Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r rhain yn adroddiadau manwl sy’n deillio o arolwg ar-lein a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2023 ymhlith cysylltiadau defnyddwyr Croeso Cymru.

Adroddiad y DU ac Iwerddon

  • Cymerodd 3 o bob 5 o ymholwyr Croeso Cymru wyliau neu wyliau byr yng Nghymru yn 2022. Cymerodd ymgymerwyr tripiau yng Nghymru 3.2 trip i Gymru ar gyfartaledd. Dywedodd bron i 1 o bob 4 ymwelydd â Chymru fod cyfathrebiadau Croeso Cymru wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i gymryd eu gwyliau neu wyliau byr i Gymru.
  • Ymgymerwyr tripiau yng Nghymru oedd fwyaf tebygol o fod wedi mynd ar eu trip i Gymru ym mis Medi. Ac eithrio misoedd y gaeaf (Ionawr i Chwefror a Thachwedd i Ragfyr), roedd lledaeniad cymharol gyfartal o ymweliadau ar draws y flwyddyn.
  • Dywedodd bron i 4 o bob 5 ymwelydd dros nos â Chymru fod eu profiad yng Nghymru yn ‘Rhagorol’ (9-10 allan o 10), cynnydd nodedig ar gyfraddau 2021. Dywedodd 2 o bob 10 fod yr ymweliad yn ‘dda’ a dim ond 1 o bob 100 yn ‘wael’.
  • Mae dros hanner (51%) o ymholwyr Croeso Cymru naill ai eisoes wedi archebu trip i Gymru yn 2023, neu’n bendant yn mynd ond heb archebu eto, gan godi i 66% ymhlith ymgymerwyr tripiau yn 2022. Mae tua 1 o bob 4 o ymgymerwyr tripiau 2023 i Gymru yn nodi bod cyfathrebiadau Croeso Cymru eisoes wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i fynd ar eu trip yn 2023.

Adroddiad yr Almaen

  • Ymwelodd 1 o bob 10 o ymholwyr o’r Almaen â Chymru am wyliau neu wyliau byr yn 2022, gan gymryd 2 drip ar gyfartaledd.
  • Ymgymerwyr tripiau yng Nghymru o’r Almaen oedd fwyaf tebygol o fod wedi mynd ar eu trip yng Nghymru ym mis Awst, gyda mis Medi yn dilyn yn agos. Roedd mis Mai, Mehefin, Gorffennaf – ac i raddau llai Hydref – hefyd yn boblogaidd, gyda lleiafrif yn unig yn mynd ar drip o fis Ionawr i fis Ebrill a mis Hydref i fis Rhagfyr.
  • Roedd bron i 9 o bob 10 (87%) o ymwelwyr Cymru o’r Almaen yn graddio eu profiad yng Nghymru fel ‘Rhagorol’.
  • Mae 4% o ymholwyr eisoes wedi archebu trip yng Nghymru yn 2023, gydag 8% arall yn nodi y byddant yn mynd ‘yn bendant’ ond heb archebu. Dywedodd tua 2 o bob 5 o fwriadwyr tripiau yng Nghymru yn 2023 fod cyfathrebiadau Croeso Cymru eisoes wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i fynd ar eu trip yn 2023.

Adroddiad UDA

  • Ymwelodd 1 o bob 6 o ymholwyr o UDA â Chymru am wyliau yn 2022, gan gymryd 1 trip ar gyfartaledd. Dywedodd 15% o’r rhai a gymerodd ran fod cyfathrebiadau Croeso Cymru yn ddylanwad mawr ar eu penderfyniad tripiau.
  • Roedd ymweliadau â Chymru gan ymgymerwyr tripiau UDA wedi’u gwasgaru’n gymharol gyfartal rhwng mis Mai ac Awst – tua 1 o bob 5 ymweliad ym mhob un o’r misoedd hyn. Denodd mis Ebrill a Medi gyfran gymharol uchel o ymwelwyr o’r Unol Daleithiau hefyd – er eu bod yn is nag yn ystod misoedd brig yr haf – tra mai ychydig iawn a ymwelodd rhwng mis Ionawr i Mawrth a mis Hydref i Ragfyr.
  • Roedd bron i 9 o bob 10 (87%) o ymwelwyr â Chymru o UDA yn graddio eu profiad yng Nghymru fel ‘rhagorol’, gyda’r gweddill (13%) yn dweud ei fod yn ‘dda’.
  • Mae 6% o ymholwyr Croeso Cymru o UDA eisoes wedi archebu trip yng Nghymru yn 2023, gyda 9% yn dweud y byddant yn mynd ‘yn bendant’ ond heb archebu. Dywedodd ychydig o dan 1 o bob 4 o fwriadwyr tripiau yng Nghymru yn 2023 fod cyfathrebiadau Croeso Cymru eisoes wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i fynd ar eu trip yn 2023.

Adroddiadau

Adroddiad y DU ac Iwerddon, Ionawr 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adroddiad yr Almaen, Ionawr 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adroddiad UDA, Ionawr 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Siân Hughes

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.