Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a’r Prif Chwip

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bu newidiadau sylweddol yn Amgueddfa Cymru yn ystod y misoedd diwethaf a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi diweddariad i Aelodau.

Ers fy diweddariad diwethaf ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd David Anderson y byddai'n rhoi'r gorau i'w swydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol i ymgymryd â'r rôl o athro ymweld yn Ysgol Llywodraethu Prifysgol Caerdydd. Hoffwn ddiolch i David am ei ymroddiad i'r Amgueddfa. Yn ystod ei 12 mlynedd o wasanaeth, bu'n goruchwylio'r gwaith o drawsnewid Amgueddfa Sain Ffagan er mwyn dod yn Amgueddfa Werin Cymru yn ogystal â datblygu rhaglenni ac ymchwil newydd a oedd yn canolbwyntio ar ehangu rôl amgueddfeydd mewn cymdeithas a phwysigrwydd democratiaeth ddiwylliannol. Cyfrannodd hefyd at roi cyfarwyddyd strategol clir i Amgueddfa Cymru ar gyfer y blynyddoedd nesaf gyda strategaeth 2030 a'i chwe ymrwymiad.

Mae is-lywydd Amgueddfa Cymru, Dr Carol Bell, yn ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol ar hyn o bryd. Rwy'n ddiolchgar iawn i Dr Bell am ei hymroddiad parhaus ac am y profiad a'r parhad a ddaw i'r Bwrdd.

 

Rwy'n falch o gyhoeddi bod yr ymgyrch recriwtio ar gyfer cadeirydd ac is-gadeirydd newydd Amgueddfa Cymru wedi ei lansio heddiw. Mae'r rhain yn gyfleoedd cyffrous i ymuno â Bwrdd un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru a helpu i osod y cyfeiriad ar gyfer ei ddyfodol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Ebrill a byddaf yn  llenwi'r swyddi hyn erbyn yr haf. Yn dilyn cyngor gan y panel Adolygu Teilwredig, rwyf wedi cytuno ar y newid mewn enw gan y llywydd a'r is-lywydd er mwyn adlewyrchu natur y rolau yn well.

Ar ôl eu penodi, bydd y cadeirydd a'r is-gadeirydd newydd yn arwain y Bwrdd ac yn gweithio gyda thîm gweithredol Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo argymhellion yr Adolygiad Teilwredig.

Sefydlwyd y panel Adolygu Teilwredig ym mis Awst 2022 ac mae'n cael ei arwain gan David Allen. Cafodd adroddiad interim ei rannu gyda'r Amgueddfa a swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr er mwyn trafod a chael adborth. Bydd yr adroddiad terfynol i'w weld yn ddiweddarach eleni. 

Yn olaf, penodwyd dau ymddiriedolwr newydd i'r Bwrdd yn ddiweddar a hoffwn groesawu John Hunt ac Ameerah Mai. Maent yn dod â safbwyntiau, egni a phrofiad newydd ac rwy'n siŵr y byddant yn gwneud cyfraniad sylweddol i waith y Bwrdd.