Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw ein Cynllun Gweithredu HIV i Gymru, fydd yn helpu i fynd i'r afael â stigma i’r rhai sy’n byw gyda HIV ac i leihau – a hyd yn oed gael gwared ar - heintiadau newydd.

Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â gweithgor y Cynllun Gweithredu HIV, ac mae ei aelodaeth yn cynnwys ystod amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r sector cymunedol a gwirfoddol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, academyddion ac, yn bwysig, pobl sy'n byw gyda HIV. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi helpu i wireddu'r cynllun hwn.

Ym mis Mehefin 2022, fe wnaethom ymgynghori ar gynllun gweithredu HIV drafft. Cafodd dderbyniad da ond roedd yr adborth yn tynnu sylw at rai bylchau a meysydd i'w gwella. Mae'r cynllun wedi cael ei gryfhau o ganlyniad i'r broses honno.

Mae'r cynllun yn cynnwys pum maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu:

  • Atal
  • Profi
  • Gofal clinigol
  • Byw'n dda gyda HIV
  • Mynd i'r afael â stigma sy'n gysylltiedig â HIV.

Bellach mae 30 o gamau gweithredu uchelgeisiol, ond cyraeddadwy, i'w gweithredu erbyn 2026, a fydd yn cyfrannu llawer at helpu Cymru i gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd o ddim heintiadau HIV newydd erbyn 2030, ac yn bwysig iawn, i arddel agwedd sy’n golygu na fydd dim goddefgarwch i stigma sy'n gysylltiedig â HIV.

Yr haf diwethaf, cyhoeddais ein hymrwymiad i ariannu a datblygu ymhellach y platfform ar-lein ar gyfer profion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Mae hwnnw wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau ac wedi gwneud profion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys profion HIV, yn fwy hygyrch. Mae hyn, ynddo'i hun, yn helpu i leihau stigma. Rwy'n ymrwymo £600,000 o arian pellach i gefnogi camau allweddol eraill yn y cynllun, gan gynnwys sefydlu system rheoli achosion, a fydd yn helpu i wella profiad cleifion a sicrhau gwyliadwriaeth fwy cywir ac amserol o brofion a diagnosis HIV. Mae hyn hefyd yn cynnwys cymorth i sefydlu cefnogaeth Llwybr Carlam Cymru ar gyfer rhaglen gymorth cymheiriaid genedlaethol, a chymorth i Wythnos Profi HIV yng Nghymru.

Yn ei gyfanrwydd, cefnogir y cynllun â phecyn cyllido o £4.5m.

Bydd grŵp goruchwylio gweithredu yn sicrhau y bydd y 30 cam gweithredu yn cael eu datblygu a’u cyflawni. Byddaf yn adrodd am y cynnydd sydd wedi’i wneud ar y 30 cam gweithredu yn flynyddol i'r Senedd.

Rydym yn cychwyn ar daith gyffrous,  a all gyflawni newid go iawn. Rwy'n credu'n gryf y gallwn ni ac y byddwn ni, drwy roi’r cynllun gweithredu hwn ar waith, yn gwneud gwahaniaeth i'r rhai sy'n byw gyda HIV heddiw ac y gallwn oll edrych ymlaen gyda gobaith gwirioneddol na fydd neb yn cael diagnosis o HIV o’r newydd yng Nghymru erbyn 2030.