Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso wedi bod yn rhan statudol o ddysgu proffesiynol athrawon yng Nghymru ers 2003. Yn 2012, diwygiwyd y trefniadau fel bod pob cyfnod o gyflogaeth o sesiwn (hanner diwrnod) neu fwy yn cyfrif tuag at y cyfnod sefydlu. Caniataodd hyn i athrawon newydd gymhwyso a gyflogir ar sail cyflenwi tymor byr ymgymryd â’r cyfnod sefydlu.

Hefyd ar yr adeg hon, codwyd y ‘rheol pum mlynedd’ (y terfyn amser ar gyfer cwblhau’r cyfnod sefydlu), gan roi amser diddiwedd i athrawon newydd gymhwyso gwblhau’r cyfnod sefydlu. Er mwyn cwblhau’r cyfnod sefydlu’n llwyddiannus, rhaid i athrawon newydd gymhwyso fod wedi cael eu cyflogi fel athro am dri thymor neu gyfwerth (380 o sesiynau i’r rhai a gyflogir fel athrawon cyflenwi). Rhaid iddynt hefyd ddangos eu bod yn cyrraedd y safonau proffesiynol.

Cyhoeddwyd dau adolygiad annibynnol o’r trefniadau sefydlu yn 2020: Ymchwil ar drefniadau sefydlu statudol athrawon gan OB3 a Dysgu bod yn athro yng Nghymru: sefydlu athrawon yn y proffesiwn gan yr Athro Mick Waters. Mae’r ddau yn nodi’r angen am ddiwygio’r trefniadau sefydlu yn gyfan gwbl er mwyn mynd i’r afael â nifer o faterion sy’n rhannu’n fras yn 4 categori:

  • amrywiadau yn y trefniadau sefydlu ac anghysondeb y cymorth ledled Cymru, yn enwedig ymhlith athrawon newydd gymhwyso sy’n ymgymryd â’r cyfnod sefydlu drwy’r llwybr cyflenwi tymor byr
  • agweddau ymarferol ar fodloni’r gofynion sefydlu statudol, yn enwedig ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n ymgymryd â’r cyfnod sefydlu drwy’r llwybr cyflenwi tymor byr
  • cyfraddau cadw athrawon isel yn ystod y cyfnod sefydlu a’r bum mlynedd ddilynol
  • lefel o fiwrocratiaeth a ffocws ar amser a wasanaethwyd sy’n bwrw cysgod dros ddiben canolog y cyfnod sefydlu

Mae’r newidiadau a nodir yn y ddogfen hon ac yn y ddogfen ymgynghori wedi’u cynllunio i wneud y canlynol:

  • creu’r amodau sy’n galluogi pob athro newydd gymhwyso i gael cymorth effeithiol a phriodol yn ystod y cyfnod sefydlu
  • darparu cyfleoedd a chymorth i bob athro newydd gymhwyso ymgysylltu â’r safonau proffesiynol perthnasol a chael mynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel
  • cyflwyno rhywfaint o hyblygrwydd o ran hyd y cyfnod sefydlu
  • lleihau amrywiadau yn y mynediad at gymorth i athrawon newydd gymhwyso ac yn ansawdd y cymorth hwn
  • caniatáu i athrawon newydd gymhwyso ymgymryd â’r cyfnod sefydlu mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion
  • egluro llywodraethu a rolau

Bydd newidiadau i’r trefniadau sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso, yn dilyn yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2022, yn cael eu cyflwyno mewn dau gam.

Dyma’r newidiadau sy’n dod i rym ar gyfer mis Medi 2022:

Cymorth ar gyfer yr athrawon newydd gymhwyso

Bydd mentora a chymorth yn cael eu darparu gan fentor sefydlu hyfforddedig a ariennir, yn yr ysgol lle y caiff yr athro newydd gymhwyso ei gyflogi. Os yw’r athro newydd gymhwyso yn ymgymryd â’r cyfnod sefydlu drwy’r llwybr cyflenwi tymor byr (a elwir hefyd yn ‘gyflenwi o ddydd i ddydd’), bydd mentora a chymorth yn cael eu darparu gan fentor allanol. Bydd yr un mentor yn aros gyda’r athro newydd gymhwyso drwy gydol y cyfnod sefydlu lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael ag amrywioldeb ac anghysondeb presennol y cymorth sydd ar gael ledled Cymru.

Bydd y rhaglen sefydlu’n cynnwys:

  • llwybr cynnydd clir sy’n adeiladu ar y profiadau a geir yn ystod Addysg Gychwynnol i Athrawon, sy’n seiliedig ar y safonau proffesiynol ac sy’n darparu’r sylfaen ar gyfer dysgu proffesiynol gydol gyrfa a allai gynnwys y cymhwyster Meistr yn ddiweddarach
  • 13 diwrnod o ddysgu proffesiynol a ddarperir gan y consortiwm/awdurdod lleol a’r ysgol fel y cynigiwyd yn 'Dysgu bod yn athro yng Nghymru'. Bydd hyn, er enghraifft, yn canolbwyntio ar feithrin ymddygiadau proffesiynol yn ogystal ag adeiladu ar y prosesau o ddechrau Addysg Gychwynnol i Athrawon. Bydd pob consortiwm rhanbarthol neu awdurdod lleol yn darparu gwerth tri diwrnod o hyfforddiant sydd wedi’i wahaniaethu ar gyfer yr holl athrawon newydd gymhwyso yn ei ranbarth. Bydd disgwyl i bob athro newydd gymhwyso ymuno â phob un o’r tri diwrnod ynghyd â chyfleoedd dysgu proffesiynol yn ei ysgol. Dylid ymestyn y cyfle dysgu proffesiynol am ddeg diwrnod arall. Pum diwrnod mewn ysgol dan arweiniad y mentor sefydlu a phum diwrnod wedi’i gydgysylltu gan y consortia rhanbarthol neu’r awdurdod lleol i feithrin dealltwriaeth drwy ddysgu mewn partneriaeth, gan gynnwys darllen yn helaeth am ddamcaniaeth ac ymchwil
  • mentora ffurfiol a hyblyg sy’n cynnwys trafodaeth a myfyrdod proffesiynol rheolaidd ar y cynnydd gan ddefnyddio’r proffil sefydlu ar-lein o fewn y Pasbort Dysgu Proffesiynol

Sefydlu ar gyfer athrawon a gyflogir ar sail cyflenwi tymor byr

  • Bydd athrawon newydd gymhwyso a gyflogir ar sail cyflenwi tymor byr yn cael cymorth gan fentor allanol (gweler ‘Cymorth ar gyfer yr athrawon newydd gymhwyso’ uchod)
  • Yn ystod eu cyfnod sefydlu, mae athrawon newydd gymhwyso a gyflogir ar sail cyflenwi yn cael eu hannog yn gryf i sicrhau bod eu cyfnod sefydlu yn cynnwys cyflogaeth mewn un lleoliad am dymor, neu ddau hanner tymor yn olynol. Mae cyfnod parhaus o addysgu mewn un lleoliad yn sicrhau bod athrawon newydd gymhwyso yn cael y cyfle i brofi a bod yn rhan o fywyd gwaith ysgol. Mae enghreifftiau o hynny’n cynnwys cymryd rhan mewn nosweithiau rhieni a/neu gynllunio’r cwricwlwm. Mae’n eu galluogi i gael y profiad proffesiynol a’r sgiliau sydd eu hangen i ddangos tystiolaeth o’r ystod lawn o safonau proffesiynol a bydd yn helpu i’w paratoi ar gyfer gyrfa ym maes addysgu
  • Bydd rôl yr holl randdeiliaid sydd ag athrawon newydd gymhwyso a gyflogir ar sail cyflenwi tymor byr a nodwyd fel achos pryder yn cael ei hegluro er mwyn galluogi i gymorth ychwanegol gael ei roi ar waith mewn modd amserol

Llywodraethu a rolau

Mae’r swyddogaeth penderfynu ar ganlyniad y cyfnod sefydlu (dilysu) bellach ar wahân i’r broses o roi cymorth i’r athrawon newydd gymhwyso. Eglurir y rolau fel a ganlyn:

  • Mae mentoriaid sefydlu/mentoriaid allanol yn darparu mentora a chymorth; yn arsylwi ar yr athro newydd gymhwyso ac yn penderfynu a yw’n cyrraedd y safonau, gan ddefnyddio’r proffil sefydlu
  • Mae gwirwyr allanol yn dilysu sampl o broffiliau sefydlu fel rhan o’r broses sicrhau ansawdd
  • Mae cyrff priodol yn gweithredu ar lefel yr awdurdod lleol ac yn gyfrifol am benderfynu’n derfynol ar ganlyniad y cyfnod sefydlu. Mae gwirwyr allanol hefyd yn cymryd rhan yn y broses gymedroli genedlaethol

Goruchwylir y rhaglen sefydlu gan gydgysylltwyr sefydlu (ar sail ranbarthol neu’r awdurdod lleol) mewn cydweithrediad ag ysgolion a darparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon, er mwyn cefnogi datblygiad athrawon newydd gymhwyso yn eu rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys trefnu mentora effeithiol (gan gynnwys ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n ymgymryd â’r cyfnod sefydlu drwy’r llwybr cyflenwi tymor byr), a dylunio a chydgysylltu rhaglen dysgu proffesiynol briodol

Bydd gwahanu rolau sefydlu yn sicrhau system lywodraethu sy’n darparu sicrwydd, atebolrwydd a chysondeb

Mae’r holl brosesau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen sefydlu wedi cael eu hadolygu a’u symleiddio lle bynnag y bo’n bosibl er mwyn lleihau profiad biwrocrataidd athrawon newydd gymhwyso

Dyma’r newidiadau sy’n dod i rym ym mis Tachwedd 2022 ar ôl i’r Rheoliadau diwygiedig gael eu cyflwyno:

Amser

Rhaid i bob athro newydd gymhwyso gwblhau cyfnod sefydlu o dri thymor ysgol neu gyfwerth. Mae’r Rheoliadau diwygiedig yn rhoi disgresiwn i gyrff priodol leihau hyd y cyfnod sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n gallu dangos eu bod yn cyrraedd y safonau mewn llai na thri thymor/380 o sesiynau. Ni all unrhyw athro newydd gymhwyso gwblhau’r cyfnod sefydlu mewn llai nag un tymor (110 o sesiynau).

Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i bob athro newydd gymhwyso, sy’n cyrraedd y safonau proffesiynol, gwblhau ei gyfnod sefydlu mewn llai o amser. Gall athrawon newydd gymhwyso sydd â phrofiad blaenorol o weithio mewn lleoliad addysg, fel cynorthwyydd addysgu, mewn ysgol dramor neu mewn coleg addysg bellach elwa ar yr hyblygrwydd. Gallent ddefnyddio’r profiad hwn i ddangos eu bod yn cyrraedd y safonau yn gynt.

Bydd yn ofynnol i athrawon newydd gymhwyso gwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn pum mlynedd i ennill Statws Athro Cymwysedig neu o fewn pum mlynedd i’r dyddiad y daw’r Rheoliadau i rym, pa un bynnag yw’r hwyraf. Mae’r rhan fwyaf o athrawon newydd gymhwyso yn cymryd tua thri thymor ysgol neu 380 o sesiynau i gwblhau eu cyfnod sefydlu. Mae’r cynnig hwn yn dal i roi hyblygrwydd i athrawon newydd gymhwyso gwblhau eu cyfnod sefydlu dros gyfnod o bum mlynedd wrth sicrhau bod sgiliau a gwybodaeth addysgegol athrawon newydd gymhwyso yn gyfredol. Gellir rhoi uchafswm o hyd at ddwy flynedd o estyniad mewn rhai amgylchiadau. Bydd hefyd yn sicrhau bod y proffesiwn addysgu’n gyson â phroffesiynau eraill, er enghraifft y proffesiwn cyfreithiol, lle y caiff terfynau amser eu gosod ar gyfer cwblhau cymwysterau.

Mae’r diwygiadau wedi’u cynllunio i sicrhau newid yn y ffyrdd canlynol:

Integreiddio:

Mae’r model yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi, sef helpu pobl ifanc i wneud y mwyaf o’u potensial, a hynny drwy ‘ganolbwyntio’n ddiflino ar wella cyrhaeddiad pob disgybl, gan weddnewid y safonau y mae’n rhaid i athrawon eu cyrraedd’.

Cydweithio

Datblygwyd y newidiadau mewn cydweithrediad â phartneriaid allweddol ym maes sefydlu: Cyngor y Gweithlu Addysg, arweinwyr sefydlu yn y consortia rhanbarthol a’r awdurdodau lleol a darparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon. Rydym hefyd wedi bod yn rhoi gwybod i randdeiliaid allweddol eraill ac undebau’r gweithlu addysg am unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â’r newidiadau.

Cymryd rhan

Roedd y ddau brosiect ymchwil annibynnol yn cynnwys ymholiad ansoddol i brofiadau athrawon newydd gymhwyso a’r rhai sy’n eu cefnogi. Mae canfyddiadau’r ymchwil wedi llywio’r gwaith o ddatblygu polisi. Mae canlyniadau arolwg o athrawon newydd gymhwyso a gynhaliwyd gan ddarparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon a’r consortia rhanbarthol yn y gwanwyn wedi cael eu hystyried wrth ddylunio’r mentora a’r cymorth y bydd athrawon newydd gymhwyso yn eu cael. Bydd hyn yn cynnwys mentora a chymorth yn ystod eu lleoliad ac am weddill eu cyfnod sefydlu. Cyfrannodd rhanddeiliaid at y gwaith o ddatblygu’r cynigion a oedd bryd hynny’n destun ymgynghoriad cyhoeddus.

Costau ac Arbedion:

Bydd y costau sy’n gysylltiedig â’r newidiadau yn cael eu hariannu yn y ffordd arferol drwy lythyr cynnig grant Cyngor y Gweithlu Addysg. Mae costau ychwanegol yn gysylltiedig â’r cynnig o ariannu mentoriaid sefydlu ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol. Bydd hyd at £1,050 ar gael fesul ysgol i ddarparu cymorth mentor sefydlu i athrawon newydd gymhwyso. Mae’r gost ychwanegol hon yn cael ei gweld fel buddsoddiad gan y bydd yn sicrhau bod pob athro newydd gymhwyso yn cael cymorth yn yr ysgol.

Mae cyfleoedd i wneud rhai arbedion oherwydd gallu rhai athrawon newydd gymhwyso i gwblhau’r cyfnod sefydlu mewn llai na thri thymor neu 380 o sesiynau. Mewn achosion o’r fath, byddai’r athro newydd gymhwyso yn rhoi’r gorau i gael cymorth gan fentor sefydlu ar ôl cwblhau ei gyfnod sefydlu. Yn ogystal, byddai’r cyllid i ryddhau athrawon newydd gymhwyso ar gyfer eu 10% o amser digyswllt ychwanegol hefyd yn dod i ben pan fyddant yn llwyddo i gwblhau eu cyfnod sefydlu.

Er enghraifft, ar hyn o bryd, mae ysgol yn cael tua £900 y tymor i ariannu’r 10% o amser pan gaiff athrawon newydd gymhwyso eu rhyddhau o’u hamserlen addysgu. Pe bai athro newydd gymhwyso yn cwblhau ei gyfnod sefydlu mewn llai na thri thymor, byddai’r cyllid a ddyrannwyd i’r ysgol yn cael ei leihau yn unol â hynny. Telir cyllid ar gyfer y mentor sefydlu ar gyfradd o £350 y tymor. Felly, pe bai athro newydd gymhwyso yn cwblhau ei gyfnod sefydlu mewn llai na thri thymor neu 380 o sesiynau, byddai’r cyllid ar gyfer y mentor yn cael ei leihau yn unol â hynny. Fodd bynnag, mae’r arbedion fesul athro newydd gymhwyso yn debygol o fod yn fach iawn. Rhagwelir hefyd y bydd y rhan fwyaf o athrawon newydd gymhwyso yn cymryd tua thri thymor neu 380 o sesiynau i ddangos, drwy eu proffil sefydlu, eu bod yn cyrraedd y safonau proffesiynol.

Adran 8: casgliad

​​​​​​Sut mae’r bobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o fod wedi effeithio arnynt wedi bod yn rhan o’i ddatblygu?

Cymerodd cynrychiolwyr o bob parti sy’n ymwneud â’r broses sefydlu, gan gynnwys athrawon newydd gymhwyso, ran yn y ddau adolygiad annibynnol o’r trefniadau sefydlu a gyhoeddwyd yn 2020. Cafodd argymhellion yr adolygiadau eu hystyried gan y grŵp rhanddeiliaid sefydlu a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor y Gweithlu Addysg, awdurdodau lleol/consortia, ymarferwyr ac Estyn. Mae undebau’r gweithlu addysg hefyd wedi cael gwybod am y newidiadau.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yng ngwanwyn 2022.

Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol, sy’n gadarnhaol ac yn negyddol?

Bydd y newidiadau’n cael effaith gadarnhaol ar ffocws y cyfnod sefydlu, drwy symud oddi wrth amser a wasanaethwyd at ddatblygu sgiliau a gwybodaeth athrawon newydd gymhwyso. Bydd yr athrawon newydd gymhwyso hynny sydd ar y trywydd i basio eu cyfnod sefydlu statudol yn gynharach na’r hyn y mae’r trefniadau presennol yn ei ganiatáu, yn cael gwneud hynny. Bydd hyn yn caniatáu i’r athrawon newydd gymhwyso hyn geisio am swyddi addysgu a pharhau â’u gyrfa. Bydd y newidiadau hefyd yn parhau i ganiatáu hyblygrwydd i’r athrawon newydd gymhwyso hynny sydd angen hyd at bum mlynedd i gwblhau eu cyfnod sefydlu oherwydd rhesymau personol, iechyd a lles neu ofalu.

Yng ngoleuni’r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl i’n hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,

  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Bydd y newidiadau’n cael effaith gadarnhaol fach ar iechyd a lles meddyliol athrawon newydd gymhwyso drwy ganiatáu i’r rhai sydd ar y trywydd i basio eu cyfnod sefydlu statudol, ac sydd wedi dangos eu bod wedi cyrraedd y safonau proffesiynol ond nad ydynt eto wedi cwblhau tri thymor/380 o sesiynau, leihau eu cyfnod sefydlu. Byddant hefyd yn caniatáu iddynt gamu ymlaen yn eu gyrfa fel y rhagwelwyd.

Bydd y newidiadau’n galluogi athrawon newydd gymhwyso sy’n cyrraedd y safonau i osgoi gorfod parhau â’u cyfnod sefydlu at yr unig ddiben o fodloni’r gofyniad ‘amser a wasanaethwyd’ sydd yn y Rheoliadau presennol.

Bydd y newidiadau hefyd yn parhau i ganiatáu hyblygrwydd i’r athrawon newydd gymhwyso hynny sydd ei angen. Bydd yr hyblygrwydd hwn yn cynnwys hyd at bum mlynedd (a chyda’r posibilrwydd o ddwy flynedd arall ar ben hynny) i gwblhau eu cyfnod sefydlu oherwydd rhesymau personol, iechyd a lles neu ofalu.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Fel y nodwyd uchod, bydd y newidiadau’n cael effaith mewn dau gam. Bydd y newidiadau cyntaf yn digwydd o fis Medi 2022 ymlaen. Bydd yr ail gam yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd ac yn amodol ar y Rheoliadau yn dod i rym.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn monitro effaith y ddau gam yn agos, a hynny drwy ddefnyddio data gan arweinwyr sefydlu rhanbarthol a Chyngor y Gweithlu Addysg. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid sefydlu i adolygu’r cynnydd tuag at amcanion polisi. Bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei hadolygu yn 2025.

Asesiad o'r effaith ar hawliau plant

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc.

Ni fydd y newidiadau’n cael effaith negyddol ar blant a phobl ifanc.

Eglurwch sut mae’r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant.

Yr erthyglau canlynol yn CCUHP sydd fwyaf perthnasol i’r newidiadau:

  • Erthygl 3 1. Ym mhob gweithred sy’n ymwneud â phlant, p’un a ymgymerir â hwy gan sefydliadau lles cymdeithasol cyhoeddus neu breifat, llysoedd barn, awdurdodau gweinyddol neu gyrff deddfwriaethol, rhaid i les pennaf y plentyn fod yn brif ystyriaeth
  • Erthygl 28 1. Mae Partïon Gwladwriaethol yn cydnabod hawl y plentyn i gael addysg, a chyda golwg ar sicrhau’r hawl hon yn raddol ac ar sail cyfle cyfartal
  • Erthygl 29 1. Mae Partïon Gwladwriaethol yn cytuno y dylai addysg y plentyn fod wedi’i chyfeirio at: (a) Datblygu personoliaeth, doniau a galluoedd meddyliol a chorfforol y plentyn hyd eithaf eu potensial

Bydd y newidiadau’n caniatáu i’r cyfnod sefydlu ddigwydd mewn Uned Cyfeirio Disgyblion o 6 Tachwedd ymlaen. Bydd hyn yn galluogi athrawon newydd gymhwyso sy’n dymuno cael eu cyflogi yn y sector hwn i gael y profiad angenrheidiol wrth sefydlu.

Mae anghenion a hawliau dysgwyr yn un o’r gwerthoedd a’r ymagweddau sy’n sail i’r safonau proffesiynol y mae’n ofynnol i athrawon newydd gymhwyso eu cyrraedd i gwblhau eu cyfnod sefydlu’n llwyddiannus. Bydd y newidiadau’n sicrhau y bydd athrawon newydd gymhwyso yn cael cymorth llawn i gyrraedd y safonau proffesiynol, waeth pa lwybr cyflogaeth y maent yn ei ddilyn i ymgymryd â’r cyfnod sefydlu. Bydd hyn yn sicrhau addysg o ansawdd uchel i bob dysgwr.

Bydd canllawiau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi ar gyfer athrawon newydd gymhwyso a rhanddeiliaid allweddol eraill ym mis Medi 2022 a’u diwygio ymhellach ar gyfer mis Tachwedd 2022. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â’r trefniadau sefydlu yn deall y newidiadau a wnaed yn glirges made.