Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso

Agorodd Peter Ryland (PR) y cyfarfod gan fod amgylchiadau annisgwyl yn golygu bod y Cadeirydd yn hwyr yn cyrraedd. Diolchodd PR i aelodau am fynychu a chroesawodd gynrychiolwyr o lywodraeth leol – Simon Gale (RhCT), Carwyn Jones-Evans (Ceredigion), Paul Relf (Abertawe) a Sioned Williams (Gwynedd) i’r cyfarfod.

Nododd PR yr eitemau oedd ar agenda’r cyfarfod, a gwahoddodd y cynrychiolwyr o lywodraeth leol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ynghylch cynlluniau buddsoddi rhanbarthol Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU eu bod yn cymeradwyo’r cynlluniau ar 5 Rhagfyr.

2. Diweddariad llywodraeth leol

Dywedodd Simon Gale (SG) fod y pedwar awdurdod arweiniol yng Nghymru oll bellach wedi cael eu llythyr grant yn nodi’r cyllid a ddyrannwyd, fodd bynnag mae mwy o eglurder yn cael ei geisio gan Lywodraeth y DU ar ddyraniadau sy’n ymwneud â’r rhaglen Lluosi.

Mae llywodraeth leol yn archwilio cyfreithlondeb o fewn hysbysiad amodau’r grantiau a sut mae’n rheoli perthnasau rhwng yr awdurdod arweiniol, Llywodraeth y DU a’r awdurdodau lleol eraill sy’n rhan o gynllun buddsoddi rhanbarthol yr SPF.

Dywedodd SG nad yw Cyngor Rhondda Cynon Taf yn disgwyl cael cyllid yr SPF tan y flwyddyn newydd, ond ei fod bellach mewn sefyllfa i roi cytundebau lefel gwasanaeth gyda’r awdurdodau lleol eraill yn Ne-ddwyrain Cymru sy’n cymryd rhan, a fydd yn golygu y gellir rhyddhau’r cyllid.

Ychwanegodd SG fod angen meddwl nawr am broffiliau gwariant eleni oherwydd yr oedi o ran cymeradwyo’r cynlluniau buddsoddi. Mae sgwrs barhaus yn mynd rhagddi gyda Llywodraeth y DU ar hyblygrwydd i wario rhywfaint o ddyraniad eleni yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24.

Bydd pob awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru yn penderfynu’n unigol sut i redeg cynlluniau grant ar gyfer y trydydd sector a busnesau. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd rhai yn clustnodi dyraniadau, yn rhedeg grantiau ar sail gystadleuol, neu’n trafod comisiynu’n uniongyrchol.

Dywedodd SG fod rhanbarth y De-ddwyrain yn disgwyl gwneud rhywfaint o waith cyfathrebu ar unwaith am yr ymyraethau y mae’r rhanbarth am geisio mynd i’r afael â nhw gyda chyllid yr SPF a’r manylion cyswllt ar gyfer sefydliadau sydd â diddordeb. Ychwanegodd SG y byddent yn croesawu dull gweithredu cyson gan y rhanbarthau o ran ymgysylltu â Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Carwyn Jones-Evans (CJE) fod Canolbarth Cymru mewn sefyllfa debyg i sefyllfa’r De-ddwyrain. Mae nifer o sgyrsiau’n cael eu cynnal ac er bod disgwyliadau’n cael eu codi, rhaid cofio bod angen dilyn proses cyn y gall cyllid gyrraedd buddiolwyr. Bydd tystiolaeth o angen yn ffactor hanfodol o ran gwneud penderfyniadau.

Ychwanegodd CJE fod y dirwedd gyllidol yn darnio oherwydd y gwyro sy’n digwydd oddi wrth y Cronfeydd Strwythurol tuag at y Gronfa Adfywio Cymunedol, a nawr yr SPF. Mae gwaith yn cael ei wneud i symleiddio’r broses, ac i alinio’r broses gwneud penderfyniadau ac atebolrwydd lleol â throsolwg a strategaeth ranbarthol.

Dywedodd Paul Relf (PRe) fod y sefyllfa yn y De-orllewin yn un debyg iawn. Mae cynnal darpariaeth rhaglenni cyn-16 a ariannwyd gan yr UE yn flaenorol, fel Cynnydd, yn bwysig iawn, fel y mae’r angen am gyllid uniongyrchol ar gyfer lle mae’r pwysau.

Ychwanegodd PRe y byddai’r De-orllewin yn alinio’r SPF â fforymau a strwythurau rhanbarthol sy’n bodoli eisoes.

Dywedodd Sioned Williams (SW) taw £16 miliwn yw’r dyraniad ar gyfer Gogledd Cymru am y flwyddyn ariannol bresennol. Cafwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hefyd yn amlinellu £122 miliwn ar gyfer y rhanbarth rhwng 2022-25, er nad yw’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gyfreithiol rwymol.

Dywedodd SW ei bod yn debygol y byddai elfen o risg ariannol ar gyfer prosiectau sy’n gorgyffwrdd â gwahanol flynyddoedd ariannol. Bydd y rhanbarth yn cael cynnig ariannol bob blwyddyn, yn ddibynnol ar berfformiad.

Mae’r cyllid ar gyfer rhaglen Lluosi £4.4 miliwn yn llai na’r dyraniad gwreiddiol ar gyfer y rhanbarth, ac mae eglurder yn cael ei geisio gan Lywodraeth y DU ar y mater hwn.

Bydd Cyngor Gwynedd yn ffurfioli cytundebau lefel gwasanaeth gydag awdurdodau eraill Gogledd Cymru ac yn gweinyddu cynigion grant. Mae’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn rhan o’r broses.

Dywedodd SW fod hyd y rhaglen yn her allweddol. Bydd gwario dyraniad llawn yr SPF erbyn mis Mawrth 2025 yn golygu y bydd tua 18 mis o waith darparu prosiectau. Roedd hyn hefyd yn cynnwys risgiau ar gyfer yr awdurdod arweiniol wrth ymrwymo i brosiectau a allai rychwantu gwahanol flynyddoedd ariannol.

Diolchodd y Cadeirydd i SG, CJE, PRe a SW am ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf, ac agorodd y cyfarfod i drafodaeth grŵp tan i Weinidog yr Economi ymuno am 12.00pm.

Mewn ymateb i’r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd, gwnaeth aelodau’r sylwadau canlynol:

  • Mae heriau a risgiau sylweddol i’w rheoli o ystyried bod cyllid grant yn flynyddol, nid yw’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gyfreithiol rwymol dros dair blynedd, a does dim ymrwymiad i’r SPF ar ôl mis Mawrth 2025.
  • Bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth y DU ar sesiynau i randdeiliaid yn y flwyddyn newydd, ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi bylchau mewn darpariaeth ac i osgoi dyblygu gwaith.
  • Mae CBI yn croesawu’r cyfle i hwyluso trafodaeth â’r gymuned fusnes pan fydd hynny’n briodol.
  • Mae gwaith mapio parhaus yn cael ei wneud yn y sector Addysg Uwch ar effaith cyllid yr UE na fydd yn cael ei ddisodli gan fath arall o gyllid. Disgwylir y bydd 600 o swyddi uniongyrchol yn cael eu colli cyn diwedd mis Mawrth ac ni fydd modd osgoi proses anhrefnus o dynnu gwasanaethau yn ôl oddi wrth fuddiolwyr o ystyried bod y cyllid ar fin cael ei ddirwyn i ben.
  • Mae Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) wedi nodi mai dim ond ffrydiau cyllido presennol y bydd yn eu hystyried ac na fydd yn cefnogi cyllid parhad ar gyfer prosiectau presennol. Bydd colli’r talent hwn yn cael effaith uniongyrchol ar allu prifysgolion i gyfrannu tuag at ddatblygiadau rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol.
  • Mae gwaith yn y cyfryngau wedi ei drefnu ar gyfer mis Ionawr er mwyn tynnu sylw at y problemau a wynebir gan Addysg Uwch, ac mae’r sector yn croesawu unrhyw gymorth o ran cyfleu’r sefyllfa.
  • Mae profiad y sector Addysg Bellach o ran ymgysylltu â’r SPF wedi bod yn gymysg ac yn anghyson ar lefel rhanbarthol ac ar lefel lleol. Mae gwir bryder ar draws y sector ynghylch dyfodol darpariaeth ôl-16 lle mae cynnydd sylweddol mewn galw, ond mewn sawl achos bydd colegau yn dwyn y gwasanaethau hynny i ben ym mis Mawrth. Disgwylir y bydd nifer fawr o swyddi’n cael eu colli o ganlyniad i hynny.
  • Ni chafwyd digon o drafodaeth â’r sector gwirfoddol ac mae angen gwell cyfathrebu â nhw. Mae rhai sefydliadau yn ystyried cau ac mae nifer yn  dirwyn gweithgareddau i ben gan nad ydynt yn gweld unrhyw gyfle am gyllid yn lle cyllid yr UE a gollwyd.
  • Mae’n debyg y bydd llawer o’r ddwy flynedd nesaf yn cael ei dreulio yn ailadeiladu seilwaith a gwasanaethau sy’n cael eu dymchwel ar hyn o bryd. Mae’n hollbwysig bod proses yr SPF yn cael ei chyflymu’n sylweddol.
  • Mae trafodaethau’n parhau â Llywodraeth y DU am yr angen am hyblygrwydd o ran cyllid ar gyfer y rhaglen Lluosi. Mae tystiolaeth bellach wedi ei darparu sy’n dangos y problemau o ran darparu rhaglen Lluosi yng nghyd-destun Cymru.

Roedd SG yn derbyn sylwadau aelodau, ond nododd fod cyfathrebu’n hyderus am yr SPF wedi bod yn anodd iawn oherwydd y diffyg eglurer a’r oedi a fu i’r cynllun. Ychwanegodd SG hefyd nad oedd rôl gan lywodraeth leol yn nyluniad a datblygiad yr SPF, ond ei bod yn cyflenwi’r cynllun yn lleol ar ran Llywodraeth y DU yn unig. Gan fod y cynlluniau buddsoddi wedi eu cymeradwyo bellach, bydd y broses gyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn dwysáu.

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu sylwadau, a chroesawodd Weinidog yr Economi, Vaughan Gething AS, i’r cyfarfod.

3. Gweinidog yr Economi

Gwnaeth Gweinidog yr Economi y pwyntiau canlynol yn ei sylwadau agoriadol:

  • Mae’r SPF wedi methu o ran disodli cyllid gan yr UE. Mae’r arian yn ostyngiad sylweddol a byddai rhaglenni wedi dechrau bron i ddwy flynedd yn ôl pe cadwyd at addewidion. Mewn cyferbyniad, nid yw’r SPF wedi dechrau eto, ac ychydig fisoedd yn unig sydd ar ôl o’r flwyddyn ariannol hon.
  • Mae rheolau cyfredol yn golygu y gallai arian sydd heb ei wario gael ei ddychwelyd i’r Trysorlys. Rhaid edrych yn fanwl ar hyn, yn enwedig gan fod diffyg hyblygrwydd y rhaglen Lluosi yn golygu bod tanwariant yn debygol.
  • Mae Gweinidogion Cymru wedi sôn am y problemau sy’n bodoli o ran yr SPF a Lluosi yn gyson gyda chyfres o Weinidogion Llywodraeth y DU. Mae’n parhau i fod yn aneglur a oes parodrwydd i dderbyn y problemau a gwneud newidiadau i’r rhaglen ai peidio. Does dim eisiau dulliau gweithredu gwrthgyferbyniol a thameidiog arnom, na chystadleuaeth ar gyfer cyllid mewn meysydd datganoledig.
  • Mae’r sefyllfa bellach yn cael effaith wirioneddol ar raglenni, twf a swyddi, ar adeg pan mae arnom eu hangen fwyaf. Does dim amheuaeth bod nifer o benderfyniadau anodd eisoes wedi cael eu gwneud ac y byddant yn parhau i gael eu gwneud gan nad yw Llywodraeth y DU yn anrhydeddu eu hymrwymiadau ariannol ac am eu bod yn diystyru’r Fframwaith y gwnaethom ei ddatblygu ar y cyd fel y model ar gyfer buddsoddi’r cronfeydd hyn.
  • Mae gwir werth i lais y Fforwm o ran cyfathrebu am sefyllfaoedd cyson ynglŷn â’r problemau y mae’r SPF yn eu creu. Er nad oes gan Lywodraeth Cymru rׅôl ffurfiol o ran yr SPF, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein partneriaid a gwneud y gorau o sefyllfa wael.
  • Mae’r Fforwm yn ffordd bwysig o rannu gwybodaeth – nid am yr SPF a’r Gronfa Ffyniant Bro yn unig, ond hefyd am ddatblygiadau eraill gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â Cymru Ystwyth, Horizon Ewrop a phrosiect
    Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o weithio’n rhanbarthol. Bydd y Fforwm yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall o leiaf er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn.

Wrth ymateb i sylwadau’r Gweinidog, gwnaeth aelodau’r sylwadau canlynol:

  • Byddai grwpiau busnes yn croesawu gweld cynlluniau buddsoddi rhanbarthol yr SPF pan fyddai’n addas er mwyn ystyried cyfleoedd ar gyfer y sector preifat.
  • Mae Addysg Uwch yn disgwyl y bydd 600 o swyddi yn cael eu colli, gwasanaethau yn cael eu tynnu’n ôl, ac y bydd Cymru yn colli talent. Ni fydd ffynonellau’r DU yn cefnogi cyllid parhad ar gyfer prosiectau a oedd yn cael eu cefnogi’n flaenorol gan yr UE.
  • Mae Addysg Bellach yn bryderus iawn am golli cyllid ac effaith hynny ar wasanaethau. Mae’n bwysig deall y drefn ar gyfer ymgysylltu â’r SPF.

Gwnaeth Gweinidog yr Economi y pwyntiau canlynol wrth gloi:

  • Dylai cynlluniau rhanbarthol yr SPF fod yn weladwy a dylid rheoli gwaith ymgysylltu. Mae awdurdodau lleol o dan bwysau sylweddol i sicrhau bod cynllun sydd wedi ei dangyllido, ei ddylunio’n wael a’i lethu gan oedi, yn llwyddo.
  • Cefnogi sefyllfa Prifysgolion Cymru yn llwyr. Roedd y modd y cynlluniodd Llywodraeth y DU yr SPF yn siŵr o achosi niwed i’r sector Addysg Uwch, ac eraill. Mae’r pwysau cyllido sy’n wynebu AU yng Nghymru hefyd yn cael ei deimlo ledled y DU felly mae cyfle i ymchwilio i’r mater hwn ar sail y DU gyfan.
  • Nid yw’r modd y cynlluniwyd y cyllid yn nodi unrhyw ddulliau ymgysylltu priodol, sy’n her fawr i lywodraeth leol. Awyddus i gyd-weithio er mwyn cael y gorau o’r cyllid sydd gennym.

Ychwanegodd SG ei fod yn fodlon cyfarfod â rhanddeiliaid er mwyn rhannu gwybodaeth a sicrhau bod trafodaethau’n digwydd â’r bobl gywir.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Gweinidog am ymuno â’r cyfarfod, ac i’r aelodau am eu sylwadau.

4. Rôl y Fforwm yn y dyfodol

Nododd y Cadeirydd fod adolygiad o’r Fforwm i’w gynnal eleni, a bod Drafft newydd y Cylch Gorchwyl, a roddwyd i aelodau yr wythnos ddiwethaf, yn rhoi sail ar gyfer parhad y Fforwm hyd at ddechrau 2024 pan fydd pob prosiect a ariennir gan yr UE yn dirwyn i ben. Bryd hynny, bydd adolygiad pellach o’r Fforwm a’i rôl yn cael ei gynnal.

Nododd y Cadeirydd rai o nodau allweddol y Cylch Gorchwyl newydd:

  • Mae’n anelu at gefnogi’r broses o adeiladu partneriaeth rhwng aelodau a chryfhau perthnasau gyda Llywodraeth Cymru.
  • Gwella’r dull rhannu gwybodaeth, rhannu gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau.
  • Edrych y tu hwnt i’r tymor hwn, at y 18 – 24 mis nesaf, gan ddefnyddio egwyddorion y Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol a’r gwaith sy’n cael ei wneud gan OECD ar lywodraethu a datblygu rhanbarthol.
  • Dylanwadu ar ddatblygiad rhaglen Cymru Ystwyth er mwyn ysgogi buddsoddiad a chyfleoedd rhyngwladol i Gymru.
  • Sicrhau bod gweithgareddau’r Fforwm yn gogwyddo tuag at adeiladu perthnasau, buddsoddi rhanbarthol sy’n ehangach na’r SPF yn unig, a chydweithio ar yr hyn y gellir ei gyflawni yng Nghymru o dan fframwaith y DU a fframweithiau eraill.

Mewn ymateb, gwnaeth yr aelodau’r sylwadau canlynol:

  • Mae’r ddogfen yn dal i ganolbwyntio’n ormodol ar yr SPF ac mae angen iddi adlewyrchu’r dirwedd gyllido yn ehangach, gan gynnwys meysydd sy’n ymwneud ag Ymchwil ac Arloesi, a datblygu gwledig.
  • Mae angen edrych yn ehangach ar ffynonellau buddsoddi eraill – nid rhai cyhoeddus yn unig, ond hefyd rhai preifat, a defnyddio cysylltiadau aelodau’r Fforwm.
  • Mae diddordeb mewn cyflwyniadau ar gyfleoedd cyllido gan sefydliadau allanol a Llywodraeth Cymru.
  • Mae datblygu gwledig yn bortffolio traws-weinidogol. Mae angen ystyried cyllido rheoli tir, cyllid gwyrdd a chyllid arloesol hefyd.
  • Mae’n bwysig bod y Cylch Gorchwyl yn hyblyg er mwyn cynnwys pob pwnc sydd o ddiddordeb i’r aelodaeth. O bosibl, gellid galw gweithgorau llai at ei gilydd.

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu sylwadau ac fe’u gwahoddodd i anfon unrhyw sylwadau ysgrifenedig eraill ar e-bost erbyn dydd Llun 16 Ionawr. Gall y Fforwm wedyn gymeradwyo’r cylch gorchwyl yn ffurfiol er mwyn ei gyhoeddi ar y wefan yn y cyfarfod nesaf. 

5. Unrhyw fater arall

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod 29 Medi ar gyfer eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni chodwyd unrhyw fater arall.

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am gymryd rhan yn y Fforwm a nododd y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal oddeutu diwedd Chwefror a byddai nodyn i’r dyddiadur yn cael ei anfon maes o law.

Atodiad A: rhestr o mynychwyr

Cadeirydd

Huw Irranca-Davies AS

Aelodau

Sefydliad

Enw

Rhwydwaith Gwledig Cymru

Eirlys Lloyd, Cadeirydd

Grahame Guilford and Company Ltd

Grahame Guilford

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Hywel Edwards

Addysg Uwch Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr, Prifysgolion Cymru
Ffederasiwn Busnesau Bach a Hunangyflogedig Cymru Ashley Rogers, Cyfarwyddwr – Gill and Shaw
Prifysgol Caerdydd Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm – Ewrop ac Adfywio
Cyfoeth Naturiol Cymru Rhianne Jones, Prif Gynghorydd Arbenigol Ymadael â’r UE a Rheoli Tir
Addysg Bellach Lisa Thomas, Pennaeth y Coleg, Merthyr Tudful
CBI (Busnes) Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, CBI Cymru

Partneriaeth y Trydydd Sector

Matt Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Banc Datblygu Cymru

Rob Hunter, Pennaeth Strategaeth

Siambrau Cymru

Oliver Carpenter, Swyddog Gweithredol Polisi

Partneriaeth Gogledd Cymru

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

Llywodraeth Leol

Simon Gale, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Carwyn Jones-Evans, Cyngor Sir Ceredigion

Paul Relf, Cyngor Abertawe

Sioned Williams, Cyngor Gwynedd

Mynychwyr o Lywodraeth Cymru

Enw Swydd ac adran

Peter Ryland

WEFO – Prif Swyddog Gweithredol

Geraint Green

WEFO – Pennaeth Rheoli Rhaglenni (Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd)

Alison Sandford

WEFO – Pennaeth Polisi a Gweithio mewn Partneriaeth

Mike Richards

WEFO – Rheolwr Cyfathrebu

Thomas Mallam-Brown

WEFO – Uwch Swyddog Polisi (Polisi Rhanbarthol)

Colette Kitchen

Trysorlys Cymru – Rheolwr Cysylltiadau Rhynglywodraethol

Elin Gwynedd

Llywodraeth Leol – Dirprwy Gyfarwyddwr, Gogledd Cymru

Bryn Richards

Busnes a Rhanbarthau – Pennaeth Cynllunio Ranbarthol

Sioned Evans

Busnes a Rhanbarthau – Cyfarwyddwr

David Rosser

Busnes a Rhanbarthau – Prif Swyddog Rhanbarthol (De)

Alex Bevan

Cynghorydd Arbennig