Neidio i'r prif gynnwy

Mae croesawu cyfrifon banc prosiectau yn hanfodol i fusnesau Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ddiweddar, fe wnaethom ni gyhoeddi arolwg cyfrifon banc prosiectau a wnaeth ddarganfod bod bron i hanner yr ymatebwyr BBaCh naill ai heb unrhyw wybodaeth amdanyn nhw neu ddealltwriaeth sylfaenol ond eu bod yn aneglur ynghylch sut roedden nhw’n gweithio neu fanteision eu defnyddio. Tynnodd sylw hefyd at gamsyniadau ynghylch ‘biwrocratiaeth’ a chostau ychwanegol sy’n effeithio ar faint o BBaChau yng nghadwyni cyflenwi isgontractwyr y sector cyhoeddus sy’n manteisio arnyn nhw.

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o fanteision cyfrifon banc prosiectau, cyhoeddodd SEWSCAP yr erthygl yma: Mae pawb ar eu hennill gyda Chyfrifon Banc Prosiectau. Mae Cyfrifon Banc Prosiectau yn gweithredu fel mecanwaith ar gyfer gwneud taliadau i isgontractwyr o fewn 7-14 diwrnod yn hytrach na thelerau talu 60-90+ diwrnod. Yng Nghymru, mae cyfrifon banc prosiectau yn cael eu cynnig gan nifer o fanciau manwerthu mawr gan gynnwys Lloyds Bank, NatWest a Barclays.

Mae cofleidio cyfrifon banc prosiectau yn hollbwysig gyda mwy na 17,500 o fusnesau Cymru yn cael eu hunain mewn trallod ariannol sylweddol yn ystod trydydd chwarter 2022, cynnydd o 5% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2021. Busnesau adeiladu sy'n cael eu heffeithio fwyaf, gyda 2,796 o gwmnïau mewn trallod ariannol sylweddol.

I gael rhagor o wybodaeth am ein polisi a’n gweithrediad, ewch i WPPN 03/21 a WPPN 04/21.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: PolisiMasnachol@llyw.cymru