Cyfarfod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: 10 Chwefror 2023
Crynodeb o funudau’r cyfarfod a chynhaliwyd ar 10 Chwefror 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Attendees
- Frances Duffy, Cadeirydd
- Saz Willey, Is-gadeirydd
- Bev Smith
- Leighton Jones, Yr ysgrifenyddiaeth
Cyflwyniad
Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Gwener 10 Chwefror.
Nod y cyfarfod oedd cytuno ar yr adroddiad blynyddol terfynol ar gyfer 2023, ystyried fersiwn ddrafft y strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu, ystyried y cynllun strategol drafft ar gyfer y ddwy flynedd nesaf a dadansoddi’r cynllun tystiolaeth ac ymchwil. Archwiliodd y Panel y ffurflenni cydymffurfiaeth a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol hefyd, a thrafod y gyllideb a’r cynllun gwaith ar gyfer 2023 i 2024.
Isod ceir crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau’r Panel
Adroddiad blynyddol 2023
Adolygodd y Panel y diwygiadau a wnaed i’r adroddiad drafft gan gytuno i gymeradwyo’r adroddiad blynyddol ar gyfer 2023. Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Chwefror. Bydd e-bost yn cael ei anfon at yr holl randdeiliaid a fydd yn cynnwys fersiwn pdf a dolen i wefan ar gyfer yr adroddiad.
Strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu
Ystyriodd y Panel y strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu ddrafft. Amlinellodd hyn y dull gweithredu ochr yn ochr â’r egwyddorion a’r cyfeiriad ar gyfer datblygu’r strategaeth. Bydd y strategaeth yn cael ei chwblhau ym mis Ebrill.
Cynllun strategol
Bu’r Panel yn trafod y cynllun strategol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Roedd y cynllun yn crynhoi’r egwyddorion a’r nodau y bydd y panel yn gweithio i’w cyflawni. Bydd hyn yn cael ei gwblhau yn y cyfarfod ym mis Mawrth a bydd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan unwaith y bydd pawb yn gytûn.
Tystiolaeth ac ymchwil
Adolygodd y Panel bapur ar y cynllun tystiolaeth ac ymchwil. Cyflwynwyd y papur hwn i sicrhau bod penderfyniadau’r Panel yn wybodus ac yn eglur. Ystyriodd y Panel y data, y cymaryddion a’r dystiolaeth a chytunwyd arnynt er mwyn gallu defnyddio hyn i fod o fudd wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol.
Cydymffurfiaeth
Edrychodd y Panel ar y ffurflenni Taliadau ar gyfer 2021 i 2022 a’r Atodlenni Cydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2022 i 2023. Trafododd y Panel y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer pob un o’r gofynion cydymffurfiaeth.
Cyllideb a Chynllun Gwaith 2023 i 2024
Ystyriodd y Panel y cynlluniau drafft ar gyfer y gyllideb a’r amserlen waith dros y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd y cynllun gwaith yn cael ei gwblhau yn y cyfarfod ym mis Mawrth a bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn adrodd arno bob mis, ochr yn ochr â gwariant y gyllideb.
Unrhyw fusnes arall
Cytunodd y Panel ar ddyddiadau Panel y dyfodol ar gyfer 2023.
Cyfarfod nesaf
Cynhelir cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ddydd Mawrth 14 Mawrth.
Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda’r Panel, mae croeso ichi gysylltu drwy’r Ysgrifenyddiaeth drwy anfon e-bost i IRPMailbox@llyw.cymru.
