sefydliad.

2.5 Roedd y Bwrdd yn cytuno ei bod yn bwysig ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar annog ein staff yn fewnol yn ogystal â recriwtio allanol a bydd gwasanaethau newydd fel cyfieithu yn Microsoft Teams yn ein helpu i ddod yn sefydliad dwyieithog.

2.6 Cydnabu'r Cyfarwyddwyr Anweithredol y diweddariad ar y defnydd o'r Gymraeg a byddent yn cefnogi'r syniad o raglen beilot i gyflwyno ymadroddion syml i newydd-ddyfodiaid ar draws y sefydliad.

2.7 Nododd aelodau'r Bwrdd y dull ar gyfer rhoi'r strategaeth ar waith a byddent yn cefnogi'r syniad o uwch-gydweithwyr yn rhoi'r amser a'r meddylfryd i staff ddysgu, gan gynnwys ystyried datblygu cyrsiau dwys.

3. Dangosyddion Perfformiad Allweddol

3.1 Rhoddodd Sharon Cross ddiweddariad i'r Bwrdd ar Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru sydd ar yr ail gylch adrodd, sy'n archwilio perfformiad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021.

3.2 Dywedodd Sharon wrth y Bwrdd mai nod y Fframwaith yw sbarduno gwelliannau yn effeithiolrwydd trefniadol Gwasanaeth Sifil Cymru drwy ganolbwyntio ar berfformiad gweithredol a'r gwaith o redeg y sefydliad. Mae'r Fframwaith yn cynnwys 19 o themâu sydd wedi'u rhannu'n ddau grŵp – swyddogaethau (‘yr hyn rydym yn ei wneud’) a phriodoleddau (‘sut rydym yn ei wneud).

3.3 Cydnabu'r Bwrdd fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar themâu grŵp priodweddau'r Fframwaith a ddatblygwyd gan ddadansoddwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi a bod yr adroddiad wedi'i ystyried yn ddiweddar gan y Pwyllgor Gweithredol, a nododd y meysydd canlynol i'w hystyried ymhellach:

  • Y Gymraeg
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • ac, yn fwy cyffredinol, y meysydd lle mae perfformiad wedi dirywio.

3.4 Trafododd y Bwrdd feysydd y fframwaith a chytunodd y caiff rhai meysydd eu hystyried yn fwy nag eraill. Y meysydd hynny y rhoddir llawer o ystyriaeth iddynt yw'r rhai yn ymwneud â phrosesau, a chaiff materion yn ymwneud ag ymgysylltu â staff eu hystyried i raddau llai, e.e. canlyniadau'r arolwg staff unwaith y flwyddyn.

3.5 Roedd y Bwrdd hefyd yn pryderu ynghylch yr amser a dreuliwyd yn trafod y canlyniadau yn ystod y cyfarfod ac roedd o'r farn y gellir bwrw golwg drostynt yn rhy gyflym. Roedd y Bwrdd yn cytuno y dylid rhannu'r data yn feysydd llai a thrafododd nifer y cyfarfodydd bwrdd.

3.6 Roedd y Cyfarwyddwyr Anweithredol yn cytuno y dylai'r Bwrdd ganolbwyntio mwy ar feysydd gwahanol a gwnaethant gwestiynu a ddylid addasu'r data mewn dangosyddion perfformiad allweddol i gynnwys cynlluniau allweddol Llywodraeth Cymru 2025.

3.7 Nododd aelodau'r Bwrdd Cysgodol themâu'r adroddiad diweddaraf ar berfformiad a gwnaethant fynegi pryderon ynghylch ymgysylltu â chyflogeion.

4. Y Rhaglen Lywodraethu – Trosolwg o Gynnydd

4.1 Rhoddodd Catrin Sully ddiweddariad i Fwrdd Llywodraeth Cymru ar gynnydd tuag at gyflawni'r ymrwymiadau y mae'r Cabinet ar y cyd yn gyfrifol amdanynt.

4.2 Dywedodd Catrin wrth y Bwrdd fod system yr Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes bellach wedi'i diwygio i gynnwys pethau allweddol i'w cyflawni ynghyd â dyddiadau cwblhau disgwyliedig ar gyfer pob ymrwymiad. Mae Swyddfa'r Cabinet ynghyd â thîm yr Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes wedi cynnal pedair sesiwn hyfforddi ar gyfer tua 200 o staff i esbonio sut y caiff yr wybodaeth ei defnyddio a'r angen i bethau allweddol i'w cyflawni nodi'r llwybr hanfodol i'w cyflawni. Mae'r deunydd hyfforddi ar gael i bob aelod o staff ar y fewnrwyd.

4.3 Cadarnhaodd Catrin y cafwyd dechrau cadarnhaol ac ymgysylltu o bob rhan o'r sefydliad, ond bod nifer bach o ymrwymiadau nad oedd pethau ystyrlon i'w cyflawni wedi'u nodi ar eu cyfer o hyd.

4.4 Trafododd y Bwrdd yr angen am ragor o waith datblygu er mwyn cyflwyno llwybr hanfodol a gwella cysondeb statws Coch, Melyn, Gwyrdd, ond mae'n galonogol ein bod yn dechrau gweld y cynlluniau i gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu.

4.5 Cydnabu'r Bwrdd fod gwaith Is-bwyllgor y Cabinet ar y Rhaglen Lywodraethu yn mynd rhagddo'n dda a bod newidiadau wedi'u gwneud i'r fformat mewn perthynas â phynciau llosg.

4.6 Mae'r Bwrdd yn nodi'r papur diweddar i'r cabinet a gyflwynwyd gan Brif Weinidog Cymru ar waith trawslywodraethol ynghyd â chytundeb y Cabinet y dylid adolygu'r holl bapurau o wnaeth gais am benderfyniad i roi trefniadau gweithio trawslywodraethol ar waith dros y ddwy flynedd diwethaf er mwyn deall i ba raddau y rhoddwyd eu hymdrechion ar y cyd ar waith yn ymarferol.

4.7 Trafododd y Bwrdd hefyd ymrwymiadau a arweinir gan Weinidogion nad ydynt yn ymwneud â'r Rhaglen Lywodraethu a chytunodd y dylid eu trafod mewn cyfarfod o'r Bwrdd ar ôl i'r Pwyllgor Gweithredol eu hystyried.

4.8 Mae'r Cyfarwyddwyr Anweithredol yn cefnogi'r syniad o drafodaeth ynghylch pynciau llosg a chredant y bydd hynny'n ddefnyddiol.

4.9 Nododd aelodau'r Bwrdd Cysgodol y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes a'r Rhaglen Lywodraethu.

Cam gweithredu

Cynnwys yn y flaenraglen drafodaeth ar ymrwymiadau a arweinir gan Weinidogion nad ydynt yn ymwneud â'r Rhaglen Lywodraethu.

5. Y Rhaglen Lywodraethu – Cyflawni Ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer Gofal Cymdeithasol

5.1 Cyflwynodd Judith Paget ac Albert Heaney bapur i ddiweddaru'r Bwrdd ar nifer o ymrwymiadau pwysig a ddyluniwyd i adeiladu ar ddarpariaeth ac ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru a'u gwella ymhellach. Ceir cyfanswm o 20 o ymrwymiadau gweithredol yn y Rhaglen Lywodraethu sy'n ymwneud â gweithgarwch Gofal Cymdeithasol.

5.2 Dywedodd Albert wrth y Bwrdd fod adrodd ar Lywodraethu wedi bod yn ffactor pwysig i roi sicrwydd bod y dull cywir wedi'i ddefnyddio i gyflawni'r ymrwymiadau'n llwyddiannus.

5.3 Cydnabu'r Bwrdd weithrediad 'Bwrdd Sicrwydd y Gyfarwyddiaeth' a sefydlwyd er mwyn sicrhau y caiff yr ymrwymiadau a neilltuwyd i'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio yn ystod tymor y Senedd eu datblygu a'u cyflawni, cynnal archwiliadau manwl wedi'u harwain gan bolisi ar gyfer perchnogion polisi, a goruchwylio'r bwrdd prosiect sy'n rheoli'r Bil Gofal Cymdeithasol arfaethedig.

5.4 Trafododd y Bwrdd rai o'r ymrwymiadau allweddol ac awgrymodd y dylid cynnal trafodaeth bellach ar y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol gan fod risg fawr mewn perthynas â sut y gellir cynnal gwasanaeth am ddim yn y man darparu.

5.5 Nododd y Cyfarwyddwyr Anweithredol y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r ymrwymiadau gofal cymdeithasol allweddol. Roeddent o'r farn bod strwythur llywodraethu da ar waith a hoffent ailafael yn y drafodaeth ymhen ychydig fisoedd er mwyn cael diweddariad ar y gwaith.

5.6 Nododd aelodau'r Bwrdd Cysgodol hefyd y cynnydd a wnaed, ond hoffent weld llwybr clir i'r darlun ehangach mewn perthynas â nodau'r gwaith a sut y cânt eu cyflawni.

6. Unrhyw fater arall

6.1 Diolchodd yr Ysgrifennydd Parhaol i'r aelodau a oedd yn bresennol ac i Gyd-gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol am eu sylwadau.